Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r
pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod arbennig o
Bwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2019 a chofnodion
cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 a'u
llofnodi fel cofnodion cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Cafwyd nifer o
gwestiynau gan aelod o'r cyhoedd a oedd yn canolbwyntio ar: 1)
Y
Fenter Dinas Parc Cenedlaethol 2)
Prosiect
Metro Bae Abertawe 3)
Perthnasoedd
rhwng Gweinidogion ac Arolygwyr Cynllunio - heriau statudol o dan A288 Deddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 4)
Gwreiddio
Siarter y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol wrth gyflwyno gwasanaethau. Ymatebodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Brif Weithredwr i'r cwestiynau'n briodol. Byddai gwybodaeth bellach am yr heriau o dan a288 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn cael eu darparu'n ysgrifenedig. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad am brif benawdau Portffolio'r Economi a Strategaeth. Roedd
y Dirprwy Brif Weithredwr hefyd yn bresennol i gefnogi'r sesiwn Holi ac Ateb. Roedd y cwestiynau
a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:- ·
Safleoedd
Blaendraeth - tir/datblygiad posib yn Langland ·
Dinas
Parc Cenedlaethol - meini prawf a phroses ·
Brexit - y sefyllfa bresennol a'r effaith ar y cyngor;
pryder dros golli arian a chefnogaeth ar ôl gadael yr UE a sicrhau cyfran deg o
Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a sicrwydd ariannu; trafodaethau lleol a
chenedlaethol; defnydd parhaol o'r model busnes pum achos a'r anfanteision a
Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi; risg parhaol os bydd Brexit
heb gytundeb; cynnydd ar gyngor i weithwyr ar gynllun setliad y DU ·
Cyflwyno'r
rhwydwaith 5G - gofyniadau ar gyfer ei gyflwyno; angen posib am ragor o fastiau
yn ogystal â dewisiadau amgen posib; buddion 5G; cyngor iechyd presennol o ran
5G a monitro parhaus; annibyniaeth y Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag
Ymbelydredd nad yw'n Ïoneiddio (ICNIRP) ·
Argyfwng
yr hinsawdd - cynnydd ers datganiad y cyngor ym mis Mehefin 2019 a chynllun
gweithredu ·
Sgwâr
y Castell - diweddariad ac amserlen ar gyfer datblygiad Sgwâr y Castell ·
Safle
Cyflogaeth Strategol Felindre - buddsoddiad pellach neu'r potensial am dai;
awydd i wella problemau traffig a thagfeydd ger cyffyrdd 44-47 yr M4 yn
gynhwysol ·
Gwaith
Copr yr Hafod-Morfa - uwch gynllun newydd yn cael ei baratoi a chysylltiadau â
phrosiect a chyfleuster hamdden Skyline ar fynydd
Cilfái ·
Llety
i fyfyrwyr - cynllun Stryd Mariner a datblygiadau
eraill yng nghanol y ddinas; yr effaith ar niferoedd Tai Amlfeddiannaeth; y
lleihad dywededig yn nifer y myfyrwyr yn genedlaethol Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. PDF 241 KB a) Gwella
Gwasanaethau a Chyllid (Y Cynghorydd, Chris Holley, Cynullydd). b) Datblygiad ac Adfywio (Y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Chris Holley y diweddariadau ar gyfer y Panel Craffu Perfformiad
Gwella Gwasanaethau a Chyllid (fel Cynullydd y Panel) a'r Panel Craffu
Perfformiad Datblygu ac Adfywio (ar ran y Cynullydd, fel aelod y Panel).
Tynnodd sylw'n benodol at gylch gwaith pob panel a'u gweithgareddau allweddol. Penderfynwyd nodi’r diweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 233 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am 'Aelodaeth y Paneli a’r Gweithgorau Craffu’ Penderfynwyd ychwanegu'r Cynghorydd Steve Gallagher at Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2019/20. PDF 265 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20. Bwriedid i Aelod
y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd
a Rheoli Isadeiledd fynd i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 10
Chwefror 2020. Anogodd y
Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i ystyried meysydd pwnc cyn y cyfarfod. Fel cynullydd y
Gweithgor Craffu Twristiaeth, cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Jones at yr adroddiad am 'Ymatebion Aelodau'r
Cabinet i'r Ymchwiliad Craffu ar Dwristiaeth a'r Cynllun Gweithredu’ a oedd yn
gynwysedig yn yr agenda a oedd yn amlinellu ymateb y Cabinet i argymhellion y
Gweithgor a'i gynllun gweithredu. Nodwyd na chytunwyd ar bob un o argymhellion
y tîm craffu, yn bennaf oherwydd adnoddau. Nodwyd posibilrwydd mynd ar drywydd
cynnydd yr argymhellion cytunedig ym mis Mawrth, gan y byddai Aelod y Cabinet
dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth yn bresennol ar gyfer y sesiwn Holi ac
Ateb. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth. Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth gan ddweud ei bod yn
bwriadu mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 11 Chwefror 2020 i siarad am y
rhaglen waith craffu. Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 182 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. |
|