Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

5.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 242 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion Pwyllgorau'r Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2020 ac 1 Hydref 2020 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

7.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn y cyfarfod a rhaid iddynt ymwneud â’r eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau cyhoeddus.

8.

Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. pdf eicon PDF 416 KB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Mark Child a June Burtonshaw i Bwyllgor y Rhaglen Graffu. Croesawodd hefyd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor, y Cynghorydd Susan Jones fel Cynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion ac aelod cyfetholedig Pwyllgor y Rhaglen Graffu.  

 

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu yr adroddiad ar 'Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu'

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

1)          Cytuno ar gyfethol cynullwyr y Panel Perfformiad Craffu i'r Pwyllgor; a

2)          Chytuno i gyfethol sefydliadau partner i alluogi cynrychiolwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

9.

Diweddariad ar Gynllunio Ymateb ac Adfer COVID-19 pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn bresennol er mwyn i'r Pwyllgor ystyried ymateb y cyngor i bandemig COVID-19 a chynllunio adferiad.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at rai diweddariadau a oedd yn cynnwys: -

 

·            Effaith yr ail don

·            Cefnogi busnesau drwy'r cyfnod atal byr

·            Datblygiadau o frechlynnau a pharatoi ar gyfer cyflwyno brechiad torfol

·            Rheoli mewnfudo o Denmarc yn dilyn mwtaniad COVID-19 mewn mincod

·            Effaith ac adnoddau ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu

·            Materion ychwanegol ar wahân i COVID-19 yn herio'r cyngor, gan gynnwys y tywydd a llifogydd

·            Monitro lles staff

·            Monitro'r angen am yr ysbyty maes

·            Cymorth i Ganol y Ddinas

·            Cynnydd prosiect adfywio Cam 1 Abertawe Ganolog

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau gyda'r Arweinydd a'r Swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Cynnydd gwybodaeth/sgwrs ar frechiadau a meysydd blaenoriaeth

·            Yr effaith ar staff pe bai angen yr ysbyty maes

·            Graddfa'r bobl sy'n cyrraedd o Denmarc – cysylltwyd ag achosion hysbys ac fe’u cynghorwyd i hunanynysu

·            Sefyllfa manwerthwyr mawr yn Abertawe

·            Y tri cham (ailddechrau, newid ffocws ac ail-lunio) ac amserlenni'r Cynllun Adfer

·            Eglurhad o'r cam ail-lunio – Adolygiad o'r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Cyfalaf a'r Gweithlu

·            Strategaeth Trawsnewid 2022 – 2026 – Cynnwys deddfwriaeth bellach e.e. Deddf yr Amgylchedd yn ogystal â Brexit – manylion pellach i'w cynnwys yn y Cynllun Gweithredu

·            Effeithiau posib Brexit

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd a'r Swyddogion.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

10.

Rhaglen Waith Craffu 2020/22. pdf eicon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Craffu adroddiad ar Raglen Waith Craffu 2020/22 i'w ystyried a thynnodd sylw at y canlynol: -

 

·            Papurau o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020, a amlinellir yn Atodiad 1 o'r adroddiad;

·            Crynodeb o'r pynciau a awgrymwyd yn Atodiad 2 o'r adroddiad; a

·            Amlinellir Rhaglen Graffu drafft 2020/22 yn Atodiad 3 o'r adroddiad. 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth ar y Rhaglen Waith ddrafft a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·            Pynciau sy'n cyd-fynd â'r Blaenoriaethau Corfforaethol gan ganolbwyntio ar feysydd sy'n peri pryder.

·            Symud oddi wrth Sesiynau Holi ac Ateb arferol gydag Aelodau'r Cabinet i ganiatáu amser ar gyfer materion amserol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor

·            Ailddechrau'r Panel Ymchwiliad Caffael

·            Caiff gwaith craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei wneud gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu yn hytrach na phanel perfformiad ar wahân

·            Newid amlder Paneli Perfformiad Oedolion, Plant a Theuluoedd a'r Amgylchedd Naturiol

·            Cynigwyd gweithgorau ar gyfer y Gweithlu, Cynhwysiant Digidol, Gwasanaethau Bysus a Dinas Iach

·            Hyblygrwydd i edrych ar faterion sy'n codi drwy gydol y flwyddyn

 

Darparwyd cynlluniau gwaith y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgorau Datblygu Polisi er mwyn helpu i nodi ac osgoi dyblygu gwaith.

 

Tynnwyd sylw hefyd at effaith COVID-19 fel ystyriaeth ar adnoddau a gweithgarwch craffu, a gallai effeithio ar gyflawni'r rhaglen waith.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1) Cytuno ar y Rhaglen Waith Graffu ddrafft ar gyfer 2020/22.

2) Cytuno ar gynllun gwaith arfaethedig y Pwyllgor

11.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Aelodaeth o Baneli Craffu a Gweithgorau'.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)          Ychwanegu'r Cynghorydd Peter Black at y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid;

2)          Ychwanegu'r Cynghorydd Mike Day at Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

3)          Caiff y Cynghorydd Peter Jones ei dynnu oddi ar Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

4)          Caiff y Cynghorwyr Peter Black a Peter Jones eu tynnu oddi ar Banel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion;

5)          Caiff y Cynghorydd Louise Gibbard ei thynnu oddi ar unrhyw Baneli a Gweithgorau; a

6)          Nodi Cynullwyr y Panel Perfformiad fel a ganlyn:

 

 

Panel Perfformiad

 

Cynullydd

Gwasanaethau i Oedolion

Y Cynghorydd Susan Jones

(newydd ei phenodi)

Addysg

Y Cynghorydd Lyndon Jones

(wedi'i ail-benodi)

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Y Cynghorydd Paxton Hood-Williams (wedi'i ail-benodi)

Datblygiad ac Adfywio

Y Cynghorydd Jeff Jones

(wedi'i ail-benodi)

Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Y Cynghorydd Chris Holley

(wedi'i ail-benodi)

Amgylchedd Naturiol

(trefnwyd cyfarfod ar gyfer 14 Rhagfyr)

i'w gadarnhau (y Cynghorydd Peter Jones ar hyn o bryd)

 

12.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

13.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd y Panel/Gweithgor sydd ar y gweill.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 15 Rhagfyr yn canolbwyntio ar:

 

·            Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

·            Craffu cyn penderfynu ar adroddiad a chaiff ei gyflwyno i'r Cabinet ar 17 Rhagfyr ynghylch y Prydlesu Arfaethedig i Gyngor Cymunedol y Mwmbwls dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol, sy'n ymwneud â datblygiad arfaethedig Parc Sglefrio newydd gan y Cyngor Cymuned.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 253 KB