Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

89.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

90.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

91.

Cofnodion. pdf eicon PDF 244 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2019 a chofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 a'u llofnodi fel cofnodion cywir.

92.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Cafwyd nifer o gwestiynau gan aelod o'r cyhoedd a oedd yn canolbwyntio ar:

 

1)          Y Fenter Dinas Parc Cenedlaethol

2)          Prosiect Metro Bae Abertawe

3)          Perthnasoedd rhwng Gweinidogion ac Arolygwyr Cynllunio - heriau statudol o dan A288 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

4)          Gwreiddio Siarter y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol wrth gyflwyno gwasanaethau.

 

Ymatebodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Brif Weithredwr i'r cwestiynau'n briodol. Byddai gwybodaeth bellach am yr heriau o dan a288 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn cael eu darparu'n ysgrifenedig. 

93.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth (Y Cynghorydd Rob Stewart). pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad am brif benawdau Portffolio'r Economi a Strategaeth. Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr hefyd yn bresennol i gefnogi'r sesiwn Holi ac Ateb.

 

Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol:-

 

·            Safleoedd Blaendraeth - tir/datblygiad posib yn Langland

·            Dinas Parc Cenedlaethol - meini prawf a phroses

·            Brexit - y sefyllfa bresennol a'r effaith ar y cyngor; pryder dros golli arian a chefnogaeth ar ôl gadael yr UE a sicrhau cyfran deg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a sicrwydd ariannu; trafodaethau lleol a chenedlaethol; defnydd parhaol o'r model busnes pum achos a'r anfanteision a Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi; risg parhaol os bydd Brexit heb gytundeb; cynnydd ar gyngor i weithwyr ar gynllun setliad y DU

·            Cyflwyno'r rhwydwaith 5G - gofyniadau ar gyfer ei gyflwyno; angen posib am ragor o fastiau yn ogystal â dewisiadau amgen posib; buddion 5G; cyngor iechyd presennol o ran 5G a monitro parhaus; annibyniaeth y Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd nad yw'n Ïoneiddio (ICNIRP)

·            Argyfwng yr hinsawdd - cynnydd ers datganiad y cyngor ym mis Mehefin 2019 a chynllun gweithredu

·            Sgwâr y Castell - diweddariad ac amserlen ar gyfer datblygiad Sgwâr y Castell

·            Safle Cyflogaeth Strategol Felindre - buddsoddiad pellach neu'r potensial am dai; awydd i wella problemau traffig a thagfeydd ger cyffyrdd 44-47 yr M4 yn gynhwysol

·            Gwaith Copr yr Hafod-Morfa - uwch gynllun newydd yn cael ei baratoi a chysylltiadau â phrosiect a chyfleuster hamdden Skyline ar fynydd Cilfái

·            Llety i fyfyrwyr - cynllun Stryd Mariner a datblygiadau eraill yng nghanol y ddinas; yr effaith ar niferoedd Tai Amlfeddiannaeth; y lleihad dywededig yn nifer y myfyrwyr yn genedlaethol

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.   

94.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. pdf eicon PDF 241 KB

a)       Gwella Gwasanaethau a Chyllid (Y Cynghorydd, Chris Holley,

           Cynullydd).

b)       Datblygiad ac Adfywio (Y Cynghorydd Jeff Jones, Cynullydd).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Holley y diweddariadau ar gyfer y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid (fel Cynullydd y Panel) a'r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio (ar ran y Cynullydd, fel aelod y Panel). Tynnodd sylw'n benodol at gylch gwaith pob panel a'u gweithgareddau allweddol.

 

Penderfynwyd nodi’r diweddaraf.

95.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'Aelodaeth y Paneli a’r Gweithgorau Craffu’

 

Penderfynwyd ychwanegu'r Cynghorydd Steve Gallagher at Banel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol.

96.

Rhaglen Waith Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 265 KB

Trafodaeth am:

a)       Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)       Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)       Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20.

 

Bwriedid i Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd fynd i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 10 Chwefror 2020.

 

Anogodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i ystyried meysydd pwnc cyn y cyfarfod.

 

Fel cynullydd y Gweithgor Craffu Twristiaeth, cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Jones  at yr adroddiad am 'Ymatebion Aelodau'r Cabinet i'r Ymchwiliad Craffu ar Dwristiaeth a'r Cynllun Gweithredu’ a oedd yn gynwysedig yn yr agenda a oedd yn amlinellu ymateb y Cabinet i argymhellion y Gweithgor a'i gynllun gweithredu. Nodwyd na chytunwyd ar bob un o argymhellion y tîm craffu, yn bennaf oherwydd adnoddau. Nodwyd posibilrwydd mynd ar drywydd cynnydd yr argymhellion cytunedig ym mis Mawrth, gan y byddai Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth yn bresennol ar gyfer y sesiwn Holi ac Ateb.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

97.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu.

98.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth gan ddweud ei bod yn bwriadu mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 11 Chwefror 2020 i siarad am y rhaglen waith craffu.

 

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

99.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 261 KB