Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

49.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd unrhyw bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

50.

Cofnodion. pdf eicon PDF 337 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir.

 

51.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Dim.

52.

Adroddiad am Gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau. pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Aelod y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn nodi cynnydd dros y 12 mis diwethaf o ran cyflawni'r Flaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau. Yn fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Corfforaethol, diwygiwyd yr Amcan i ychwanegu 'Galluogi Cymunedau' i gydnabod dull sy'n seiliedig ar gryfderau lle gellir manteisio ar gryfderau unigolion, cymunedau a rhwydweithiau i helpu i fynd i'r afael â thlodi. Roedd yn cyflwyno tystiolaeth, mewnwelediadau a deallusrwydd i ddangos y cyfraniadau a wnaed wrth gyflawni'r flaenoriaeth hon ar gyfer y cyngor, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Roedd yn ymdrin â'r heriau presennol, gan gynnwys effaith yr argyfwng costau byw, ac ymateb y cyngor.

 

Gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Threchu Tlodi, gyda chymorth Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi a'r Rheolwr Datblygu Strategaeth Tlodi a'i Atal, drafod yr adroddiad gan dynnu sylw at agweddau penodol, gan gynnwys 9 Cam y Cynllun Corfforaethol a'r Ffordd Ymlaen.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Fframwaith Perfformiad - manylwyd ar y cynnydd a wnaed o ran datblygu Fframwaith Perfformiad Trechu Tlodi strategol i ddiffinio sut mae'r amcanion, y dangosyddion, y mesurau a'r allbynnau mewn perthynas â threchu tlodi yn cyd-fynd â chanlyniadau. Nodwyd bod rhywfaint o ddata'n bodoli, fodd bynnag mae angen gwneud gwaith pellach i gasglu'r data 'profiad byw' mwy cymhleth.  Roedd y Pwyllgor yn awyddus i gael mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae dangosyddion yn ei olygu o ran effaith ar bobl a sut mae hyn yn cyfateb i lai o dlodi, a chanlyniadau o dargedau a nodwyd. Nodwyd y cymhlethdodau trechu tlodi, gyda heriau o ran adnewyddu data, canlyniadau fframwaith perfformiad, darparu profiadau bywyd go iawn a datblygu ffyrdd gwahanol o gyflwyno tlodi.

 

 

·       Diffiniad o dlodi – er taw'r Safon Isafswm Incwm i berson sengl gael safon byw derbyniol yn 2023 oedd £29,500 yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, nid oedd unrhyw ffynhonnell unigol o dystiolaeth a oedd yn diffinio tlodi.  Nid oedd y diffiniad o dlodi yn gysylltiedig ag incwm yn unig ac roedd ehangu'r diffiniad yn rhan o waith parhaus.

 

·       Data Tlodi - cafwyd trafodaeth ynghylch y gwahanol ffynonellau data, gan gynnwys sut y defnyddir Mynegai Amddifadedd Cymru ac a fu llawer o newid dros amser; ac ynghylch yr hyn y gellir ei ddysgu gan offeryn ar-lein cenedlaethol Dangosfwrdd Data Archwilio Cymru sydd wedi'i gynllunio i gefnogi'r broses benderfynu mewn cynghorau ac i wella sut maent yn targedu eu gwaith.

 

·       Costau Byw – roedd y cyngor wedi bod yn monitro effeithiolrwydd a manteision grantiau 'Costau Byw' i unigolion a sefydliadau, er mwyn sicrhau ei fod wedi helpu'r rheini yr oedd angen help arnynt.

 

·       Adeiladu Asedau Cymunedol – Cyfleoedd gyda Phrofiad Gwaith a Gwirfoddoli. Trafodwyd enghreifftiau. Ar hyn o bryd mae ysgolion yn gwneud atgyfeiriadau i Amgueddfa Abertawe am gyfleoedd Profiad Gwaith a Gwirfoddoli.  Fodd bynnag, mae gwaith ar y gweill i symleiddio'r broses ar draws y cyngor, gyda datblygiad Strategaeth Gwirfoddoli Gorfforaethol.

 

·       Argymhellion Adroddiad 'Amser am Newid - Tlodi yng Nghymru' Archwilio Cymru - roedd cynllun gweithredu wedi ei ddatblygu ac ystyriwyd bod Abertawe'n gwneud yn dda. Cafodd Trechu Tlodi ei gynnwys yn y Fframwaith Perfformiad ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid aml-flwyddyn.  Roedd y rhan fwyaf o'r argymhellion yn cael eu cyflawni.

 

·       Datblygu Sgiliau - y ffocws ar wella'r ffordd rydym yn helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau, eu cymwysterau a'u rhagolygon cyflogaeth fel y gallant ddod o hyd i swyddi ystyrlon sy'n talu'n dda a gwella'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Sicrhau bod gan ddisgyblion ysgol y sgiliau cywir ar gyfer y gweithle - nodwyd hyn fel y flaenoriaeth uchaf ac mae sawl prosiect ar y gweill ar draws Abertawe gyda swyddogion dynodedig.  Fodd bynnag, nodwyd bod Abertawe'n gwneud yn dda wrth gael pobl i mewn i waith.

 

·       Targedau 2023/24 – Pryder ynghylch Statws Coch Melyn Gwyrdd mewn perthynas â Digartrefedd – er gwaethaf cydweithio gyda chydweithwyr yr Adran Tai, roedd digartrefedd wedi cynyddu ac roedd hyn yn parhau i fod yn her.

 

·       Strategaeth Trechu Tlodi adnewyddedig – nodwyd ei bod ar y trywydd iawn i'w chyhoeddi erbyn mis Mawrth 2024 yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i gael cyfle i wneud sylwadau ar y Strategaeth ddrafft.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mewn perthynas â Thlodi Plant lle dywedodd ei fod yn siom nad yw mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant ers datganoli, dywedodd Aelod y Cabinet dros Les fod mynd i'r afael â Thlodi Plant yn ddewis gwleidyddol ac, yn ei barn hi, nid oedd rhai materion mor bwysig â Thlodi Plant. Teimlai y byddai Gweinidog ymroddedig â chyfrifoldeb dros Dlodi Plant yn newid cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet dros Les a'r swyddogion am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet dros Les gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

 

53.

Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet - Cymorth i Fusnes (Y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth). pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn tynnu sylw at waith 'Busnes Abertawe', a lansiwyd ym mis Ebrill 2021, sef gwasanaeth cymorth pwrpasol gyda'r nod o wella ansawdd y cymorth i fusnesau yn Abertawe a nifer y bobl sy'n ei ddefnyddio. Cyflawnwyd y gwaith hwn gan Dîm Adfywio Economaidd y cyngor.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet, gyda chymorth swyddogion perthnasol, yr adroddiad i'r Pwyllgor gan dynnu sylw at agweddau penodol, gan gynnwys meysydd gwaith allweddol (cyfathrebu, digwyddiadau, cymorth grant, ymgysylltu â phartneriaid), Rheolaeth ac Adnoddau, gwelliannau/effaith a'r rhaglen ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Grantiau Busnes – trafodwyd effaith a llwyddiant grantiau busnes a'u heffaith, er enghraifft, ar Farchnad Abertawe.  Nodwyd bod lefel uchel o ddeiliadaeth (94%) ym Marchnad Abertawe ar hyn o bryd, a bod nifer o fusnesau wedi cael mynediad at gyngor a chymorth gan 'Busnes Abertawe'. Amlygwyd manylion y mentrau presennol (prosiect Gardd y Farchnad) a llwyddiant Marchnad Abertawe wrth ennill y teitl Marchnad Dan Do Orau Prydain.

 

·       Busnes Abertawe – trafodaeth am yr effaith y mae'r gwasanaeth newydd hwn wedi'i chael. Nodwyd bod y gwasanaeth cymorth newydd wedi llwyddo i greu un pwynt cyswllt symlach i fusnesau ac roedd cyfathrebu ac ymgysylltu wedi gwella.  Er bod gwaith yn parhau, mae'r effaith yn amlwg.

 

·       Parc Felindre – er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith 'Busnes Abertawe', dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo i farchnata'r safle'n rhagweithiol.   Cynhelir cyfarfodydd dyddiol a misol i fonitro ymholiadau.  Cadarnhaodd swyddogion nad oedd unrhyw rwystrau i unrhyw ddarpar ddatblygwr (e.e. ynghylch gwasanaethau ar y safle) a bod y safle'n cael ei farchnata'n ddwys.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth a swyddogion am eu mewnbwn.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth i adlewyrchu ar y drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

 

54.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Sue Jones adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor ynghylch gwaith / gweithgareddau Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Oedolion. 

 

Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau Oedolion.

 

55.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 231 KB

56.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 282 KB

Trafodaeth am:

a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiad rheolaidd ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24, y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei fonitro.

 

Roedd y prif eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 16 Ionawr yn cynnwys:

 

·       Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Sesiwn Holi ac Ateb gydag Arweinydd y Cyngor / Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth.  

·       Camau dilynol - Gweithgor Craffu Diogelwch Ffyrdd

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at sesiwn olaf y Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad Craffu:

 

·       Hunanasesiad o Graffu (dwy ran) – i'w chynnal ar 17 Ionawr (ar-lein)/23 Ionawr (Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas)

 

57.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y llythyrau canlynol, gan fyfyrio ar weithgarwch craffu diweddar y Pwyllgor:

·       Pwyllgor – Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe - Llythyr at Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau)

·       Pwyllgor – Craffu ar Adroddiad Cynnydd Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2021-23 - Llythyr at Aelod y Cabinet dros y Gymuned (Cymorth)

·       Pwyllgor – Craffu ar Adroddiad Blynyddol – Diogelu Corfforaethol 2022/23 - Llythyr at Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal

·       Pwyllgor – Camau Dilynol y Gweithgor Craffu Gwasanaethau Bysus - Llythyr at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd

 

58.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfodydd nesaf y Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol fel eu bod yn ymwybodol ohonynt.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Trechu Tlodi pdf eicon PDF 160 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cymorth i Fusnes pdf eicon PDF 117 KB