Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

138.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

139.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

140.

Cofnodion. pdf eicon PDF 234 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2020 fel cofnod cywir.

141.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

142.

Diweddariad am yr Ymateb i COVID-19 a'i Adferiad. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd / Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Lleoedd yn bresennol wrth i’r i’r Pwyllgor ystyried y diweddariad ar ymateb y cyngor i’r pandemig COVID-19 a chynllunio adferiad yn ei sgîl. 

 

Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad a oedd yn cynnwys: -

 

·           Sefyllfa Bresennol COVID-19

·           Penderfyniadau Allweddol

·           Datblygu’r Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu

·           Amserlen/Amlinelliad Cynllunio Adferiad

·           Heriau Presennol

 

Cafwyd cwestiynau a thrafodaethau â’r Arweinydd a'r Swyddogion ynghylch ystod o faterion, gan gynnwys y canlynol:

 

·                Sefyllfa bresennol COVID-19 a gwybodaeth am achosion o COVID -19 yn yr ardal

·                Y cyngor sydd ar gael i Ganolfannau Cymunedol a busnesau i helpu gydag ailagor

·                Gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill ar Raglen Profi, Olrhain a Diogelu

·                Tanwariant o £18 miliwn ar alldro disgwyliedig y gyllideb

·                Y costau mewn perthynas â COVID-19 a’r posibilrwydd o adennill costau

·                Abertawe yn gyngor sy’n berchen ar lawer o dir - posibilrwydd ychwanegol y bydd colled mewn incwm 

·                Cefnogaeth ariannol i Farchnad Abertawe a Freedom Leisure 

·                Statws presennol o ran derbyn sachau du mewn safleoedd amwynderau dinesig ac ailagor llyfrgelloedd a swyddfeydd tai rhanbarthol

·                Profi parhaus mewn cartrefi gofal

·                Goblygiadau adnoddau/staffio'r Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu

·                Ffocws bwriadus cynllun adfer y cyngor

·                Cynllun adfer Llywodraeth Cymru

·                Effaith COVID-19 ar fuddsoddiad yn y sector preifat yn y dyfodol

·                Buddsoddiad Llywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru mewn prosiectau/cynlluniau isadeiledd lleol

·                Cronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig y DU a'r dyraniad posib yn dilyn Brexit

·                Nifer y busnesau yng nghanol y ddinas sydd wedi ailagor - mae tua ¾ o leoliadau lletygarwch ar gau o hyd nes y gallant agor y tu mewn

·                Yr effaith ar wasanaethau bysus a lefel bresennol y gwasanaeth

·                Ymdrin â/dysgu sut i fyw gyda COVID-19 yn y tymor hir

·                Cefnogaeth ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid - awdurdodaeth/pwyso am wasanaeth teithio gwell neu am ddim

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Lleoedd am ddod i'r cyfarfod.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

143.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 173 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 265 KB