Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen
Graffu a gynhaliwyd ar 25 Awst 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adolygiad Blynyddol o Rhaglen Waith Craffu ar Gyfer 2019/20. PDF 331 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Tîm Craffu adroddiad ar 'Adolygiad Blynyddol Rhaglen Waith Craffu
2019/20'. Fel arfer da,
anogodd y Pwyllgor i edrych yn ôl ar waith y flwyddyn ac ystyried ei
effeithiolrwydd. Diben yr adroddiad oedd hwyluso'r drafodaeth am waith a wnaed,
myfyrio a rhannu syniadau o ran gwella arfer a'r rhaglen waith. Tynnodd yr
adroddiad sylw at yr effaith a gafodd adnoddau a COVID-19 ar gyflawni'r rhaglen
waith eleni. Tynnodd Arweinydd
y Tîm Craffu sylw at y meysydd canlynol: 1)
Crynodeb
o'r Gwaith a Gwblhawyd ·
Y
gwaith a wnaed gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu, drwy'r Panel Ymchwiliad, Paneli
Perfformiad a Gweithgorau, yn erbyn rhaglen waith craffu gytunedig 2019/20 ·
Cynnwys
y cyhoedd a sylw yn y cyfryngau 2)
Y
Profiad Craffu ·
Ystadegau
perthnasol ynghylch gweithgarwch craffu ·
Papur
arfer da Swyddfa Archwilio Cymru ar 'Chwe Cham tuag at Graffu Gwell yng
Nghymru' ·
Cynnydd
yn erbyn amcanion gwella craffu'r pwyllgor, gan gynnwys camau gweithredu mewn
ymateb i Adolygiad Craffu Swyddfa Archwilio Cymru yn 2018 3)
Datblygu
Rhaglen Waith y Dyfodol ·
Gweithgareddau
i'w cario drosodd ·
Pynciau
sy'n weddill i'w hystyried ·
Cais
gan aelodau am graffu cyn penderfynu ar adroddiad Cabinet sydd ar ddod ar
droi'r Ganolfan Ddinesig yn Ganolfan Sector Cyhoeddus newydd ·
Cynnig
i gynnal Cynhadledd Cynllunio Gwaith ar 13 Hydref 2020 yn lle Pwyllgor y
Rhaglen Graffu a drefnwyd ·
Datblygu
rhaglen waith ar gyfer y 18 mis nesaf Roedd y prif
bwyntiau a gododd o drafodaeth ar faterion gwaith a gwella a datblygu yn y
dyfodol yn cynnwys y canlynol: · Mae'n bwysig adolygu ffocws
Paneli Perfformiad/cynlluniau gwaith. Cydnabuwyd y bydd Swyddogion Craffu yn
trafod gyda chynullwyr y Panel wrth i gynlluniau
gwaith newydd y Panel gael eu llunio i sicrhau eu bod yn effeithiol, yn
cynrychioli'r defnydd gorau o amser ac adnoddau, ac yn ystyrlon, fel y gall
Paneli gael effaith/gwneud gwahaniaeth. · Dylid rhoi gwybod i'r pwyllgor
am gynlluniau gwaith y Panel Perfformiad er mwyn gwella goruchwyliaeth y
pwyllgor o bynciau sy'n cael eu harchwilio, gwirio'r sylw ar draws portffolios
y Cabinet, a helpu i osgoi dyblygu ymdrech rhwng y pwyllgor a'r Paneli a rhwng
Paneli etc. · Bu'r aelodau'n myfyrio ar
asesiadau allanol cadarnhaol o drefniadau ac arferion craffu Abertawe ac yn eu
cydnabod. · Yr angen am hyblygrwydd yn y
rhaglen waith i ganolbwyntio ar y materion pwysicaf e.e. COVID, Brexit. · Pwysigrwydd cymorth ymchwil i
graffu. · Er bod gwaith dilynol
strwythuredig da ar gyfer Ymchwiliadau, dylai fod mwy o amser i fynd ar drywydd
argymhellion eraill, yn enwedig gan Weithgorau. · Y potensial ar gyfer mwy o
adroddiadau i'r Cabinet, yn hytrach na llythyrau, yn dilyn Gweithgorau - a fydd
yn arwain at argymhellion mwy ffurfiol sy'n gofyn am ymateb ffurfiol. · Dymuniad i drafod y
Strategaeth Digartrefedd, flwyddyn yn ddiweddarach ar ôl ei chymeradwyo gan y
Cabinet, mewn cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol. · Roedd y Pwyllgor yn fodlon â'r
cynnydd a wnaed yn erbyn amcanion gwella craffu – gan nodi nifer bach a gamau
gweithredu a oedd heb eu cwblhau – a bydd y Pwyllgor yn ystyried amcanion
gwella eraill ar gyfer y dyfodol a/neu gamau gweithredu newydd a fydd yn helpu
i gyflawni amcanion a nodwyd eisoes Diolchodd y
Cadeirydd a'r Pwyllgor i'r Tîm Craffu am eu cefnogaeth a'u gwaith, ar ran
cynghorwyr craffu, gan ymdopi â phrinder staff dros y flwyddyn ddiwethaf,
cefnogi'r cyngor drwy gydol y pandemig, ac am
ail-ddechrau ar weithgarwch craffu. Penderfynwyd y dylid cynnal Cynhadledd Cynllunio
Gwaith o bell, ar gyfer pob cynghorydd craffu, ar 13 Hydref 2020 yn lle
Pwyllgor y Rhaglen Graffu. |
|
Cynllun Gwaith Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar Gyfer y Dyfodol. PDF 459 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr adroddiad ar 'Gynllun Gwaith Pwyllgor y Rhaglen Craffu ar gyfer y
Dyfodol' a thynnwyd sylw at dri chynnig allweddol, yn cynnwys rhywfaint o
addasiad i Gynllun Gwaith y Pwyllgor, a'r ffordd o weithio, er mwyn creu lle yn
y rhaglen waith gyffredinol ar gyfer gweithgarwch craffu: ·
Ystyried
symud oddi wrth sesiynau holi ac ateb misol arferol Aelodau'r Cabinet er mwyn creu
lle i fynd i'r afael â materion penodol sy'n peri pryder; ·
Craffu
ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy Gyfarfodydd Pwyllgor yn hytrach na thrwy
Banel Perfformiad annibynnol. ·
Newid
amlder y Gwasanaethau i Oedolion (o fisoedd) a Phaneli Perfformiad y
Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd (o bob deufis) – gan symud i gylch 6 wythnos,
gan gynrychioli newid niwtral o ran
cymorth swyddogion yn gyffredinol. Cynigiwyd hefyd y
dylid cynyddu amlder Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol i bob deufis. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Bod
Pwyllgor y Rhaglen Craffu yn symud oddi wrth sesiynau Holi ac Ateb misol
arferol Aelodau'r Cabinet i ddull wedi'i dargedu'n well, gan ganolbwyntio ar
faterion sy'n peri pryder; 2)
Bod
Pwyllgor y Rhaglen Craffu yn craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn
hytrach na thrwy Banel Perfformiad annibynnol - cynrychiolwyr partner a
gyfetholwyd ar y Panel i gael eu cyfethol i'r Pwyllgor ar gyfer sesiynau craffu
penodol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 3)
Dylid
diwygio amlder Paneli Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i
Deuluoedd fel bod gan y ddau banel gylch 6 wythnos; a 4) Dylid cynyddu amlder Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol mewn egwyddor, o bob chwarter i bob deufis, yn amodol ar gytundeb y rhaglen waith craffu gyffredinol. |