Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

132.

Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

133.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

134.

Cofnodion. pdf eicon PDF 115 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

135.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

136.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau Gwell (y Cynghorwyr June Burtonshaw a Mary Sherwood) pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad ar benawdau allweddol eu portffolios.

 

Yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, amlinellodd Aelodau'r Cabinet rai diwygiadau i'w portffolios, gan nodi bod rhai meysydd wedi'u trosglwyddo rhwng Cymunedau Gwell (Lleoedd) a Chymunedau Gwell (Pobl).

 

Amlygon hefyd weithgareddau a oedd yn berthnasol i'r canlynol: -

 

·                Arwain ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

·                Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

·                Rhandiroedd

·                Gwasanaethau Lleol/Hybiau Cymunedol

·                Trosglwyddo Asedau Cymunedol

·                Torri Gwair Cymunedol – Twtio a Thrwsio

·                Llyfrgelloedd

·                Sbwriel/Glanhau'r Gymuned

·                Cynllun Cyllidebau Cymunedol Aelodau

·                Rheoli Chwyn

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelodau'r Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Cymunedau'n Gyntaf – Trosglwyddo o'r rhaglen hon, sydd bellach wedi dod i ben, ac etifeddiaeth; cynaladwyedd prosiectau'r Gronfa Etifeddol a ffynonellau amgen o gyllid wrth i gyllid ddod i ben yn raddol

·                Tlodi – Bydd Fforwm Partneriaeth Tlodi yn cwrdd bob tri mis – cyfleoedd i drafod materion ag Asiantaethau Tai e.e. cael eu cefnogaeth ar gyfer prosiectau megis Faith in Families a chyfleoedd posib ar gyfer cydweithio ag Asiantaethau Tai e.e. cydweithio ar fentrau megis Newyn Gwyliau

·                Rhaglen Chwistrellu Chwyn – Pryderon ynghylch defnyddio chwynladdwyr sy'n cynnwys glyffosad i reoli chwyn a'r angen am ymagwedd ragofalus. Roedd nifer o gynghorau'n chwilio am ddewisiadau amgen ac yn ystyried peidio â'u defnyddio'n raddol – dadleuodd rhai y dylid gadael y sefyllfa fel y mae h.y. peidio â thorri/chwynnu i gefnogi bioamrywiaeth/yr ecosystem

·                Hawliau Lles – gwaith y Tîm Hawliau Lles a'r effaith ariannol a chydnabod awgrym Aelod y Cabinet sef y dylai'r tîm craffu edrych ar ba mor dda y cyflwynir cefnogaeth a chyngor ar hawliau lles ac ymroddiad i drechu tlodi ar draws y cyngor e.e. gan staff sy'n gweithio i'r gwasanaethau cymdeithasol, tai ac adrannau eraill sydd mewn cyswllt uniongyrchol â phobl ddiamddiffyn. Cafwyd trafodaeth ynghylch effaith cynyddu Treth y Cyngor ar ôl-ddyledion – cyngor gwell/cymorth i bobl ddiamddiffyn gan gynnwys sicrhau bod pobl yn derbyn hawliau a budd-daliadau.

·                Banciau bwyd – nid cyfrifoldeb Aelod y Cabinet oedd y rhain ond cyfrifoldeb sefydliadau annibynnol.

·                Dinas Hawliau Dynol – roedd 'Datganiad o Fwriad' a rennir ar barchu hawliau dynol yn Abertawe yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid.

·                Rhandiroedd – yr angen am gyfathrebu ynghylch trosglwyddo rheolaeth o randiroedd – cysylltu â chynghorau cymuned.

·                Cydlyniant Cymunedol – ystyried a oedd mynegai i fesur cydlyniant cymunedol. Penodwyd Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol yn ddiweddar ac roedd arolwg cyhoeddus yn cael ei gynnal i geisio barn a phrofiadau pobl ond nodwyd bod ychydig iawn o ymatebion wedi'u derbyn hyd yn hyn.

·                Cynnwys y Gymuned, Ymgynghori a Chydgynhyrchu – ffyrdd o wella ymgysylltu ar draws yr holl ardaloedd.

·                Strategaeth Cynhwysiad Digidol – nodwyd bod gwaith ar Strategaeth Cynhwysiad Digidol a Chynllun Gweithredu'n mynd rhagddo – y nod oedd integreiddio gyda Strategaeth Cynhwysiad Digidol Llywodraeth Cymru. Disgwylir fframwaith drafft erbyn diwedd mis Ebrill 2019.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

137.

Craffu ar Droseddu ac Anhrefn - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. pdf eicon PDF 554 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Prif Uwch-arolygydd Martin Jones (Heddlu De Cymru) yn bresennol i ddarparu adroddiad cynnydd ar Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel ac ateb unrhyw gwestiynau. Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau, y Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu a'r Prif Uwch-arolygydd newydd, Jo Maal, hefyd yn bresennol i gefnogi gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Cyfeiriodd y Prif Uwch-arolygydd at newidiadau i'r arweinyddiaeth a fyddai'n cynnwys Jo Maal ac Adam Hill yn rhannu'r cyfrifoldeb o gyd-gadeirio Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Siaradodd hefyd am sut roedd ffocws partneriaethau diogelwch cymunedol a phlismona wedi newid dros y deng mlynedd diwethaf, gyda ffocws mwy ar ddioddefwyr trosedd, bod yn ddiamddiffyn, a oedd yn gofyn am newidiadau mewn ymagweddau a thactegau'r holl bartneriaid.      

 

Darparwyd cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·                     Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel:

o    Gweledigaeth y bartneriaeth

o    Diben y bartneriaeth

·                     Blaenoriaethau strategol

·                     Gweithgareddau a chyraeddiadau allweddol o ran:

o    Cymunedau diogel, hyderus a chadarn

o    County Lines a chamddefnyddio sylweddau

o    Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)

o    Economi gyda'r hwyr a chyda'r nos

o    Monitro troseddau casineb a thyndra cymunedol

·                     Ystadegau perfformiad a throseddau

·                     Heriau presennol a rhai sy'n dod i'r golwg

 

Cyfeiriodd y Prif Uwch-arolygydd at gyhoeddusrwydd negyddol diweddar yn y wasg am y Stryd Fawr a chydnabu fod heriau yn yr ardal honno. Trafododd weithgareddau diogelwch cymunedol a chyfeiriodd at adfywio'r Stryd Fawr a'r gwelliannau sydd yn yr arfaeth.

 

Adroddodd y Prif Uwch-arolygydd fod bod yn ddiamddiffyn yn fater allweddol ac roedd Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) bellach wedi'u sefydlu ar gyfer pobl ddiamddiffyn ar y stryd a gweithwyr yn y diwydiant rhyw. Roedd yr ymagwedd hon yn gweithio'n dda ac roedd hi wedi peri i rai pobl drawsnewid eu bywydau. Roeddent hefyd wedi bod yn ystyried arfer da a welwyd mewn rhanbarthau eraill.

 

Cafwyd cydlynu ac ymwybyddiaeth well o County Lines ynghyd â pheth gwaith llwyddiannus ar wella rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid, gan arwain at gamau gweithredu cynt. Yr her oedd canolbwyntio ar sail y galw am gyffuriau a chanolbwyntio ar y rhai sy'n eu camddefnyddio. Roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau'n cwrdd yn rheolaidd ac yn canolbwyntio ar ymdrechion sy'n canolbwyntio'n fwy ar allgymorth ac ar gael mwy o bobl i dderbyn triniaeth. Bu trafodaeth ynghylch yr ymdrechion i gynnwys materion am County Lines yn y system addysg fel y byddai disgyblion, rhieni ac athrawon yn ymwybodol o'r bygythiad/risgiau.

 

Rhannwyd cyraeddiadau mewn perthynas â mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – gyda ffocws ar ddatrys problemau drwy ymyrryd cyn gynted â phosib. Amlygwyd cysylltiadau agos rhwng y bartneriaeth a'r byrddau diogelu.

 

Gwnaed llawer o waith ardderchog mewn perthynas â'r economi gyda'r nos ac yn hwyr yn y nos ac mae angen i'r gwaith hwn gael ei wneud yn Uplands, lle mae'r economi gyda'r nos yn tyfu. 

 

Troseddau hiliol oedd y troseddu casineb yr adroddwyd amdanynt fwyaf o hyd ac mae angen gwneud gwaith o hyd i annog pobl i adrodd am y troseddau hyn. Roedd cyfiawnder adferol wedi bod yn eithaf llwyddiannus yn y maes hwn. Roedd y bartneriaeth hefyd yn ymwybodol o dyndra ynghylch Brexit ar draws y DU ac roedd hyn yn cael ei fonitro'n lleol. 

 

O ran ystadegau troseddau, nodwyd bod mwy o ladrata, masnachu cyffuriau a threisio wedi bod.

 

Roedd yr heriau a amlygwyd i'r pwyllgor yn cynnwys troseddau cyfundrefnol gan fod llwyth o achosion o ladrata o anheddau wedi bod yn Abertawe. Cynhaliwyd gweithrediadau a berodd i nifer yr achosion leihau a gwnaethpwyd llawer o waith gyda'r dioddefwyr. Pwysleisiodd y Prif Uwch-arolygydd yr her o wneud mwy gyda llai o adnoddau, gan herio partneriaid i rannu'r cyfrifoldeb a gwneud pethau'n wahanol.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell (Pobl) fod y cynllun Rhoi'n Gall yn cael ei adolygu ac y bydd canlyniadau'r adolygiad ar gael yn fuan. Diolchodd hefyd i'r Prif Uwch-arolygydd am ei holl waith ar y bartneriaeth, a siaradodd yn gadarnhaol am ei datblygiad a'i heffeithiolrwydd, gyda chysylltiadau da â'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Amlygodd y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau'r gwaith da a oedd yn mynd rhagddo wrth drawsnewid y Stryd Fawr a Stryd y Gwynt a nododd fod myfyrwyr yn dod â manteision i'r ddinas a'u bod wedi cyfrannu'n sylweddol at ennill Gwobr y Faner Borffor. Roedd yn hanfodol eu bod yn teimlo'n ddiogel yn Abertawe. Rhoddodd sylwadau hefyd ar yr awyrgylch a'r brwdfrydedd cadarnhaol o fewn y bartneriaeth i fynd i'r afael â phroblemau. Cydnabu'r angen i ddarparu mwy o sicrwydd i'r cyhoedd a gwaith ar wneud Abertawe'n lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac ymweld ag ef. 

 

Amlygodd y Rheolwr Partneriaethau a Chomisiynu y ffocws ar ymyrryd yn gynnar.

 

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Jo Maal, y byddai'n parhau â'r gwaith da a wnaed gan y Prif Uwch-arolygydd, Martin Jones, ar ôl iddo adael a'i bod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r cyngor yn y blynyddoedd i ddod.

 

Gofynnodd aelodau amrywiaeth o gwestiynau a oedd yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol:

 

·         Effeithiolrwydd cyfarfodydd PACT a ffyrdd eraill o ymgysylltu a rhannu gwybodaeth â chynghorwyr lleol.

·         Pryderon ynghylch y system adrodd 101 a hyder y cyhoedd ynddi.

·         Pwerau cyfyngedig Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) – mae angen adolygu/cynyddu eu nifer

·         Hyfforddiant/gwybodaeth am County Lines a'r hyfforddiant a ddarperir i ysgolion – ystyried hefyd sut y gellir monitro effeithiolrwydd yr hyfforddiant

·         Y Stryd Fawr – yr angen i ddatrys problemau, gan ystyried ei fod yn borth i'r ddinas

 

Diolchodd y Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Adnoddau a'r Cadeirydd i'r Prif Uwch-arolygydd, Martin Jones, am ei holl waith ac ymroddiad, a gwnaethant ddymuno'n dda i'r Prif Uwch-arolygydd newydd, Jo Maal, wrth iddi gamu i'r rôl. Diolchwyd i Reolwr y Bartneriaeth a Chomisiynu hefyd am ei gwaith, yn enwedig y gwaith a wnaed ar gam-drin domestig.  

138.

Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad. pdf eicon PDF 122 KB

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (y Cynghorydd Mary Jones, Cynullydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd a Chynullydd Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus adroddiad cynnydd.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad.

139.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu.

 

Penderfynwyd:   -

1)    Dileu enw'r Cynghorydd Mary Jones o'r Gweithgor Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

2)    Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr Susan Jones ac Irene Mann at y Gweithgor Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

140.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 141 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2018/19. Amlygodd y trefnwyd yr eitemau canlynol ar gyfer cyfarfod nesaf y pwyllgor a'r un terfynol y flwyddyn ddinesig hon. -

 

·                Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Gyflwyno – Y Cynghorydd David Hopkins

 

·                Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth – Y Cynghorydd Robert Francis-Davies (Ail-drefnwyd o 11 Marwth)

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r pwyllgor ystyried cwestiynau cyn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd y trefnir cyfarfod anffurfiol cyn cyfarfod terfynol y pwyllgor er mwyn i aelodau fyfyrio ar waith a phrofiad craffu'r flwyddyn. Byddai hefyd yn gyfle i drafod materion mewn perthynas ag arfer, gwella a datblygu craffu.

141.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd adroddiad y llythyrau craffu.

142.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Darparwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

 

Dywedodd y Cadeirydd y gwahoddir Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio i gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu ym mis Gorffennaf a'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith ym mis Mehefin. 

143.

Dyddiad ac Amserau Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Darparwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth.

 

Nododd y Cadeirydd rai diwygiadau i'r cyfarfodydd:

·                Canslo cyfarfod y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid a drefnwyd ar gyfer 9 Ebrill.

·                Cynhelir cyfarfod ychwanegol ar gyfer Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar 30 Ebrill.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 256 KB