Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn Datganiadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

6.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

7.

Cofnodion. pdf eicon PDF 124 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgorau'r Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018 a 24 Mai 2018 fel cofnodion cywir.

8.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

9.

Adroddiad Terfynol yr Ymchwiliad Craffu: Gweithio Rhanbarthol (Y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd). pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel Cynullydd y panel, cyflwynodd y Cynghorydd Lyndon Jones adroddiad gan y Panel Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol.  

 

Amlygodd mai prif ffocws y panel a'r adroddiad oedd sicrhau canlyniadau da i bobl Abertawe. Meddai fod Cyngor Abertawe wedi bod yn gyson agored i ystyriaethau ynghylch uno ac opsiynau gweithio rhanbarthol eraill. Cadarnhawyd bod rhai gweithgareddau rhanbarthol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl leol. Roedd yr adroddiad yn edrych ar yr agweddau cadarnhaol ar weithio rhanbarthol a’r gwendidau yn ogystal â'r gwersi a ddysgwyd o brofiadau'r gorffennol.

 

Un o'r materion a amlygwyd oedd y cyfle i adolygu'r holl grwpiau rhanbarthol er mwyn nodi'r rhai sy'n hanfodol a'r rhai nad ydynt yn hanfodol mwyach.

 

Tynnwyd sylw at y pryderon o ran y diffyg trefniadau craffu mewn rhai o'r partneriaethau rhanbarthol mawr. Roedd angen cynnwys trefniadau craffu ac atebolrwydd clir ym mhob grŵp rhanbarthol ac, yn benodol, dair partneriaeth fawr Bae'r Gorllewin, Ein Rhanbarth ar Waith a Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Tynnodd y Cynullydd sylw at yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Cynullydd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Cysylltiadau â dogfennau cyfeirio a chasgliadau llawn yr adroddiad;

·                Ystyried cydraddoldeb pŵer/dynameg pŵer;

·                Dilyn argymhellion mewn 9 i 12 mis;

·                Adolygu cyrff rhanbarthol yn llawn;

·                Pryder ynghylch diffyg trefniadau craffu;

·                Effaith bosib cyfuno cynghorau ar weithio rhanbarthol; a

·                Phwysigrwydd cyflwyno gwasanaethau'n effeithiol.

 

Diolchodd y Cynullydd y swyddogion, y bobl hynny a oedd wedi rhoi tystiolaeth a gwybodaeth i'r panel yn ogystal ag aelodau'r Panel Ymchwilio a oedd wedi rhoi eu hamser a'u hymroddiad. 

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 21 Mehefin 2018.