Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddianau canlynol:

 

Y Cynghorydd M H Jones - personol – Cofnod Rhif 45 - Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol yr Olchfa - crybwyllwyd caeau chwarae'r Olchfa fel rhan o Sesiwn Holi Aelod y Cabinet.

 

Y Cynghorydd J W Jones - personol - Cofnod Rhif 45 - Llywodraethwr yn Ysgol yr Olchfa - crybwyllwyd caeau chwarae'r Olchfa fel rhan o Sesiwn Holi Aelod y Cabinet.

 

42.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chyhoeddwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

43.

Cofnodion: pdf eicon PDF 82 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 11 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

44.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cyfnod o 10 munud er mwyn gofyn cwestiynau i aelodau'r cabinet sy'n bresennol neu i gadeirydd y pwyllgor ynglŷn â'r Rhaglen Waith Craffu.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

45.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (Y Cynghorydd Jennifer Raynor). pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Darparodd y Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, anerchiad llafar yn ychwanegol at yr adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd. Tynnodd sylw at y meysydd canlynol: -

 

·     Gwell perfformiad o ran cyrhaeddiad disgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Roedd cyfnod allweddol 4 i'w bennu o hyd.

·     Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

·     Prosiect Cynnydd - prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop i CGE i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn NEET.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet, y Prif Swyddog Addysg a Phennaeth yr Uned Cefnogi Ysgolion yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·     Camau i sicrhau y gwerthfawrogir addysg gan bawb ac y galluogir myfyrwyr i ffynnu

·     Argaeledd hyfforddiant i ysgolion o ran ymlyniad, teuluoedd yn chwalu neu brofiadau niweidiol eraill sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc

·     Grant Datblygu Disgyblion (Plant sy'n Derbyn Gofal)

·     Menter 'Tîm am yr Ysgol' ar gyfer ysgolion y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt

·     Hyfforddiant cadernid a chefnogaeth i deuluoedd sy'n ymdopi â phrofedigaeth

·     Blaenoriaeth y cyngor ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan gynnwys arolygon cyflwr adeiladau

·     Gwerthu tir addysg sydd dros ben (nodwyd y cafwyd gwerth £3.6 miliwn o elw o werthiannau ers 2012 -  nid yw'r tir a werthwyd wedi cynnwys cyfleusterau ysgolion, ond roeddent yn bennaf yn ysgolion gwag ac yn asedau addysg ehangach)

·     Goblygiadau iechyd o fygdarthau ceir a bysus yn enwedig ar adeg gollwng plant yn yr ysgol, a'u codi.

·     Targedau ar gyfer darpariaeth addysg Gymraeg

·     Meini prawf ar gyfer dosbarthu cyfraniadau addysg a dderbyniwyd drwy Gytundebau Cynllunio A106.

·     Cynllun peilot 30 awr o ofal plant am ddim yn cael ei gynnal yn Abertawe

·     Gofynion cofrestru gydag AGGCC

·     Ffigurau trawiadol ar gyfer trosglwyddo i ysgolion uwchradd Cymraeg

·     Angen gwella'r gyfradd sy'n trosglwyddo o ofal plant i'r meithrin

·     Ymgynghorwyr Herio - buddion a safbwyntiau croes i'w gilydd

·     Dirywiad Ieithoedd Tramor Modern mewn ysgolion

·     Seicolegwyr Addysg a'r amser a neilltuir ar eu cyfer mewn ysgolion

·     Faint o wasanaethau a ddirprwyir i ysgolion

·     Cyfrifoldeb am y cwricwlwm ysgol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer addysgu am yr amgylchedd/cynaladwyedd

·     Effaith newid y system raddio yn Lloegr

·     Pennu dalgylchoedd ysgolion

·     Cynnydd o ran yr Uned Atgyfeirio Disgyblion yn y Cocyd

·     Effeithiolrwydd Cyrff Llywodraethu 

 

PENDERFYNWYD y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

 

46.

Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc - Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2017. pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu a'r Cydlynydd Hawliau Plant adroddiad cynnydd blynyddol ar Gynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2017.

 

Amlygodd y Cydlynydd Hawliau Plant y meysydd gwaith canlynol: -

 

·         Ymgysylltu'n barhaus ac yn gynyddol â phlant a phobl ifanc, gyda 6,087 o gyfranogwyr ar draws yr ystod oedran 2 i 18.

·         Cynyddu ystod oedran yr her Magu Plant Corfforaethol

·         Cyfranogaeth Senedd Ieuenctid y DU

·         Y Blynyddoedd Cynnar a sicrhau gofal plant o safon

·         Hybu gwybodaeth am CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn)

·         98% o ysgolion yn Abertawe'n rhan o’r Wobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau

·         Argymhellion ar gyfer gwelliant yn y dyfodol - ehangu ein hymagwedd, ehangu ein cynnig, bod yn fwy gweladwy ac asesu effaith.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·     Gwella argaeledd adroddiadau yn y dyfodol

·       Data'r Arolwg Mawr - data annisgwyl o ran profiadau mewn perthynas ag iechyd rhywiol, sigaréts ac alcohol - awgrymwyd y dylai cwestiynau arolwg yn y dyfodol ystyried sigaréts electronig. Trafodwyd canlyniadau mewn perthynas â barn plant am drosglwyddo i ysgol uwchradd hefyd.

·     Sut caiff yr adroddiad ag ysgolion ei rannu - nodwyd bod Data'r Arolwg Mawr wedi cael ei ddadansoddi fesul ysgol ac y caiff ei gyflwyno iddynt er mwyn iddynt ymateb yn unol â hynny. Caiff yr adborth gan ysgolion ar yr arolwg ei rannu â'r pwyllgor.

·     Gwahaniaeth amlwg yn y ffordd yr ymatebodd ysgolion cynradd ac uwchradd i'r broses o Archwilio Cynghorau Ysgol

·     Cynnwys plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu gartref

 

Diolchwyd i swyddogion a chydweithwyr gan y pwyllgor am y gwaith gwych a wnaed ganddynt gydag ysgolion a chanmolwyd yr hyfforddiant CCUHP a gyflwynwyd y llynedd hefyd.

 

Penderfynwyd y dylai'r Aelod Cabinet a Swyddogion nodi barn y pwyllgor am y cynnydd.

 

47.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad am aelodaeth weithredol/y panel craffu.

 

Penderfynwyd: -

 

1)  Cymeradwyo cyfethol y canlynol:

Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion

Tony Beddow

Katrina Guntrip 

 

2)  Nodi'r newidiadau canlynol i Banel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: -

Mae Martyn Waygood wedi cymryd lle Paul Newman fel cynrychiolydd PABM

Mae'r Cyng. Paulette Smith wedi gadael Panel Heddlu a Throseddu De Cymru, ac rydym yn aros i gynrychiolydd newydd gael ei gadarnhau.

 

 

48.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 140 KB

Trafodaeth ar:

a) Gynllun gwaith y pwyllgor.

b) Cyfleoedd am graffu cyn penderfynu

c) Cynnydd â phaneli craffu cyfredol a gweithgorau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygodd y Cadeirydd Raglen Waith Craffu 2017/2018 i'w hadolygu.

 

Nododd y Cadeirydd y ceisir mynegiannau o ddiddordeb gan gynghorwyr craffu i gymryd rhan yn y gyfres nesaf o weithgorau a nodwyd. Awgrymwyd gohirio'r gweithgor ar Ddigartrefedd tan y Flwyddyn Newydd i alluogi trafodaeth ar y Strategaeth Digartrefedd ddrafft sy'n cael ei datblygu.

 

Darparwyd crynodeb o gynlluniau gwaith Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisïau'r Cyngor i sicrhau ymwybyddiaeth ac i helpu i osgoi dyblygu.

Nododd aelodau y byddai cyfarfod pwyllgor arall ar 17 Hydref am 2pm er mwyn craffu cyn penderfynu ar adroddiad cabinet ar adfywio Sgwâr y Castell.

 

Penderfynwyd y byddai'r 2 weithgor nesaf yn trafod:

Taliadau Meysydd Parcio

Cynnal a Chadw Ffyrdd/Troedffyrdd

 

 

49.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd am gofnod o lythyrau craffu a ysgrifennwyd eleni a gohebiaeth rhwng y Pwyllgor ac Aelodau Cabinet sy'n ymwneud â'r cyfarfod pwyllgor ym mis Awst.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y llythyrau.

 

50.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

 

51.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod.

a)   Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion – 10 Hydref am 3.30pm (Ystafell Bwyllgor 3a, Neuadd y Ddinas)

b)   Gweithgor Cynllunio rhag Argyfyngau a Chydnerthu – 11 Hydref am 10.30am (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

c)  Panel Gwella Gwasanaeth a Pherfformiad Cyllid - 16 Hydref am 2.00am (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

ch)  Panel Perfformiad Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – 16 Hydref am 5.00pm (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

d)   Panel Ymchwilio i Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy (camau dilynol) – 17 Hydref am 10.00am (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)    

dd)  Panel Perfformiad Ysgolion – 18 Hydref am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 3a, Neuadd y Ddinas)

e)   Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – 25 Hydref am 10.00am (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

f)   Panel Ymchwilio i Weithio Rhanbarthol – 30 Hydref am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

ff)   Panel Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – 30 Hydref am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

g)  Panel Gwella Gwasanaeth a Pherfformiad Cyllid – 1 Tachwedd am 10.30am (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas)

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 73 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 442 KB