Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

74.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

75.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

76.

Cofnodion. pdf eicon PDF 247 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2024 fel cofnod cywir.

 

77.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                                                         

78.

Galw penderfyniad y Cabinet i mewn - Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth. pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adroddiad a oedd yn nodi bod gofyn i'r Pwyllgor ystyried y pryderon a godwyd mewn perthynas ag adroddiad y Cabinet / penderfyniad a wnaed ar 18 Ionawr, ar y 'Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth' a gafodd ei 'alw i mewn' gan Gynghorwyr (y Cynghorydd arweiniol, Sandra Joy).

 

Manylodd y Cynghorydd Sandra Joy – Cynghorydd Arweiniol sy'n gwneud y 'Galw i Mewn' ar y rhesymau dros y Galw i mewn fel a ganlyn:

 

"Y rheswm am y Galw i Mewn yw oherwydd ein bod yn credu bod y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad hwn heb iddynt gael gwybod yn llawn am y pryderon a fynegwyd gan aelodau o'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau (PTG) ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol mewn cyfarfod a gofnodwyd ar 12 Rhagfyr, pan drafodwyd drafft y polisi hwn.  Roeddent dan yr argraff fod drafft y polisi hwn wedi'i dderbyn yn ei gyfanrwydd gan y PTG hwn, ac nid yw hynny'n wir. Nid oedd Cadeirydd y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadernid Ariannol wedi rhannu'r pryderon a godwyd ag aelodau'r Cabinet.

 

Yn ystod y cyfarfod PTG hwn, codwyd pryderon sylweddol ynghylch yr amserlenni ar gyfer prosesu ceisiadau am brydau ysgol am ddim. Nodir hyn fel 28 niwrnod gwaith, bron chwe wythnos. (Codwyd amserlenni eraill ar gyfer pobl sy'n profi caledi yn y cyfarfod hefyd, ond rydym yn canolbwyntio ar yr effaith uniongyrchol ar blant agored i niwed.) 

 

Sylwer mai plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Nid oes ganddynt fynediad at arian. Mynegwyd pryder y gallai plentyn o'r fath fod mewn sefyllfa lle nad yw'n gallu cael gafael ar unrhyw fwyd yn ystod y dydd am hyd at chwe wythnos.  

 

Dywedodd swyddog y Cyngor a oedd yn bresennol wrth y Pwyllgor y byddai'n 'mynd â hynny'n ôl i'r Penaethiaid Gwasanaeth' ac yn 'rhoi adborth i chi'.  Ni ddigwyddodd hyn tan ar ôl i'r Cabinet gyfarfod a gwneud eu penderfyniad, felly eto ni chawsant wybod am y pryderon a godwyd.   

 

Yn amlwg, gellir darparu tystiolaeth ategol fod hyn wedi'i godi, trwy gofnodion y cyfarfodydd y cyfeirir atynt yma a recordiadau o'r ddau gyfarfod: cyfarfod y PTG a chyfarfod y Cabinet, yn ogystal â'r negeseuon e-byst dilynol a gyfnewidiwyd gyda swyddogion y Cyngor.  

 

I grynhoi, credwn fod y penderfyniad i fabwysiadu Fframwaith y Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth heb ddiwygiad yn anniogel, gan ein bod yn credu y byddai'r Cabinet wedi bod yn annhebygol o dderbyn y dylid fod disgwyl i unrhyw blentyn agored i niwed fynd heb fwyd bob dydd am bron chwe wythnos tra bod oedolion yn prosesu'r gwaith papur gofynnol".  

 

Mewn ymateb, dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau:

 

Er iddi fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau, roedd yn dymuno egluro rhai o'r materion a godwyd.

 

Rhoddodd sicrwydd ynghylch ymrwymiad a gofal y Cyngor am les plant a mynediad at brydau ysgol am ddim. 

 

Cyfeiriodd at y rhesymeg y tu ôl i amserlen y Safon Gwasanaeth ynghylch Prydau Ysgol am Ddim a'r cynnig i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn dilyn trafodaeth â Swyddogion. Yn anffodus, mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cadarnhau cymhwysedd heb ymgynghori â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a all gymryd hyd at 28 niwrnod i ymateb. Mae amserlenni'r DWP y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.  Fodd bynnag, os oedd y Cyngor yn ymwybodol o hawl teulu drwy wahanol ddulliau (e.e. Treth y Cyngor neu Fudd-dal Tai, ac roeddent wedi darparu tystiolaeth yn flaenorol ar gyfer budd-daliadau cymwys) gall y Cyngor gadarnhau hyn a phrosesu'r cais o fewn un neu ddau ddiwrnod.

 

Roedd y diwygiad arfaethedig o saith niwrnod gwaith yn adlewyrchu camau gweithredu a oedd o fewn rheolaeth y Cyngor, unwaith y byddai'r Cyngor yn ymwybodol o fudd-dal cymwys. Fodd bynnag, gwneir pob ymdrech i brosesu ceisiadau cyn gynted â phosib.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet fod y Fframwaith Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth i fod i gael ei roi ar waith ar 1 Ebrill a bwriedid iddo bob amser fod yn 'ddogfen fyw' a fydd yn cael ei diweddaru/diwygio'n unol â hynny i wella ein gwasanaeth cwsmeriaid, fel yr adlewyrchir ym mhenderfyniad y Cabinet ar 18 Ionawr lle rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwyr a'r Aelod(au) Cabinet perthnasol wneud unrhyw fân newidiadau fel y bo'n briodol.

 

I gloi, dywedodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau ei bod yn dymuno rhoi lefel o sicrwydd y byddai'r pryderon a godwyd yn cael eu hystyried cyn rhoi'r fframwaith ar waith ar 1 Ebrill 2024.

 

Rhoddodd y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau drosolwg cynhwysfawr o'r broses ar gyfer penderfynu ar gymhwysedd ac ailadroddodd y sylwadau a wnaed gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Newidiadau i'r Cynllun Budd-daliadau (cyflwyno Credyd Cynhwysol).

·       Ymatebion ysgolion i amserlenni ar gyfer prydau ysgol am ddim.

·       Meini prawf cymhwysedd yng Nghymru a Lloegr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd S Joy, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Swyddogion am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau gan adlewyrchu penderfyniad y Pwyllgor i argymell y diwygiad i'r Safon Gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim a nodir yn ymateb y Prif Weithredwr (Atodiad 4) lle caiff yr amserlen ei newid i 7 niwrnod gwaith (i dderbyn y cadarnhad).

 

79.

Adroddiad Cynnydd Strategaeth y Gweithlu. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau Strategaeth y Gweithlu 2022-2027 a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Hydref 2022 ar ôl cyfnod o gynllunio ac ymgynghori â rhanddeiliaid. Roedd y strategaeth ar gael i'w gweld yn Atodiad A.

 

Roedd y strategaeth yn cynnwys pedair thema allweddol i ysgogi gwella diwylliant sefydliadol dros oes y cyfnod o bum mlynedd, gan gyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor, 'Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy', a'r Cynllun Trawsnewid Corfforaethol cysylltiedig ar gyfer 2023-2028.

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth y Gweithlu sefydlwyd Bwrdd Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym mis Rhagfyr 2022. Roedd y bwrdd yn gyfrifol am nodi prosiectau trawsnewid priodol a fyddai'n galluogi cyflawni amcanion y strategaeth, gan gytuno ar y prosiectau blaenoriaeth i'w rhoi ar waith ar unrhyw adeg benodol yn oes y strategaeth a monitro cynnydd bob chwarter.

 

Rhoddodd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau fanylion ynghylch y cynnydd gyda'r pedwar prosiect trawsnewid penodol ac amcanion Strategaeth y Gweithlu a nodwyd i'w rhoi ar waith yn ystod 2023/24.

 

Nododd yr Aelodau, o'r 23 amcan y cytunwyd arnynt ar gyfer 2023/24, mai dyma'r rhestr gryno o'r statws Coch Oren Gwyrdd:

 

·       Wedi'u cwblhau - 4

·       Gwyrdd – 12

·       Oren – 6

·       Wedi'u tynnu'n ôl = 1

 

Mae cynnydd da wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â'r amcanion a nodir yn Strategaeth y Gweithlu a disgwylir i 70% ohonynt fod wedi'u cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gydag un amcan i fod i gael ei dynnu'n ôl oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac un oren arall i'w ailddrafftio i gyflawni bwriadau'r gyfarwyddiaeth, byddai'r 5 amcan oren sy'n weddill yn cael eu cario ymlaen i flwyddyn 2024/25 ynghyd â nodau sydd newydd gael eu dewis yn parhau yn y strategaeth.

 

Byddai recriwtio i'r swydd Rheolwr AD a DS gwag yn galluogi mwy o allu ar gyfer cyflawni yn erbyn amcanion Strategaeth y Gweithlu ac wrth i'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau AD a DS wreiddio, bydd y ffocws ar waith prosiect yn cynyddu o ganlyniad.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Gweithlu sy'n Addas i'r Dyfodol – Cydnabod Perfformiad – manylodd y Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Gwasanaethau ar yr ymagwedd/camau gweithredu newydd a gymerwyd i gyflwyno diwylliant o 'berfformiad uchel', gyda gwerthusiad ac adborth rheolaidd drwy Oracle.

·       Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol – Manylodd y Pennaeth AD a'r Ganolfan Gwasanaethau'r broses sydd ynghlwm wrth gyflawni'r achrediad 'Buddsoddwyr mewn Pobl'.  Oherwydd costau achredu, ystyriwyd ei fod yn rhywbeth y gellid ei archwilio yn ddiweddarach.

·       Bod yn Gyflogwr Delfrydol – Recriwtio a Chadw – Manylodd y Pennaeth AD a'r Ganolfan Gwasanaethau ar y cynnydd a'r math o ymchwil a gwybodaeth i lywio gwelliant i Bolisi ac ymagwedd y Cyngor at Recriwtio a Dethol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth AD a'r Ganolfan Gwasanaethau am ei mewnbwn a gofynnodd am drefnu diweddariad pellach ar y ffordd y caiff Strategaeth y Gweithlu ei chyflwyno i'r Pwyllgor mewn blwyddyn, gan ganolbwyntio ar yr effaith.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

80.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Newid yn yr Hinsawdd a Natur (Cynghorydd Sara Keeton, Cynullydd). pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Sara Keeton adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar waith/weithgareddau'r Panel Craffu Perfformiad: Newid yn yr Hinsawdd a Natur. 

 

Penderfynwyd bod Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad:  Newid yn yr Hinsawdd a Natur yn cael ei nodi.

 

81.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Gweithgor Craffu Tyfu Bwyd yn y Gymuned fel yr adroddwyd, gyda'r Cynghorydd Michael Locke fel Cynullydd.

 

82.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 283 KB

Trafodaeth am:

a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Amlygodd fod:

 

·       yr Ymchwiliad Craffu newydd ar Asedau Cymunedol bellach wedi cychwyn;

·       derbyniwyd cais cyhoeddus am Graffu ar bwnc cyflwyno 5G a'i effaith, ond yn dilyn cyngor gan y Prif Swyddog Cyfreithiol, ystyriwyd bod y materion penodol a godwyd y tu allan i gwmpas Craffu, felly ni fyddai unrhyw gamau'n cael eu cymryd;

Yn dilyn cwblhau'r Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Craffu ar gyfer Cynghorwyr Craffu Abertawe, a hwyluswyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mae nifer o syniadau wedi dod i'r amlwg o'r broses hon a’r hunanasesiad.  Caiff y rhain eu hystyried fel rhan o adolygiad diwedd blwyddyn ehangach i lywio Amcanion Gwella Craffu a chamau gweithredu yn y dyfodol.

Cadarnhaodd fod prif eitemau'r Pwyllgor nesaf ar 19 Mawrth yn cynnwys:

 

·       Adroddiad Cwynion Blynyddol 2022-2023.

·       Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022/2023.

 

83.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y Pwyllgor:

 

·       Pwyllgor – Cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau – Llythyr at Aelod y Cabinet dros Les.

Pwyllgor – Craffu ar Gymorth i Fusnes – Llythyr at Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth.

84.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, ar gyfer ymwybyddiaeth.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Galw i Mewn pdf eicon PDF 165 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Strategaeth Gweithlu pdf eicon PDF 191 KB