Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw gwestiynau. |
|
Eitem frys - Y Cabinet eitem 10 ar yr agenda: Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol Yn ychwanegol at Gyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2027/28 - Cynlluniau Cymeradwy'r Gronfa Adferiad Economaidd (sy'n fwy na miliwn o bunnoedd). Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: ·
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Prosiectau ychwanegol i'w
cynnwys o fewn Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 -2027/28 – Cynlluniau Cymeradwy'r
Gronfa Adferiad Economaidd (CAE) (sy'n fwy na miliwn o bunnoedd) (18 Mai eitem
rhif 10 ar agenda'r Cabinet) ·
Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol - Darpariaeth Refeniw
Ychwanegol ar gyfer Cronfa Adferiad Economaidd Gweddilliol 2023/24 (18 Mai
eitem rhif 14 ar agenda'r Cabinet) Rheswm dros y mater brys: Er mwyn galluogi craffu cyn penderfynu ar yr adroddiadau hynny cyn
penderfyniad y Cabinet. Cyflwynwyd y ddau adroddiad brys ar y cyd â'i gilydd. Mae Cofnod 113 isod yn adlewyrchu'r trafodaethau a gynhaliwyd ar gyfer y ddau adroddiad. |
|
Eitem frys - Y Cabinet eitem 14 ar yr agenda: Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol Darpariaeth refeniw ychwanegol ar gyfer Cronfa Adferiad Economaidd dros ben 2023/24. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a
Pherfformiad Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Cyllid a Phennaeth y Gwasanaethau
Eiddo yn bresennol i Graffu ar y 2 eitem frys, a gyflwynwyd gyda'i gilydd. Tynnwyd sylw'r
Pwyllgor at hanes diweddar y gyllideb ac egwyddorion ynghylch creu'r Gronfa
Adferiad Economaidd, a rhesymeg dros wariant ychwanegol. Gofynnwyd i'r
Cabinet gymeradwyo dyraniad cyfalaf ychwanegol o £4,595,000 i'r Gyllideb a'r
Rhaglen Gyfalaf, gyda £4.550,000 o'r Gronfa Adferiad Economaidd, ynghyd â
chronfeydd presennol o £45,000 a gedwir ar gyfer
Chwaraeon Stryd: - dyraniad
ychwanegol o £2,050,000 parthed Digonolrwydd Chwarae - dyraniad ychwanegol o £1,045,000 parthed
Cyfleusterau Sglefrio, ynghyd â chronfeydd presennol o £45,000 a gedwir ar gyfer Chwaraeon Stryd - dyraniad
ychwanegol o £1,500,000 parthed Teithio Gofal Cartref Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd gymeradwyo cynlluniau sy'n gysylltiedig â'r
Gronfa Adferiad Economaidd Gweddilliol i'w cynnal ym mlwyddyn ariannol 2023/24,
gyda £4,530,000 ar gael i'w ryddhau nawr fel swm untro
terfynol ar gyfer blaenoriaethau newydd, gan ychwanegu at gynlluniau gwario
cyllideb refeniw'r cyngor 2023/24. Nododd y Pwyllgor ei fod yn gallu ychwanegu
eitemau at gyllideb 2023/24 o ganlyniad i'r CAE Gweddilliol a'r amcangyfrif o falansau heb eu dyrannu ar y ddarpariaeth chwyddiant
canolog gan y byddai'r gwariant ynni yn is na'r hyn a dybir, hyd at £15 miliwn,
ac o ganlyniad byddai defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn ar gael i'r Cabinet
yn ystod y flwyddyn. Roedd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A yr adroddiad
(Eitem rhif 14 ar agenda'r Cabinet) eisoes wedi'u cymeradwyo a byddent yn
parhau, fodd bynnag, roedd y cynlluniau a restrir yn Atodiad B yn eitemau
ychwanegol. Y mwyaf o'r rhain yw: £1m ar gyfer Codi'r Gwastad i dargedu a
chefnogi ardaloedd o amddifadedd lluosog; Bysus am ddim (£600k); Ardaloedd
Chwarae (£500k); Cynigion Parcio/Ffïoedd Newydd (£500k);
Tîm PATCH (£450k); Cefnogaeth Fysus Leol (£400k); a glanhau draeniau'n well
(£350k). Eglurwyd, mewn perthynas â'r 17 blaenoriaeth ychwanegol a nodwyd yn yr
adroddiad, roedd y crynodeb yn dangos costau refeniw llawn. Mewn ymateb i
gwestiynau, gwnaed y canlynol yn glir i'r Pwyllgor: • dyraniadau 'untro' ar gyfer 2023/24 (e.e. eleni) oedd y rhain i wario arian CAE sydd ar
gael, ac nid oedd yn rhoi unrhyw bwysau hirdymor ar gyllideb y cyngor. • yn amodol ar y
Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiadau, byddai'r CAE yn gwbl ymrwymedig. • pe bai tanwariant
yna mater i'r Cyfarwyddwr Cyllid a'r Cabinet fyddai ystyried a fydd 'cario
drosodd' yn briodol, gan ystyried blaenoriaethau eraill a allai ddod i'r amlwg
ac yn amodol ar gyllid yn y dyfodol. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau hefyd ar eitemau amrywiol i geisio cael ychydig o fanylder,
yn enwedig ar Gyfleusterau Sglefrio, a Theithio Gofal Cartref gyda'r atebion
canlynol: • Byddai'r dyraniad
cyfalaf ar gyfer Cyfleusterau Sglefrio yn cynnwys uwchraddio cyfleusterau
presennol yn ogystal â chreu dau gyfleuster newydd fel y cyfleuster newydd ar
Heol y Mwmbwls, er mwyn ateb y galw. • Roedd y dyraniad
cyfalaf ar gyfer Teithio Gofal Cartref yn ymwneud â gofyniad gan Lywodraeth
Cymru i holl Gynghorau Cymru ymrwymo arian i annog recriwtio Gweithwyr Gofal
Cartref, a theimlwyd mai'r ffordd orau o wneud hyn fyddai gwella'r cynnig i
staff gyda buddsoddiad tuag at gerbydau a fyddai'n helpu gyda symudedd
gweithwyr, yn enwedig ar gyfer gwaith mewn lleoliadau mwy gwledig/anghysbell.
Holodd Cabinet y Pwyllgor sut y bydd y £1.5m yn cael ei reoli a byddai'n gofyn
i'r Panel Craffu perthnasol fonitro hyn, gan y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain
at gostau refeniw parhaus y bydd angen i'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol eu rheoli. Teimlai'r Pwyllgor
y bydd nifer o'r eitemau gwariant newydd yn ennyn diddordeb gan Gynghorwyr ar
draws y ddinas a'r sir i weld sut y gall cynlluniau fod o fudd i'w hardaloedd
lleol, er enghraifft camerâu cylch cyfyng, cilfachau parcio i bobl anabl,
cyrbau isel, Cynnwys Ieuenctid, a byddai angen i'r Cabinet drafod y ffordd orau
o ddefnyddio'r arian hwn. Yn ogystal â'r mewnbwn y bydd y Cabinet yn ei geisio
gan swyddogion perthnasol, teimlai aelodau'r Pwyllgor y dylai Cynghorwyr
ymgysylltu â mecanwaith a ddatblygwyd a fydd yn sicrhau dosbarthiad cytbwys o
fuddsoddiad ar draws ardaloedd lleol, gyda phroses glir ar gyfer blaenoriaethu
gan ystyried adnoddau cyfyngedig wrth gyflawni gwelliannau. Awgrymwyd y dylai'r
Cabinet annog Cynghorwyr i nodi blaenoriaethau y gellir eu hystyried fel rhan
o'r broses. O ystyried yr amser a'r ymdrech y mae'n ei gymryd i gynhyrchu
cynigion, dywedodd y Pwyllgor y byddai hynny'n helpu i gael mwy o eglurder
ynghylch meini prawf a fydd yn gwella'r gyfradd lwyddiant pan fydd Cynghorwyr
yn cyflwyno cynlluniau. Teimlai'r Pwyllgor
ei bod yn sesiwn ddefnyddiol iawn a oedd yn galluogi'r Pwyllgor i ddeall yr
amrywiaeth o ran y gyllideb gytunedig a'r goblygiadau cyllidebol. Ar y cyfan,
nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw broblemau gyda'r argymhellion yn yr adroddiadau
a phenderfyniad arfaethedig y Cabinet, a chroesawodd y buddsoddiad ychwanegol a
fyddai o fudd i drigolion ar draws y ddinas a'r sir. Diolchodd y
Cadeirydd i'r holl Aelodau, Swyddogion ac Aelodau'r Bwrdd. Penderfynwyd
y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu
at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, gan adlewyrchu'r
drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Cynghorydd Holley yn bresennol ar gyfer cyfarfod y Cabinet a drefnwyd ar gyfer 18 Mai, ar ei ran, i roi adborth llafar ar y ddau adroddiad. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd H Lawson adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y
Panel Craffu Perfformiad Newid yn yr Hinsawdd a Natur dros y flwyddyn
ddiwethaf, a materion allweddol yr oedd y Panel wedi canolbwyntio arnynt. Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad mewn perthynas â Phanel Craffu Perfformiad Newid yn yr Hinsawdd a Natur. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 230 KB Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni adroddwyd am
unrhyw ddiwygiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. |
|
Adolygiad diwedd blwyddyn 2022/23. PDF 353 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar Adolygiad Diwedd Blwyddyn 2022/23 a
gwahoddodd aelodau'r Pwyllgor i fyfyrio ar eu profiad a mynegi eu barn, er
enghraifft: ·
A oedd pethau wedi gweithio'n dda o fewn y Pwyllgor dros
y flwyddyn ddiwethaf? ·
A oedd gwaith a rhaglen waith gyffredinol y Pwyllgor yn
canolbwyntio ar y pethau cywir? ·
Beth, os o gwbl, y gellid ei wneud yn well? Gwnaed y sylwadau canlynol: ·
Mae'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith Blynyddol yn
ffordd dda o gael yr holl Gynghorwyr i gymryd rhan mewn nodi blaenoriaethau
Craffu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. ·
Mae Paneli Ymchwilio diweddar wedi gweithio'n
dda iawn. ·
Dylid ystyried amseru gweithgarwch craffu i
sicrhau bod pynciau'n cael eu trafod ar yr adeg iawn pan fydd yn galluogi
trafodaeth ystyrlon a'r effaith a'r gwerth mwyaf. Bydd hyn yn helpu i annog
ymgysylltiad cynghorwyr â Chraffu. ·
Mae angen ystyried amseroldeb gwybodaeth monitro
ariannol i gefnogi Craffu effeithiol a chydlyniant
gwell ag adroddiadau'r Cabinet. ·
Bydd twristiaeth yn bwnc pwysig i'r Panel Craffu
Perfformiad Datblygu ac Adfywio ei fonitro gan ystyried ei bwysigrwydd i'r
economi leol. ·
Yn gyffredinol, dylai gwaith craffu fod yn
ymwybodol o bwysau ar swyddogion sy'n darparu gwybodaeth ac ar Gynghorwyr sy'n
cymryd rhan mewn Craffu. Byddai'n ddefnyddiol pe bai Cynghorwyr yn glir
ynghylch gofynion unrhyw weithgarwch Craffu i'w helpu i ystyried eu cyfranogiad
a sicrhau eu bod yn gallu rhoi o'u hamser iddo, gan gydbwyso gofynion eraill
boed o fewn Craffu neu mewn mannau eraill. ·
A oes lle i roi mwy o amser i Gynghorwyr adolygu
agendâu/gwybodaeth i'w helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd? ·
Bydd angen i'r Pwyllgor ystyried effaith unrhyw
ostyngiad yn adnoddau ar y Rhaglen Waith a'r gallu oherwydd gohiriwyd dileu
swydd Swyddog Craffu arfaethedig o fewn arbedion cyllidebol ar gyfer 2023/24 am
flwyddyn yn unig. Bydd angen i'r Pwyllgor ystyried ansawdd yn erbyn swm, gan
sicrhau craffu effeithiol ond hefyd sylw da i graffu ar draws holl feysydd
pwysig y cyngor. ·
Rhoddodd bawb diolch i'r Tîm Craffu am eu holl
waith caled a'u cefnogaeth barhaus yn ystod y flwyddyn. Dywedodd y Cadeirydd fod pob Panel Perfformiad Craffu hefyd wedi cael gwahoddiad i fyfyrio ar eu gwaith a'u sylwadau a allai lywio gwaith craffu yn y dyfodol a gwella effeithiolrwydd y Panel. Roedd Arolwg Craffu'r Cynghorwyr hefyd wedi'i ddosbarthu yn ystod yr wythnosau diwethaf i gasglu adborth gan yr holl Gynghorwyr, a byddai canlyniadau'r arolwg yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol Craffu wedi iddynt gael eu dadansoddi. Yn ogystal â hunanwerthuso, dywedodd y Cadeirydd fod adborth ar ôl y cyfarfod bellach yn cael ei gasglu gan Aelodau'r Cabinet a swyddogion sy'n bresennol ar gyfer cyfarfodydd Craffu. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adborth hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rhannodd ddau awgrym ar gyfer gwella a oedd yn deillio o hyn: · Gyda chyfarfodydd hybrid mae'n ddefnyddiol pan fydd y Cadeirydd yn dweud pwy sydd yn yr ystafell yn gorfforol, gan nad yw'n glir o'r camerâu i'r rheini sy'n cymryd rhan ar-lein. · Bod yn ofalus i beidio â thrafod materion personol/penodol i'r ward yn ystod Craffu O ran y camau nesaf, dywedodd y Cadeirydd y canlynol wrth y Pwyllgor: · Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai yn ailbenodi Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn un o gyrff y cyngor a bydd y Pwyllgor yn ethol ei Gadeirydd a'i Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24. · Mae Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu yn cael ei chynllunio ar gyfer 4pm ar 13 Mehefin 2023, a fydd yn ddigwyddiad 'personol' yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas. Bydd cynghorwyr yn cael cyfle i gyfrannu syniadau yn y Gynhadledd, ond os ydynt am godi unrhyw beth cyn hynny gallant anfon e-bost at y Cadeirydd neu Arweinydd y Tîm Craffu. Gan ystyried adborth y gynhadledd bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ym mis Gorffennaf i gytuno ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24. Craffu cyn penderfynu ar adroddiad y Cabinet sydd ar ddod: Cynhelir ‘FPR7 Ailddatblygu 277-278 Stryd Rhydychen - Prosiect Hwb Cymunedol. Os bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet ar 15 Mehefin, fel y cynlluniwyd ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfod Pwyllgor Arbennig y Rhaglen Graffu am 3pm ar 13 Mehefin, e.e. yn syth cyn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 225 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar
ddod, er gwybodaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu PDF 150 KB |