Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: D Anderson-Thomas –
personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Y Cynghorydd P M Black
– personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol Pentrehafod. Y Cynghorydd C A Holley
– personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol Pentrehafod. Y Cynghorydd P R
Hood-Williams – personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd y
Crwys ac yn Ysgol Gynradd Cilâ. Y Cynghorydd J W
Jones - personol - Cofnodion Rhif 60 a
65 – Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun yr Olchfa ac aelod o deulu yn Llywodraethwr
yn Ysgol Gynradd Hendrefoilan. Y Cynghorydd M H Jones
– personol – Cofnodion Rhif 60 a 65 – Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gyfun
yr Olchfa a Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Hendrefoilan. Y Cynghorydd P K Jones
– personol – Cofnod Rhif 60 – Llywodraethwr yn Ysgol yr Esgob Gore. A Roberts – personol – Cofnod Rhif 60 – Cadeirydd y
Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 10 Medi 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud Cofnodion: Cynigiodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol gyngor i'r pwyllgor ynghylch ymatebion i'r
materion sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Clywodd y
pwyllgor gan sawl aelod o'r cyhoedd a holodd gwestiynau am Eitem 6 (Cofnod 60)
a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Mynegwyd
pryder am y cynnydd yn y llygryddion aer ger ysgolion, yn enwedig mewn
perthynas â’r cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc sy’n destun
ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd. Os bydd yr ysgol honno yn cau bydd rhaid
i blant deithio ymhellach i gyrraedd yr ysgol, gan arwain at gynnydd mewn
traffig yn yr ardal. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau fod y cynnig i gau'r ysgolion yn destun ymgynghoriad,
ac y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i bryderon fel rhan o'r broses
ymgynghori. Mynegodd y bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad am yr ymateb i'r
ymgynghoriad cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau, ac anogodd aelodau o'r cyhoedd
i gyflwyno ymatebion i'r Adran Addysg wrth i’r ymgynghoriad barhau i fynd
rhagddo. ·
Gofynnwyd
cwestiwn ynglŷn â'r gwaith craffu ar y broses o gau'r ysgolion a'r
ymgynghoriad ac a fyddai’n bosib gweld yr adroddiad am benderfyniad y Cabinet
cyn cyfarfod y Cabinet. Mynegodd
Aelod y Cabinet y byddai adroddiad y Cabinet yn cael ei gyhoeddi o leiaf bum
niwrnod gwaith cyn cyfarfod y Cabinet. Nodwyd hefyd y byddai'r holl ymatebion a
sylwadau a roddwyd fel rhan o'r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi. Mynegodd y
byddai adroddiad y Cabinet ar gael ar gyfer craffu cyn penderfynu. Cadarnhaodd
y Cadeirydd na fyddai unrhyw graffu cyn penderfynu nes bod yr adroddiad yn cael
ei gyhoeddi. Mynegodd y byddai trefniadau ar gyfer craffu cyn penderfynu’n cael
eu cyhoeddi ar wefan y cyngor. ·
Holwyd
a fyddai'r Cabinet yn cynnal ymweliadau safle llawn o’r ysgolion y cynigir eu
cau er mwyn asesu effaith hyn yn llawn ac i sicrhau penderfyniad gwybodus a
chadarn. Er
na allai gadarnhau bod ymweliadau safle wedi’u trefnu ar gyfer yr ysgolion y
cynigir eu cau, cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod ymweliadau safle yn aml yn rhan
o'r broses benderfynu. Penderfynwyd y byddai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n
trosglwyddo'r sylwadau / pryderon a fynegwyd i Aelod y Cabinet /
yr Adran Addysg er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried fel
rhan o'r broses ymgynghori. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, adroddiad ar y penawdau allweddol
ar gyfer y portffolio Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Llygredd
aer/Allyriadau o gerbydau'n teithio ac yn parcio y tu allan i ysgolion - mae
contractwyr (bysus/tacsis) wedi eu hysbysu ond mae angen gwneud mwy o waith i
hysbysu rhieni/gofalwyr e.e. trwy gyrff llywodraethu ·
Llwybrau
Mwy Diogel i'r Ysgol - bu'r diffyg diddordeb yn siomedig ·
Dalgylchoedd
- gallai plant sy'n mynychu ysgolion y tu allan i dalgylch achosi mwy o draffig
ar y ffyrdd. Nodwyd hefyd fod rhai stadau tai lle nad oedd hi'n bosib cerdded i
ysgol y dalgylch ·
Gwaith
y Cynllun Datblygu Lleol ac Ymgynghoriadau Statudol ar ysgolion cynaliadwy (o’r
maint cywir yn y lleoliad cywir) ·
Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif/Ariannu - argaeledd, posibiliadau a chyfrifoldeb arolygon
cyflwr, penderfynu sut i ddyrannu cyllid – trafodwyd gwelededd arolygon i
ysgolion/gyrff llywodraethu ·
Y
sail resymegol am gau ysgolion posib a’r broses ymgynghori bresennol ·
Ariannu
ysgolion/cyllidebau dirprwyedig - pwysau presennol ·
Gweithdrefnau
ynghylch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a'r sefyllfa o ran Llywodraethwyr
Ysgol ·
Rhaniad
cyfrifoldebau cynnal a chadw rhwng ysgolion a'r cyngor ·
Grant
Datblygu Disgyblion - dyraniad a monitro ·
Derbyniadau
Ysgol / polisi a lleoliadau y tu allan i'r sir Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu
barn y pwyllgor. |
|
Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. PDF 119 KB Ysgolion (Y Cynghorydd Mo Sykes, Cynullydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn absenoldeb
Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Mo Sykes, nodwyd y diweddaraf am y Panel Craffu
Perfformiad Ysgolion. Trafodwyd cynllun
gwaith y panel ar gyfer y dyfodol ac yn sgîl y
drafodaeth flaenorol ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau,
argymhellwyd y dylai'r Panel Perfformiad Ysgolion graffu ar adroddiadau’r
Cabinet sydd ar y gweill sy'n sôn am y posibilrwydd o gau ysgolion cynradd
Craig-cefn-parc a Felindre cyn gwneud penderfyniad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2017/18 - Diogelu Corfforaethol. PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol a Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol
yn bresennol ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2017/2018 am Ddiogelu Corfforaethol. Darparodd Aelod y
Cabinet gefndir i'r Adroddiad Blynyddol. Rhai o'r meysydd gwaith a amlygwyd
oedd: - ·
Bod
diogelu plant ac oedolion diamddiffyn yn flaenoriaeth corfforaethol ac yn
"fusnes i bawb" ·
Bod
Polisi Diogelu Corfforaethol Cyngor Abertawe wedi ei ddiweddaru er mwyn cwmpasu
amrywiaeth ehangach o bryderon posib ·
Bod
disgwyl i swyddogaethau a chyfrifoldebau diogelu/ymrwymiad i ddiogelu gael eu
hadlewyrchu ym mhob disgrifiad swydd ·
Bod
gwaith i'w wneud eto ond mae mwy o bobl wedi cwblhau hyfforddiant diogelu ·
Cynnig
llais diogel i bobl ym mhob agwedd ar waith diogelu Roedd cwestiynau a
thrafodaethau ag Aelod y Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Nifer
y Llywodraethwyr Ysgol sy’n ymgymryd â Hyfforddiant Amddiffyn a Diogelu Plant ·
Ymdrechion
i wella ar ganlyniadau arolygon staff - yn 2017 dywedodd 86.4% eu bod wedi
cwblhau Hyfforddiant Diogelu'r cyngor naill ar-lein neu wyneb yn wyneb ·
Anawsterau
wrth gadw cofnodion ar hyfforddiant yn parhau (yn sgîl
systemau TG gwahanol), yn arbennig hyfforddiant wyneb yn wyneb ·
Yr
angen i sicrhau hyfforddiant i staff dros dro - dylai'r Grŵp Llywio
Diogelu Corfforaethol ystyried sut mae'r awdurdod yn delio â meysydd gwasanaeth
sydd o bosib â gweithlu dros dro, yn ogystal ag annog ymwybyddiaeth o ddiogelu
contractwyr a darparwyr ·
Nifer
yr ymholiadau a'r pryderon am ddiogelu a dderbynnir a'r trothwy ar gyfer
atgyfeiriadau/ymdrin â phryderon - nodwyd nad oedd ffigurau’r Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd ar gyfer y flwyddyn flaenorol i'w gweld yn yr adroddiad ac y
byddai'n rhaid eu cadarnhau ·
Aseswyd
yr holl bryderon yn briodol gan Weithwyr Cymdeithasol a oedd yn gallu ystyried
a oedd angen ymyrryd. Rhoddwyd cyngor hefyd er mwyn cefnogi gwaith atal. Roedd
y bobl a fynegodd bryderon yn ymwybodol o'r canlyniad bob amser ·
Effeithiolrwydd
Byrddau Diogelu Rhanbarthol ·
Trefniadau
llywodraethu ar gyfer diogelu corfforaethol ·
Cynnwys
partneriaid/trydydd partïon mewn cyfrifoldebau diogelu – rôl Bwrdd Gweithredol
Diogelu'r Cyhoedd mewn gweithio strategol amlasiantaeth ·
Bwlio
mewn ysgolion – gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
mewn ysgolion, hyfforddiant a mynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud â
chyfryngau cymdeithasol (seiberfwlio), cynyddu
ymwybyddiaeth rhieni, gosod cyfrifoldeb ar ddarparwyr cyfryngau cymdeithasol i
amddiffyn pobl, materion sy’n ymwneud â phlant diamddiffyn yn teimlo unigedd ac
yn cyfathrebu â phobl ar-lein neu’n ymddiried ynddynt, cefnogaeth i blant gan
gyfoedion ·
Canran
yr asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a gwblhawyd o fewn 21 diwrnod neu lai -
roedd gostyngiad bach mewn perfformiad (59.6% yn y flwyddyn ddiwethaf) ac
ymdrechion i wella. Nodwyd bod tîm penodedig newydd wedi'i sefydlu i ddelio â
threfniadau diogelu rhag colli rhyddid, a ddylai wneud gwahaniaeth ·
Monitro
absenoldebau disgyblion gan ysgolion ·
Y
broses ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - yn gallu bod yn rhy
gymhleth/araf. Angen edrych ar amserau prosesu ac ar yr hyn y gellir ei wneud i
wella’r broses pe bai angen. Y teimlad oedd y dylai pob llywodraethwr ysgol
dderbyn gwiriad GDG. Penderfynwyd y byddai barn y Pwyllgor ar yr adroddiad yn cael
ei hystyried gan Aelod y Cabinet a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2017/18. PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol Craffu 2017/18. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi a'i gyflwyno i'r cyngor. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 110 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth y paneli a’r gweithgorau craffu. Penderfynwyd cytuno ar y canlynol: - 1) Gweithgor Parcio i Breswylwyr - Ychwanegu y Cynghorydd Irene Mann 2) Y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio - Ychwanegu y Cynghorydd Susan Jones |
|
Rhaglen Waith Craffu 2018/19. PDF 142 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2018/19. Nododd Arweinydd
y Tîm Craffu: - ·
Y
byddai'r sesiwn holi Aelod y Cabinet nesaf ar y Gwasanaethau Plant. Byddai'r
cynghorwyr Will Evans ac Elliott King yn bresennol er mwyn ateb cwestiynau. ·
Y byddai'r
Adroddiad Cynnydd Blynyddol am y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn cael ei
gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 12 Tachwedd 2018. ·
Y
byddai cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor Craffu’r Fargen Ddinesig ar 20 Tachwedd
2018. Penderfynwyd nodi Rhaglen Waith Craffu 2018/19. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth. Nodwyd nad oedd
Aelod perthnasol y Cabinet wedi ymateb i'r llythyr a anfonwyd ar 2 Gorffennaf
2018 ynglŷn â Chydlyniant Cymunedol. Penderfynwyd - 1)
Nodi
log y llythyrau craffu ac 2)
Y
dylid ceisio cael ymateb i'r llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet dros
Gymunedau Gwell - Pobl ar 2 Gorffennaf 2018 ynglŷn â Chydlyniant
Cymunedol. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 79 KB Cofnodion: Nodwyd Cynllun
Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
|
Dyddiadau ac Amserau Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau. PDF 47 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau
ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. |
|