Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn
unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu Cyn Penderfynu: Adfywio Sgwâr y Castell. PDF 110 KB a)
Rôl y pwyllgor b)
Ystyried adroddiad y Cabinet a chwestiynau c) Barn y pwyllgor i'r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr Arweinydd, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, a Gail Evans, y Prif Swyddog Adfywio, yn bresennol er mwyn i'r pwyllgor ystyried adroddiad y Cabinet ar 'Adfywio Sgwâr y Castell'. Rhoddodd y Prif Reolwr Adfywio grynodeb o brif bwyntiau'r adroddiad. Amlygodd opsiynau am y lleoliad ar gyfer y datblygiad newydd yn ogystal â'r opsiynau cyflwyno sydd ar gael. Nodwyd rhinweddau'r opsiynau amrywiol yn yr adroddiad yn ogystal â'r opsiwn argymelledig a ffafriwyd ar gyfer pob un. Argymhellwyd yn yr adroddiad y dylid llunio brîff llawn ar ddatblygu, mannau cyhoeddus a marchnata ar sail yr opsiynau a ffefrir. Nododd yr Arweinydd bwysigrwydd y ffaith bod y datblygiad yn gweithio ar y cyd â datblygiadau eraill a gynigir ar gyfer y ddinas, megis datblygiad Dewi Sant, i gyflwyno canol dinas modern. Amlygodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr yr angen am gynigion masnachol fel rhan o'r datblygiad. Mae adnoddau yn brin a bydd y cynigion masnachol yn creu incwm am gyfer cynnal a chadw'r datblygiad newydd. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Arweinydd, Aelod y Cabinet a'r Prif Aelod Adfywio a ganolbwyntiodd ar y canlynol: - · A fyddai digon o arian i gynnal y datblygiad a sicrhau'r incwm a grëir gan y cynnig masnachol ar gyfer cynnal a chadw'r Sgwâr · A fyddai'r cynnydd mewn llety myfyrwyr yng nghanol y ddinas yn effeithio ar ddefnydd arfaethedig yr ardal · Risg ariannol cost y datblygiad - cael bwlch arian a/neu beidio â chreu diddordeb priodol yn y safle i greu incwm digonol · Croesawyd y cynnig i osgoi colli coed a phlannu blodau gwyllt a amlygwyd yn yr adroddiad · Y cynnig masnachol mwyaf priodol - a fyddai caffis llai o faint sy'n cynnig lleoliadau mwy hamddenol yn fwy priodol na bwyty · Pryderon ynglŷn â cholli lle cyhoeddus a chysondeb defnydd presennol y sgwâr ar gyfer gwrthdystiadau, gorymdeithiau, marchnadoedd, etc. gyda chynigion masnachol · Y gallu i ddenu cynigion masnachol priodol i'r lleoliad · Gwahanu cerddwyr a thraffig · Lle chwarae ffurfiol ar gyfer canol y ddinas · Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sgwâr y Castell · Pryder y byddai'r datblygiad newydd yn dod yn estyniad o Stryd y Gwynt · Lleoliad y sgrîn fawr yn Sgwâr y Castell Ystyriodd y pwyllgor yr argymhellion arfaethedig yn yr adroddiad a chododd unrhyw faterion a phryderon y dylid dwyn sylw'r Cabinet atynt cyn ei benderfyniad ar 19 Hydref 2017. Er bod y pwyllgor wedi cytuno i rannau helaeth fod angen adfywio'r ardal, amlygodd y pwyllgor nifer o faterion y dylai'r Cabinet eu hystyried: · Risg ariannol · Ai dyma'r amser priodol ar gyfer y datblygiad · Eglurhad o gwmpas y gwaith cynnal a chadw · Cadw lle cyhoeddus · Gwahanu cerddwyr a thraffig Penderfynwyd y dylai Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Craffu ysgrifennu at Aelod y Cabinet am farn y Pwyllgor, er mwyn i'r Cabinet eu hystyried. |
|