Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

144.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif 149 - Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

145.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

146.

Cofnodion. pdf eicon PDF 234 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir.

147.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

148.

Diweddariad am yr Ymateb i COVID-19 a'i Adferiad. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid yn bresennol i'r Pwyllgor ystyried ymateb y cyngor i bandemig COVID-19 a chynllunio ar gyfer adferiad. 

 

Arweiniodd y Prif Weithredwr y gwaith o gyflwyno gwybodaeth i'r pwyllgor, a oedd yn canolbwyntio ar yr adferiad ac yn cynnwys: -

 

·            Economi'r ddinas

o     Ymagwedd ranbarthol drwy'r cytundeb twf

o     Rhaglen Adfywio yn parhau

o     Effeithiau ar sectorau

·            Cefnogi busnes

·            3 cham y cynllun adfer: Ailddechrau, Ail-lunio, Adfywio

·            Llinell amser – Rhagwelwyd y byddai'r Cabinet yn cymeradwyo'r cynllun adfer ar ddiwedd Medi/dechrau mis Hydref

·            Ffrydiau gwaith

o     Gwasanaethau Gofal

o     Addysg a Dysgu

o     Gweithlu'r Dyfodol

o     Cydraddoldebau

o     Cefnogaeth y gymuned

o     Yr Economi a'r Amgylchedd

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Arweinydd a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (TTP)

·            Staff a gyflogir yn y gwasanaeth TTP - 4 Arweinydd Clinigol cyfwerth ag Amser Llawn (FTE), 12 olrheiniwr cyfwerth ag amser llawn, 32 ymgynghorydd cyfwerth ag amser llawn, 5 Swyddog Iechyd yr Amgylchedd cyfwerth ag amser llawn sy'n cynnwys cymysgedd o secondeion a staff y GIG

·            Mesur llwyddiant – roedd y ffigurau cyfredol yn fras. Olrheiniwyd 90% o fewn 24 awr (yn uwch na'r targed cenedlaethol), ond roedd nifer yr achosion yn isel. 

·            Profion a nifer y bobl sy'n cael eu profi – roedd tua 2-3% o'r profion yn gadarnhaol

·            Gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill

·            Ymwybyddiaeth y cyhoedd o Brofi, Olrhain a Diogelu a chydymffurfiaeth

·            Monitro pobl yr oedd angen iddynt hunanynysu

·            Profi mewn cartrefi gofal

             

Cynllunio adferiad

·            Ailddechrau gwasanaethau cyn belled ag y bo modd

·            Gwneud y mwyaf o fuddsoddiad cyhoeddus i gefnogi cynllunio adferiad

·            Denu buddsoddiad trydydd parti

·            Adeiladu ymhellach ar y cydweithio rhagorol a gafwyd gyda phartneriaid ac asiantaethau eraill drwy gydol y pandemig

·            Rhagolygon COVID-19 a allai effeithio ar gynllunio adferiad

 

Cymorth bwyd brys

·            Anghenion a chymorth parhaus i geiswyr lloches a ffoaduriaid

 

Busnes ac economi

·            Ad-dalu am arian sy'n cael ei wario ac incwm coll

·            Cynlluniau i helpu busnesau - grantiau busnes, ffïoedd wedi'u hepgor ar gyfer defnyddio ardaloedd y tu allan, trwyddedau carlam ar gyfer defnyddio ardaloedd y tu allan, cyngor ar gyfer ailagor yn ddiogel

·            Y sefyllfa bresennol gyda nifer yr ymwelwyr/adferiad manwerthu

·            Cyflogi staff lleol a chwmnïau lleol yn natblygiad canol y ddinas, yn enwedig yr arena newydd

·            Manteision cymunedol datblygiadau canol y ddinas

·            Effaith gweithio gartref ar ganol y ddinas a'r galw am swyddfeydd

·            Galw am lety myfyrwyr yn nghanol y ddinas a'r nifer sy'n manteisio arno

·            Posibilrwydd o ymgorffori mannau gweithio ystwyth i staff mewn Canolfannau Cymunedol

·            Y posibilrwydd o gau Swyddfeydd Tai Rhanbarthol – darpariaeth amgen o wasanaethau

 

Cyllid

·            Effaith colli incwm – disgwylir ad-daliad gan Lywodraeth Cymru a chymorth ariannol i gynorthwyo adferiad

·            Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant

 

Yr amgylchedd

·            Cyflwyno'r Rhaglen Seilwaith Gwyrdd i ardaloedd eraill yn Abertawe

 

Penderfynwyd y dylai cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

149.

Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg - Trosolwg o'r Ymateb Rhanbarthol i COVID-19 sy'n canolbwyntio ar Gartrefi Gofal. pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd Cymunedol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol ar gyfer cyflwyniad 'Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg - Trosolwg o'r Ymateb Rhanbarthol i COVID gan ganolbwyntio ar Gartrefi Gofal'.

 

Edrychodd yr adroddiad ar yr ymateb rhanbarthol i COVID mewn cartrefi gofal yn seiliedig ar gyngor ac arweiniad sydd ar gael ar yr adegau perthnasol. Comisiynwyd yr adolygiad gan y Bartneriaeth Rhanbarthol. Mae'n ystyried gweithredu cyngor y llywodraeth a gwneud penderfyniadau partneriaeth, rheolaeth COVID mewn cartrefi gofal a diogelu, yn ogystal â heriau o fewn y bartneriaeth.

 

Tynnodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad gan gynnwys y pethau cadarnhaol a heriau'r Bartneriaeth. Nodwyd bod y cydweithio a'r gwaith partneriaeth yn gryfder penodol. Un her benodol oedd y gorddibyniaeth ar symptomoleg, ond erbyn hyn mae'n hysbys bod trosglwyddo asymptomatig yn broblem mewn lleoliadau caeëdig. Roedd rhagor o waith i'w wneud i gynllunio ar gyfer unrhyw gynnydd mewn achosion posib yn y dyfodol o ran COVID-19, ond hefyd roedd nifer o wersi wedi'u dysgu o'r profiad hyd yma.

 

Cwestiynau'n canolbwyntio ar: -

 

·            Ffigurau'r rheini a oedd â COVID-19 – mae niferoedd amrywiol a newidiadau mewn ffyrdd o gofnodi ac amrywiadau eraill yn darparu gwahanol ffigurau.

·            Pryder ynghylch rhyddhau'r rheini â COVID-19 o'r ysbyty a'r gwersi a ddysgwyd

·            Amlder profi staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal a lefelau achosion

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i holl staff mewnol ac allanol cartrefi gofal am eu gwaith caled.

 

Diolchwyd i Jack Straw, Cadeirydd Annibynnol y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Eithriadol, am ei waith ar yr adroddiad yn ogystal â'r Aelod Cabinet a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

150.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 275 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 593 KB