Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

132.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif 88 - Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

133.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

134.

Cofnodion. pdf eicon PDF 240 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2020 a chofnodion cyfarfodydd arbennig Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2020 a 4 Mehefin 2020 fel cofnod cywir.

135.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

136.

Ymateb y Cyngor i Bandemig COVID-19. pdf eicon PDF 226 KB

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd/Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyllid a'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol oll yn bresennol yn y cyfarfod pwyllgor i ystyried ymateb y cyngor i bandemig COVID-19. 

 

Darparodd yr Arweinydd gyflwyniad a oedd yn cynnwys: -

 

·         Strwythur gwneud penderfyniadau yn ystod yr argyfwng

·         Ail-lunio gwasanaethau'r cyngor yn gyflym

·         Cefnogi'n GIG

·         Ehangu gofal cymdeithasol

·         Cefnogi gweithwyr allweddol

·         Cefnogi pobl ddiamddiffyn

·         Helpu'r digartref

·         Profi, Olrhain, Diogelu

·         Talu am gost COVID-19

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Arweinydd a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Trefniadau cynllunio rhag argyfyngau - gweithio ar y cyd, trefniadau rheoli strategol a Fforwm Cydnerthu Lleol De Cymru.

·            Cefnogaeth angenrheidiol i geiswyr lloches a ffoaduriaid - goresgyn cyfyngiadau ar daliadau a bod yn gallu teilwra pecynnau bwyd fel eu bod yn addas i anghenion

·            Dim troi at arian cyhoeddus - problem ond nid yw wedi atal y gallu i ddarparu gwasanaethau lleol i'r rhieni mewn angen

·            Angen adnoddau a phosibilrwydd y bydd gofyniad parhaus am barseli bwyd yn dilyn yr argyfwng

·            Pryder economaidd parhaus ac anghenion cynyddol

·            Digartrefedd - cynnydd posib yn ystod ac ar ôl yr argyfwng; trafodaeth am wrthod derbyn cynnig o dŷ a gwasanaeth 'Tai yn Gyntaf' a chefnogaeth gynhwysol y cyngor

·            Gweithio mewn partneriaeth yn benodol gyda busnesau yn ystod yr argyfwng ac o ran cynllunio ar gyfer adfer.

·            Rhaglen y Fargen Ddinesig - mae gwaith wedi parhau ac yn parhau o hyd ac nid yw'r argyfwng wedi effeithio ar y cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru

·            Problem o ran prydles ysbyty maes y Bae a allai effeithio ar ei ddefnydd yn y dyfodol fel canolfan ychwanegol at ddibenion iechyd.

·            Effaith gweithio gartref yn fwy ar wasanaethau a staff - cydbwyso manteision gweithio gartref ag iechyd, diogelwch a lles. Teimlwyd ei fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gweithio rhanbarthol, ond cydnabyddir y cyfyngiadau

·            Adolygu polisïau gweithio hyblyg a gartref ac edrych ar y gwersi a ddysgwyd o'r cyfnod hwn

·            Ailgychwyn y gwasanaeth casglu sbwriel a chanolfannau ailgylchu ac effaith cyfyngiadau ar y gwasanaeth

·            Goblygiadau ariannol COVID-19 gyda chostau cynyddol yn ogystal â refeniw coll - adennill costau oddi wrth Lywodraeth Cymru

·            Adnodd parhaus / cost ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu

·            Effaith ar incwm o ffïoedd, taliadau a threth y cyngor

·            Pwysigrwydd twristiaeth wrth gynllunio ar gyfer adferiad a chynhyrchu incwm o dwristiaeth - cefnogaeth i dwristiaeth

·            Gwelliannau i'r amgylchedd a chynyddu'r cysylltiad â'r amgylchedd - gwersi i'w dysgu o'r argyfwng

·            Cynllun gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd

·            Traffig yng nghanol y ddinas- buddsoddiad yn rhwydwaith y metro a theithio llesol yn cael ei ffafrio yn hytrach nag ystyried tâl atal tagfeydd 

·            Parhau i ddefnyddio gwirfoddolwyr sydd wedi helpu'r ddinas yn ystod yr argyfwng

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r holl staff, gwirfoddolwyr, gweithwyr allweddol, y GIG, Cynghorwyr, y Tîm Rheoli Corfforaethol, y Prif Weithredwr a nifer o bobl eraill sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol yr argyfwng.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r holl staff a'r Tîm Rheoli Corfforaethol sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw, gan weithio'n ddiflino i ddelio â'r argyfwng a chynnal gwasanaethau. Mynegodd ei ddiolch hefyd i'r Arweinydd, gan nodi'r cynnydd parhaus gyda'r datblygiadau yng nghanol y ddinas ochr yn ochr â delio â'r argyfwng cyfredol.

 

Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, i'w holl staff, y Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Arweinydd am y gwaith caled a wnaed wrth ymateb i'r argyfwng cenedlaethol hwn. Mynegodd ei ddiolch hefyd i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu ar draws y ddinas.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y Pwyllgor.

137.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'lythyrau craffu’.

 

Nodwyd yr adroddiad.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 258 KB