Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y
Cynghorydd G J Tanner. |
|||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd N J Davies - personol - Cofnod Rhif
13 – wedi'i gyflogi gan Graham Evans & Partners
LLP sy'n gysylltiedig â materion amddiffyn plant/cyfreithiol. Y Cynghorydd P M Meara - personol - Cofnodion
Rhifau 12 a 13 - Aelod o'r Panel Maethu. |
|||||||
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Mai 2016 a 19 Mai 2016 fel cofnodion cywir. |
|||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|||||||
Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. PDF 114 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad a oedd yn rhoi disgrifiad o drefniadau
amlinellu a chraffu'r cyngor a chylch gorchwyl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Richards sylwadau agoriadol am ei phortffolio Cabinet, cyn cymryd
cwestiynau gan y pwyllgor. Siaradodd am ei
chyswllt rheolaidd â chraffu trwy Banel Perfformiad Craffu'r Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd a bu'n canmol gwaith gwerthfawr y panel gan ddweud ei fod yn
gwneud cyfraniad sylweddol i wella'r gwasanaeth. Bu hefyd yn siarad am ei
chyfarfod â'r Panel Perfformiad Craffu Gwella
Gwasanaethau a Chyllid sy'n cwmpasu sawl agwedd ar ei phortffolio, gan gynnwys
y gyllideb. Bu Aelod y Cabinet
yn siarad am y ffaith bod gweithio mewn partneriaeth yn un o'r prif faterion a
heriau sydd o'n blaenau a'i fod yn faes i'w wella er gwaethaf absenoldeb
tebygol ad-drefniad sylweddol llywodraeth leol. Roedd Dave Howes,
Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, hefyd yn bresennol a bu'n
cynorthwyo'r pwyllgor gyda'u cwestiynau yn ôl yr angen. Arweiniodd y sesiwn
holi i drafodaeth ynghylch y pynciau canlynol: ·
Ailsefydlu'r
Bwrdd Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc; ·
Gwaith
arweinwyr ieuenctid a lefel y gwasanaeth ar draws Abertawe; ·
Cymorth
ariannol i dimau chwaraeon cymunedol pobl ifanc; ·
Rôl
Aelod y Cabinet â'i gwaith fel rhan o Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus; ·
Cynllun
Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc - y broses o fonitro cynnydd i wella
canlyniadau; ·
Cynnydd
mewn perthynas â hawliau plant; ·
Y
Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid rhanbarthol ac argaeledd adroddiadau ar
berfformiad; ·
Ymyrryd
yn gynnar ac a gafwyd unrhyw welliannau i ganlyniadau troseddwyr ifanc ers
cyflwyno arfer adferol; ·
Dilyniant
a gwerthusiad y cynllun Dechrau'n Deg ers iddo symud i'r Portffolio Addysg; ·
Y
gyllideb ar gyfer y portffolio Plant a Phobl Ifanc; ·
Lles
plant sy'n cael eu haddysgu gartref; ·
Diogelu/Amddiffyn
Plant a materion hyfforddiant. Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Richards a
Dave Howes am ddod i'r cyfarfod. PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd
Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan fyfyrio ar y
drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|||||||
Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2014/15 ac Adendwm ar gyfer 2015/16. PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a Phrif Swyddog y
Gwasanaethau Cymdeithasol amlinelliad o waith y Grŵp Llywio Corfforaethol
i Ddiogelu Pobl drwy ddarparu'r adroddiad blynyddol am y cyfnod o 1 Ebrill 2014
i 31 Mawrth 2015 gydag adendwm diwygiedig i adlewyrchu cynnydd hyd at 31 Mawrth
2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr Adroddiad Diogelu Blynyddol, adendwm a
Chynllun Gweithredu. Darparwyd gwybodaeth gefndir i sefydlu Grŵp Llywio Corfforaethol i
Ddiogelu Pobl. Cydnabyddodd y pwyllgor fod Diogelu
Pobl Ddiamddiffyn yn un o 5 blaenoriaeth cynllun corfforaethol y cyngor, ac
efallai mai dyma'r un pwysicaf. Nodwyd bod yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2014/15 yn cynrychioli blwyddyn
gyntaf o waith y Grŵp Llywio. Cafodd y pwyllgor wybod am y gwaith a wnaed
dros y 18 mis diwethaf i hyrwyddo'r syniad bod pawb yn gyfrifol am ddiogelu, a
chyflawniadau eraill, gan gynnwys: ·
Nodi
arweinwyr diogelu clir ar draws holl wasanaethau'r cyngor ·
darparu
hyfforddiant ar-lein ac yn bersonol ·
datblygu
fframwaith perfformiad i ddarparu sicrwydd digonol fod y systemau'n gweithio'n
effeithiol ·
digwyddiad hyfforddi ar gam-fanteisio’n rhywiol ar blant Gofynnodd y pwyllgor am gynnydd mewn perthynas ag effeithiolrwydd
trefniadau gyda phartneriaid, gan gynnwys contractwyr, a'u cynnwys mewn
safonau/materion diogelu. Hysbyswyd y pwyllgor fod hwn yn faes i'w wella o hyd
ond bod camau gweithredu wedi'u nodi i estyn cyfrifoldebau ar draws sefydliadau
allanol sy'n gwneud gwaith i'r cyngor ac i sicrhau fod ganddynt lefel o
ddealltwriaeth o ddiogelu. Roedd y pwyllgor yn awyddus i weld cynnydd yn y maes
hwn yn ogystal ag amserlenni. Hefyd roedd gan y pwyllgor ddiddordeb yng ngwaith y Grŵp Llywio
Corfforaethol a sut mae'n ategu gwaith Bwrdd Diogelu Bae'r Gorllewin, Bwrdd Gweithredol
Diogelu'r Cyhoedd a grwpiau gweithredol lleol. Nododd y pwyllgor fod ymagweddau yn Abertawe yn denu sylw mewn mannau
eraill. PENDERFYNWYD y dylai Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol nodi barn y pwyllgor ar yr adroddiad. |
|||||||
Rhaglen Waith Craffu 2016/17. PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y rhaglen waith arfaethedig, gan gynnwys cynllun ar
gyfer cyfarfodydd pwyllgor yn y dyfodol, a oedd yn dangos y pynciau a fyddai'n
cael eu harchwilio gan graffu trwy baneli a gweithgorau amrywiol. Mae'n cynnwys y gwaith y mae angen ei
drosglwyddo, naill ai oherwydd ei bwysigrwydd neu am nad yw'r gwaith wedi'i
gwblhau, yn ogystal â phynciau newydd arfaethedig. Gwahoddwyd y pwyllgor i nodi 2 bwnc ymchwiliad newydd, a hyd at 5 pwnc
gweithgor newydd, gan ystyried adborth o'r gynhadledd flynyddol i gynllunio
gwaith craffu a gynhaliwyd ar 12 Mai. Trafodwyd nifer o opsiynau. Nodwyd sawl
mater arall yn y gynhadledd, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 7 yr adroddiad, a allai gael eu trafod gan baneli perfformiad perthnasol.
Amlygodd y Cadeirydd yr Adolygiadau Comisiynu amrywiol a fyddai'n mynd trwy
broses graffu cyn penderfynu yn ystod y flwyddyn. Teimlwyd bod angen gwneud gwaith y paneli perfformiad yn fwy amlwg ymhlith
aelodau'r pwyllgor a chytunwyd y dylai llythyrau yn y dyfodol at/gan y paneli
perfformiad gael eu cylchredeg i aelodau'r pwyllgor er gwybodaeth. Nododd y pwyllgor fod ymateb Aelod y Cabinet i Ymchwiliad Craffu
Llywodraethu Ysgolion yn cael ei adrodd i gyfarfod y Cabinet ar 16 Mehefin.
Mynegwyd pryder ynghylch yr ymateb arfaethedig a arweiniodd at drafodaeth am y
broses a gwelliannau posib e.e. galluogi deialog rhwng Cynullwyr/Aelodau'r
Panel Ymchwilio ac Aelodau’r Cabinet o ran eu hymateb cyn unrhyw benderfyniad. Bu aelodau'r pwyllgor hefyd yn trafod y broses graffu cyn penderfynu mewn
perthynas â'r materion a godwyd yn y cyfarfod ym mis
Mai. Nododd y Cadeirydd ei bod wedi cwrdd â'r Cyng.
Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad, i rannu pryderon
ac i drafod gwelliannau posib. Mae nodyn ysgrifenedig yn cael ei lunio ar gyfer
Aelod y Cabinet, i ystyried ymagweddau, e.e. adroddiadau ar gael cyn cyhoeddi
agenda'r Cabinet, trafodaeth rhwng y Cadeirydd/Cynullydd ac Aelod y Cabinet cyn
cyfarfod y Cabinet, gohirio adroddiadau'r Cabinet lle y bo'n bosib etc. PENDERFYNWYD ar y
canlynol: 1) Y
dylid derbyn y rhaglen waith craffu fel yr amlinellwyd
yn yr adroddiad. 2) Y dylid sefydlu'r Paneli
Ymchwilio canlynol: a. Partneriaethau a Chydweithio; b. Parodrwydd ar gyfer yr Ysgol. 3) Y dylid sefydlu'r gweithgorau
canlynol: a. Cynllunio a Threfniadau A.106; b. Ffyrdd a Chynnal a Chadw Priffyrdd; c. Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol; ch. Cynhwysiad Digidol; d. Baw Cŵn. 4) Y
dylid gofyn i'r cyngor ddiwygio Rheolau Gweithdrefnol Craffu er mwyn cynnwys
trafodaeth rhwng Aelodau'r Cabinet a chynullwyr/aelodau'r
Panel Ymchwilio cyn cyhoeddi adroddiadau ymateb Aelodau'r Cabinet i'r Cabinet;
ac 5) Y dylid e-bostio llythyrau ac ymatebion rhwng y Paneli
Perfformiad ac Aelodau'r Cabinet at aelodau Pwyllgor y Rhaglen Graffu er
gwybodaeth. |
|||||||
Aelodaeth Paneli Craffu a Gweithgorau. PDF 63 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i
Aelodaeth Paneli/Gweithgorau Craffu. PENDERFYNWYD y dylid
diwygio aelodaeth y Panel Perfformiad Ysgolion fel a ganlyn: 1) Ychwanegu'r Cynghorwyr Cyril
Anderson a Susan Jones. 2) Tynnu'r Cynghorwyr Robert Smith a Cheryl Philpott. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd y Cofnod Llythyrau Craffu a chyfeiriodd at yr
ohebiaeth ddiweddar rhwng aelodau'r Tîm Craffu ac Aelodau'r Cabinet. Roedd hyn yn cynnwys y llythyr gan y pwyllgor
at Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio a'r ymateb. Yn ogystal, darparwyd y llythyr gan y
Gweithgor Cadw Coed at Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio a'r
ymateb. PENDERFYNWYD y dylid NODI
cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|||||||
Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar. Cofnodion: Dim. |
|||||||
Digwyddiadau craffu sydd ar ddod. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at Seremoni Genedlaethol Gwobrwyo Cyflawniad y
Municipal Journal ar 16 Mehefin 2016 y byddai hi, y
Cynghorydd Terry Hennegan a'r Cynghorydd Paxton Hood-Willians
yn mynd iddi. Roedd hyn mewn perthynas â'r ffaith y cyrhaeddodd Craffu Abertawe y categori
Rhagoriaeth mewn Llywodraethu a Chraffu. |
|||||||
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth). PDF 38 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid NODI Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
|||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. Cofnodion: Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er
gwybodaeth. Roedd un diwygiad, fel a ganlyn: Cynhelir y Panel Ymchwilio i Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy ar 30 Mehefin 2016. |
|||||||
Craffu cyn penderfynu – rôl y pwyllgor. PDF 67 KB Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd ar yr arweiniad ar graffu cyn penderfynu cyn ystyried
Adroddiad y Cabinet ar 'Sgwâr y Castell - Datblygu a Chyfleoedd ar gyfer Mannau
Cyhoeddus'. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar rôl y pwyllgor wrth fynd i'r afael â chraffu cyn penderfynu. Gofynnwyd i aelodau ystyried adroddiad a chynigion y Cabinet a chytuno ar unrhyw farn ar y penderfyniad arfaethedig a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet. |
|||||||
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 14A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|||||||
Craffu Cyn Penderfynu: Sgwâr y Castell - Datblygu a Chyfleoedd ar gyfer Mannau Cyhoeddus - Adroddiad Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio.
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd (ar ran y Cynghorydd Robert Francis-Davies,
Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio), Huw Mowbray,
Rheolwr Datblygu Eiddo a Katy Evans, Uwch-syrfëwr Datblygu'r Ddinas, yr
adroddiad ar Sgwâr y Castell cyn penderfyniad y Cabinet ar 16 Mehefin 2016. Roedd yr
adroddiad yn ceisio awdurdod i ystyried opsiynau ar gyfer cyfleoedd
ailddatblygu yn Sgwâr y Castell. Roedd gan y
pwyllgor y cyfle i holi cwestiynau a mynegi ei farn
ar y penderfyniad arfaethedig. Tynnodd y
pwyllgor sylw at nifer o faterion yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD
y dylai'r Cynghorydd Holley, ar ran Cadeirydd Pwyllgor y
Rhaglen Graffu, gyflwyno barn y pwyllgor ar yr adroddiad i gyfarfod y Cabinet
ar 16 Mehefin 2016 cyn penderfyniad y Cabinet. |