Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os
bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr
agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau ei hadroddiad a oedd yn ymdrin â
chyfrifoldeb y portffolio ynglŷn â digartrefedd. Dywedodd fod digartrefedd
wedi cynyddu ar draws Cymru. Cyfeiriwyd
at addewid 'gwely bob amser' Cyngor Abertawe a diolchodd i’r timau mewnol ac
allanol a fu'n gweithio yn ystod pandemig COVID a'r rheini sy'n parhau i
weithio i helpu pobl sydd mewn angen. Gofynnodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau i Reolwr Gweithrediadau'r Gwasanaethau Tai
Cymunedol roi trosolwg ar y pwysau presennol o ran digartrefedd a sut yr
ymdrinnir â'r pwysau hynny ar hyn o bryd. Rhoddodd Rheolwr
Gweithrediadau'r Gwasanaethau Tai Cymunedol y cefndir ynghylch pandemig COVID,
lefelau ac achosion digartrefedd, Strategaeth a blaenoriaethau’r Rhaglen
Cymorth Tai, y cyflawniadau presennol, yr heriau wrth symud ymlaen a chasgliad
a chrynodeb. Yn ogystal â Rheolwr Gweithrediadau'r Gwasanaethau Tai Cymunedol, roedd
Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd a Rheolwr Landlordiaid a'r Gwasanaethau Tai
Cymunedol yn bresennol i gynorthwyo'r Pwyllgor. Roedd cwestiynau a thrafodaeth y pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Ymgorffori'r Strategaeth Digartrefedd o
fewn Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai newydd ar gyfer 2023-2027. · Cynnydd ar flaenoriaethau'r Strategaeth
Digartrefedd/meysydd penodol i’w datblygu, gan gynnwys cynnydd gydag
ailgartrefu cyflym a chefnogaeth amlasiantaeth; gweithio mewn partneriaeth ag
Iechyd ynghylch cefnogaeth iechyd meddwl a mynd i'r afael â chamddefnyddio
sylweddau. · Heriau sy'n gysylltiedig â phandemig
COVID. ·
Natur
a lefelau nifer y bobl sy'n dod yn ddigartref. · Niferoedd y bobl sy'n cysgu allan.
(Ffigurau cymharol y rheini sy'n cysgu allan yn Abertawe a'r Awdurdodau Lleol
eraill yng Nghymru i'w darparu i'r Aelodau). · Heriau sy'n gysylltiedig â llety dros dro,
gan gynnwys defnyddio llety gwely a brecwast. · Cynnydd mewn perthynas â thai â chymorth. · Natur, lefelau a datblygiad parhaus tai ar
gyfer pobl sengl. · Mentrau parhaus er mwyn delio ag achosion
digartrefedd, gan gynnwys pobl sy'n gadael y carchar. ·
Effaith
y gostyngiad yn y cyflenwad o dai fforddiadwy o fewn y sector rhentu preifat. Oherwydd trafferthion technegol, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod
yn dod i ben ac y byddai llythyr yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet dros
Drawsnewid Gwasanaethau yn adlewyrchu’r drafodaeth ac yn rannu barn y Pwyllgor. |
|
Adroddiad am Gyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol Trechu Tlodi. PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 229 KB Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 279 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 198 KB Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd
ar gyfer dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023. |
|