Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorwyr T J Hennegan, H Lawson ac S Pritchard – Personol – Cofnod Rhif 5 - Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

 

31.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

32.

Cofnodion. pdf eicon PDF 253 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Awst 2022 fel cofnod cywir.

 

33.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munudDemocratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

34.

Craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau (Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd Cyd-bwyllgor BGC Abertawe), Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor BGC Abertawe a'r Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol yn bresennol i Graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC). Ymunwyd â nhw gan swyddogion a oedd yn cydlynu gwaith y BGC, arweinwyr gweithredol sy'n gweithio ar gyflawni Amcanion Lles y BGC, a chynrychiolwyr strategol eraill y BGC.

 

Darparwyd y canlynol i'r Pwyllgor i gefnogi'r sesiwn, ar gyfer cwestiynau:

·         Adroddiad Blynyddol y BGC 2021/22 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n dangos bod amcanion lles y BGC yn cael eu cyflawni

·         gwaith sy'n cael ei wneud i wella fframwaith perfformiad y BGC (yn dilyn mater a godwyd gan y Pwyllgor yn y sesiwn Craffu flaenorol)

·         yr Asesiad o Les Lleol newydd (cyhoeddwyd ym mis Mai 2022), a

·         phapur ar y cynnydd gyda datblygu Cynllun Lles Lleol newydd y mae'n rhaid iddo fod ar waith erbyn Mai 2023.

 

Gofynnwyd cwestiynau gan y Pwyllgor a chafwyd trafodaeth ynglŷn â pherfformiad y BGC a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

1)        Ymdrechion i wella'r ffordd y mae'r BGC yn mesur ei berfformiad er mwyn hwyluso Craffu, a heriau ynghylch hyn;

 

2)        Cyllid ac adnoddau'r BGC;

 

3)        Effaith y pandemig ar y BGC;

 

4)        Cynnwys y cyhoedd yng ngwaith y BGC a datblygu'r Asesiad o Les newydd;

 

5)         Sut y gellid gwella Adroddiad Blynyddol y BGC, e.e., yn ogystal â chanolbwyntio ar gynnydd o ran cyflawni amcanion lles y BGC, dan arweiniad aelodau statudol unigol, enghreifftiau o gydweithio effeithiol ar faterion;

 

6)        Dangosyddion Lles Lleol, gan gynnwys perfformiad mewn perthynas â diogelwch cymunedol ac ansawdd aer; a

 

7)        Cynnwys Pwyllgor y Rhaglen Graffu wrth graffu ar Gynllun Lles drafft y BGC.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl Aelodau, Swyddogion ac Aelodau'r Bwrdd.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.   

35.

Craffu Cyn Penderfynu: Diweddariad ar Fuddsoddiad Prosiect Oracle. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau gyda chymorth y Pennaeth Digidol a Gwasanaethau i Gwsmeriaid, yn bresennol i graffu cyn penderfynu ar adroddiad y Cabinet ar y Diweddaraf am Fuddsoddiad Prosiect Oracle. Cyflwynir yr adroddiad i'r Cabinet ar 20 Hydref i wneud penderfyniad.

 

Roedd Cyd-adroddiad Aelod y Cabinet dros yr Economi, Strategaeth a Chyllid ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau yn darparu’r diweddaraf am brosiect Oracle Fusion ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet am fuddsoddiad ychwanegol yn y prosiect i dalu costau anochel sy'n gysylltiedig â'r pandemig ac adfer ohono. Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo'r cynllun a'r llinell amser diwygiedig ar gyfer rhoi’r prosiect Oracle ar waith (cwblhau erbyn 1 Ebrill 2023) ynghyd â buddsoddiad pellach (£2.8m) fel yr amlinellir.

 

Roedd cwestiynau'r pwyllgor yn canolbwyntio ar resymau dros oedi'r prosiect, pryderon ynghylch y goblygiadau ariannol, archwilio'r meysydd penodol o wariant a restrir yn Nhabl 1 (paragraff 4.1 adroddiad y Cabinet), a'r rhesymau dros y gweithgareddau ychwanegol a nodir. Gofynnwyd am eglurhad o ran cyfanswm costau'r prosiect, y risg o gynyddu costau ymhellach o ystyried amrywiadau a adroddwyd a all fod allan o reolaeth y cyngor, (e.e., amseru cyflwyno dyfarniad cyflog athrawon a llywodraeth leol).

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion.

 

Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor cyn cyfarfod y Cabinet ar 20 Hydref 2022.

 

36.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig, adroddwyd am rai newidiadau ar lafar i'w cytuno:

 

·         Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion – Ychwanegu'r Cyng. Cheryl Philpott

·         Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – Ychwanegu'r Cyng. Cheryl Philpott

·         Gweithgor Diogelwch Ffyrdd – Ychwanegu'r Cyng. Sara Keeton

 

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r Gweithgorau, fel yr adroddwyd.

 

37.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 290 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Yn unol â chynllun gwaith y Pwyllgor, y cynllun ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd yw:

 

-       Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Tipio'n Anghyfreithlon

-       Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol

-       Camau Dilynol: Gweithgor y Gweithlu Craffu

 

38.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

39.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar ddod, er gwybodaeth.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu pdf eicon PDF 110 KB

Llythyr at Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 142 KB