Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022 a 24 Mai
2022 fel cofnodion cywir. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at Gofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth,
2022. Mewn perthynas â'r Adroddiad
Cwynion Blynyddol, roedd un ymholiad a godwyd yr ymatebodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol iddo: A yw'r cyngor yn gweld cynnydd yng
nghyfran y cwynion sy'n cael eu gwneud drwy gwmnïau cyfreithiol, gan weithredu
ar ran preswylwyr, o ystyried y llu o gwmnïau sy'n hysbysebu 'dim llwyddiant,
dim ffi'. Dywedodd fod Sarah Lackenby wedi ymateb drwy ddweud nad oes cynnydd
wedi bod yn nifer y cwynion a wnaed gan gwmnïau cyfreithiol ac mae'r niferoedd
yn parhau i fod yn isel iawn. I roi cyd-destun pellach, pe bai achwynydd yn
datgan yn glir yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yna
byddai'r gŵyn yn cael ei gohirio i bob pwrpas nes yr ymdriniwyd â'r camau
cyfreithiol. Unwaith y bydd yr achos cyfreithiol wedi dod i ben, gall yr
achwynydd ailgyflwyno'r gŵyn o fewn chwe mis. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n
ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd
fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd
cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. PDF 362 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Tîm Craffu yr adroddiad ar 'Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu’. Roedd
yr adroddiad hefyd yn gwahodd y Pwyllgor i adnewyddu penodiad aelodau
cyfetholedig y Pwyllgorau. Dywedodd mai'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am reoli'r holl weithgarwch craffu,
drwy un cynllun gwaith. Mae gwaith naill ai'n cael ei wneud gan y Pwyllgor neu caiff ei ddirprwyo
yn rhywle arall. Felly, bydd gan y Pwyllgor ei hun gynllun gwaith, ond bydd yn
sefydlu Paneli a Gweithgorau i archwilio pynciau neu faterion penodol i alluogi
ymgysylltu â'r holl gynghorwyr anweithredol yn y broses graffu, waeth beth fo
aelodaeth pwyllgor, a chyfranogiad mewn pynciau sy'n cyd-fynd â'u meysydd
diddordeb. Roedd aelodaeth Paneli/Gweithgorau, yn ogystal â phenodi Cynghorydd
arweiniol (a elwir yn Gynullydd) yn fater i'r Pwyllgor benderfynu arno. Esboniwyd rôl Cynullydd yn yr adroddiad
hefyd. Byddai'r Pwyllgor yn monitro gweithgareddau a chanlyniadau y cytunwyd
arnynt er mwyn sicrhau bod y rhaglen waith yn cael ei chyflwyno'n effeithiol,
ac yn unol â dymuniadau'r Pwyllgor. Cynhwyswyd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn y papurau er gwybodaeth. O ran Aelodaeth, nododd y Pwyllgor fod lle i hyd at 4 Aelod Cyfetholedig
Statudol Addysg, 2 gynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr a 2 gynrychiolydd ffydd.
Beth Allender yw'r cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr cynradd newydd, a Dr
Elizabeth Lee yw'r cynrychiolydd rhiant-lywodraethwyr uwchradd newydd, a
chroesawyd y ddau gan y Pwyllgor. Roedd seddi ar gyfer y 2 gynrychiolydd ffydd
yn wag ar hyn o bryd. Mae gan yr aelodau cyfetholedig hyn hawliau pleidleisio
mewn perthynas ag unrhyw faterion addysg a drafodir gan y Pwyllgor, a bydd hawl
ganddynt hefyd i eistedd ar unrhyw Baneli/Weithgorau sy'n gysylltiedig ag
Addysg. Dywedodd fod y Pwyllgor o'r blaen hefyd wedi'i chael hi'n fuddiol cyfethol
(a hynny heb bleidlais) y cynghorwyr hynny a benodwyd yn gynullyddion y Panel
Perfformiad nad ydynt eisoes ar y Pwyllgor. Fel y Pwyllgor sy'n gyfrifol am
Graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus aml-asiantaeth, mae hefyd wedi cynnwys
cynrychiolwyr o asiantaethau partner wrth gynorthwyo gyda'r gwaith craffu
hwnnw. I gloi, tynnodd sylw at bwysigrwydd gwaith tîm i lwyddiant y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn manylu ar rai
ystyriaethau ymarferol a allai helpu i gyflawni hyn, a rhai enghreifftiau
ynghylch gweithio'n effeithiol. Mewn cyfarfodydd, argymhellodd y dylai Aelodau,
boed yn aelodau hir eu gwasanaeth neu newydd, fyfyrio ar y ffordd y maent yn
gweithio gyda'i gilydd fel grŵp, cynllunio gwaith, a chynllunio ar gyfer
cyfarfodydd; a gwerthuso pa mor dda y maent wedi'i wneud ac ystyried a oes lle
i wella er mwyn bod yn fwy effeithiol yn y ffordd y mae'n gweithio fel
Pwyllgor. Penderfynwyd: - 1)
Adnewyddu
cyfetholiad cynullyddion y Paneli Perfformiad Craffu i'r Pwyllgor. 2)
Adnewyddu
cyfetholiad sefydliadau partner i alluogi cynrychiolwyr i gymryd rhan yng
ngwaith y Pwyllgor i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2022/23. PDF 390 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd, yn dilyn ymgynghoriad ag Aelodau, fod yr adroddiad yn
cynnwys y rhaglen ddrafft sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'r rhaglen waith ddrafft yn ystyried rhaglen y llynedd, gwaith yr ymrwymwyd
iddo eisoes ac adborth o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith diweddar a oedd yn
cynnwys mewnbwn ar flaenoriaethau, heriau strategol, a materion cyhoeddus y
cyngor. Tynnodd sylw at yr ystyriaethau allweddol y gallai'r Pwyllgor feddwl
amdanynt cyn cytuno ar y rhaglen, ac aeth â'r Aelodau drwy'r manylion. Yn gyntaf, cyflwynodd gynllun gwaith drafft y Pwyllgor ei hun a oedd yn
cynnwys materion penodol sy'n peri pryder y mae angen eu trafod yn fanwl yng
nghyfarfodydd y Pwyllgor. Soniodd y byddai'r Pwyllgor hefyd yn cydlynu unrhyw
weithgaredd craffu cyn penderfynu. Cafwyd rhywfaint o drafod ynghylch
gweithgarwch y Pwyllgor o ran craffu ar Drosedd ac Anhrefn/Partneriaeth
Abertawe Mwy Diogel (PAMD). Nodwyd awydd y Pwyllgor i wneud mwy nag un sesiwn
Bwyllgor ar waith a pherfformiad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy
Diogel. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r ymchwiliad i Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol yn cyffwrdd ar waith PAMD, a bod y Bartneriaeth hefyd yn
adrodd wrth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), ac felly mae'n berthnasol ar
gyfer unrhyw Sesiwn Graffu BGC; er enghraifft mae amcan lles BGC Cymunedau Cryf
yn cwmpasu gwaith/cyfraniad PAMD at gyflawni'r amcan hwn, ac ymdrinnir ag ef yn
Adroddiad Blynyddol y BGC, a byddai hyn yn cael ei drafod yng nghyfarfod y
Pwyllgor ym mis Hydref. Pwysleisiodd y dylai fod gan unrhyw sesiwn ychwanegol
ar gyfer y Pwyllgor bwrpas/ffocws clir a phenodol, er enghraifft, unrhyw agwedd
y mae'r Pwyllgor am ei dadansoddi'n fanylach. Wrth edrych yn ôl ar sesiwn
Chwefror 2022 (mae'r llythyr wedi'i gynnwys yn agenda'r Pwyllgor), tynnodd sylw
at y ffaith bod aelodau'r Pwyllgor yn awyddus i ymwneud â datblygu Strategaeth
PAMD newydd a chael gwybod y cynnydd mewn perthynas â gwelliannau yn dilyn
terfysg Mayhill. Roedd y Cadeirydd hefyd wedi
atgoffa'r Pwyllgor fod craffu'n ymwneud â'r bartneriaeth, a bod trefniadau
eraill er mwyn dwyn yr Heddlu i gyfrif yn benodol. Cyfeiriodd at y cynnig i sefydlu Panel Ymchwiliad i edrych ar Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol. Er bod rhai syniadau am y gwaith y gallai'r Panel ei
archwilio, byddai'r Panel ei hun yn datblygu cylch gorchwyl ac yn nodi'r
cwestiwn allweddol ar gyfer yr Ymchwiliad yn dilyn sesiwn friffio gychwynnol ar
y pwnc. Dywedodd mai Paneli Perfformiad sy'n ffurfio'r
rhan fwyaf o weithgarwch craffu, gan fod y rhain yn cynrychioli gwaith parhaus
i fonitro a herio gwasanaethau allweddol, gan ddwyn aelodau'r cabinet i gyfrif,
gyda sgwrs barhaus i rannu eu barn a'u hargymhellion. Cynigiwyd bod y Paneli
Perfformiad a sefydlwyd yn flaenorol yn parhau ond y dylid ailenwi Panel yr
Amgylchedd Naturiol yn 'Newid Hinsawdd a Natur', gan adlewyrchu newid diweddar
mewn blaenoriaethau corfforaethol. Er mwyn darparu parhad ar gyfer y flwyddyn gyntaf hon o dymor newydd y
cyngor, cynigiwyd bod y Cynghorwyr a weithredai fel cynullyddion gynt, sy'n
dymuno parhau, yn cael eu hailbenodi yn y rôl honno, sef: ·
Y Cynghorydd Chris Holley yn gynullydd Gwella
Gwasanaethau a Chyllid ·
Y Cynghorydd Lyndon Jones yn gynullydd Addysg ·
Y Cynghorydd Sue Jones yn gynullydd y Gwasanaethau
Oedolion; a'r ·
Cynghorydd Paxton Hood-Williams yn gynullydd y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd O ran y Paneli Datblygu ac Adfywio a Newid Hinsawdd a Natur, gwahoddwyd
mynegiannau o ddiddordeb, gan Gynghorwyr sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn
o'r blaen yn y lle cyntaf. Yn seiliedig ar adborth, gofynnwyd i'r Pwyllgor
gytuno ar y canlynol: ·Y Cynghorydd Chris Holley yn
gynullydd Datblygu ac Adfywio; a'r · Cynghorydd Hannah Lawson yn gynullydd Newid Hinsawdd a
Natur Dywedodd fod nifer bach o bynciau'r Gweithgor wedi'i nodi ar gyfer ymagwedd
ysgafnach, a chanddynt ffocws ar Ddiogelwch Ffyrdd,
Cyd-gynhyrchu, Abertawe fel Dinas Iach, a Chyswllt Cwsmeriaid. Nododd yr aelodau hefyd y trefniadau ar gyfer craffu
rhanbarthol, fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.7 o'r adroddiad. Dywedodd unwaith eto y bydd y rhaglen waith yn
destun ceisiadau am graffu drwy gydol y flwyddyn. Ar ben hynny, byddai'r
Pwyllgor yn adolygu'r rhaglen waith yn gyson, a bydd newidiadau'n cael eu
gwneud yn ôl yr angen. Byddai'r Pwyllgor bob amser yn cadw'r hyblygrwydd i
addasu ac ailflaenoriaethu gwaith craffu i sicrhau
perthnasedd parhaus y rhaglen. Cyfeiriodd at
gyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 16 Awst. Dywedodd y bydd Aelod y Cabinet dros
Gydraddoldeb a Diwylliant, y Cynghorydd Elliott King, yn mynd iddo i adrodd am,
a chymryd cwestiynau ar, ei gyfrifoldebau'n ymwneud â'r Gwasanaeth Archifau a
datblygiadau o amgylch yr Hwb Cymunedol newydd, a fydd yn gartref i'r Gwasanaeth.
Bydd angen i'r Pwyllgor ystyried cwestiynau ar gyfer y sesiwn honno. Penderfynwyd: 1)
Cytuno ar y Rhaglen Waith
Craffu ar gyfer 2022/23 sy'n cynnwys blaenoriaethau pynciau Ymchwiliad, pynciau
Paneli Perfformiad a Gweithgor (a ddangosir yn atodiad 3) 2)
Cytuno ar benodi Cynullyddion y
Panel Perfformiad (a ddangosir yn 4.5). 3)
Cytuno ar gynllun gwaith
arfaethedig y Pwyllgor (a ddangosir yn atodiad 4). |
|
a) Gweithgor y Gweithlu – Llythyr at/gan Aelod y Cabinet. b) Gweithgor y Gwasanaethau Bysus – Llythyr at/gan Aelod y Cabinet. c) Llythyr Pwyllgor at Gyd-gadeiryddion Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y llythyrau canlynol: 1)
Gweithgor
y Gweithlu – Llythyr at/oddi wrth yr Aelod Cabinet. 2)
Gweithgor
Gwasanaethau Bysus – Llythyr at/oddi wrth yr Aelod Cabinet. 3)
Llythyr
y Pwyllgor at Gyd-gadeiryddion Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy
Diogel. |