Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

78.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd T J Hennegan - Cofnod Rhif 81 - Tenant y Cyngor - Personol

79.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

80.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

81.

Craffu Cyn Penderfynu: Canfyddiadau'r Adolygiad Comisiynu Tai. pdf eicon PDF 240 KB

a)       Rôl y pwyllgor

b)       Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

c)       Barn y pwyllgor i'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau/Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Dros Dro, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd, Rheolwr Landlordiaid a'r Gwasanaethau Tai Cymunedol a Rheolwr Cwsmeriaid a Datblygu'r Gwasanaethau Tai Strategol yn bresennol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor o Ganfyddiadau'r Adolygiad Comisiynu Tai.

 

Rhoddwyd anerchiad llafar gan y Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd a oedd yn tynnu sylw at y canlynol: - 

 

·       Canfyddiadau'r Adolygiad

·       Prif nodau’r adolygiad

·       Yr angen i foderneiddio'r Gwasanaeth a newid i'r ffyrdd newydd y mae'r cwsmeriaid yn eu defnyddio i gael mynediad at y gwasanaeth

·       Gwella'r broses ymgeisio a lleihau rhestrau aros

·       Model Swyddfeydd Tai Rhanbarthol y dyfodol

·       Lefelau boddhad cwsmeriaid da y gellid adeiladu arnynt

·       Diben y Gwasanaeth

·       Gwasanaeth Atal Digartrefedd

·       Blaenoriaethau Allweddol

·       Cynnal tenantiaethau a sicrhau bod tenantiaid yn barod ar gyfer tenantiaeth

·       Datgarboneiddio

·       Cynyddu nifer y tai fforddiadwy

·       Gwella Technoleg Gwybodaeth

·       Creu incwm

·       Mwy o bresenoldeb ar Stadau'r cyngor

·       Cynyddu adnoddau ar gyfer y tîm rhenti

·       Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a datblygu ap sŵn (The Noise App)

·       Eiddo a mannau gwag

·       Costau rheoli tai

·       Ymgynghori ynghylch tenantiaethau a chynnwys rhanddeiliaid - agweddau allweddol wrth symud ymlaen

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·       Tai lloches - darparu wardeniaid

·       Lleihau nifer y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol - yr effaith a darpariaethau amgen trwy dechnoleg, sesiynau tai lleol a swyddogion cymdogaethau

·       Pryder ynghylch goblygiadau adnoddau posib os bydd mwy o swyddogion yn ymweld â chartrefi unigol wrth leihau Swyddfeydd Tai Rhanbarthol

·       Dyrannu/dadansoddi'r arian a dderbynnir drwy rent

·       Codi tâl ar gyfer pecynnau dodrefn - adfer costau ar gyfer danfoniadau a gollwyd

·       Strwythur y tîm rhenti/dyrannu cyllid ychwanegol

·       Cyngor a hyfforddiant ar y system budd-daliadau

·       Dadansoddi cwynion a'u gosod fesul pwnc er mwyn nodi themâu rheolaidd

·       Problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r effaith ar yr ardal gyfagos/tenantiaid

·       Newidiadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Trin a Thrwsio

·       Amserlen ar gyfer y newidiadau yn enwedig ar gyfer diweddariadau TG a'r ap sŵn (The Noise App)

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau/Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Dros Dro a'r Swyddogion a dywedodd fod wedi ystyried nifer o argymhellion o gyfarfod blaenorol y pwyllgor ar 1 Awst, wrth iddo ystyried y cynnydd o ran yr Adolygiad Comisiynu a'r canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg. 

 

Roedd y pwyllgor wedi croesawu'r llwybr arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Tai, ond codwyd nifer o bwyntiau y dylid cael eu hystyried gan y Cabinet, ynghylch gwelededd cynllun rhoi ar waith i ddatblygu cynigion, cyflwyno technoleg newydd, a chysylltiad rhwng adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a'r gwelliannau arfaethedig.

 

Nododd y pwyllgor fwriad Aelod y Cabinet i ymgymryd ag ymgynghoriad ffurfiol â thenantiaid ym mis Ionawr 2020 ynghylch y newid arfaethedig i fodel Gwasanaeth Swyddfeydd Tai Rhanbarthol y dyfodol, ac i roi gwybod am unrhyw ganfyddiadau o'r ymgynghoriad i'r Cabinet ym mis Ebrill 2020. Eglurodd Aelod y Cabinet y byddai'r Swyddfeydd Tai Rhanbarthol a nodwyd yn cau pan osodwyd y ffyrdd newydd o weithio a ddisgrifiwyd yn adroddiad ar waith yn unig.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y Pwyllgor, a chaiff adborth ei gyflwyno i'r Cabinet ar 21 Tachwedd cyn iddynt benderfynu ar adroddiad y cabinet.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 166 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 417 KB