Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

100.

Cydymdeimladau.

Cofnodion:

Mynegodd y Cadeirydd ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Haydn Tanner, gŵr y Cynghorydd Gloria Tanner.

101.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif 105 - Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

102.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

103.

Cofnodion. pdf eicon PDF 239 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyfarfod Arbennig Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2020 a chofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2020 fel cofnodion cywir.

104.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiwn canlynol gan aelod o'r cyhoedd mewn perthynas â goleuadau stryd ar Ffordd Fabian:

 

Mae Ffordd Fabian yn briffordd bwysig i'r ddinas a dyma'r argraff gyntaf y bydd llawer o ymwelwyr â'r ddinas, sy'n teithio o'r dwyrain, yn ei chael. Gobeithio, wrth ailddatblygu'r ddinas, y bydd nifer yr ymwelwyr â'r ddinas yn cynyddu. Mae nifer y cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r palmant/llwybr beicio gorfodol hefyd wedi cynyddu'n sylweddol ers adeiladu campws y brifysgol. Yn anffodus, cafwyd nifer o ddamweiniau traffig ffyrdd ar y ffordd hon hefyd, gan gynnwys marwolaethau. Yn ystod arolwg diweddar, gwelais nad oedd bron 60% o'r goleuadau'n gweithio. Yn ogystal â rhoi argraff wael iawn i ymwelwr, rwy'n teimlo bod problem diogelwch fawr i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr hefyd oherwydd y goleuadau gwael. Felly, a fedrwch chi:

 

1. Ymchwilio i nifer y goleuadau stryd ar Ffordd Fabian nad ydynt yn gweithio rhwng cyffordd Crumlin Burrows a'r gyffordd â Stryd y Gwynt?

2. Adolygu'r penderfyniad i ddiffodd 'pileri' amgen ar y ffordd hon?

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet, wrth ymchwilio i'r digwyddiadau a oedd yn ymwneud â phobl dros y tair blynedd diwethaf, nad achoswyd yr un o'r damweiniau hyn gan ddiffyg golau neu oleuo gwael. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet ei fod wedi gofyn am asesiad o'r goleuadau stryd yn yr ardal dan sylw, a byddai'n darparu ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn ar ôl i'r asesiad gael ei gwblhau.

105.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: pdf eicon PDF 288 KB

a)          Aleod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd (y Cynghorydd Mark Thomas).

b)          Aelod y Cabinet dros Ofal Iechyd a Heneiddio’n Dda (y Cynghorydd Mark Child)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

a)              Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, â chymorth Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio. Rhoddwyd anerchiad llafar yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd, a oedd yn tynnu sylw'n benodol at y pwysau cyllidebol parhaus a'r gwaith caled a wnaed i gydbwyso'r gyllideb.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·            Parodrwydd a chadernid ynghylch anwadalrwydd cartrefi gofal yn y sector preifat

·            Yr amrywiaeth a'r ystod o ddarparwyr cartrefi gofal

·            Gwella llwybrau gyrfa a statws gofalwyr

·            Ymagwedd gymunedol at ddarpariaeth gofal - enghreifftiau megis Gwlad yr Haf, Solfach a Raglan ym Mynwy

·            Cynnydd chwyddiannol o 5% mewn costau

·            Asesiad fforddadwyedd a therfyn ar y symiau sy'n daladwy

·            Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac a yw'n ychwanegu gwerth at agweddau ar y portffolio - olion traed priodol

·            Gwobrwywyd Ysgol Gyfun Pontarddulais am fod yn Ysgol sy'n Ystyriol o Ddementia - ystyrir cyflwyno hyn mewn rhagor o ysgolion yn Abertawe

·            Cydlynu'r Ardal Leol

·            O'r Ysbyty i'r Cartref - effaith yr ymagwedd newydd at asesu defnyddwyr gwasanaeth a mynd i'r afael â 'blocio gwelyau'

·            Effaith yr ymagwedd newydd at asesu adnoddau, yn enwedig therapyddion galwedigaethol ac amserlenni ar gyfer addasiadau

·            Cydlynu a threfniadau ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol - cydlynu trosgynnol a'r newid o blentyndod i oedolaeth

·            Trefn llywodraethu a chraffu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg

·            Cartrefi Gydol Oes - amrywiaeth ehangach o gartrefi

 

Adroddodd y Cadeirydd am gwestiwn a dderbyniwyd gan aelod o'r cyhoedd ynghylch peidio â rhoi cynlluniau gofal, dogfennau iechyd a diogelwch a hyfforddiant trafod â llaw ar waith. Darparodd Aelod y Cabinet ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn gan aelod y cyhoedd, yn ogystal ag eglurhad i'r pwyllgor ynghylch llywodraethu a chraffu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin.

 

Penderfynwyd:   

 

1)          Y byddai Aelod y Cabinet yn darparu ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn cyhoeddus a gafwyd; ac

2)          Y byddai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

b)         Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

Priffyrdd ac Isadeiledd

·            Goleuadau a reolir ar brosiect Ffordd y Brenin

·            Y diweddaraf am y llwybr beicio arfaethedig o Bengelli i Bontarddulais, a'r amserlen ar gyfer y gwaith

·            Polisi a rheolau parcio - yn benodol parcio ar balmentydd

·            Cynlluniau priffyrdd aelodau - pwysau ar staff ac adnoddau

Diogelu'r cyhoedd a gwasanaethau

·            Ceffylau ar dennyn - y diweddaraf a monitro

Yr amgylchedd

·            Effaith symud y cyfleuster ailgylchu pren o Ganolfan Ailgylchu Clun - yr effaith ar dipio anghyfreithlon, llosgi pren, gyrru i Ganolfan Ailgylchu Llansamlet

·            Cyfarpar a monitro ansawdd aer

·            Ansawdd aer - cyfranogaeth a chynnwys wrth lunio'r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer

·            Ansawdd aer o gwmpas ysgolion - ffiniau llygredd aer Iechyd Cyhoeddus Cymru

·            Effaith ffordd osgoi'r Hafod - lleihau'r defnydd o lwybr amgen a lleihau allyriadau

·            Yr effaith ddisgwyliedig o ganlyniad i adael gwastraff niwclear ym Mae Caerdydd - cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru

Trafnidiaeth

·            Darpariaeth a safon cludiant cyhoeddus - pryderon ynghylch lleihau nifer y llwybrau bysus sydd ar gael

·            Peiriannau Parcio - rhoddwyd peiriannau parcio newydd ym meysydd parcio aml-lawr canol y ddinas - bydd peiriannau newydd yn cael eu gosod yn y meysydd parcio awyr agored

·            Parc Cerbydau Teithio

Cynnal a chadw'r blaendraeth a'r traethau

·            Diweddariadau a chraffu parhaus ar y cynigion ar gyfer y promenâd ar y cyd â'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd

 

Penderfynwyd y dylai cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at aelod y cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

106.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Gwasanaethau i Oedolion (Y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd). pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio, ddiweddariad ar waith y panel hyd yn hyn.

 

Mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, amlygodd y byddai'r gwaith o fonitro Asesiadau Gofalwyr yn parhau.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

107.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw ddiwygiadau i aelodaeth y Paneli Craffu na'r gweithgorau.

108.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am 'Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol'.

 

Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr Adroddiadau Craffu drafft a'u cyflwyno i'r cyngor.

109.

Rhaglen Waith Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 262 KB

Trafodaeth am:

a)       Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)       Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)       Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20.

110.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth.

 

Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu.

111.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth a nododd y byddai'n mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 11 Chwefror 2020 i drafod y rhaglen waith craffu.

 

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

112.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 183 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet dros Ofal Iechyd a Heneiddio'n Dda - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 311 KB

Llythyr at Aleod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 234 KB