Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn
unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau
o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2016 yn gofnod cywir. |
||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Cofnodion: Nododd y Cadeirydd fod cwestiynau wedi'u cyflwyno'n ysgrifenedig gan Mr
David Grimsell, ar ran Cyfeillion Ceffylau Abertawe,
ar gyfer y Cynghorydd M C Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach. Roedd y
cwestiynau'n gysylltiedig â chyfarfod diweddar y Gweithgor Craffu Ceffylau
Wedi'u Clymu. Nodwyd bod Mr Grimsell yn pryderu am
nifer y ceffylau a gedwir ar fannau cyhoeddus, yn
enwedig tir y cyngor, heb ganiatâd, gyda llawer wedi'u clymu ac yn dioddef lles
gwael. Ar y cyd â'r cwestiynau, bu sylwadau am nifer
y ceffylau y bu'n rhaid i'r cyngor eu cipio, eu ffaldio a'u difa, a chwynion a
wnaed i'r cyngor am broblemau lles a rheoli ceffylau. Darllenodd y Cadeirydd y
cwestiynau a ofynnwyd i Aelod y Cabinet, sef: ·
Sut
gall y cyngor feiddio gwneud dim byd a pharhau ag ymagwedd ymatebol sydd wedi
profi'n hollol aneffeithiol o ran mynd i'r afael ag anghenion y ceffylau a
phryderon y gymuned, gan ganiatáu i'r problemau hyn barhau flwyddyn ar ôl
blwyddyn heb newid? ·
Sut gellir meiddio diystyru argymhellion y 'Gweithgor Ceffylau
wedi'u Clymu' i wneud newidiadau sylfaenol? Ymatebodd y Cyng. M C Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, ar
lafar, gan awgrymu y byddai ateb ysgrifenedig llawn yn cael ei anfon at Mr Grimsell, ynghyd ag aelodau'r pwyllgor. Rhoddodd beth sicrwydd i'r pwyllgor ei fod yn awyddus i gwrdd â'r holl grwpiau â diddordeb er mwyn gwneud cynnydd, ond tynnodd sylw at y pwysau ariannol ar y gwasanaeth, a all effeithio ar fuddsoddiad posib i fynd i'r afael â'r broblem hon. Cyfeiriodd y Cyng. Child at y ffaith bod gweithio mewn partneriaeth gwell eisoes wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer y ceffylau strae y bu'n rhaid eu difa. |
||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Child sylwadau agoriadol a
gwybodaeth am ei bortffolio Cabinet, cyn cymryd cwestiynau gan y pwyllgor. Rhoddodd ddiweddariad llafar i'w gyflwyniad ysgrifenedig a amlinellwyd yn
yr adroddiad am y meysydd canlynol yn ei bortffolio: ·
Cydlynwyr
Ardaloedd Lleol – darpariaeth a chynnydd/gwerthusiad ·
Cynllun
'ParkLives' – annog pobl i ddefnyddio parciau a
chymryd rhan mewn gweithgareddau ·
Meysydd
3G – cyflwyno dau faes pob tywydd newydd ·
Canclwm
Japan – incwm a grëwyd ·
Polisi
Coed – cyfraniad y Gweithgor Craffu sy'n ystyried cadw coed a'r angen i
ddatblygu polisi ·
Cynllun
Dechrau Gorau mewn Bywyd ·
Ceffylau
wedi'u Clymu Yna cafodd gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor ar y meysydd hyn a phynciau
eraill, gan gynnwys y canlynol: ·
Defnydd
o deledu cylch cyfyng – adolygu'r gwasanaeth ·
Partneriaeth
Dinas Iach – gweithgareddau a chyflawniadau ·
Tai
Amlfeddiannaeth – effaith campws newydd y brifysgol ar ddwyrain Abertawe ·
Clybiau
a Lawntiau Bowls – cynnal a chadw lawntiau segur ·
Trosglwyddo
Asedau/Adeiladau i Grwpiau Cymunedol/Cronfeydd Pontio ·
Rhesymeg
y cyngor dros godi tâl am ddigwyddiadau "Cyfeillion Parciau" ·
Strategaeth
Mannau Agored – cynhaliwyd arolwg i ddylanwadu ar benderfyniadau ar
ddatblygiadau'r dyfodol ·
Datblygu
Canol y Ddinas – pwysleisio dyluniad adeiladau a mannau trefol er mwyn sicrhau
mynediad iach/diogel i'r cyhoedd ·
Gwirfoddolwyr
a Grwpiau Cymunedol – y cyngor a'r gefnogaeth a roddwyd ·
Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol – cyfrifoldebau'r portffolio ·
Cyllid
ar gyfer Clybiau/Grwpiau Chwaraeon Cymunedol ·
Heriau
ar gyfer y flwyddyn i ddod Awgrymodd y byddai'n ymateb yn ysgrifenedig i'r pwyllgor gyda gwybodaeth am
nifer o'r materion a godwyd. PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd
Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan fyfyrio ar y
drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Craffu 2015/16. PDF 61 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Tîm Craffu 2015/16 er mwyn cytuno arno. Diben yr adroddiad oedd: ·
Tynnu
sylw at y gwaith a wnaed gan y Tîm Craffu ·
Dangos
sut mae craffu wedi gwneud gwahaniaeth ·
Cefnogi
gwelliant parhaus y swyddogaeth graffu. Am y bumed flwyddyn, llunnir yr adroddiad fel cerdyn sgorio syml. Bwriedir
i'r ymagwedd hon dynnu sylw at nifer bach o ddangosyddion allweddol sy'n dangos
pedwar cwestiwn o ran perfformiad. Gweler y cwestiynau hyn, y bwriedir iddynt
adlewyrchu ymagwedd 'sy'n seiliedig ar ganlyniadau' fel a ganlyn: ·
Beth
oedd effaith craffu? ·
Pa
mor dda gwnaethom ni? ·
Faint
wnaeth craffu effeithio ar fusnes y cyngor? ·
Faint
o graffu wnaethom ni? Mae siartiau wedi'u hychwanegu sy'n dangos data cymharol â blynyddoedd
blaenorol lle bo hynny ar gael ac mae saethau wedi'u hychwanegu at y prif
gerdyn sgorio er mwyn dangos cyfeiriad y newid ar gyfer pob mesur. Os ceir cytundeb,
byddai'r adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 28 Gorffennaf
2016. PENDERFYNWYD CYTUNO ar yr adroddiad a'i gyflwyno i'r cyngor, yn amodol ar ychwanegu nodyn i ddiolch i'r staff sy'n cefnogi'r broses graffu yn rhagair y Cadeirydd.
|
||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd C A Holley, y Cynullydd, y newyddion diweddaraf am waith y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y canlynol: · Y materion allweddol a drafodwyd gan y panel · Yr ymarfer craffu cyn penderfynu a gynhaliwyd o ran yr Adolygiad Comisiynu Rheoli Gwastraff · Pynciau i'w hadolygu yn y dyfodol - cynllun corfforaethol, mwy o graffu cyn penderfynu ar adolygiadau comisiynu, ffïoedd a thaliadau a chyllideb. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei NODI. |
||||||||||||||||||||||||||
Rhaglen Waith Craffu 2016/17. PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y rhaglen waith arfaethedig, gan gynnwys cynllun ar
gyfer cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol, a oedd yn dangos y pynciau a fyddai'n
cael eu harchwilio gan graffu trwy baneli a gweithgorau amrywiol. Cyfeiriodd at yr wybodaeth am gynlluniau gwaith Pwyllgorau Cynghori'r
Cabinet (PCC) a oedd wedi'i nodi yn yr adroddiad er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth
a helpu i osgoi dyblygu. Nododd yr aelodau gyfraniad PCC at 'Drechu Tlodi' a
'Chytundebau Adran 106'; fodd bynnag, fe'u bodlonwyd
na fyddai'r gwaith craffu arfaethedig ar y materion hyn yn achosi unrhyw
ddyblygu diangen. Penderfynwyd nodi'r rhaglen waith craffu fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 75 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i
Aelodaeth Paneli/Gweithgorau Craffu. Adroddwyd bod y Cynghorydd U C Clay wedi'i phenodi'n Gynullydd Panel
Perfformiad Craffu Gwasanaethau i Oedolion, felly caiff ei hychwanegu at
aelodaeth Panel Perfformiad Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus, ac y bydd y
Cynghorydd C L Philpott yn ailymuno â'r Panel
Perfformiad Ysgolion. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R penodiadau uchod. |
||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd y Cofnod Llythyrau Craffu a chyfeiriodd at yr
ohebiaeth ddiweddar rhwng aelodau'r Tîm Craffu ac Aelodau'r Cabinet. Roedd hyn
yn cynnwys llythyrau gan y Gweithgor Ceffylau wedi'u Clymu i Aelod y Cabinet
dros Les a Dinas Iach a'r ymateb dilynol. PENDERFYNWYD y dylid NODI cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
||||||||||||||||||||||||||
Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at Seremoni Genedlaethol Gwobrwyo Cyflawniad y
Municipal Journal ar 16 Mehefin 2016 yr oedd hi, y
Cynghorydd T J Hennegan a'r Cynghorydd P R Hood-Willians
wedi mynd iddi. Drwy waith Craffu
Abertawe, roedd yr awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori
Rhagoriaeth mewn Llywodraethu a Chraffu. Er nad enillwyd y wobr, roedd yr
aelodau'n cydnabod y cyflawniad o fod ar y rhestr fer o bum cyngor o bob rhan
o'r DU. Rhoddodd y Cynghorwyr C A Holley a P Hood-Williams adborth hefyd ar seminar a drefnwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef 'Dyfodol Llywodraethu: Gwneud Penderfyniadau ar gyfer Cenedlaethau'r Presennol a'r Dyfodol'. Fe’i cynhaliwyd ar 6 Gorffennaf yng Nghaerdydd, a chanolbwyntiodd ar oblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o ran cynnal, cyflwyno a galw gwasanaethau i gyfrif, a'r sgiliau a'r ymddygiad angenrheidiol. |
||||||||||||||||||||||||||
Digwyddiadau craffu sydd ar ddod. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Gweithdy Ymwybyddiaeth o Dlodi a gynhelir am 4pm ddydd Llun, 25 Gorffennaf 2016 yn y Ganolfan Ddinesig. Roedd y gweithdy'n agored i bob cynghorydd, ond fe'i trefnwyd yn bennaf er mwyn darparu gwybodaeth gefndir am y materion i'r Panel Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi cyn y cesglir tystiolaeth. |
||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 38 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD
NODI Cynllun Gwaith y
Pwyllgor Archwilio. |
||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/17 (pob un am 4.30pm oni nodir yn wahanol):
Cofnodion: NODWYD dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017. |
||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau
Cofnodion: Er gwybodaeth, darparwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. |