Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Paula O’Connor – Yr Agenda
gyfan - Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Mai 2019 ac 13 Mai 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. PDF 164 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad am Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu’. Croesawodd y Cadeirydd aelodau newydd i Bwyllgor y Rhaglen Graffu a chroesawodd Paula O’Connor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, hefyd i'r cyfarfod hwn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Louise Gibbard, Cynullydd, adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu i
Gydraddoldebau. Diolchodd i
aelodau'r Panel Ymchwilio am eu hamser, eu hymroddiad a'u cefnogaeth ar gyfer y
pwnc hwn ac am gymorth a mewnbwn Michelle Roberts, Swyddog Craffu wrth
gefnogi'r ymchwiliad. Dywedodd fod arwain yr ymchwiliad hwn wedi bod yn brofiad
gwerthfawr iawn iddi fel cynghorwr etholedig, ac roedd yn falch bod yr
ymchwiliad wedi gallu derbyn tystiolaeth amrywiol a chysylltu â llawer o bobl a
grwpiau gwahanol. Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio'n bennaf ar a oedd y cyngor yn
cyflawni'i ymrwymiad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r adroddiad yn
amlinellu argymhellion, wedi'u rhannu'n llwyddiannau cyflym, camau gweithredu
tymor canolig a nodau tymor hwy. Ystyriwyd goblygiadau'r argymhellion a wnaed o
ran adnoddau. Roedd
trafodaethau a chwestiynau'n canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Gwella
cyswllt a chynnwys ar draws y cyngor cyfan.
·
Gwella
hygyrchedd gwasanaethau'r cyngor i bawb ·
Mewnbwn
gan grwpiau y mae problemau hiliaeth ac anoddefgarwch crefyddol yn effeithio
arnynt Nodwyd y byddai
fersiynau gwahanol o'r adroddiad yn cael eu llunio i sicrhau ei fod yn hygyrch,
er enghraifft, fersiwn ffeithlun i bobl ifanc a fersiynau
hawdd eu darllen. Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis
Medi i ganiatáu amser ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn. Cymeradwyodd y
Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor yr adroddiad cynhwysfawr gan ganmol y Panel
Ymchwilio am ei waith. Penderfynwyd cytuno ar yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cabinet. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2019/20. PDF 180 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2019/20 i'w ystyried, gan nodi'r papurau o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2019 a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad. Trafododd y pwyllgor y Rhaglen Waith ddrafft a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: - Paneli Ymchwilio Caffael - byddai hwn yn ymchwiliad newydd ar gyfer y flwyddyn ddinesig hon. Byddai angen mynd ar drywydd y paneli ymchwiliad Gweithio Rhanbarthol a Chydraddoldebau yn ystod y flwyddyn ddinesig hon. Paneli Perfformiad Yr Amgylchedd Naturiol - byddai panel perfformiad newydd yn cael ei sefydlu ar yr Amgylchedd Naturiol, ac amlinellwyd y cylch gorchwyl yn Atodiad 6 yr adroddiad. Gweithgorau Bu dadl ar y rhestr o bynciau awgrymedig a threfn blaenoriaeth. Cytunwyd mai Brexit fyddai'r pwnc cyntaf. Byddai gweithgorau hefyd yn cael eu trefnu i edrych ar: Iechyd a Lles Gweithwyr; Diogelwch ar y Ffyrdd a Chynhwysiad Digidol Nodwyd y byddai'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio'n edrych ar yr Economi Wledig. Cafwyd trafodaeth ar waith pellach yn ymwneud â Deddf Cydraddoldeb 2010 nad oedd yr ymchwiliad wedi'i gynnwys, sef anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol a thlodi a goblygiadau a phwysau ar draws holl feysydd y cyngor. Pwysleisiwyd yr angen i'r cyngor fod yn ystyriol o adroddiad Comisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol ‘A yw Cymru'n Decach 2018', ac ymateb iddo, ac y dylai gyfrannu i Gynllun Cydraddoldeb y cyngor. Awgrymwyd y gellid trafod y pwnc hwn fel thema allweddol, gydag aelodau perthnasol o'r Cabinet pan fyddant yn dod i sesiynau holi ac ateb. Nododd y pwyllgor fod cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu wedi'i drefnu ar gyfer 1 Awst i ystyried yr Adolygiad Comisiynu Tai. Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad fydd yn y sesiwn holi ac ateb nesaf ar 12 Awst 2019. Cytunwyd y dylid: 1) Cytuno ar y rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2019/20 2) Sefydlu panel perfformiad newydd ar yr Amgylchedd Naturiol gyda'r cylch gorchwyl fel y'u nodir yn Atodiad 6 yr adroddiad. 3) Gwahodd mynegiannau o ddiddordeb oddi wrth gynghorwyr anweithredol i gymryd rhan mewn ymchwiliad/gweithgorau newydd. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 118 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am 'aelodaeth paneli a gweithgorau craffu’. Gofynnwyd i'r paneli
perfformiad benodi eu cynullyddion ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019/20 a nododd
y pwyllgor y canlynol: - ·
Penodi'r
Cynghorydd Lyndon Jones yn Gynullydd Panel Perfformiad Addysg ·
Ailbenodi'r
Cynghorydd Peter Black yn Gynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion
·
Ailbenodi'r
Cynghorydd Chris Holley yn Gynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad
Cyllid ·
Ailbenodwyd
y Cynghorydd Paxton Hood-Williams yn Gynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd Penderfynwyd cytuno ar y canlynol: - 1)
Panel
Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - ychwanegu'r cynghorwyr Erika
Kirchner a Wendy Lewis. 2)
Panel
Perfformiad Datblygu ac Adfywio - ychwanegu'r Cynghorydd Will Thomas 3)
Panel
Perfformiad Addysg - Tynnu enw'r Cynghorydd Fiona Gordon 4)
Nodi
Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol - yr aelodaeth, fel y'i hamlinellir ym
Mharagraff 4 yr adroddiad. Byddai'r Cynullydd yn cael ei benodi yng nghyfarfod
cyntaf y panel newydd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth. Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â'r llythyr at Aelodau Cabinet dros Gymunedau Gwell, dyddiedig 3
Mehefin 2019. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar Raglen Chwistrellu Chwyn,
y cyngor yn ariannu sefydliadau i gefnogi prosiectau fel ‘Faith in Families’ a buddiolwyr Cronfa
Etifeddol Llywodraeth Cymru sy'n cael ei dileu'n raddol. Dywedodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol y byddai'n edrych ar y ffrydiau cyllido ar
gyfer ‘Faith in Families’
ac yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 40 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd gweithio'n agos ac ymwybyddiaeth y pwyllgor er mwyn
osgoi dyblygu/bylchau mewn gweithgarwch. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 44 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. Roedd cyfarfod
arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu, y bwriedid ei gynnal ar 29 Gorffennaf,
wedi'i aildrefnu ar gyfer 1 Awst 2019.
|