Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

83.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

84.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

 

85.

Cofnodion. pdf eicon PDF 251 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2023 fel cofnod cywir, yn amodol ar gofnodi ymddiheuriadau Beth Allender. 

 

86.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

87.

Gwaith dilynol: Gweithgor y Gwasanaethau Bysus Craffu. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i'r mater gael ei ohirio oherwydd salwch y Swyddog.

 

Penderfynwyd gohirio'r eitem.

 

88.

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio / Perthynas Graffu. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio waith ei Phwyllgor a’r berthynas rhwng Craffu a Llywodraethu ac Archwilio. Roedd hyn yn rhan o ymdrechion parhaus i gryfhau'r berthynas honno a gweithio'n agosach.

 

Cyfeiriodd at y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ddiweddar a oedd yn rhoi cyfrifoldebau ychwanegol i Bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio mewn perthynas â Hunanasesiad Perfformiad Blynyddol y cyngor, ac adolygiad Perfformiad Cymheiriaid unwaith y tymor. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Bwyllgorau ystyried Adroddiad Cwynion Blynyddol y cyngor.

 

Cyfeiriodd at yr ystod o gamau gweithredu sydd eisoes ar waith i sicrhau bod ymwybyddiaeth/dealltwriaeth o waith pob Pwyllgor, ynghyd â chydlynu er mwyn osgoi dyblygu, a chyfeiriodd at enghreifftiau o waith mewn perthynas ag archwilio allanol ac adrodd am berfformiad a'r gwahaniaeth mewn ymagweddau, gan sicrhau bod gweithgarwch ar unrhyw bynciau cyffredin yn ategol, gyda'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ymwneud yn bennaf â sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd y broses. O ystyried rôl y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid wrth gynnal monitro perfformiad parhaus, mae Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Chris Holley, yn cael ei wahodd i fod yn bresennol mewn Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio pan fydd unrhyw adroddiadau perfformiad yn cael eu trafod.

 

Cyfeiriodd hefyd at Hyfforddiant Cymru Gyfan y mae wedi'i gwblhau sydd wedi ei helpu yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sydd wedi cynnwys y berthynas â Chraffu, a rolau priodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am ei hadroddiad gwybyddus.

 

89.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd dros y flwyddyn ddiwethaf, a materion allweddol y mae'r Panel wedi bod yn canolbwyntio arnynt.

 

Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad mewn perthynas â Phanel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd.

 

90.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 229 KB

91.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 274 KB

Trafodaeth am:

a)        Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)        Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

 

Dogfennau ychwanegol:

92.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

93.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar ddod, er gwybodaeth.