Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad
personol â chofnod 33 - Cyfarwyddwr Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe
(SCEES). |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfodydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar y dyddiadau canlynol fel cofnodion
cywir: ·
19
Mehefin 2018; ·
9
Gorffennaf 2018; ·
20
Gorffennaf 2018. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr Lleoedd a
Rheolwr y Gwasanaethau Landlordiaid am benawdau allweddol y Portffolio Cartrefi
ac Ynni. Rhoddodd anerchiad llafar yn ogystal â'r adroddiad ysgrifenedig a
gylchredwyd a oedd yn amlygu gweithgareddau ynghylch y canlynol: - ·
Cyflwyno
Rhagor o Gartrefi - Parc yr Helyg a Colliers Way; ·
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer (y Fargen Ddinesig); ·
Safon
Ansawdd Tai Cymru (SATC); ·
Strategaeth
Digartrefedd; ·
Polisi
Datblygu Cerbydlu Gwyrdd; ·
Ynni; ·
Adolygiad
Comisiynu Gwasanaethau. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Tai -
a yw cyflwyno Credyd Cynhwysol wedi effeithio ar y rhai sy'n rhentu trwy
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC) neu'r sector rhentu preifat; ·
Strategaeth
Digartrefedd - bydd cyfle i Bwyllgor y Rhaglen Craffu drafod y fersiwn ddrafft
o'r Strategaeth Digartrefedd cyn i’r Cabinet gytuno arni ar 15 Tachwedd. Nodwyd
y bydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Tlodi yn ei thrafod cyn penderfynu arni a
bydd hefyd yn cael ei chyflwyno i'r cyngor ar 20 Rhagfyr am wybodaeth a'r
bwriad yw ei rhoi ar waith ar 21 Rhagfyr 2018; ·
Tai
Fforddiadwy - diffiniad o'r term 'Tai Fforddiadwy' - trafodaeth am y mathau
niferus o dai fforddiadwy, e.e. tai cyngor, prynu trwy berchnogaeth a rennir,
costau rhent is neu bris prynu dan werth y farchnad, dichonoldeb, etc.; ·
Diogelwch tân – cwblhawyd y
gwaith o ôl-osod system daenellu ym Mhenlan ac mae ar
ddigwydd yn Clyne Court.
Hyfforddwyd staff mewnol gan alluogi'r awdurdod i gynnig y gwasanaeth hwn i
ddatblygwyr preifat/allanol; profwyd diogelwch y cladin allanol yn llawn ynghyd
â diogelwch y drysau tân allanol - cymeradwywyd popeth; ·
Eiddo Gwag - nodwyd bod 49 o eiddo gwag yn cael eu
defnyddio eto oherwydd cynllun cenedlaethol, sydd wedi creu 85 o unedau llety
ychwanegol. Mae nifer o eiddo gwag wedi cael eu gwella er mwyn cyrraedd safon
SATC; ·
Tudno Place a Heol Emrys -
cynhelir ymgynghoriad llawn mewn perthynas â'r Prisiad Tir a'r Astudiaeth
Ddichonoldeb (fel rhan o Strategaeth Rhagor o Gartrefi Abertawe); ystyrir pob
opsiwn ar gyfer eu gwella, gan gynnwys adeiladau newydd. Fodd bynnag, mae'n
gynnar iawn yn y broses; mae'r ymgynghorwyr annibynnol wedi dechrau curo ar
ddrysau rhai o'r tenantiaid a'r aelodau ward a fydd yn rhan o'r ymgynghoriad; ·
Trafnidiaeth/Cerbydau Gwyrdd - roedd gwaith gyda
Phrifysgol Abertawe'n parhau er mwyn ystyried y posibilrwydd
o ôl-osod celloedd hydrogen yn rhai cerbydau o'n cerbydlu,
megis ein cerbydau gwastraff, a fydd yn helpu i wella ansawdd aer; ·
Adolygiad Comisiynu Tai - rhennir yr amserlen ar gyfer yr
Adolygiad Comisiynu o'r holl wasanaethau tai a dogfen gwmpasu'r adolygiad â'r
pwyllgor. Y dyddiad cwblhau arfaethedig
fyddai 2019/20, a byddai cwmpas yr adolygiad yn cynnwys Swyddfeydd Tai
Rhanbarthol; ·
Strategaeth Rhagor o Gartrefi – yr angen am ragor o dai
fforddiadwy mewn ardaloedd eraill yn Abertawe megis gogledd a gorllewin
Abertawe, gan gynnwys Gŵyr, nid yr ochr ddwyreiniol yn unig - ystyrir pob
safle a phob opsiwn, e.e. gweithio gyda phartneriaid; ·
Cwmni Gwasanaethau Ynni (ESCO) - aneglur a fyddai'n
defnyddio ynni sy'n hollol adnewyddadwy.
Efallai y bydd angen dechrau gyda thanwydd ffosil â'r bwriad o symud
ymlaen at ynni adnewyddadwy, e.e. solar, neu gymysgedd o danwydd ffosil ac ynni
adnewyddadwy, a bydd angen ei seilio ar achos busnes cadarn; roedd mynd i'r
afael â thlodi tanwydd yn dal i fod yn un o amcanion allweddol yr awdurdod; ·
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (prosiect y Fargen
Ddinesig) - trafodaeth am ddod o hyd i ynni; trafodaethau partneriaeth yn
parhau â Phrifysgol Abertawe mewn perthynas â systemau ffotofoltäig
a systemau eraill, e.e. gwres o'r ddaear; byddai tai preifat yn gymwys i elwa
ohono; disgwylir y bydd y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer hefyd yn
gwneud gwahaniaeth i fusnesau lleol trwy ddechrau rhaglen adeiladu gwerth
£515,050,000 ar ôl buddsoddiad y Fargen Ddinesig gwerth £15 miliwn (3% o werth
y rhaglen gyfan); ystyrir pob grant a phob cyfle i ariannu cynlluniau yn y
dyfodol. ·
Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe (SCEES) - pwrpas
y cynllun a phrynu cyfrannau gan y cyngor. Penderfynwyd 1)
y
bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan
adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor; 2)
cyflwyno
ymateb ysgrifenedig ar y canlynol: - ·
effaith
Credyd Cynhwysol ar dai mewn perthynas â'r sector rhentu preifat; ·
amserlen
ar gyfer ôl-osod y system daenellu; ·
nifer
gwirioneddol yr eiddo gwag yn y sector preifat ar draws Abertawe; ·
gwybodaeth
bellach am amserlen yr Adolygiad Comisiynu o'r holl wasanaethau tai; ·
eglurhad ynghylch y ffigurau a ddyfynnwyd mewn perthynas
ag effaith prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer y Fargen Ddinesig Diolchodd yr Is-gadeirydd i'r Cynghorydd Lewis a'r swyddogion am eu
presenoldeb. |
|
Adroddiadau Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu. PDF 118 KB Gwella
Gwasanaethau a Chyllid (Y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Chris
Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid,
ddiweddariad am waith y panel hyd yn hyn. Amlygodd y
canlynol yn benodol: ·
Y
cyfarfod cyllid ychwanegol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2018 a mynegodd bryder
ynghylch yr amserlen gyfyngedig iawn ar gyfer craffu; ·
Taliadau
- darn mawr o waith sy'n cynnwys dros 260 o daliadau a 350 o ffïoedd; ·
Adolygiad
Comisiynu Priffyrdd a Chludiant - darn mawr arall o waith roedd yn teimlo y
gellir ei rannu'n ddau adolygiad ar wahân; ·
Adolygiad
Comisiynu Opsiynau Cynigwyr Terfynol Gwasanaethau Diwylliannol - roedd yn
cynnwys gwybodaeth sensitif iawn - bu pryderon am ddigonolrwydd cyfathrebu â'r
staff a'r cynghorwyr. Ychwanegodd fod y
panel yn awyddus i gael cip arall ar yr Adolygiadau Comisiynu a ystyriwyd gan y
panel er mwyn trafod y llwyddiannau, yr effaith a'r gwahaniaeth a wnaed. Penderfynwyd
nodi'r wybodaeth
ddiweddaraf. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad a oedd yn amlinellu aelodaeth paneli a gweithgorau craffu.
Nodwyd y cyfetholwyd y Cyng. Peter Jones i Banel Craffu Perfformiad y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus trwy gydol Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol y
mae'n ei gynnull. Wedi iddo ofyn am
fynegiannau o ddiddordeb gan yr holl gynghorwyr anweithredol, cyflwynodd y
Cadeirydd restr aelodaeth arfaethedig ar gyfer y pynciau newydd ar gyfer
ymchwiliadau a gweithgorau. Penderfynwyd: 1) cytuno ar yr aelodaeth paneli a gweithgorau fel a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a 2) phenodi'r Cynghorydd Louise Gibbard fel cynullydd y Gweithgor Diwygio Lles. |
|
Rhaglen Waith Craffu 2018/19. PDF 143 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Tîm Craffu'r Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2018/19. Amlygodd y
canlynol: ·
Bydd y
cyfarfod nesaf ar 10 Medi 2018 yn cynnwys Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad (Dirprwy Arweinydd) - y
Cynghorydd Clive Lloyd; ·
Y
weithdrefn galw i mewn - rhoddodd y cyngor y trefniadau galw i mewn newydd ar waith
ar 26 Gorffennaf, sy'n rhoi craffu wrth wraidd y broses; ·
Sefydlwyd
Cyd-bwyllgor Craffu o ganlyniad i Gytundeb Gweithio ar y cyd Bargen Ddinesig
Bae Abertawe. Cadarnhawyd mai
cynrychiolwyr Abertawe fydd y Cynghorwyr Jan Curtice, Phil Downing a Mary Jones.
Disgwylir i gyfarfod cyntaf y Cyd-bwyllgor Craffu, a gefnogir gan Gyngor
Castell-nedd Port Talbot, gael ei gynnal tua mis Hydref; ·
Darparwyd cynlluniau gwaith y Pwyllgor Datblygu Polisi er
mwyn sicrhau ymwybyddiaeth; ·
Derbyniwyd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn
ddeillio o'i hadolygiad o graffu - 'Trosolwg a Chraffu - Addas i'r Dyfodol?' -
gan y cynghorwyr trwy e-bost, ac fe'i cylchredwyd yn yr un modd. Ystyrir yr adroddiad yng nghyfarfod nesaf
Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 10 Medi 2018. Penderfynwyd: 1)
nodi'r
Rhaglen Waith ar gyfer
2018/19; 2)
gwneud
trefniadau i'r pwyllgor drafod y Strategaeth Digartrefedd ddrafft ar gam cynnar
cyn penderfynu arni, e.e. yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddwyd am y llythyr
i/oddi wrth Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni mewn perthynas â gwaith y
Gweithgor Craffu Digartrefedd. Siaradodd cynullydd y
gweithgor, y Cynghorydd Peter Black, am y gweithgaredd craffu hwn ac amlygodd
ei gyfraniad at ddatblygu'r Strategaeth Digartrefedd. Nodwyd y llythyrau craffu ac ymatebion Aelodau'r
Cabinet. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 75 KB Cofnodion: Nodwyd cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio ar
gyfer 2018/2019. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Nesaf Paneli/Gweithgorau. PDF 43 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd
paneli/gweithgorau sydd ar ddod. |
|