Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Ymgynghoriad ar Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd Drafft 2018-2022. PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Aelod y
Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, y Rheolwr Gweithrediadau - Gwasanaethau Tai
Cymunedol a'r Uwch-swyddog Rheoli Polisi a Lesddaliad
yn bresennol wrth i'r Pwyllgor ystyried y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu
Digartrefedd Drafft. Rhoddodd y
Rheolwr Gweithrediadau - Gwasanaethau Tai Cymunedol - gyflwyniad a oedd yn
amlygu rhai agweddau allweddol ar y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu
Digartrefedd Drafft. - ·
Deddf
Tai (Cymru) 2014 ·
Themâu
sy'n dod i'r amlwg ·
Blaenoriaethau
Allweddol ·
Nod
Drafft ·
Amcanion
a Chamau Gweithredu Drafft ·
Cynllun
Gweithredu ·
Camau
Nesaf Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i Aelod y Cabinet, ac ymatebodd yntau ynghyd â'r Rheolwr
Gweithrediadau - Gwasanaethau Tai Cymunedol a'r Uwch-swyddog Polisi a Lesddaliad, yn briodol. Roedd cwestiynau,
trafodaeth ac arsylwadau'r pwyllgor mewn perthynas â'r Strategaeth a'r Cynllun
Gweithredu drafft fel rhan o'r broses ymgynghori'n canolbwyntio ar y canlynol:-
·
Cyfranogaeth
defnyddwyr gwasanaeth a chyd-gynhyrchu ·
Datblygu
Siarter Digartrefedd ·
Datblygu rhaglen addysg i gynyddu gwybodaeth am
broblemau tai a digartrefedd ·
Datblygu
protocolau cyn troi allan ·
Defnyddio'r
sector rhentu preifat/colli llety rhent/perthynas â landlordiaid preifat ·
Cynllun
benthyciadau Troi Tai'n Gartrefi ·
Prinder
eiddo un ystafell well ·
Gweithio
gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i liniaru digartrefedd ·
Ymagwedd
Tai'n Gyntaf ·
Rhwystrau
rhag cael mynediad i lety dros dro a llety dros dro â chymorth e.e. anifeiliaid
anwes ·
Cynigion
ac amserlenni i ddiwallu'r angen cynyddol am gefnogaeth i bobl ag anghenion
iechyd meddwl/cymhleth ·
Cynorthwyo'r
rhai nad ydynt yn gymwys am gymorth digartrefedd a thai oherwydd eu statws
mewnfudo ·
Y
cynllun i gynnal astudiaeth dichonoldeb i ystyried datblygu canolfan 'atebion
cyfannol' ar gyfer gwasanaethau i bobl sy'n cysgu allan ·
Cefnogi
plant y mae digartrefedd eu rhieni'n effeithio arnynt/sicrhau bod y strategaeth
yn cefnogi'r CCUHP ·
Cysylltu
â strategaethau eraill ·
Costau
tai ar gyfer llety â chymorth ·
Monitro,
gwerthuso ac adolygu llwyddiant/effaith y strategaeth Diolchodd Aelod y
Cabinet y swyddogion am eu gwaith caled mewn perthynas â'r Strategaeth
Digartrefedd. Diolchwyd Aelod y
Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd. Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan amlinellu barn y Pwyllgor, er mwyn
i'r Cabinet ei hystyried. |