Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

161.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D.J. Lewis ac R.V. Smith.

162.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol:

 

Y Cynghorydd S.E. Crouch – Cofnod 166 Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio (a) Portffolio Holi ac Ateb - Budd Personol - fe'i cyflogir gan Brifysgol Abertawe.

 

Y Cynghorydd J.P. Curtice – Cofnod 168 Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe – Budd Personol – Aelod o Bwyllgor Perfformiad, Archwilio a Chraffu, Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Y Cynghorydd T.J. Hennegan – Cofnod 168 Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe – Budd Personol – Aelod o Bwyllgor Rheoli Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

 

Y Cynghorydd P.M. Meara – Cofnod 166 Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio (a) Portffolio Holi ac Ateb – Mae ei fab yng nghyfraith yn gweithio i'r Amgueddfa Diwydiant a Môr, ac Athro Emeritws Prifysgol Abertawe a Chofnod 167 Adroddiad Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu – Ysgolion – Budd personol – Aelod o Banel Perfformiad Ysgolion.

 

Y Cynghorydd G.J. Tanner – Cofnod 168 Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe – Budd Personol – Aelod o Bwyllgor Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

163.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

164.

Cofnodion. pdf eicon PDF 80 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2016.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2016 yn gofnod cywir.

 

165.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

166.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio. (Y Cynghorydd Robert Francis-Davies) pdf eicon PDF 81 KB

(a) Cwestiynau am y Portffolio

(b) Perfformiad ac Effeithiolrwydd Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Francis-Davies y sylwadau agoriadol, er mwyn cefnogi ei adroddiad ysgrifenedig, cyn ateb cwestiynau gan y pwyllgor.

 

Bu Phil Holmes, Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio, a Ryan Thomas, Rheolwr Rheoli Cynllunio, yn cynorthwyo Aelod y Cabinet mewn cysylltiad â chwestiynau am berfformiad ac effeithiolrwydd cynllunio. Darparwyd adroddiad i'r pwyllgor ar ôl i ymgynghorwyr craffu fynegi pryderon am y system gynllunio bresennol a gweithrediad y Pwyllgor Cynllunio.

 

Arweiniodd y sesiwn holi at drafod y pynciau canlynol:

 

Portffolio Holi ac Ateb

 

·                 Cynlluniau ar gyfer y grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid gwerth £8.3m a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, a'r canlyniadau, gan gynnwys sut byddai swyddi'n cael eu creu; nodwyd bod y ffocws ar brosiectau adfywio a chreu'r isadeiledd cywir i ddenu buddsoddiad a swyddi, e.e. creu canolfannau technoleg a swyddfeydd ar Ffordd y Brenin;

·                 Byddai llety myfyrwyr yn arwain at fwy o bobl yn byw ac yn gweithio yn y ddinas ac yn creu mwy o incwm yn Abertawe;

·                 Eglurwyd bod Iechyd a Lles, Chwaraeon a Hamdden yn rhan o bortffolio'r Cabinet dros Les a Dinas Iach; a bod Diwylliant a Thwristiaeth, gan gynnwys Theatr y Grand a Llyfrgelloedd, yn rhan o bortffolio Menter, Datblygu ac Adfywio;

·                 Fel rhan o raglen ehangach Abertawe Gynaliadwy, sef Yn Addas i'r Dyfodol, aeth yr holl Wasanaethau Diwylliannau drwy Adolygiad Comisiynu'r cyngor. Er i rai meysydd o effeithlonrwydd a thrawsnewid mewnol gael eu nodi, mae'r broses hon wedi arwain at brofi'r farchnad er mwyn gwahodd diddordeb gan bartïon allanol a allai gynnal gwasanaethau. Mynegodd y pwyllgor bryder am effaith bosib y toriadau ar wasanaethau diwylliannol fel amgueddfeydd a sut byddai gweledigaeth a chynlluniau'r awdurdod yn cyd-fynd ag amcanion cenedlaethol i ddiogelu treftadaeth (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol). Nodwyd bod y broses hon hefyd yn cynnwys y gwasanaeth llyfrgelloedd. Datganodd Aelod y Cabinet y byddai unrhyw ddiddordeb yn y portffolio diwylliannol yn cael ei ddadansoddi, ei asesu a'i herio, a hynny'n ofalus. Trafodwyd craffu ar y penderfyniadau arfaethedig sy'n codi o'r broses hon;

·                 Neilltuo Stryd y Gwynt i gerddwyr – nodwyd cynlluniau i symud tuag at ddiwylliant sy'n seiliedig ar fwytai'n fwy na thafarnau; cefnogir hyn gan gynnydd yn nifer y bobl sy'n gweithio yng nghanol y ddinas, a ddylai greu mwy o fywiogrwydd ac economi well gyda'r nos. Trafodwyd y cynnydd yn nifer y myfyrwyr yn Abertawe, a'r effaith ar gynlluniau o'r fath a chanol y ddinas yn gyffredinol, hefyd;

·                 Disgwylid i'r datblygiad defnydd cymysg ar Stryd Mariner fynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai, gyda'r bwriad o fod ar y safle ym mis Mehefin a chyflwyno llety i fyfyrwyr a fydd yn barod i'w ddefnyddio o fewn dwy flynedd;

·                 Rhanbarth Gwella Busnes (BID) – nodwyd parhad y BID ar ôl pleidlais ddiweddar ar adnewyddu. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet y byddai ef a'r Arweinydd yn parhau i eistedd ar fwrdd y BID a siaradodd am fanteision y BID i ganol y ddinas;

·                 Cyfleoedd i gynyddu nifer y digwyddiadau rhedeg yn Abertawe a chynnal marathon;

·                 Roedd y gwaith adnewyddu ar Oriel Gelf Glynn Vivian wedi'i gwblhau, ond roedd gwaith ar y palmentydd wedi dechrau bellach, a rhagwelir y bydd yn agor yn yr hydref;

·                 Gofynnwyd i Aelod y Cabinet ystyried sut gellid gwella delwedd gyrwyr tacsi sy'n gweithredu yn Abertawe, fel cyflwyno côd dillad – datganodd Aelod y Cabinet y byddai'n gofyn i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet ystyried hyn;

·                 Yr angen i ystyried ffyrdd mwy creadigol o ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr o ganlyniad i gau'r Ganolfan Croeso.

 

Perfformiad ac Effeithiolrwydd Cynllunio

 

·                 Trafodwyd strwythur newydd y Pwyllgor Cynllunio, gan gynnwys y weithdrefn herio. Roedd rhai aelodau o'r farn bod y pwyllgor yn rhy fach, nid oeddent yn cael eu cynnwys yn ddigonol yn y broses bresennol, ac nid oedd ganddynt ffydd ynddi. Roedd pryder hefyd oherwydd diffyg adolygu'r trefniadau presennol a ddisgwylir gan gynghorwyr;

·                 Ailadroddodd Aelod y Cabinet a'r swyddogion fod yr awdurdod wedi wynebu proses o newid sylweddol yn ystod 2014-15, yn rhannol o ganlyniad i bwysau cyllidebol, ac yn rhannol mewn ymateb i gynigion Llywodraeth Cymru (LlC) gyda Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Felly, roedd yr awdurdod wedi mabwysiadu model LlC ar gyfer strwythur a chynllun dirprwyo pwyllgorau;

·                 Awgrymodd ystadegau'r fframwaith perfformiad fod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ac adlewyrchwyd cyflymdra ac ansawdd penderfyniadau hefyd yn y ffigurau;

·                 Gwnaed gwelliannau amrywiol o ran effeithlonrwydd drwy gyflwyno system rheoli dogfennau electronig, ailstrwythuro timau cynllunio;

·                 Roedd Aelod y Cabinet yn credu ei fod yn well cael nifer bach o gynghorwyr medrus ar bwyllgor er mwyn cyflymu penderfyniadau a sicrhau cysondeb, ond roedd ffyrdd i gynghorwyr eraill fel aelodau lleol fod yn rhan o'r broses, heb wrthdaro o ran budd;

·                 Roedd LlC wedi beirniadu'r awdurdod gynt am gynnwys y 72 aelod i gyd ar y Pwyllgor Cynllunio. Byddai'r gofynion newydd i ymgynghori cyn cyflwyno cais (a ddaw i rym ar 1 Awst) yn canolbwyntio ar gynnwys aelodau cyn i geisiadau ffurfiol gael eu cyflwyno;

·                 Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod pob aelod wedi derbyn hyfforddiant cynllunio ar ôl etholiadau 2012. Ar ben hynny, cyflwynwyd hyfforddiant amrywiol, gan gynnwys hyfforddiant gloywi diwrnod llawn a sesiynau amrywiol ar newidiadau deddfwriaethol;

·                 Byddai protocol pwyllgor newydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai i'w ystyried, a disgwylir mwy o gyngor gan LlC sy'n egluro'r gofynion o ran materion fel gweithdrefnau herio;

·                 Roedd perfformiad presennol yr awdurdod o ran penderfyniadau a wnaed gan aelodau yn erbyn cyngor swyddogion yn unol â chyfartaledd Cymru;

·                 Trafodwyd y fframwaith polisi o ran cytundebau cynllunio A.106.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd Aelod y Cabinet y canlynol:

 

1)       Byddai mwy o wybodaeth am y grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cael ei darparu'n ysgrifenedig;

2)       Byddai cyfle i graffu'n cael ei gynnwys yn yr amserlen ar gyfer penderfyniadau ar y Gwasanaethau Diwylliannol;

3)       Byddai gofyn i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu ystyried safon ofynnol o ran côd dillad ar gyfer gyrwyr tacsi fel rhan o'i gynllun gwaith;

4)       Byddai'n ystyried trefnu seminarau ar gyfer pob cynghorydd (nid y Pwyllgor Cynllunio'n unig) pan geir rheoliadau cynllunio newydd;

5)       Roedd ymarferoldeb cyflwyno Ardoll Isadeiledd Cymunedol wrthi'n cael ei ystyried; 

6)       Trefnir sesiwn i ddarparu adborth ar benderfyniadau ar apeliadau'r llynedd ar gyfer y Comisiwn Cynllunio erbyn mis Gorffennaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Francis-Davies a'r swyddogion am ddod. Ychwanegodd y byddai unrhyw graffu arall ar gynllunio'n cael ei ystyried fel rhan o drafodaethau'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith flynyddol. 

 

PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

167.

Adroddiad Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu - Ysgolion. (Y Cynghorydd Fiona Gordon) pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Fiona Gordon, y cynullydd, y newyddion diweddaraf am waith Panel Perfformiad Craffu Ysgolion.

 

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y pynciau canlynol:

 

·                 Effaith adroddiadau negyddol yn y cyfryngau lleol am gategoreiddio canlyniadau ymchwiliadau Estyn a'r rhesymau pam nad oedd gosod ysgolion yn y categorïau hynny'n cael ei ddeall. Nodwyd bod ERW wedi ceisio cyfleu mai categoreiddio cefnogaeth, ac nid perfformiad neu ofidiau, oedd y nod;

·                 Pwysigrwydd cysondeb o ran cefnogaeth a chyngor yr Ymgynghorydd Herio ar draws Abertawe;

·                 Yr effaith y gallai gostyngiad bach o ran presenoldeb ei gael ar ganlyniadau perfformiad ysgolion – mynegodd y pwyllgor bryder am werth y mesurau perfformiad cenedlaethol presennol o ran presenoldeb, yn enwedig sut gallai amrywiadau bach effeithio ar ysgol a chanddi nifer cymharol fach o ddisgyblion;

·                 Rhaglen waith y Panel Perfformiad Ysgolion ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD NODI'R adroddiad.

 

168.

Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Craffu adroddiad i gytuno ar y trefniadau ar gyfer Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynnu bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei sefydlu ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodol i ddefnyddio'r byrddau hyn er mwyn gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gyfrannu at y nodau lles a nodir yn y Ddeddf.

 

Yn ôl y Ddeddf, mae'n ofynnol i bwyllgor craffu ar lywodraeth leol gael ei ddynodi er mwyn craffu ar waith bwrdd y gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal honno. Y bwriad yw rhoi'r cyfrifoldeb am her ac atebolrwydd i gyrff lleol yn hytrach na Gweinidogion Cymru (y mae eu pwerau'n brin).

 

Argymhellodd yr adroddiad sefydlu panel perfformiad craffu er mwyn cyflawni cyfrifoldeb y pwyllgor, gan ddilyn yr un model â Phanel Perfformiad Craffu presennol y Bwrdd Gwasanaethau Lleol, ond gyda rhai gwahaniaethau er mwyn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf ac arweiniad. Nodwyd y bydd cylch gwaith y panel craffu'n canolbwyntio ar gyd-swyddogaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chyfrifoldebau a rennir, nid ar waith sefydliadau unigol.

                       

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd sicrhau cynrychiolaeth anweithredol briodol o sefydliadau partner ar y panel craffu, er mwyn sicrhau ei annibyniaeth.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)       Mae'r pwyllgor yn cydnabod mai Pwyllgor y Rhaglen Graffu yw'r pwyllgor craffu dynodedig ar gyfer craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, at ddibenion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

2)       Sefydlir Panel Perfformiad Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn i'r pwyllgor gyflawni'r rôl hon;

3)       Mae'r pwyllgor yn cymeradwyo'r cylch gorchwyl ar gyfer Bwrdd Perfformiad Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a nodir yn Atodiad Un.

 

169.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad chwarterol drafft gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu i'r cyngor am effaith craffu.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor.

 

170.

Rhaglen Waith Craffu 2015-16. pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd adroddiad y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu bresennol.

 

Darparodd yr adroddiad y canlynol i'r pwyllgor:

 

·         Y Rhaglen Waith Craffu bresennol;

·         Cynllun ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor y dyfodol;

·         Adroddiad cynnydd am y paneli a'r gweithgorau presennol amrywiol; a

·         Blaengynllun y Cabinet ar gyfer cyfleoedd i graffu cyn penderfynu.

 

Nododd y pwyllgor fod gwaith y Panel Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi dod i ben a thrafododd y cam i sefydlu Panel Perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn ei le. Cyflwynwyd cylch gorchwyl drafft ar gyfer y panel newydd. Byddai cynigion ar gyfer aelodaeth (gan gynnwys y cynullydd) yn cael eu hadrodd yn ôl i'r pwyllgor gael gytuno arnynt.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)       Cymeradwyodd y pwyllgor sefydlu Panel Perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a chylch gorchwyl;

2)       Ceisir craffu cyn penderfynu ar adroddiad y Cabinet sydd ar ddod am 'Sgwâr y Castell – Cyfle Datblygu a Mannau Cyhoeddus' (a restrir ym Mlaengynllun y Cabinet ar gyfer 16 Mehefin), yn amodol ar roi mwy o wybodaeth i'r pwyllgor am y mater hwn a phenderfyniad arfaethedig.

 

171.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw newidiadau i aelodaeth paneli a gweithgorau craffu i'w nodi.

 

172.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 71 KB

 

Gweithgaredd

Dyddiad y Cyfarfod

Gohebiaeth

 

a

Panel Ymchwilio i'r Strydlun (camau dilynol)

20 Ionawr

Llythyr at/gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant

b

Gweithgor Safon Ansawdd Tai Cymru

3 Chwefror

Llythyr at/gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf

c

Panel Ymholi i Fewnfuddsoddi (camau dilynol)

3 Mawrth

Llythyr at Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am y log llythyrau craffu a chyfeiriodd at yr ohebiaeth ddiweddar rhwng paneli craffu ac Aelodau’r Cabinet.

 

Nodwyd y cais o fewn llythyr y Panel Ymchwilio i'r Strydlun. Tynnodd llythyr y Cynullydd sylw at y sefyllfa gyllidebol barhaus a phwysigrwydd parhau i gyflwyno gwasanaethau Strydlun o safon. Gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried sut bydd y sefyllfa gyllidebol bresennol yn effeithio ar wasanaethau Strydlun, yn ogystal â chadw golwg ar gynnydd. Awgrymwyd y gellid codi'r mater hwn gyda'r Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, a fydd yn dod i'r cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 9 Mai 2016 ar gyfer sesiwn holi ac ateb.

 

PENDERFYNWYD NODI'R log llythyrau craffu.

 

173.

Adborth o ddigwyddiadau craffu diweddar.

Cofnodion:

Nid oedd digwyddiadau craffu diweddar i adrodd arnynt.

174.

Digwyddiadau craffu sydd ar ddod.

(a) Annual Scrutiny Work Planning Conference – 12 May 2016,

4.00 pm, Lord Mayor’s Reception Room, Guildhall.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu sydd ar ddod ar 12 Mai 2016, am 4.00pm, yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas.

175.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 32 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD NODI Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

176.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd blwyddyn ddinesig 2015/16. (pob un am 4.30pm ac eithrio lle nodir yn wahanol)

9 Mai 2016

Cofnodion:

NODWYD dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2015-2016.

 

177.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Pwnc

 

Dull

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Canolfan Ddinesig (CDd)

Neuadd y Ddinas (NDd)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Panel Perfformiad

11 Ebrill

2.00pm

Ystafell Bwyllgor 6 (NDd)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Panel Perfformiad

13 Ebrill

11.00am

Ystafell Bwyllgor 6 (NDd)

Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy

Panel Ymchwilio

14 Ebrill

10.30am

Ystafell Bwyllgor 6 (NDd)

Ysgolion

Panel Perfformiad

14 Ebrill

4.00pm

Ystafell Bwyllgor 3B (NDd)

Trechu Tlodi

 

 

Gweithgor Cyn-ymchwiliad

20 Ebrill

4.00pm

Ystafell Bwyllgor 6 (NDd)

Cadw Coed

Gweithgor

21 Ebrill

1.30pm

Ystafell Bwyllgor 6 (NDd)

Bwrdd Gwasanaethau Lleol

 

Panel Perfformiad

25 Ebrill

10.30am

Ystafell Bwyllgor 4 (NDd)

Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy

Panel Ymchwilio

27 Ebrill

10.30am

Ystafell Bwyllgor 5 (NDd)

 

Cofnodion:

Er gwybodaeth, darparwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli / gweithgorau sydd ar ddod.