Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

15.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2018 fel cofnod cywir.

 

17.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

18.

Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. pdf eicon PDF 164 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd a Chadeirydd y Tîm Craffu adroddiad ar Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Croesawyd y cynghorwyr newydd eu hethol i'r pwyllgor.

 

Amlygwyd y meysydd canlynol: -

 

·                 Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu wrth ddatblygu, rheoli, a monitro'r rhaglen waith;

·                 Aelodaeth o Bwyllgor y Rhaglen Graffu;

·                 Cynullyddion craffu a disgrifiad o'u rôl;

·                 Gweithio'n effeithiol - ystyried gweithio effeithiol y pwyllgor;

·                 Cylch gorchwyl.

 

Ceisiwyd caniatâd gan y pwyllgor i barhau â'r arfer o gyfethol cynullyddion y Panel Perfformiad ar Bwyllgor y Rhaglen Graffu (os nad oeddent eisoes yn aelodau). Byddent yn cael eu cyfethol ar y pwyllgor heb bleidlais.

 

Rhannodd y pwyllgor farn am sut y gallai weithio fwyaf effeithiol fel y gallai fod yn gymhwysol a pharatoi'n dda ar gyfer cyfarfodydd, er enghraifft, wrth ddatblygu cwestiynau ymlaen llawn, cymryd rhan mewn cyfarfodydd ymlaen llaw, hyd cyfarfodydd y pwyllgor, myfyrio'n rheolaidd ar ba mor dda mae'r pwyllgor yn gweithio.

 

Trafododd y pwyllgor y ffordd y dewiswyd y cynullyddion ar gyfer y Paneli Ymchwilio/Paneli Perfformiad a'r Gweithgorau unigol.

 

Nododd y cadeirydd, ac eithrio Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y gofynnwyd i'r Paneli Perfformiad presennol gadarnhau eu cynullydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018/2019.  Cytunodd y rheiny sydd wedi cwrdd hyd yn hyn i gadw'r un cynullydd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Gan ystyried y ddadl o ran y broses ar gyfer penodi cynullyddion, cytunwyd adrodd am y broses ar gyfer dewis cynullyddion tua diwedd y flwyddyn ddinesig bresennol (h.y. mis Chwefror 2019) er mwyn gwirio bod yr ymagwedd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019/20 yn glir ac yn gytunedig.

 

Cytunwyd: 

 

1)              Nodi cynnwys yr adroddiad; 

2)              Cefnogi'r cynnig i barhau i gyfethol aelodau'r Panel Perfformiad fel a nodwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad;

3)              Y dylai Arweinydd y Tîm Craffu gylchredeg y rhestr aelodaeth ar gyfer y Paneli Craffu a'r Gweithgorau i'r pwyllgor;

4)              Y dylai Arweinydd y Tîm Craffu gylchredeg unrhyw arweiniad perthnasol gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â dewis Cynullyddion/Cadeiryddion.

5)              Cyflwyno adroddiad am y broses o ddewis cynullyddion i'r pwyllgor cyn y flwyddyn ddinesig nesaf, o gwmpas mis Chwefror 2019.

 

19.

Rhaglen Waith Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am Raglen Waith Craffu 2018/19 i'w ystyried.

 

Darparodd Arweinydd y Tîm Craffu gefndir y Rhaglen Waith Craffu a rhoddodd drosolwg o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith. Amlygodd yr angen i'r Rhaglen Waith gael ei chysylltu â'r blaenoriaethau corfforaethol a'i chydbwyso er mwyn mynd i'r afael â phryderon cymunedol. Cyfeiriodd at yr egwyddorion arweiniol - dylai gwaith y tîm craffu fod yn strategol ac yn arwyddocaol, dylai ganolbwyntio ar faterion sy'n peri pryder a chynrychioli defnydd da o amser craffu ac adnoddau.

 

Cyfeiriodd at y Rhaglen Waith ddrafft ar gyfer 2018/19 (Atodiad 3 yr adroddiad) a oedd yn ystyried cynllun y llynedd, gwaith yr ymrwymwyd iddo eisoes ac adborth gan y Gynhadledd Cynllunio Gwaith a oedd yn cynnwys mewnbwn gan y Prif Weithredwr ar flaenoriaethau a heriau strategol. Mae'r rhaglen yn dangos y pynciau arfaethedig a fydd yn cael eu hystyried, naill ai drwy waith manwl, gweithgareddau monitro parhaus, neu'n fras.

 

Trafododd y pwyllgor y Rhaglen Waith ddrafft a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

Paneli Ymchwilio

 

Ymchwiliad Cydraddoldeb - hwn fyddai ymchwiliad cyntaf y flwyddyn ddinesig hon.

 

Adfywio Cymunedau - yr angen i ddiffinio'n glir ar ba agwedd y byddai hyn yn canolbwyntio. Cadarnhawyd y bydd hyn yn cael ei bennu unwaith y cwblheir y cylch gorchwyl a'r cwestiynau allweddol, yn dilyn sesiwn friffio gychwynnol y Panel Ymchwilio. Hysbyswyd y pwyllgor o'r ffaith bod adolygiad annibynnol eisoes ar waith ar Raglen Cymunedau'n Gyntaf a'i heffaith ar Abertawe ers 2013. Nodwyd os mai hwn fyddai pwnc yr ail ymchwiliad craffu, ni fyddai'n dechrau tan yn hwyrach yn y flwyddyn (unwaith y bydd yr Ymchwiliad i'r Amgylchedd Naturiol yn dod i ben), felly, os cytunir i'w gynnwys yn y rhaglen, gallai'r pwyllgor geisio cyngor am p'un a fyddai ymchwiliad craffu'n ddyblygiad neu sut y gall craffu ategu'r gwaith hwn. Os oes angen, gallai'r pwyllgor edrych ar bwnc arall ar gyfer ymchwiliad maes o law, er enghraifft, gellid edrych ar ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy'r dull hwn.

 

Paneli Perfformiad

 

Roedd y pwyllgor yn cydnabod y newid arfaethedig i amlder - Panel Datblygu ac Adfywio'n cynyddu i bob deu fis a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yn dod yn weithgaredd chwarterol.

 

Nododd y pwyllgor fod materion amrywiol y gellid eu nodi gan Baneli Perfformiad perthnasol fel rhan o'u gweithgareddau monitro parhaus. Yn ychwanegol i'r materion a nodir yn yr atodiad, cytunwyd y gallai'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid gynnwys Safon Ansawdd Tai Cymru yn ei waith am ei bod wedi'i nodi fel her strategol allweddol ar gyfer yr awdurdod.

 

Gweithgorau

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch y rhestr o bynciau a awgrymwyd a'r drefn flaenoriaeth.

 

Nodwyd bod y Gweithgor Digartrefedd a'r Gweithgor Cydlyniant Cymunedol wedi'u cwblhau a bydd y Gweithgor Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cynnal cyfarfod ychwanegol o gwmpas mis Medi/mis Hydref cyn dychwelyd i gyfarfod blynyddol yn hanner cyntaf 2019.

 

Nodwyd, os oes angen, y gellid trafod materion ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y sesiwn graffu flynyddol ar droseddu ac anrhefn o gwmpas mis Mawrth 2019.

 

Nodwyd hefyd fod Sesiwn Holi gydag Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni wedi'i chynllunio ar gyfer cyfarfod nesaf y pwyllgor ar 13 Awst a gwahoddwyd aelodau i feddwl am ddatblygu cwestiynau ar gyfer y sesiwn honno.

 

Cytunwyd y dylid:

 

1.        Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ddrafft ar gyfer 2018/19 gyda'r gwelliannau canlynol:

·                    Ychwanegu Safon Ansawdd Tai Cymru at y rhestr o faterion sy'n addas i'w cyfeirio i'r Paneli Perfformiad.

·                    Cytunwyd ar y drefn flaenoriaeth ar gyfer y pedwar gweithgor cyntaf:

1.            Parcio i Breswylwyr

2.            Llygredd Sŵn/Aer

3.            Diwygio Lles

4.            Gorfodi Amgylcheddol

·                    Rhestr flaenoriaeth yr ail weithgor (i gynnwys yr ail ymhen 6 mis) i gynnwys:

-               Cynhwysiad Digidol

-               Twristiaeth

-               Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

-               Gwasanaeth Archifau

·                    Rhestr gweithgor wrth gefn:

-               Newid 'Treftadaeth Ddiwylliannol' i 'Treftadaeth a Diwylliant'.

 

2.        Cymeradwyo'r cynllun ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol, gan gynnwys amserlen o Sesiynau Holi Aelodau'r Cabinet.

 

20.

Amcanion Gwella a Datblygu Craffu. pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad er mwyn ystyried amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod ar wella a datblygu proses ac arfer craffu.

 

Amlinellwyd yr amcanion gwella drafft, gan ystyried ymatebion i arolygon craffu blynyddol cynghorwyr ac adborth o hunanwerthusiadau/myfyrdodau aelodau'r pwyllgor, gan Arweinydd y Tîm Craffu fel a ganlyn:

 

1)              Mae angen i fwy o'n gwaith gael ei adrodd i'r Cabinet fel bod mwy o ystyriaeth ffurfiol o gasgliadau ac argymhellion craffu.

 

2)              Mae angen i ni fod yn rhan o benderfyniadau arfaethedig y Cabinet yn gynharach fel bod ein mewnbwn yn fwy ystyrlon.

 

3)              Mae angen i ni gynyddu cyfleoedd i gyfranogi fel y gall mwy o gynghorwyr fod yn rhan o waith craffu.

 

4)              Mae angen i ni gryfhau camau dilynol pob argymhelliad craffu fel y gellir asesu'r ymateb a'r gwahaniaeth.

 

5)              Rydym angen mwy o sylw yn y cyfryngau fel bod pobl yn fwy ymwybodol o'n gwaith.

 

Cytunwyd mai rhain yw'r blaenoriaethau ac roedd yr aelodau'n cydnabod bod rhaid i bob un o'r uchod gael ei gefnogi gan weithredoedd penodol er mwyn cyflwyno'r gwelliant a fwriedir. Cyfnewidiwyd camau gweithredu posib, er enghraifft canlyniadau o weithgorau'n cael eu cyflwyno drwy adroddiadau byr i'r Cabinet yn hytrach na thrwy lythyrau at yr Aelod Cabinet perthnasol, gweithio'n agosach gyda'r Swyddogion Cyfathrebu i gynyddu sylw gan yn y wasg, cynnal rhai cyfarfodydd yn y gymuned.

 

Nodwyd bod angen adolygu unrhyw amcanion y cytunir arnynt a'u diwygio os oes angen gwneud hynny, pan dderbynnir canlyniadau Adolygiad Craffu Swyddfa Archwilio Cymru a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

 

Yn ychwanegol, trafodwyd anghenion hyfforddiant a datblygiad. Awgrymodd yr Arolwg Cynghorwyr Blynyddol nad oedd y mwyafrif o gynghorwyr yn nodi unrhyw anghenion penodol - awgrymwyd bod unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol yn cael eu hysbysebu er mwyn pennu diddordeb.

 

Cytunwyd cadarnhau'r pum Amcan Gwella Craffu ac y dylai Arweinydd y Tîm Craffu gyflwyno cynllun gweithredu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

21.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am aelodaeth y panel craffu/gweithgorau.

 

Cytunwyd ar y canlynol:

 

1)              Ychwanegu'r Cynghorwyr J Hale, E Krichner, Y Jardine, P K Jones a Hazel Morris at Banel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion;

2)              Tynnu'r Cynghorydd A Pugh oddi ar Banel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion;

3)              Tynnu'r Cynghorydd A Pugh oddi ar Banel Perfformiad y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd;

4)              Tynnu'r Cynghorydd E J King oddi ar y Paneli/Gweithgorau Craffu canlynol:

·                 Panel Ymchwilio y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc;

·                 Gweithgor Cydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb;

·                 Gweithgor Digartrefedd.

 

22.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r pwyllgor gyda chofnod wedi'i ddiweddaru o lythyrau at/gan Aelodau'r Cabinet hyd yn hyn eleni a chopi o ohebiaeth ddiweddar i'w trafod.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, mewn perthynas ag adroddiad cyn penderfynu'r Cabinet: Derbyniwyd Arfarniad Opsiynau Mwy o Gartrefi ar Safle Parc yr Helyg yn dilyn cylchredeg y pecyn agenda.  Cylchredwyd y llythyr i'r pwyllgor dros e-bost er eu gwybodaeth.

 

Nodwyd y llythyrau craffu ac ymatebion Aelodau'r Cabinet.

 

23.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Nodwyd cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2018/2019.

 

24.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 42 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.