Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad am Gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi. PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Aelod y
Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn nodi cynnydd dros y 12 mis diwethaf o ran
cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi. Roedd yn cyflwyno tystiolaeth,
mewnwelediadau a gwybodaeth i ddangos y cyfraniadau a wnaed wrth gyflawni’r
flaenoriaeth hon, un o flaenoriaethau’r cyngor, yn ogystal â chynlluniau'r
dyfodol. Roedd yn cynnwys yr heriau presennol, gan gynnwys effaith yr argyfwng
costau byw, ac ymateb y cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried
canfyddiadau ac argymhellion Adroddiad 'Amser am newid – Tlodi yng Nghymru'
Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022, gan ddangos
ymateb yr awdurdod i argymhellion yr Archwiliad a'r camau gweithredu
arfaethedig. Aeth Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion gyda chymorth Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi a Rheolwr
Datblygu’r Strategaeth Tlodi a'i Atal, â'r Pwyllgor drwy'r adroddiad gan dynnu
sylw at agweddau penodol, gan gynnwys Cyd-destun, Blaenoriaeth Gorfforaethol,
Camau'r Cynllun Corfforaethol, Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol, Ysgogwyr
Strategol Cenedlaethol, Datblygiadau Ychwanegol a'r Ffordd Ymlaen. Nododd yr Aelodau
fod pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw wedi effeithio'n anghyfartal ar
aelwydydd incwm isel, gan wthio rhagor o bobl i dlodi, a’r rheini sy’n ei brofi
ymhellach i dlodi, gan arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau gan gynnwys
gwasanaethau cefnogi mewn argyfwng a chymhlethdodau cynyddol i’r rheini mewn
angen. Roedd ymateb parhaus Cyngor Abertawe i'r argyfwng costau byw yn cyfrannu
at liniaru effaith tlodi a lefelau uwch o alw. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: 1)
Lefelau
adnoddau i fynd i'r afael â thlodi. 2)
Roedd
yr ymagwedd 'Deg Cam' a nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2017 yn dweud bod y
Cynllun yn cael ei adnewyddu i adlewyrchu'r argyfwng costau byw ac y byddai'n
parhau i gael ei adolygu. 3)
Trefniadau
monitro ar gyfer y grantiau niferus i unigolion a sefydliadau. 4)
Manylwyd
ar ymdrechion i wella cyflogadwyedd - addysg, hyfforddiant a mentrau
cyflogaeth. Roedd trafodaeth ar fynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth fel
mynediad at gludiant cyhoeddus a phersonol, a gofal plant. 5)
Cynllun
grant ECO4 i helpu i wella effeithlonrwydd ynni’r stoc tai y mae aelwydydd
incwm isel a diamddiffyn yn byw ynddynt - nodwyd bod ceisiadau'n dal i gael eu
hystyried, fodd bynnag roedd 100 o bobl wedi elwa o'r Cynllun ECO3. Cytunodd
Swyddogion i gael rhagor o fanylion gan gydweithwyr Tai i'w rhannu â'r Pwyllgor. 6)
Datblygu
fframwaith perfformiad ar gyfer trechu tlodi - nodwyd yr heriau sy'n
gysylltiedig â'r fframwaith perfformiad, ond amlygwyd cynlluniau i ddatblygu
ymagwedd strategol gyda monitro dangosyddion perfformiad misol a chydweddiad
â'r Cynllun Corfforaethol. 7)
Proses
er mwyn i gynghorwyr wneud atgyfeiriadau i'r Tîm Hawliau Lles - cytunodd Aelod
y Cabinet dros Les i ddosbarthu manylion i bob cynghorydd. 8)
Trafodwyd
manteision darparu prydau ysgol yn gynharach yn y diwrnod ysgol, yn benodol i
blant ysgolion cyfun. Byddai Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn cysylltu â
chydweithwyr yn y maes Addysg ar hyn. 9)
Darparu
cymorth Iechyd Meddwl - manylwyd ar y cysylltiadau sefydledig gyda phartneriaid
mewn perthynas ag iechyd meddwl o fewn gofal cymdeithasol. 10) Nodwyd yr ymateb i gynllun gweithredu
adroddiad Archwilio Cymru. Roedd yr Adroddiad Archwilio yn cynnwys nifer o
fyfyrdodau cadarnhaol o arfer da a nodwyd yn Abertawe. Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Les a Swyddogion am eu mewnbwn. Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet
dros Les gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Arweinydd
y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth yn bresennol ar
gyfer y sesiwn holi ac ateb ar ei gyfrifoldebau portffolio. Er mwyn cynorthwyo'r
Pwyllgor, yn ogystal â'r 'penawdau allweddol' yn yr adroddiad ysgrifenedig a
ddarparwyd, rhoddodd yr Arweinydd gyflwyniad a oedd yn tynnu sylw at gynnydd
mewn perthynas â: ·
Skyline a Choridor yr Afon 2022/2025. ·
Ffordd
y Brenin a Stryd Rhydychen. ·
Theatr
y Palace. ·
Hwb
Cymunedol/Siop dan yr unto yn yr hen adeilad BHS. ·
Gerddi'r
Castell. ·
Bae
Copr. ·
Princess House. ·
Gwell
Cysylltiadau Rheilffordd a Bysus ar draws y rhanbarth. ·
Eden
Las a Hwb ynni enfawr. Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: 1)
Buddsoddiad
y Fargen Ddinesig/cyllid sector preifat - nodwyd bod y 9 prosiect mawr dan y
Fargen Ddinesig bellach wedi'u cymeradwyo'n llawn a bod cyllid preifat wedi'i
wireddu o ran y prosiectau llai. Roedd buddsoddiad ar gyfer prosiect mwy ar
ddod yn raddol. Clywodd y Pwyllgor fod prosiectau’n cael eu hadolygu'n
rheolaidd drwy Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. 2)
Diddordeb
yn yr adeilad swyddfa newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin - nodwyd bod chwarter y
swyddfeydd wedi cael eu gosod. 3)
Adferiad
Canol y Ddinas/busnesau newydd - nodwyd bod y Cwadrant wedi denu pedwar busnes
newydd ac roedd busnes arall sefydledig yng nghanol y ddinas wedi buddsoddi
mewn gwaith adnewyddu. Roedd busnesau yng nghanol y ddinas wedi perfformio'n
dda dros gyfnod y Nadolig. Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch hyrwyddo canol y
ddinas yn benodol gan y gallai rhai busnesau sydd â phresenoldeb y tu allan i
ganol y ddinas fod yn symud i le llai. Nodwyd bod amrywiaeth o weithgareddau
monitro yn mesur nifer yr ymwelwyr ac yn gwerthuso'r defnydd o ganol y ddinas. 4)
Cyngor
gan bartneriaid datblygu - nodwyd bod nifer o ymgynghorwyr wedi cynnal
adolygiadau ers cychwyn y Fargen Ddinesig yn 2016, ac roedd y cyngor yn parhau
i fod yn hyderus bod ganddo'r strategaeth a'r cynllun
cywir, sy'n caniatáu elfen o hyblygrwydd. Dywedodd Aelod y Cabinet dros yr
Economi, Cyllid a Strategaeth y gellid gofyn i Urban Splash, partner adfywio tymor hir y cyngor y mae ei
gyfranogiad yn cynnwys datblygu Gogledd Abertawe Ganolog a Safle'r Ganolfan
Ddinesig, ddod i gyfarfod craffu i gynghorwyr yn y dyfodol er mwyn deall eu rôl
a'u meddylfryd yn well. Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a'r Prif
Weithredwr, a oedd hefyd yn bresennol, am eu mewnbwn. Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor. |
|
Adroddiad Cynnydd Panel Perfformiad Craffu: PDF 239 KB a)
Gwella Gwasanaethau
a Chyllid (Cynghorydd Chris
Holley, Cynullydd). b) Addysg (Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd nodi adroddiadau cynnydd y Panel Craffu Perfformiad mewn perthynas â Gwella Gwasanaethau a Chyllid ac Addysg. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 230 KB Cofnodion: Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r
Gweithgorau, fel yr adroddwyd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 282 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y mae'r Pwyllgor yn
gyfrifol am ei monitro. Yn unol â chynllun gwaith y Pwyllgor, y prif eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod
nesaf ar 14 Chwefror oedd: -
Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus –
Ymgynghori ar Gynllun Lles Lleol Drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: Bob 5 mlynedd mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn datblygu
Cynllun Lles Lleol, sy'n nodi’r amcanion a’r camau gweithredu a ddefnyddir i
arwain camau gweithredu'r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus bob blwyddyn. Mae'r
Pwyllgor yn ymgynghorai statudol ar y Cynllun a bydd cyfle i adolygu a rhoi
sylwadau cyn gwneud penderfyniadau a chymeradwyo'r Cynllun. Rhaid cyhoeddi'r
Cynllun erbyn mis Mai 2023. Bydd Cadeirydd y BGC, y Cyng. Andrea Lewis, yn
bresennol ynghyd â'r Swyddog/Swyddogion perthnasol i adrodd wrth y Pwyllgor ac
ateb cwestiynau. -
Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r
Cabinet: Tai Amlfeddiannaeth - bydd y Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet
dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, yn bresennol ynghyd â
Swyddog(ion) perthnasol i adrodd am y mater hwn ac ateb cwestiynau'r Pwyllgor. - Gweithgorau: Cyfarfu'r Gweithgor Diogelwch Ffyrdd ar 7 Rhagfyr ac mae bellach wedi dod i ben. Mae'r Gweithgor wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet gyda'i farn a'i argymhellion ac ar ôl i Aelod y Cabinet ymateb adroddir wrth y Pwyllgor am hyn, a chaiff unrhyw ddilyniant i hyn ei gynnwys yng nghynllun gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 204 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar
ddod, er gwybodaeth. |
|