Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
gysylltiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor
y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 13 Awst 2018 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad ar y prif benawdau ar
gyfer y Portffolio Trawsnewid Busnes a Pherfformiad. Rhoddodd anerchiad llafar
yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a gylchredwyd a oedd yn amlygu
gweithgareddau ynghylch y canlynol: - ·
Agenda
Ddigidol ·
Adolygiadau
Comisiynu – Modelau cyflwyno newydd ·
Cydlynwyr
Ardaloedd Lleol ·
Abertawe
Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol ·
Arbedion
ariannol ·
Peilot
Gwasanaethau yn y Gymuned Roedd cwestiynau
a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Y
Gronfa Bensiwn – buddsoddiad mewn tanwyddau ffosil, y polisi presennol a'i
addasrwydd ·
Adolygiadau
comisiynu - adrodd i'r gwasanaeth craffu am ganlyniadau ac effeithiolrwydd ar
ôl eu rhoi ar waith ·
Gweithio
ystwyth - yr effaith ar y polisi gweithio ar eich pen eich hun yn sgîl mwy o
weithio ystwyth a dulliau diogelu ·
Risgiau
a chadernid – cynnwys y risgiau sy'n ymwneud â Brexit a'r Fargen Ddinesig ar y
gofrestr risgiau ·
Cyllideb
– pryder ynglŷn â morâl wrth i gyni barhau a'r effaith ar ddatblygiad
sefydliadol ·
Y
Ganolfan Ddinesig - hyd y prydlesi a roddir i bartneriaid yn y sector
cyhoeddus, a chynlluniau datblygu ar gyfer y Ganolfan Ddinesig ·
Prosiect
peilot Gwasanaethau yn y Gymuned - cynnwys partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus wrth ddatblygu hwb cymunedol ·
Cytundeb
Prydles y Stadiwm Liberty - cynnydd ar gyflwyno caeau 3G ·
Cydgynhyrchu
- ymagwedd y cyngor at ymgynghori a chynnwys ·
Moderneiddio'r
cyngor - arbedion yn deillio o brosiectau TGCh ·
Ystadau
Strategol a Rheoli Eiddo - refeniw a dderbyniwyd drwy werthu tir nad oedd ei
angen ar ôl yr adolygiad o holl dir y cyngor ·
Rhaglen
Gyfalaf - Bargen Ddinesig Bae Abertawe; datblygu strategaeth gyfalaf ar y cyd â
datblygiadau technegol a gynigiwyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus
a Chyfrifeg (CIPFA) ·
Masnacheiddio
– cynnydd ar y syniad o sefydlu cwmni ynni Penderfynwyd: - 1)
Y
bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan
adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor; 2)
Cyflwyno
ymateb ysgrifenedig gan Aelod y Cabinet ar y canlynol: ·
Gweithio
ystwyth - hyd y prydlesi a roddir i bartneriaid yn y sector cyhoeddus yn y
Ganolfan Ddinesig ·
Gwybodaeth
a newid busnes - arbedion sydd wedi deillio o foderneiddio/fuddsoddi mewn
gwasanaethau digidol ·
Rhaglen
gyfalaf – eglurder am sefyllfa bresennol/gynnydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe
(cymeradwyo achosion busnes/derbyn arian grant) a gwybodaeth arall am ddatblygu
strategaeth gyfalaf a pha ddatblygiadau technegol a gynigiwyd gan y CIPFA. · Risgiau a chadernid – rhannu'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol â phob cynghorydd |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: PDF 119 KB Gwasanaethau i
Oedolion (Y Cynghorydd Peter Black, Cynullydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Peter
Black, Cynullydd Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion, ddiweddariad am
waith y panel hyd yn hyn. Dywedodd fod un o'r materion allweddol, o ran y
Gwasanaeth Anableddau Dysgu, yn parhau. Tynnwyd sylw
penodol at y cyfarfodydd canlynol sydd ar ddod: - ·
17
Medi 2018 – Craffu Cyn Penderfynu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar Wasanaethau
Gofal Preswyl a Dydd ar gyfer Pobl Hŷn (bydd y Cynghorydd Chris Holley yn
cadeirio yn absenoldeb y Cynghorydd Black) ·
15 Ionawr
2019 – bydd Prif Weithredwr a Chadeirydd PABM yn dod i roi gwybod i'r panel am
eu gweledigaeth ar gyfer Abertawe pan fydd nifer yr awdurdodau yn PABM yn cael
ei leihau i ddau ·
19
Mawrth 2019 – cyfarfod briffio ar ddiogelu – caethwasiaeth fodern/masnachu pobl
(roedd y pwyllgor wedi cyfeirio'r eitem hon i'r panel) Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, "Trosolwg a Chraffu: Addas
i'r Dyfodol? – Cyngor Dinas a Sir Abertawe”. Pwysleisiodd y
Cadeirydd ei fod yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan a oedd yn cydnabod arfer
craffu da. Mae'r adroddiad wedi dod i'r casgliad bod craffu yn Abertawe: ·
Mewn
sefyllfa dda i ymateb i heriau yn y dyfodol, ·
Yn
herio pobl sy'n gwneud penderfyniadau'n rheolaidd ac ·
Mae
ganddo drefniadau i adolygu ei effeithiolrwydd ei hun. Roedd yr adroddiad yn cynnwys tri chynnig ar gyfer gwella: ·
Llunio
rhaglen hyfforddiant a datblygiad ar gyfer aelodau craffu; ·
Cryfhau
gwerthusiad effaith a chanlyniadau gweithgareddau craffu; ac ·
Egluro
ymhellach y gwahaniaeth rhwng gweithgareddau pwyllgorau craffu a phwyllgorau
datblygu polisïau mewn perthynas â datblygu polisïau. Nododd y
Cadeirydd fod rhaid i'r awdurdod lunio cynllun gweithredu mewn ymateb i'r
adroddiad. Gofynnwyd am farn y pwyllgor i helpu i lywio datblygiad cynllun
gweithredu priodol. Bu'r pwyllgor yn
trafod yr adroddiad ac yn benodol yn ystyried y cynigion ar gyfer gwella.
Dywedwyd bod yr adroddiad yn gofyn am ymateb corfforaethol gan ei bod yn bosib
y gall eraill gyfrannu camau gweithredu a fydd yn helpu i sicrhau gwelliant yn
y meysydd hyn. Er enghraifft, mae anghenion/rhaglenni hyfforddi a datblygu'n
rhywbeth y byddai Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn eu trafod, a
byddai angen barn gan y Weithrediaeth ynghylch
sicrhau gwahaniaeth clir rhwng pwyllgorau craffu a datblygu polisïau.
Cyflwynodd y Cadeirydd sylwadau am yr angen i ailsefydlu mecanwaith ar gyfer
Cadeirydd Craffu a chadeiryddion datblygu polisïau i gwrdd yn anffurfiol i
drafod cynlluniau gwaith. Ystyriwyd bod yr angen i gasglu adborth Aelodau’r
Cabinet o'u cysylltiadau â chraffu'n bwysig hefyd er mwyn cryfhau'r modd y
gwerthusir effeithiolrwydd, effaith a chanlyniadau gweithgareddau craffu. Bu
sylwadau hefyd am yr her o nodi canlyniadau mesuradwy ar ddechrau ymchwiliadau
a all helpu i arddangos effaith. Penderfynwyd y dylai'r ymateb/cynllun gweithredu drafft yn sgîl adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ddychwelyd i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ar ôl mewnbwn angenrheidiol gan aelodau/swyddogion perthnasol eraill. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 104 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Darparodd
Arweinydd y Tîm Craffu ddiweddariad llafar i'r adroddiad: Penderfynwyd cytuno ar y canlynol: 1)
Panel
Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – tynnu enw'r Cynghorydd Irene
Mann 2) Gweithgor Parcio i Breswylwyr – tynnu enwau'r Cynghorydd Mike Day, y Cynghorydd Chris Holley a'r Cynghorydd Robert Smith |
|
Rhaglen Waith Craffu 2018/19. PDF 141 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2018/19. Tynnodd sylw at y
ffaith y byddai'r cyfarfod nesaf ar 8 Hydref 2018 yn cynnwys yr Adroddiad
Diogelu Corfforaethol Blynyddol yn ogystal â Sesiwn Holi Aelod y Cabinet gydag
Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau. Tynnodd Arweinydd
y Tîm Craffu sylw at y canlynol: - ·
Roedd
cyfarfod cyntaf y Panel Ymchwiliad Anghydraddoldebau wedi'i drefnu ar gyfer 11
Hydref 2018 · Roedd cyfarfod cyntaf y Gweithgor Parcio i Breswylwyr wedi'i drefnu ar gyfer 3 Hydref 2018 Trafodwyd
trefniadau ar gyfer craffu ar y Strategaeth Digartrefedd, yr oedd ymgynghoriad
arni wrthi'n cael ei chynnal. Cytunodd y pwyllgor y dylid trefnu cyfarfod i'r
pwyllgor drafod y Strategaeth Digartrefedd wrth i'r ymgynghoriad gael ei
gynnal, cyn unrhyw waith craffu ar y strategaeth derfynol, sydd wedi'i drefnu
ar gyfer cyfarfod y Cabinet ar 15 Tachwedd 2018. Penderfynwyd: 1)
Nodi
cynnydd ar Raglen Waith Craffu 2018/19; a 2) Threfnu cyfarfod arbennig i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ystyried y Strategaeth Digartrefedd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad am lythyrau craffu. Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 75 KB Cofnodion: Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.
Dywedodd y Cadeirydd y bydd hi'n mynd i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 9
Hydref 2018 ac y byddai'n gwahodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu i ddod i
un o gyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 46 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf
paneli/gweithgorau. |
|