Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar
ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad ar benawdau
allweddol ei bortffolio. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: Baw Cŵn ·
Bu
problemau staffio dros gyfnod y Nadolig a effeithiodd ar gasgliadau biniau baw
cŵn oherwydd bod casgliadau gwastraff cartref wedi’u blaenoriaethu dros y
cyfnod hwn. Roedd gwersi wedi'u dysgu a rhagwelwyd na fyddai'r sefyllfa yn codi
eto’r Nadolig nesaf; ·
Y
broses gasglu ar gyfer biniau baw cŵn; Sbwriel a
Thipio Anghyfreithlon ·
Y
gost o glirio "mannau cyffredin" tipio anghyfreithlon rheolaidd ac a
allai cynllun tebyg i amnest wneud gwahaniaeth;
Iechyd yr
Amgylchedd ·
Roedd
y cynnydd yn nifer y llygod mawr a adroddwyd y llynedd yn gysylltiedig â'r
tywydd cynnes anarferol yn hytrach nag unrhyw broblemau sylfaenol. Ailadroddwyd mai Cyngor Abertawe oedd un o'r
ychydig awdurdodau a oedd heb godi tâl am y gwasanaeth hwn eto; ·
Ni
fyddai unrhyw newidiadau i wiriadau a gweithdrefnau diogelwch bwyd mewn
ysgolion yn dilyn Brexit; ·
A
ystyriwyd holl faterion preifatrwydd mewn perthynas â chasglu data mewn
perthynas â'r astudiaeth gydweithredol bosibl â Phrifysgol Abertawe a Vortex Internet of Things a
fyddai'n edrych ar gasglu data ansawdd aer, traffig a pharcio cyfredol, lleol
yng nghanol y ddinas; Priffyrdd ac
Isadeiledd ·
Polisi/proses
ar gyfer cyrbau wedi'u gostwng - oherwydd y boblogaeth sy'n heneiddio, tynnwyd
sylw at y ffaith bod angen gostwng mwy o gyrbau i'r henoed, yn enwedig yn ward
y Castell. Yn ychwanegol, dylid ystyried hyn yn ystod y cam cyflwyno cais
cynllunio ar gyfer adeiladau newydd; Lleihau Tlodi ·
Roedd
hon yn ystyriaeth drawsbynciol i holl Bortffolios y Cabinet ei hystyried; Claddedigaethau
ac Amlosgiadau ·
Trafodwyd
yr opsiynau niferus sydd ar gael i'r grwpiau lleiafrifoedd ethnig gwahanol; Mynediad i
gefn gwlad ·
A
ellid archwilio unrhyw grantiau/arian ychwanegol er mwyn cynorthwyo'r tîm bach
iawn; Cynnal a
chadw'r Marina, y Blaendraethau a Thraethau ·
Holwyd
am y rheswm dros y problemau gyda cholli tywod yn Knab
Rock; Gwaredu
Gwastraff Niwclear ·
Byddai'r
awdurdod yn ystyried ei ymateb llawn i'r ymgynghoriad maes o law. Cafwyd cwestiwn
hefyd gan aelod o'r cyhoedd mewn perthynas â graddfa ehangu'r brifysgol a'i
effaith ar gymunedau a theuluoedd lleol drwy dai amlfeddiannaeth. Nododd Aelod
y Cabinet y pryderon a nododd fod ei gyfrifoldebau portffolio mewn perthynas â
thai amlfeddiannaeth wedi'u cyfyngu i orfodi o ran materion amgylcheddol megis
gwastraff, sŵn a diogelwch a diffyg cydymffurfiad ag amodau trwyddedu gan
landlordiaid/denantiaid, ond byddai aelodau eraill y Cabinet mewn sefyllfa well
i roi sylwadau ar y materion a godwyd. PENDERFYNWYD y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan fyfyrio ar y drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Peter Jones, y Cynullydd, adroddiad terfynol yr ymchwiliad craffu
i'r Amgylchedd Naturiol. Diolchodd i Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, am ei gefnogaeth ar y pwnc
hwn ac am gymorth a chyfraniad amhrisiadwy y Swyddog Craffu, Bethan Hopkins,
wrth gefnogi'r ymchwiliad. Cafwyd peth
trafodaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng adfywio economaidd a'r amgylchedd a'r
gwrthdaro a all fodoli rhwng datblygu a diogelu'r amgylchedd. Cafwyd peth
trafodaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng adfywio economaidd a'r amgylchedd a gwrthdaro
a all fodoli rhwng datblygu a diogelu'r amgylchedd. Cymeradwyodd y
Cadeirydd yr adroddiad cynhwysfawr a bu'n canmol y Panel Ymchwilio am ei waith. Penderfynwyd cytuno ar yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Cabinet. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 119 KB Gwasanaethau I Oedolion (Y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Cynullydd Peter Black adroddiad am y diweddaraf ar Banel Perfformiad
Gwasanaethau i Oedolion. Cyfeiriodd yn benodol at bryderon ynghylch Gofal Cartref Tymor Hir, Rhaglen
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, ac Oedi wrth Drosglwyddo Gofal.
Dywedodd y byddai cyfarfod â Bwrdd Iechyd PABM ar 26 Mawrth, a aildrefnwyd o
fis Ionawr, i drafod newidiadau i gwmpas rhanbarthol y bwrdd iechyd a
gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Penderfynwyd nodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. PDF 111 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad am Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. Penderfynwyd: 1)
Panel
Ymchwilio Cydraddoldeb - tynnu enw'r Cynghorydd L V Walton; 2)
Gweithgor
Twristiaeth - ychwanegu enwau'r Cynghorwyr C Anderson ac R D Lewis; 3)
Gweithgor
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - ychwanegu enw'r Cynghorydd C Anderson, tynnu
enw'r Cynghorydd E W Fitzgerald; 4) Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio - tynnu enw'r Cynghorydd G J Tanner. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. PDF 117 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am
'Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol'. Penderfynwyd cytuno ar gynnwys yr 'Adroddiadau Craffu' drafft a'u cyflwyno i'r cyngor. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2017/18. PDF 139 KB Trafodaeth am: a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2018/19. Byddai Sesiwn
Holi Aelod y Cabinet ar gyfer cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu gydag
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a gofynnodd y Cadeirydd
i aelodau'r pwyllgor roi ystyriaeth i gwestiynau. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r pwyllgor hefyd y byddai'r sesiwn Craffu ar Droseddu ac Anhrefn flynyddol yn debygol o gael ei ychwanegu at y cyfarfod pwyllgor a drefnwyd eisoes ar gyfer 8 Ebrill. Ychwanegodd fod gwaith Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn berthnasol i sesiwn holi Aelod y Cabinet a gynlluniwyd ar gyfer y cyfarfod hwnnw. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd am log y llythyrau craffu. Roedd yr ohebiaeth yn ymwneud â
phresenoldeb Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant yng nghyfarfod mis
Tachwedd 2018. Nodwyd y log a'r llythyrau. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 80 KB Cofnodion: Darparwyd y
Cynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. PDF 50 KB Cofnodion: Rhoddwyd dyddiadau
ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth. |
|