Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

59.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

60.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

61.

Cofnodion. pdf eicon PDF 250 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir.

 

62.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Dim.

 

63.

Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Sesiwn holi ac ateb gydag Arweinyddy Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Y Cynghorydd Rob Stewart). pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth yn bresennol ar gyfer y sesiwn holi ac ateb ar ei gyfrifoldebau portffolio.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Cynnydd ar Brosiectau Mawr: Bae Copr – Roedd Willmot Dixon wedi cymryd yr awenau oddi wrth y cyn-gontractwr ac roedd cynnydd yn cael ei wneud o ran blaenoriaethu'r gwaith sydd heb ei gyflawni. Roedd trafodaethau ynghylch gwesty newydd arfaethedig wrth ymyl yr Arena yn parhau.

 

·       Digwyddiadau Arena Abertawe/Gwerthu Tocynnau – Gofynnwyd cwestiwn ynghylch perfformiad yn erbyn y cynllun busnes, a niferoedd cymharol sy'n ymweld ar gyfer perfformiadau masnachol yn erbyn digwyddiadau megis cynadleddau lle gall tocynnau fod am ddim.  Nodwyd bod yr Arena yn lleoliad aml-ddefnydd ac roedd modd darparu dadansoddiad ar gyfer cynadleddau a sioeau masnachol a digwyddiadau eraill fel rhentu'r arena ar gyfer seremonïau graddio.

 

·       Parcio yng Nghanol y Ddinas – Darpariaeth Cilfach Anabl – Mynegwyd pryder ynghylch colli cilfachau dros dro ar gyfer gwaith ac effaith datblygu.  Roedd Swyddogion Priffyrdd wedi ymweld â chanol y ddinas i edrych ar gyfleoedd i adleoli cilfachau parcio anabl sydd wedi'i ddadleoli.  Roedd Park Street, Pell Street a chefn y Cwadrant yn cael eu harchwilio i liniaru colli cilfachau parcio anabl.

 

·       Datblygiad Adeilad Byw Arloesol yn Iard Picton - yn dilyn ymholiad am yr enw arfaethedig ar gyfer yr adeilad hwn, nodwyd bod adroddiad polisi enwi'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i ystyried mecanwaith ffurfiol ar gyfer enwi ac ailenwi.

 

·       Prosiectau Mawr/Prosiectau Newydd ar gyfer Abertawe o 2024 ymlaen - byddant yn parhau i ganolbwyntio ar gwblhau'r prosiectau sydd heb eu cwblhau, fodd bynnag, roedd cyfleoedd yn bodoli mewn perthynas â Neuadd Albert, hen adeilad Burtons, Mamma Mia's ac adeilad McDonald's ar gornel Sgwâr y Castell.  Manylwyd ar ail gam Bae Copr a'r cynnydd mewn perthynas ag Urban Splash, Oriel Genedlaethol Cymru, yr Acwariwm a Skyline.

 

·       Eden Las – trafodaeth ynghylch cynnydd a datblygiadau cydamserol mewn technoleg. Nodwyd bod y prosiect yn cynnwys prosiect ynni integredig a bod nifer o elfennau wedi dod at ei gilydd. Roedd y Cyngor yn agos at ddechrau'r gwaith. 

 

·       Pwyntiau gwefru cerbydau trydan – darperir ymateb ysgrifenedig i'r Cynghorydd yn dilyn ei gwestiwn yn ystod cyfarfod y cyngor.

 

·       Gwasanaeth Archifau yn symud i hen adeilad BHS - byddai'r adeilad o'r radd flaenaf ac yn ddigon mawr i gynnwys y Gwasanaeth Archifau.

 

·       Gwasanaeth Draenio – gwnaed buddsoddiad helaeth mewn perthynas â'r Gwasanaeth.

 

·       Rhaglen Trawsnewid – Gofynnwyd cwestiwn ynghylch ymateb i sylwadau Archwilio Cymru a wnaed ym mis Hydref 2023. Nodwyd gwnaed y sylwadau hyn ar 'adeg benodol' ac roedd yr adborth yn gadarnhaol i raddau helaeth. Ystyriwyd argymhellion ac roedd y Bwrdd Cyflawni Trawsnewid yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac effaith.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth am ei fewnbwn.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

64.

Gwaith dilynol: Gweithgor Craffu - Diogelwch ar y Ffyrdd. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn

rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau ynghylch materion sy'n peri pryder o ran Diogelwch Ffyrdd, yn dilyn Gweithgor Craffu ar Ddiogelwch Ffyrdd ym mis Rhagfyr 2022, a nodwyd yr ymagwedd sy'n cael ei dilyn er mwyn adeiladu ar welliannau diogelwch ffyrdd a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Aeth y Rheolwr Diogelwch ar y Ffyrdd â'r Pwyllgor drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at agweddau penodol, gan gynnwys llwyddiant y cyngor wrth leihau lefel a dwyster gwrthdrawiadau.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·        Patrolau Croesfannau Ysgolion – Mynegwyd pryder ynghylch darpariaeth yn y dyfodol. Mae'r cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i Batrolau Croesfannau Ysgolion.  Nodwyd, er nad oedd patrolau wedi dod i ben, roedd heriau'n bodoli o ran recriwtio.

 

·        Arwyddion/Baneri y tu allan i ysgolion – Does dim cynnydd wedi bod o ran cynyddu arwyddion a baneri y tu allan i ysgolion am ddiogelwch ffyrdd.

 

·        Rhaglenni Addysg Kerbcraft a Diogelwch Ffyrdd - roedd angen diweddaru Rhaglen Kerbcraft a chyflwynwyd sylwadau i Lywodraeth Cymru.

 

·        Rhaglenni Addysg Kerbcraft a Diogelwch Ffyrdd – mae 50 allan o'r 74 o Ysgolion Cynradd yn cymryd rhan.  Mae maint grant Llywodraeth Cymru yn effeithio ar ddarpariaeth y rhaglen.  Anogwyd rhieni i gymryd rhan drwy'r wefan a'r llenyddiaeth a ddarparwyd i blant ar gyfer eu rhieni.

 

·        Grant Diogelwch Ffyrdd – roedd yn anodd mesur effeithiau colli Grant Diogelwch Ffyrdd.  Mae'r gwerthusiad yn cymryd nifer o flynyddoedd ac mae llwyth gwaith cynyddol staff priffyrdd o ganlyniad i'r cynllun gostwng cyflymder i 20mya wedi cywasgu'r her hon.

 

·        Llwybrau Defnydd a Rennir – unrhyw broblemau gyda diogelwch, e.e., darparu arwyddion, dylid eu cyfeirio at y Ddesg Gymorth Priffyrdd.

 

·        Cydweithrediad rhwng cynllunio, dylunio a darparu Llwybrau Teithio Llesol a'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd – er bod heriau'n bodoli o ran cydbwyso ystyriaethau gwahanol, mae'r ddau wasanaeth wedi'u hintegreiddio i sicrhau bod unrhyw faterion diogelwch yn cael eu codi ynghylch llwybrau Teithio Llesol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd a'r Swyddogion am eu mewnbwn a mynegodd ddiolch i'r Tîm Diogelwch Ffyrdd am eu gwaith.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

65.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (Cynghorydd Paxton Hood-Williams, Cynullydd). pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ar waith/gweithgareddau Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. 

 

Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

66.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Ni adroddwyd ar unrhyw newidiadau.

 

67.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 281 KB

Trafodaeth am:

a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad arferol ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at sesiwn olaf y Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Craffu:

 

·       Hunanasesiad o Graffu (dwy ran) – i'w gynnal ar 17 Ionawr (ar-lein)/23 Ionawr (Ystafell Derbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas)

 

Roedd y prif eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Chwefror yn cynnwys:

 

·       Cyflawni yn erbyn Strategaeth Datblygu'r Gweithlu.

 

68.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y Pwyllgor:

 

·       Gweithgor Craffu – Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Llythyr at/gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd.

 

69.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 226 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, er mwyn cael ymwybyddiaeth.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 168 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 154 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Gwaith dilynol: Gweithgor Craffu - Diogelwch ar y Ffyrdd. pdf eicon PDF 160 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Gwaith dilynol: Gweithgor Craffu - Diogelwch ar y Ffyrdd pdf eicon PDF 214 KB