Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Cydymdeimladau. Cofnodion: Mynegodd y
Cadeirydd ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Haydn Tanner,
gŵr y Cynghorydd Gloria Tanner. |
|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd C A Holley – personol - Cofnod Rhif 105 - Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyfarfod
Arbennig Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2020 a chofnodion
cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2020 fel cofnodion
cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Derbyniwyd y cwestiwn canlynol gan aelod o'r cyhoedd mewn perthynas â goleuadau
stryd ar Ffordd Fabian: Mae Ffordd Fabian yn briffordd
bwysig i'r ddinas a dyma'r argraff gyntaf y bydd llawer o ymwelwyr â'r ddinas,
sy'n teithio o'r dwyrain, yn ei chael. Gobeithio, wrth ailddatblygu'r ddinas, y
bydd nifer yr ymwelwyr â'r ddinas yn cynyddu. Mae nifer y
cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r palmant/llwybr beicio gorfodol hefyd wedi
cynyddu'n sylweddol ers adeiladu campws y brifysgol. Yn anffodus, cafwyd nifer
o ddamweiniau traffig ffyrdd ar y ffordd hon hefyd, gan gynnwys marwolaethau.
Yn ystod arolwg diweddar, gwelais nad oedd bron 60% o'r goleuadau'n gweithio.
Yn ogystal â rhoi argraff wael iawn i ymwelwr, rwy'n teimlo bod problem
diogelwch fawr i gerddwyr, beicwyr a gyrwyr hefyd oherwydd y goleuadau gwael.
Felly, a fedrwch chi: 1. Ymchwilio i nifer y
goleuadau stryd ar Ffordd Fabian nad ydynt yn
gweithio rhwng cyffordd Crumlin Burrows
a'r gyffordd â Stryd y Gwynt? 2. Adolygu'r
penderfyniad i ddiffodd 'pileri' amgen ar y ffordd hon? Cadarnhaodd Aelod y Cabinet, wrth ymchwilio i'r digwyddiadau a oedd yn ymwneud â phobl dros y tair blynedd diwethaf, nad achoswyd yr un o'r damweiniau hyn gan ddiffyg golau neu oleuo gwael. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet ei fod wedi gofyn am asesiad o'r goleuadau stryd yn yr ardal dan sylw, a byddai'n darparu ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn ar ôl i'r asesiad gael ei gwblhau. |
|
Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: PDF 288 KB a) Aleod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd (y Cynghorydd Mark Thomas). b) Aelod y Cabinet dros Ofal Iechyd a Heneiddio’n Dda (y Cynghorydd Mark Child) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: a)
Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, â chymorth Pennaeth y Gwasanaethau
i Oedolion, adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio. Rhoddwyd anerchiad
llafar yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd, a oedd yn tynnu
sylw'n benodol at y pwysau cyllidebol parhaus a'r gwaith caled a wnaed i
gydbwyso'r gyllideb. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Parodrwydd
a chadernid ynghylch anwadalrwydd cartrefi gofal yn y
sector preifat ·
Yr
amrywiaeth a'r ystod o ddarparwyr cartrefi gofal ·
Gwella
llwybrau gyrfa a statws gofalwyr ·
Ymagwedd
gymunedol at ddarpariaeth gofal - enghreifftiau megis Gwlad yr Haf, Solfach a Raglan ym Mynwy ·
Cynnydd
chwyddiannol o 5% mewn costau ·
Asesiad
fforddadwyedd a therfyn ar y symiau sy'n daladwy ·
Gwaith
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac a yw'n ychwanegu gwerth at agweddau ar y
portffolio - olion traed priodol ·
Gwobrwywyd
Ysgol Gyfun Pontarddulais am fod yn Ysgol sy'n Ystyriol o Ddementia - ystyrir
cyflwyno hyn mewn rhagor o ysgolion yn Abertawe ·
Cydlynu'r
Ardal Leol ·
O'r
Ysbyty i'r Cartref - effaith yr ymagwedd newydd at asesu defnyddwyr gwasanaeth
a mynd i'r afael â 'blocio gwelyau' ·
Effaith
yr ymagwedd newydd at asesu adnoddau, yn enwedig therapyddion galwedigaethol ac
amserlenni ar gyfer addasiadau ·
Cydlynu
a threfniadau ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol - cydlynu trosgynnol a'r
newid o blentyndod i oedolaeth ·
Trefn
llywodraethu a chraffu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg ·
Cartrefi
Gydol Oes - amrywiaeth ehangach o gartrefi Adroddodd y Cadeirydd am gwestiwn a
dderbyniwyd gan aelod o'r cyhoedd ynghylch peidio â rhoi cynlluniau gofal,
dogfennau iechyd a diogelwch a hyfforddiant trafod â llaw ar waith. Darparodd
Aelod y Cabinet ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn gan aelod y cyhoedd, yn
ogystal ag eglurhad i'r pwyllgor ynghylch llywodraethu a chraffu Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin. Penderfynwyd: 1)
Y
byddai Aelod y Cabinet yn darparu ymateb ysgrifenedig i'r cwestiwn cyhoeddus a
gafwyd; ac 2)
Y
byddai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan
adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. b)
Aelod y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad ar benawdau
allweddol ei bortffolio. Roedd cwestiynau a
thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: Priffyrdd ac Isadeiledd ·
Goleuadau a reolir ar brosiect Ffordd y Brenin ·
Y diweddaraf am y llwybr beicio arfaethedig o Bengelli i Bontarddulais, a'r
amserlen ar gyfer y gwaith ·
Polisi a rheolau parcio - yn benodol parcio ar balmentydd
·
Cynlluniau priffyrdd aelodau - pwysau ar staff ac
adnoddau Diogelu'r cyhoedd a gwasanaethau ·
Ceffylau ar dennyn - y diweddaraf a monitro Yr amgylchedd ·
Effaith symud y cyfleuster ailgylchu pren o Ganolfan Ailgylchu
Clun - yr effaith ar dipio anghyfreithlon, llosgi pren, gyrru i Ganolfan
Ailgylchu Llansamlet ·
Cyfarpar a monitro ansawdd aer ·
Ansawdd aer - cyfranogaeth a chynnwys wrth lunio'r
Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ·
Ansawdd aer o gwmpas ysgolion - ffiniau llygredd aer
Iechyd Cyhoeddus Cymru ·
Effaith ffordd osgoi'r Hafod - lleihau'r defnydd o lwybr
amgen a lleihau allyriadau ·
Yr effaith ddisgwyliedig o ganlyniad i adael gwastraff
niwclear ym Mae Caerdydd - cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru Trafnidiaeth ·
Darpariaeth a safon cludiant cyhoeddus - pryderon
ynghylch lleihau nifer y llwybrau bysus sydd ar gael ·
Peiriannau Parcio - rhoddwyd peiriannau parcio newydd ym
meysydd parcio aml-lawr canol y ddinas - bydd peiriannau newydd yn cael eu
gosod yn y meysydd parcio awyr agored ·
Parc Cerbydau Teithio Cynnal a chadw'r blaendraeth a'r traethau ·
Diweddariadau a chraffu parhaus ar y cynigion ar gyfer y
promenâd ar y cyd â'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd Penderfynwyd y dylai cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at aelod y cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Peter Black, Cynullydd y Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio,
ddiweddariad ar waith y panel hyd yn hyn. Mewn perthynas
â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, amlygodd y byddai'r gwaith o fonitro
Asesiadau Gofalwyr yn parhau. Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 228 KB Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd nad oedd unrhyw ddiwygiadau i aelodaeth y Paneli Craffu na'r
gweithgorau. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd adroddiad am 'Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol'. Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr Adroddiadau Craffu drafft a'u cyflwyno i'r cyngor. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2019/20. PDF 262 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli
a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am lythyrau craffu, er gwybodaeth. Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth a nododd y byddai'n
mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 11 Chwefror 2020 i drafod y rhaglen waith
craffu. Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 183 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet dros Ofal Iechyd a Heneiddio'n Dda - Sesiwn Holi ac Ateb PDF 311 KB |
|
Llythyr at Aleod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd - Sesiwn Holi ac Ateb PDF 234 KB |