Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y cynghorwyr D W Cole a D J Lewis. |
|||||||||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion
canlynol: Y Cynghorydd N J Davies – Cofnod 183 Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant - Buddiant Personol – wedi'i gyflogi gan
Graham Evans & Partners LLP sy'n cynnal hawliau
atebolrwydd cyhoeddus yn erbyn yr awdurdod. |
|||||||||||||||
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a
gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2016 fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno
bod cofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2016 yn
gofnod cywir. Mewn perthynas â Chofnod 166, gofynnodd aelodau am eglurhad o'r datganiad a wnaed gan Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio am gynnwys gwasanaethau llyfrgell, ynghyd â gwasanaethau diwylliannol eraill, yn yr ‘Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol’ er mwyn ceisio diddordeb partïon allanol. Cytunwyd y dylai llythyr y pwyllgor at aelod y cabinet ofyn iddo ddarparu mwy o wybodaeth am hyn, gan adlewyrchu'r sesiwn holi ac ateb. |
|||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Hopkins sylwadau agoriadol o blaid ei adroddiad
ysgrifenedig, cyn derbyn cwestiynau gan y pwyllgor. Roedd Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, a Chris Howell,
Pennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau, hefyd yn bresennol ac fe wnaethant
gynorthwyo'r pwyllgor gyda'r cwestiynau yn ôl y gofyn. Arweiniodd y sesiwn holi i drafodaeth ynghylch y pynciau canlynol: ·
Statws
yr adolygiadau comisiynu perthnasol (e.e. Rheoli Gwastraff, Parciau a Glanhau,
Priffyrdd a Chludiant) ·
Perfformiad
ailgylchu/pecynnu gormodol/sbwriel ·
Ôl-groniad
o atgyweiriadau ffyrdd (e.e. tyllau ffordd), archwilio a blaenoriaethu ·
Gorfodi parcio sifil/costau i ddarparu gwasanaethau
parcio ·
Incwm
Marina Abertawe/cynnal a chadw Morglawdd Tawe ·
Cynnydd
ar ddatblygu Partneriaeth Ansawdd Bysus gyda First Cymru ·
Rheoli'r
cerbydlu a rhesymoli depos ·
Ffïoedd i gau strydoedd (e.e. dathliadau
cenedlaethol/partïon stryd) ·
Baw
cŵn a gorfodi/darpariaeth a chostau biniau
gwastraff cŵn ·
Amserlenni
glanhau strydoedd a thargedu ·
Rhaglen
Llwybrau Diogel i'r Ysgol/Terfynau 20 mya o gwmpas
ysgolion ·
Torri
glaswellt mewn parciau/cynnal a chadw e.e. lle caiff hyn ei reoli gan grwpiau
‘ffrindiau parciau’ ·
Cost
gwaith ynglŷn â lwfansau amgylcheddol cynghorwyr (e.e. pyst pren i atal
parcio a diogelu ymylon ffyrdd glaswelltog) ·
Effeithiolrwydd
goleuadau stryd LED ·
Cludiant
o’r cartref i’r ysgol Diolchwyd i'r Cynghorydd Hopkins a'r swyddogion gan y cadeirydd am ddod. PENDERFYNWYD y dylai cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at aelod y cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Mary Jones, Cynullydd, ddiweddariad am waith Panel
Perfformiad Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Yn sgîl y drafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y
pwyllgor, nododd fod gwaith y panel perfformiad wedi cwblhau ei waith erbyn hyn
ac y byddai Panel Perfformiad Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y corff
newydd, yn cwrdd o fis Mehefin 2016. Cyfeiriodd at brif casgliadau'r panel sydd wedi cael eu cyfleu i gadeirydd
y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, y Cynghorydd Rob Stewart (Arweinydd y Cyngor).
Disgwylir i lythyr y panel gael ei ystyried gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
newydd pan fydd yn cwrdd am y tro cyntaf ar 17 Mai, a gobaith yr aelodau oedd y
byddai'r bwrdd newydd yn derbyn barn ac argymhellion y panel. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei NODI. |
|||||||||||||||
Adolygiad Cynllun Gwaith Blynyddol 2015/16. PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel cyfarfod olaf y flwyddyn ddinesig bresennol, bu'r adroddiad yn
cynorthwyo'r cynghorwyr i ystyried y gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn
ddinesig a myfyrio ar y profiad. Cafodd y pwyllgor ei annog hefyd i ddechrau
meddwl am y rhaglen waith craffu ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf. Darparodd yr adroddiad y canlynol i'r pwyllgor: ·
Crynodeb
o waith y pwyllgor a'r rhaglen waith craffu gyffredinol (gan gynnwys cynnydd y
paneli a'r gweithgorau amrywiol). ·
Adborth
am berfformiad craffu a'r arolwg cynghorwyr blynyddol. ·
Crynodeb
o weithgareddau gwella a wnaed. ·
Rhestr
o waith rhagorol y gellir ei gario
drosodd. ·
Blaengynllun
y Cabinet ar gyfer cyfleoedd am graffu cyn penderfynu. Gwahoddwyd yr aelodau i roi eu barn am y rhaglen waith a'u profiad o graffu
er mwyn helpu i werthuso pa mor llwyddiannus mae pethau wedi bod a nodi meysydd
i'w gwella. Ystyriodd y pwyllgor yr wybodaeth a ddarparwyd a chodwyd y materion
canlynol yn ystod trafodaethau: ·
Trawsnewid
Panel y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion – Cyfeiriodd cynullydd y panel, y
cynghorydd Uta Clay, at waith y panel dros y 18 mis diwethaf a'i lythyr cloi at
Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn a gaiff ei gyflwyno i'r
pwyllgor. ·
Y
Cynghorydd Cyfranogi wrth Graffu – Teimlodd y pwyllgor y dylai mwy o gynghorwyr
gymryd rhan wrth graffu. Nodwyd mai canran y cynghorwyr mainc gefn a fu'n
cymryd rhan dros y flwyddyn ddiwethaf oedd 79% (49 o 62). ·
Craffu
cyn penderfynu – Rhannodd aelodau'r pwyllgor brofiadau o graffu cyn penderfynu
a mynegwyd peth pryder ynglŷn ag effeithiolrwydd y broses gyfredol. Roedd
pryderon penodol yn ymwneud â'r amserlenni a
ddarperir ar gyfer craffu a sut mae'r Cabinet yn ymateb i farn
pobl. Nodwyd y gwaith craffu cyn penderfynu diweddar o'r Gwasanaeth Cerdd i
Ysgolion fel enghraifft. Gofynnodd rhai aelodau am eglurhad o ddiben craffu cyn
penderfynu a'r disgwyliadau ar gyfer y Cabinet mewn ymateb i
bryderon/argymhellion craffu cyn penderfynu. Teimlwyd y gallai gohirio
penderfyniad y Cabinet fod yn briodol er mwyn ystyried barn y tîm craffu'n
llawn. Nododd y pwyllgor ragor o wybodaeth am adroddiad disgwyliedig y Cabinet am
‘Sgwâr y Castell – Datblygu a Chyfleoedd ar gyfer Mannau Cyhoeddus’ ac fe
ystyriwyd a ddylid cyflwyno cais am graffu cyn penderfynu. Bu peth pryder
ynglŷn â'r cynnig i farchnata'r safle fel man
cyhoeddus pwysig, mewn ymateb i ddiddordeb gan ddatblygwyr. Cafodd aelodau'r pwyllgor eu hatgoffa gan y cadeirydd am y gynhadledd
cynllunio gwaith craffu flynyddol a oedd i'w chynnal ar 12 Mai. Nododd hi fod
cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ac aelodau cyffredin y Pwyllgor Safonau wedi
cael eu gwahodd i'r gynhadledd hefyd i roi safbwynt annibynnol/cyhoeddus ar
waith yn y dyfodol. PENDERFYNWYD y dylid: 1) cymeradwyo cylch gorchwyl yr Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi; 2) gofyn am graffu cyn penderfynu ar gyfer adroddiad disgwyliedig
y Cabinet ar ‘Sgwâr y Castell – Datblygu a Chyfleoedd ar gyfer Mannau
Cyhoeddus’ (a nodwyd ym mlaengynllun y Cabinet ar gyfer 16 Mehefin) – dylid trefnu
cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu cyn gynted â phosib; a 3) threfnu cyfarfod rhwng cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ac aelod perthnasol y cabinet i drafod y broses graffu cyn penderfynu a gwelliannau posib. |
|||||||||||||||
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 55 KB Cofnodion: Adroddwyd am fynegiadau o ddiddordeb ymhlith cynghorwyr craffu ar gyfer
corff newydd Panel Perfformiad Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion er
mwyn cytuno arnynt. Adroddwyd bod y Cynghorydd Peter Black a'r Cynghorydd Uta
Clay wedi mynegi diddordeb mewn gweithredu fel cynullydd. PENDERFYNWYD ar y
canlynol: 1) Dylid cytuno ar aelodaeth Panel Perfformiad Craffu
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion fel a ganlyn: Cynghorwyr Llafur: 6
Cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol: 3
Cynghorydd Annibynnol: 1
Cynghorydd y Ceidwadwyr: 1
2) Bydd y panel yn dewis y cynullydd yn ei gyfarfod cyntaf, i'r pwyllgor gytuno arno. |
|||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y cadeirydd am y log llythyrau craffu a chyfeiriodd at yr
ohebiaeth ddiweddar rhwng aelodau'r Tîm Craffu ac aelodau'r Cabinet. Roedd hyn yn cynnwys llythyr cloi Panel
Perfformiad Craffu'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a'r ymateb. PENDERFYNWYD y dylid NODI log llythyrau'r Tîm Craffu. |
|||||||||||||||
Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar. Cofnodion: Roedd yn bleser gan y cadeirydd i gyfeirio at roi Tîm Craffu Abertawe ar y
rhestr fer ar gyfer y Wobr Cyflawniad Cyfnodolyn Dinesig cenedlaethol yn y
categori ‘Rhagoriaeth mewn Llywodraethu a Chraffu’. Myfyriodd ar y ‘diwrnod
dyfarnu’ yn Llundain pan aeth hi a'r Cynghorydd Clive Lloyd (Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid a Pherfformiad) a Dave Mckenna (Rheolwr Craffu) i'r seremoni ar
28 Ebrill. Roedd hi'n fodlon ar y cyflwyniad a
roddwyd i'r beirniaid a oedd, yn ei thyb hi, wedi cael ei dderbyn yn dda, a
hefyd ar y profiad. Nododd y byddai'r Seremoni Wobrwyo'n cael ei chynnal ar 16
Mehefin y byddai hi, y Cynghorydd Terry Hennegan a'r Cynghorydd Paxton
Hood-Williams yn mynd iddi. |
|||||||||||||||
Digwyddiadau craffu sydd ar ddod. Annual Scrutiny Work Planning Conference –
12 May 2016, 4.00 pm, Lord Mayor’s Reception Room,
Guildhall. Cofnodion: Adroddodd y cadeirydd am y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu Flynyddol
sydd i'w chynnal ar 12 Mai 2016, 4.00 pm, Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer,
Neuadd y Ddinas. |
|||||||||||||||
Cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth). PDF 32 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid NODI Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
|||||||||||||||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. Cofnodion: Rhoddwyd dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod, er gwybodaeth. |