Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd
Matthew Jones – Personol – Cofnod Rhif 15, Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r
Cabinet: Tipio Anghyfreithlon – y Cynghorydd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet
dros Gymunedau (Gwasanaethau). |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd
Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd
cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall
y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i
gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â
nhw o fewn cyfnod o 10 munudDemocratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn
cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol
i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gymunedau (Gwasanaethau) ei adroddiad a gofynnodd i'r Pennaeth
Gwasanaeth ar gyfer Gwastraff, Parciau a Glanhau roi trosolwg o ddyletswyddau a
gweithdrefnau cyfredol y cyngor i ymdrin â thipio anghyfreithlon. Darparodd y
Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwastraff, Parciau a Glanhau, yng nghwmni
Arweinydd y Tîm Gorfodi Gwastraff a’r Arweinydd Grŵp Parciau a Glanhau y
cefndir ynghylch cyfrifoldebau cyfreithiol a manylion ynghylch gweithgareddau a
chamau a gymerwyd. Cyfeiriodd at fonitro, clirio a mesurau ataliol (Addysg,
Ymgysylltu a Gorfodi) a data gorfodi.
Manylodd ar nifer yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd y llynedd a
nododd Aelodau'r Pwyllgor fod 20 o Hysbysiadau Cosb Benodedig eraill wedi'u
cyhoeddi yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd cwestiynau a thrafodaeth y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cysondeb
o ran yr ymagwedd at reoli tipio anghyfreithlon ar draws y ddinas a'r sir dros
y 12 mis diwethaf. ·
Newidiadau
arfaethedig i ddeddfwriaeth/weithdrefn tipio anghyfreithlon bresennol, gan
fabwysiadu ymagwedd 'ysgafnach' er mwyn rheoli
gweithredoedd annoeth, fel dewis arall yn lle erlyniad. ·
Llwyddiant
y gwaith ataliol sydd wedi arwain at lefel isel o erlyniadau o ganlyniad i
dipio anghyfreithlon. ·
Natur
a lefelau erlyniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. ·
Niferoedd
y Swyddogion sydd â phwerau dirprwyedig i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig. ·
Heriau
sy'n gysylltiedig â monitro cwynion sy'n gysylltiedig â baw cŵn/taflu
sbwriel. ·
Mannau
lle ceir problemau o ran tipio anghyfreithlon/gwahaniaethau yn natur y tipio
anghyfreithlon mewn ardaloedd trefol a gwledig. ·
Costau/incwm
sy'n gysylltiedig â rheoli tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff masnachol. ·
P'un
a ellir cysylltu achosion o dipio anghyfreithlon ag agosrwydd safleoedd
amwynderau dinesig presennol, e.e. lle nad yw'r safle lleol yn cymryd
gwastraff/deunyddiau ailgylchu penodol. ·
Llwyddiant
y system cadw slot yn Safle Byrnu Llansamlet. ·
Gweithio
gyda masnachwyr/busnesau ynghylch prosesau casglu gwastraff er mwyn osgoi
problemau tipio anghyfreithlon; Mesurau ataliol a gwaith amlasiantaeth
yng nghanol y ddinas a'r ardaloedd cyfagos. ·
Rolau
a chyfrifoldebau'r Tîm Gweithredol Glanhau Wardiau/Timau Tipio Anghyfreithlon. ·
Defnyddio
asiantaethau eraill ar gyfer cael gwared ar dipio anghyfreithlon mewn modd
arbenigol. ·
Datblygu
TGCh i ddarparu gwybodaeth fonitro ystyrlon i Aelodau
yn dilyn ceisiadau am wasanaeth. ·
Yr
heriau sy'n gysylltiedig â chyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas
â baw cŵn. ·
Costau
gwyliadwriaeth gudd/agored, buddion a materion cysylltiedig. Diolchodd y
Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Gymunedau (Gwasanaethau) a'r Swyddogion am eu mewnbwn. Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y
Cabinet dros Gymunedau (Gwasanaethau) gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn
y Pwyllgor. |
|
Adroddiad Blynyddol - Diogelu Corfforaethol 2021/22. PDF 329 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Gofal, ynghyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol a Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad. Cyfeiriodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Gofal at yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf (Diogelu
Corfforaethol 2021/22) gan dynnu sylw at rôl y Grŵp Diogelu Corfforaethol
sy'n arwain ar ddatblygu polisi diogelu corfforaethol a monitro gweithrediad polisi,
a datblygiadau a chyflawniadau yn erbyn y 7 maes gweithgarwch allweddol.
Cyfeiriodd at: ·
Yr
ymateb i COVID ·
Y
Polisi Diogelu Corfforaethol ·
Adroddiad
archwilio mewnol cadarnhaol ar ddiogelu corfforaethol 2022/23 ac adborth o
adolygiad Estyn ar Wasanaethau Addysg y cyngor ·
Yr
ymarfer/rhaglen waith hunanasesu, ·
Materion
sy'n deillio o'r flwyddyn flaenorol (a oedd yn cynnwys cydymffurfiaeth
hyfforddiant gorfodol, gwasanaeth datgelu a gwahardd, contractio a chaffael,
arweinyddiaeth ddiogelu), a'r ·
Rhaglen
waith ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cynnydd
a monitro o ran cydymffurfiaeth contractwyr a chyflenwyr â Pholisi Diogelu
Corfforaethol Cyngor Abertawe. ·
Yr
heriau sy'n gysylltiedig ag adrodd cydymffurfiaeth hyfforddiant gorfodol gan
staff. Fodd bynnag, nodwyd y byddai cyflwyno Oracle Fusion
yn lleddfu'r materion hyn. ·
Materion mewn perthynas â phrosesu gwiriadau GDG ac
eglurder ynghylch meini prawf gofynnol. ·
Gwelliannau i gynnig eiriolaeth y cyngor i blant sy'n
agored i niwed, oedolion a'u teuluoedd. Nododd y Pwyllgor anawsterau wrth
ddatblygu Gwasanaeth Eiriolaeth i Oedolion a'r cyfleoedd posib a ddarperir drwy
gydgynhyrchu. Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a'r Swyddogion. Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Gofal gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y
Pwyllgor. |
|
Gwaith dilynol: Gweithgor y Gweithlu Craffu. PDF 248 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y
Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethu y diweddaraf am faterion y
gweithlu ers cyfarfod olaf y Gweithgor Craffu – Y Gweithlu ym mis Chwefror
2022. Cyfeiriodd at ddatblygiadau allweddol
gan gynnwys cytundeb diweddar y Cabinet ar gyfer Model Gweithio ar ôl y Pandemig (a 7 egwyddor y cytunwyd arnynt), a Strategaeth y
Gweithlu 2022-27. Darparwyd y sefyllfa ddiweddaraf hefyd o ran lles ac
absenoldeb salwch, gweithwyr asiantaeth, gweithrediadau Adnoddau Dynol a'r
Ganolfan Wasanaethu, nifer y staff/nifer y staff CALl
a Data Iechyd Galwedigaethol. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: ·
Gweithdrefnau
o ran lles a salwch staff, er enghraifft dychwelyd yn raddol i'r gwaith i'r
rheini sy'n dychwelyd yn dilyn cyfnod o salwch hirdymor. ·
Cefnogaeth
iechyd meddwl/rheoli materion ac argaeledd hyfforddiant ·
Manteision
cyflwyno system Oracle Fusion wrth ddarparu
adroddiadau Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol 'byw' o ddydd i ddydd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Ganolfan Wasanaethu am ei hadroddiad
addysgiadol, yn dilyn y Gweithgor Craffu. Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad gan adlewyrchu'r
drafodaeth ac amlinellu safbwyntiau'r Pwyllgor. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 231 KB Cofnodion: Mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig,
adroddwyd am rai newidiadau ar lafar er mwyn cytuno arnynt: · Panel Gwella Gwasanaeth a Chyllid – Ychwanegu'r Cynghorwyr Rebecca
Fogarty, Dai Jenkins, a Matthew Jones. Nododd y Pwyllgor fod Panel Perfformiad y
Gwasanaethau Oedolion wedi cytuno i gyfethol Mr. Tony Beddow. Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r
Gweithgorau, fel yr adroddwyd. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 281 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y mae'r Pwyllgor yn
gyfrifol am ei monitro. Yn unol â chynllun gwaith y Pwyllgor, y prif eitemau sydd wedi'u trefnu ar gyfer
y cyfarfod nesaf ar 13 Rhagfyr yw: -
Digartrefedd (Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau) -
Cyflawni Blaenoriaeth Gorfforaethol – Trechu Tlodi
(Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Les) Nodwyd hefyd fod y Cabinet wedi dod i benderfyniad
ynghylch adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu Caffael ar 20 Hydref, gan
gytuno ar bob un o'r 14 o argymhellion y Panel. Bydd y Panel yn ailymgynnull
ymhen 9-12 mis i wneud gwaith dilynol mewn perthynas â'u hargymhelliad ac er
mwyn asesu effaith yr ymchwiliad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Tynnwyd sylw at Lythyr
Craffu a oedd yn ymwneud â Chraffu Cyn Penderfynu'r Pwyllgor ar system Oracle,
a oedd yn nodi y disgwylir adroddiad pellach yn dilyn rhoi'r system ar waith (ar
ôl Ebrill 2023) i roi eglurder i’r Pwyllgor ar gyfanswm cost y prosiect. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 200 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar
ddod, er gwybodaeth. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Tipio Anghyfreithlon PDF 158 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Diogelu Corfforaethol PDF 165 KB |
|