Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

113.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Personol - Cofnod Rhif: 117 - Cadeirydd Fforwm Mynediad Lleol Abertawe.

114.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

115.

Cofnodion. pdf eicon PDF 250 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

116.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

117.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth (y Cynghorydd Robert Francis-Davies). pdf eicon PDF 268 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·            Caffael - trafferth wrth asesu/nodi effeithiau Brexit ar y broses gaffael ar hyn o bryd

·            Canolfan Sector Cyhoeddus a Chanolfan Ddigidol - cynigion fel rhan o Gam 2 Abertawe Ganolog

·            Blaendraeth - cwestiwn gan y cyhoedd ar bosibilrwydd gosod goleuadau stryd ar y blaendraeth rhwng SA1 a'r Mwmbwls i hyrwyddo defnydd a diogelwch

·            Twristiaeth - diweddariad ar gamau gweithredu'r Gweithgor Twristiaeth, yn enwedig ar gadw a chynnal a glendid ardaloedd twristiaeth fel Langland; eco-dwristiaeth a'r posibilrwydd o ehangu llwybrau beicio trwy ardal Gŵyr; gwella'r droedffordd rhwng Limeslade a Langland; blaenoriaethau ariannu a chyllid ar gael ar gyfer twristiaeth

·            Parc Singleton - defnyddio'r parc ar gyfer digwyddiadau

·            Diweddariad ar yr Ardal Gopr, Gwaith Copr yr Hafod-Morfa a datblygu Skyline

·            Diweddariad ar Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a lle ar ei gyfer yn y dyfodol

·            Cynllun Gwella Marchnad Abertawe - ychwanegu cyfleusterau toiledau a diweddariadau/digwyddiadau posib

·            Oriel Gelf Glynn Vivian - penodi curadur newydd a gwelliannau

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

118.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth (y Cynghorydd Robert Francis-Davies). pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, adroddiad am y diweddaraf gan y 'Panel Craffu Perfformiad Addysg'. Tynnodd sylw’n benodol at y pwyntiau canlynol yng ngwaith y Panel:-

 

·            Dysgwyr Prydau Ysgol am Ddim yn cyflawni'n sylweddol is na disgyblion eraill - parhau i fonitro 

·            Cyflwyno a monitro'r cwricwlwm newydd

·            Problemau ynghylch diogelu yn ystod misoedd y gaeaf (goleuadau a diogelwch) a rhagor o draffig ger ysgolion

·            Cafwyd trafodaethau ynghylch ôl-troed consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) yn y dyfodol

 

Teimlodd fod y panel wedi chware rôl allweddol wrth helpu'r cyngor i wella safonau a dywedodd fod Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a Chyfarwyddwr/Uwch-reolwr Addysg wedi ymwneud llawer â'r broses graffu.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

119.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'aelodaeth paneli a gweithgorau craffu’. 

 

Penderfynwyd na fydd y Cynghorydd J A Hale yn rhan o'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio na Phanel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol mwyach.

120.

Rhaglen Waith Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 265 KB

Trafodaeth am:

a)       Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)       Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)       Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2019/20.

 

Amlygodd y trefnwyd i Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau Gwell i fynd i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 20 Ebrill 2020 ac anogodd y Pwyllgor i ystyried cwestiynau/themâu ar gyfer y sesiwn hon. 

 

Trefnwyd cyfarfod arbennig Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar gyfer 6 Ebrill 2020 ar gyfer Craffu ar Drosedd ac Anrhefn.

 

O ystyried y sefyllfa bresennol, gofynnodd y Cadeirydd am drafodaeth ar ba mor barod y mae'r cyngor ar gyfer Coronafeirws. Awgrymodd y dylid ei ychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod arbennig y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 6 Ebrill a gwahodd Aelodau Cabinet/swyddogion perthnasol i gyflwyno i'r pwyllgor a diweddaru'r cynghorwyr ar gynlluniau'r cyngor.

 

Penderfynwyd ychwanegu trafodaeth ar ba mor barod y mae'r cyngor ar gyfer Coronafeirws at agenda cyfarfod arbennig Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 6 Ebrill.  

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.  

121.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Darparwyd yr ohebiaeth ag Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Arweinydd) a gododd o'r sesiwn holi ac ateb ym mis Ionawr er mwyn ei thrafod.

 

Nodwyd yr adroddiad.

122.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

123.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 177 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 257 KB