Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor y Rhaglen
Graffu a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2019 a'u llofnodi fel cofnod cywir, yn
amodol ar nodi ymddiheuriadau ar gyfer y Cynghorydd Paxton Hood-Williams. Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol y diweddaraf ar gofnod 23 ynghylch cyllid ar gyfer 'Ffydd mewn Teuluoedd'. Adroddwyd bod y cyllid wedi'i estyn tan ddiwedd mis Rhagfyr 2019. Roedd gwaith yn parhau i geisio canfod cyllid parhaus. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor gan Mr Perrott a gododd nifer o gwestiynau
ynghylch Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelod y Cabinet gyda'r Cynghorydd Clive
Lloyd mewn perthynas â chynnydd gydag Adolygiad Cyffredinol tir y cyngor ac
ardaloedd o dir posib i'w gwaredu. Cyfeiriwyd at y mater hwn mewn gohebiaeth
rhwng y Pwyllgor ac Aelod y Cabinet yn dilyn y sesiwn holi ac ateb blaenorol. Roedd y
cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Dyddiad
yr Adolygiad Cyffredinol ac a yw'n hygyrch i'r cyhoedd? ·
Faint
o erwau o dir dros ben a nodwyd yn 2016/2017, 2017/2018 a 2018/2019? ·
Yr
ymdrechion a wnaed i fasnachu'r tir gwarged? ·
Pa
ganran o dir dros ben sydd wedi'i werthu a faint sydd ar ôl? Rhoddodd y
Dirprwy Arweinydd y diweddaraf am yr Adolygiad Cyffredinol a bydd yn darparu
ymateb llawn ysgrifenedig i'r aelod o'r cyhoedd. Tynnodd y Dirprwy Arweinydd
sylw hefyd at y ffaith bod refeniw hefyd yn cael ei gynhyrchu o
gaffaeliadau/buddsoddiadau. Penderfynwyd darparu ymateb llawn yn ysgrifenedig. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Arweinydd/Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad
adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio. Rhoddwyd
anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a gylchredwyd.
Tynnodd sylw at y ffaith ei fod wedi ymgymryd â'r prif gyfrifoldeb ar gyfer
Diogelwch Cymunedol. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith mai cyngor Abertawe fyddai'n
cadeirio'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar ôl i Andrew Davies roi'r gorau
i'w rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Lleol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Lloyd fod
yr Arweinydd wedi gofyn iddo gadeirio'r BGC (gan y bu'n is-gadeirydd y llynedd)
a dywedodd y byddai cyswllt trosgynnol bellach rhwng y BGC a Diogelwch
Cymunedol. Darparodd ddiweddariad hefyd ar faterion a oedd yn ymwneud â'r Stryd
Fawr a'r Grŵp a'r Dasg Digwyddiadau Tyngedfennol a sefydlwyd i sicrhau bod
goruchwyliaeth strategol wrth fynd i'r afael â'r materion. Mewn cyferbyniad ag
adroddiadau negyddol yn y wasg, hysbysodd y Pwyllgor fod y Stryd Fawr wedi cael
ei henwebu/wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol ar gyfer Stryd Fawr
gorau'r DU. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Cronfa
Bensiwn - y gostyngiadau a'r amserlenni ar gyfer lleihau buddsoddiadau o ran
tanwyddau ffosil; cynnydd o ran buddsoddi mewn cronfeydd buddsoddi carbon isel
a'r angen i asesu buddsoddiadau amgen - sylwer bod gan bob busnes rhywfaint o
ôl-traed carbon ·
Cynnydd
ar fesur, monitro ac asesu perfformiad ar gyfer amcan newydd y cyngor ar
adnoddau naturiol a bioamrywiaeth ·
Adolygiadau
Comisiynu - costau a buddiannau ·
Diogelwch
Cymunedol - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel; Strategaeth Trais Difrifol
Genedlaethol; Y Stryd Fawr; Adolygiad o CCTV; Diogelwch Plant ger ysgolion -
cyfeiriad at fforwm Llais y Disgybl Abertawe ac ymgysylltu â phobl ifanc er
mwyn ymdrin â materion ·
Gweithio
Ystwyth ·
Rheoli
Ystadau ac Eiddo Strategol - cynnydd gyda Hysbysiadau o Fudd y Cyhoedd ar
Ddatblygiad Glan y Môr (tynnwyd safle'r West Cross Inn
yn ôl yn dilyn adborth gan y cyhoedd); ·
Gweithgor
Parc Singleton (Sicrhaodd y pwyllgor na fyddai unrhyw
gynnydd yn cael ei wneud ar safle Home Farm cyn i'r
grŵp gael ei sefydlu a darparu ei ganfyddiadau); mae benthyca cyfradd isel
wedi galluogi'r cyngor i fenthyg ar gyfer caffaeliadau/buddsoddiadau a fyddai'n
cynhyrchu elw sylweddol. ·
Gwasanaethau
Ariannol - darparu Datganiad Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw Adolygu a Benthyg
- effeithiau tymor byr, tymor canolig a'r tymor hir ·
Colli
gwasanaethau bancio cymunedol Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn absenoldeb y
cynllunydd, y Cynghorydd Chris Holley, nodwyd diweddariad y Panel Gwella
Gwasanaethau a Pherfformiad Chyllid. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 244 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. Nododd y cadeirydd
y derbyniwyd cais gan y Cynghorydd Philip Downing i ymuno â'r Panel Perfformiad
Datblygu ac Adfywio. Byddai hyn yn cynyddu nifer yr aelodau i 16 a nodwyd na
fyddai unrhyw aelodau pellach yn cael eu hychwanegu o ystyried maint y Panel.
Nododd y Pwyllgor ailbenodiad y Cynghorydd Jeff Jones fel Cynullydd y Panel
hwn. Anerchwyd y
Pwyllgor gan y Cadeirydd er mwyn cytuno ar aelodaeth a phenodi Cynullyddion ar
gyfer y Panel Ymchwilio a'r Gweithgorau newydd, yn seiliedig ar y mynegiannau o
ddiddordeb a dderbyniwyd. Mewn perthynas
â'r Gweithgor Craffu Brexit, anerchwyd y pwyllgor gan
y Cynghorydd Mary Jones a'r Cynghorydd Peter Jones i gyflwyno eu diddordeb mewn
gweithredu fel Cynullydd ac arweiniodd hyn at bleidlais i benodi Cynullydd. Gweithgor Craffu Brexit - Derbyniwyd tri mynegiant o ddiddordeb. Tynnwyd
enw'r Cynghorydd Chris Holley yn ôl fel Cydlynydd y Panel Ymchwiliad Craffu
Caffael newydd ei benodi - Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Mary Jones a'r
Cynghorydd Peter Jones i gyflwyno eu diddordeb mewn gweithredu fel cynullydd -
yn dilyn pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Peter Jones fel cynullydd. Penderfynwyd: 1)
Panel
Perfformiad Datblygu ac Adfywio - Ychwanegu'r Cynghorydd Philip Downing; 2)
Cymeradwyo
aelodaeth arfaethedig y Panel Ymchwiliad Craffu Caffael fel y'i hamlinellir yn
Atodiad 1 o'r adroddiad; 3)
Cymeradwyo
aelodaeth arfaethedig y gweithgorau craffur Brexit, Iechyd a Lles Staff a Diogelwch Ffyrdd newydd fel
y'u hamlinellir yn Atodiad 1 o'r adroddiad, gan ychwanegu'r Cynghorydd Terry
Hennegan hefyd at y Gweithgor Diogelwch Ffyrdd; 4)
Penodi'r
Cynghorydd Chris Holley yn Gynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Caffael; 5)
Penodi'r
Cynghorydd Peter Jones yn Gynullydd y Gweithgor Craffu Brexit;
6)
Penodi'r
Cynghorydd Cyril Anderson yn Gynullydd y Gweithgor Craffu Iechyd a Lles Staff;
a 7) Gwahodd y Cynghorydd Steve Gallagher i weithredu fel Cynullydd y Gweithgor Diogelwch Ffyrdd. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2019/20. PDF 276 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20. Adroddodd y
derbyniwyd cais cyhoeddus am graffu mewn perthynas â phryderon am niwsans gan
wylanod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol y bobl sy'n bwydo'r gwylanod mewn
cymunedau ac ardaloedd trefol, a oedd yn gofyn i'r cyngor weithredu. Cyfeiriodd hefyd
at Sesiwn Holi Aelod y Cabinet ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen Graffu nesaf, a
fyddai gydag Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, a chroesawir trafodaeth ar
bynciau ffocws allweddol ar gyfer y sesiwn honno. Nododd y Pwyllgor nifer o
feysydd yr oeddent am eu harchwilio gydag Aelod y Cabinet: - ·
Cynnydd
yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau ·
Cynnydd
Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Digartrefedd ·
Tai
Gwag/Eiddo Gwag ·
Rheoli
Tai'r Cyngor ·
Ynni
Gwyrdd ·
Trafnidiaeth
Werdd Penderfynwyd cynnwys y cais cyhoeddus am graffu yn y rhaglen waith a'i gyfeirio i'r Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol newydd i ymdrin ag ef. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd gofnod llythyrau'r Tîm Craffu. Nodwyd y cofnod a'r llythyrau. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 180 KB Cofnodion: Darparwyd
dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth. |
|