Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Addysg. (Y Cynghorydd Jennifer Raynor). PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd
J A Raynor sylwadau agoriadol a gwybodaeth am ei phortffolio cabinet cyn cymryd
cwestiynau gan y pwyllgor. Yna derbyniodd
gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor ynghylch y meysydd canlynol: ·
Y
gost i'r awdurdod o ran yr oedi gyda chais Maes Pentref Parc y Werin; ·
Ardal
chwarae ym Mharc y Werin; ·
Darpariaeth
addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS); ·
Y
gost sy'n gysylltiedig â lleoedd dros ben; ·
Y
cynllun ar gyfer y dyfodol o ran Rhaglen Dechrau'n Deg; ·
Amserlenni
ac effaith oedi gyda Grant Gwella Addysg (EIG) 2016-2017; ·
Problemau
gydag un ysgol gynradd yn gwrthod cymryd rhan mewn craffu ar arsylwadau gwersi; ·
Dirprwyo
cyllidebau i ysgolion; ·
Presenoldeb
ysgolion; ·
Lleoliadau
y tu allan i'r dalgylch; ·
Dilyniant
busnes (bomiau ffug mewn ysgolion cyfun mawr); ·
Y
rhagolygon ar gyfer y ddwy ysgol a nodwyd yn y categori cefnogaeth COCH; ·
Ymgynghorwyr
Herio; Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y strwythur diwygiedig ar gyfer addysg gan ofyn i enwau gael eu
nodi ynghyd â theitlau swyddi/meysydd gwasanaeth. PENDERFYNWYD y dylai cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cefnogi a Datblygu Cynghorwyr Craffu. PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad a oedd yn gofyn i’r pwyllgor ystyried anghenion
cefnogi a datblygu cynghorwyr craffu. Cyfeiriodd at yr adborth
o'r arolwg cynghorwyr blynyddol ar anghenion hyfforddi a datblygu, Rhaglen
Hyfforddiant a Datblygiad y cyngor y cytunwyd arni ar gyfer 2016/17 a chymorth
posib gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer gwasanaethau cefnogi a
datblygu i gynghorwyr. Trafododd yr
aelodau'r materion canlynol: ·
Mae
gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gyfanswm cyllideb o £3,000 yn unig ar
gyfer hyfforddiant aelodau; ·
Mae
offer e-ddysgu'n ddefnyddiol; ·
Byddai
hyfforddiant ar sgiliau cwestiynu'n fuddiol - i sicrhau y gofynnir y cwestiynau
cywir a bod y cwestiynu'n gadarn; ·
Croesewir
cymorth gan CLlLC wrth ddatblygu modiwl e-ddysgu
sefydlu craffu; a'r ·
Angen
i ddefnyddio profiad/arbenigedd cynghorwyr penodol. PENDERFYNWYD bod aelodau'n trosglwyddo unrhyw sylwadau am gymorth a datblygiad i'r Cydlynydd Craffu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Arweiniad ar gyfer Aelodau Cyfetholedig. PDF 101 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad a oedd yn ychwanegu at y protocol y cytunwyd arno'n flaenorol ar gydweithrediad drwy gynnig arweiniad i
aelodau cyfetholedig unwaith y byddant wedi ymuno â phaneli a gweithgorau. PENDERFYNWYD CYTUNO ar yr arweiniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at Adroddiad Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu - Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd, a dywedodd nad oedd y Cynghorydd P R Hood-Williams yn gallu dod
i'r cyfarfod. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei NODI. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad chwarterol drafft gan Bwyllgor y Rhaglen
Graffu i'r cyngor am effaith craffu. PENDERFYNWYD cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor ar 22 Medi 2016. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Waith Craffu 2016/17. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y rhaglen waith a chyfeirio at yr ymholiadau newydd posib a'r angen i
ddatblygu cylch gorchwyl clir a phendant i sicrhau y cwblheir casglu
tystiolaeth cyn diwedd 2016 er mwyn rhoi amser i lunio'r adroddiadau terfynol a
chytuno arnynt ar ddechrau 2017. Dywedodd y
Cadeirydd y cynhelir cyfarfod nesaf y trefniant craffu rhanbarthol gyda'r chwe chyngor sy'n rhan o gonsortiwm gwella ysgolion 'Ein
Rhanbarth ar Waith’ (ERW) ym mis Medi yng Nghyngor Sir Benfro. Nodwyd y derbyniwyd
cais gan y cyhoedd i graffu ar Dai Amlfeddiannaeth (HMO) ac y byddai cynnig yn
cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor er mwyn iddo gytuno arno. PENDERFYNWYD y dylid nodi'r rhaglen waith craffu fel a nodwyd yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 68 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i Aelodaeth
Paneli/Gweithgorau Craffu. Amlinellwyd
diwygiad i aelodaeth bresennol y panel/gweithgor craffu o ran: ·
Panel
Ymchwilio Craffu Trechu Tlodi - y Cynghorydd H M Morris i'w ychwanegu. Adroddwyd am fynegiannau o ddiddordeb gan
gynghorwyr craffu hefyd ar gyfer y gweithgareddau craffu newydd canlynol: ·
Ymchwiliad
Partneriaethau a Chydweithio (10) – Y Cynghorwyr J B Burtonshaw (cynullydd), M
Evans, J Hale, H Morris, G Owens, C Thomas, C Holley, D Cole, S Jones, A
Colburn. ·
Ymchwiliad
Parodrwydd ar gyfer yr Ysgol (8) – Y Cynghorwyr H M Morris (cynullydd), S
Crouch, J Curtice, F Gordon, E King, M Day, M Jones, W Fitzgerald. ·
Gweithgor
Cytundebau Cynllunio ac Adran 106 (14) – Y Cynghorwyr C A Holley (cynullydd), J
Curtice, P Downing, T Hennegan, Y Jardine, G Tanner, M Jones, D Cole, W
Fitzgerald, L James, K Marsh, A Colburn, Miles Thomas, L Tyler-Lloyd. PENDERFYNWYD CEFNOGI’R penodiadau uchod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd am y cofnod llythyrau craffu a chyfeiriodd at yr ohebiaeth ddiweddar
rhwng paneli craffu ac Aelodau’r Cabinet. PENDERFYNWYD y dylid NODI cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau craffu diweddar. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Digwyddiadau craffu sydd ar ddod. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at ailadrodd y sesiwn ymwybyddiaeth o Drechu Tlodi i gynghorwyr craffu ar 15 Medi 2016 am 4.00pm gan annog cydweithwyr i fynd. Cafwyd sylwadau cadarnhaol am y sesiwn wreiddiol ym mis Gorffennaf. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 38 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid NODI Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm):
Cofnodion: NODWYD dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.
Cofnodion: Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er gwybodaeth. |