Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
DERBYN DATGELIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL A RHAGFARNOL. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn
unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o
bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Awst 2017 fel cofnod cywir, yn
amodol ar 2 gywiriad: - 1)
Cofnodion
23 a 24 - newid y cyfeiriad at 17 Mawrth 2017 i 17 Awst 2017 2)
Eitem
ychwanegol – Diolchwyd i’r aelodau a'r staff gan y cadeirydd am eu hamynedd a'u
hymdrechion yn ystod cyfarfod mor hir. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Cyfnod 10 munud ar gyfer Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet sy'n bresennol neu i Gadeirydd y Pwyllgor ynglŷn â Rhaglen Waith Craffu. Cofnodion: Clywodd y pwyllgor
gan Mr East a gododd sawl mater. Nododd Mr East fod yr AS dros Orllewin Abertawe wedi bod yn ymgyrchu
dros gynnal refferendwm ar amodau terfynol Brexit.
Roedd pryderon ganddo fod Brexit yn debygol o gael
canlyniadau difrifol i Gymru ac ar gyfer Abertawe. Gofynnodd Mr East am farn yr Arweinydd ar y mater hwn, gan annog yr
Arweinydd i gefnogi AS Gorllewin Abertawe. Gwnaeth sylwadau
ar y newyddion ynghylch adfywio mawr yng nghanol y ddinas, gan geisio sicrwydd
y dysgwyd gwersi yn dilyn problemau neu drafferthion y gorffennol. Er
enghraifft, cyfeiriodd at y canlynol: Dymchwel Oceana
– cododd y gost o oddeutu £1 miliwn i £4 miliwn; Oedi adeiladu hir wrth
adnewyddu Oriel Gelf Glynn Vivan;
Chwilio am Safleoedd i Deithwyr – proses helaeth i nodi safleoedd a llunio
rhestr fer, at ba gost?; Anghydfod Rhent Tir yr Elba
– at ba gost i'r trethdalwr? Teimlodd Mr East fod gan
y cyhoedd ddiffyg gwybodaeth o ran rhai prosiectau lle cafwyd problemau. Gofynnodd Mr East am ddiweddariad ar Stadiwm Liberty oherwydd disgwyliwyd cynnydd dros flwyddyn yn ôl
mewn perthynas â'r brydles ac ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth ychwanegol ers
hynny. Nododd hefyd y byddai Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn cymryd uned yng
nghanol y ddinas i werthu nwyddau, ac ymholodd am drefniadau rhentu'r uned yn
ogystal â'r stadiwm. Rhoddwyd
diweddariad gan y Dirprwy Arweinydd ar Stadiwm Liberty
ac esboniodd eu bod yn rhwym i’r cytundeb yr ymrwymwyd iddo gan y weinyddiaeth
flaenorol. Mae cynnydd yn cael ei wneud o ran cytundeb newydd ac mae
trafodaethau wedi dwyn ffrwyth. Nid oedd yn bosib darparu mwy o wybodaeth ar
hyn o bryd oherwydd ei bod yn drafodaeth barhaus ond y gobaith oedd y gellid eu
cwblhau yn y misoedd nesaf a gwneud cyhoeddiad. O ran y siop yng
nghanol y ddinas, cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd y byddai Clwb Pêl-droed Dinas
Abertawe yn talu rhent a oedd yn cydymffurfio â rhenti’r farchnad ar gyfer yr
uned fanwerthu. Penderfynwyd cyfeirio’r cwestiynau a holwyd i’r
Arweinydd/Aelod y Cabinet perthnasol am ymateb. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad llafar gan y Cynghorydd Clive Lloyd, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau, Trawsnewid a Gweithrediadau Busnes a oedd yn atodol
i’r adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd. Siaradodd am ei bortffolio a’i deitl
newydd, gan amlygu’r meysydd canlynol: -
·
Perfformiad
Cyllidebol a Chyllid – Nid oedd y Dirprwy Arweinydd yn disgwyl setliad ariannol
cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU. Os mai’r un setliad ariannol
a geir â llynedd, yna byddai bwlch cyllido o oddeutu £16 miliwn. ·
Cyflwyno
a Pherfformiad – Cafwyd cytundeb ar y Cynllun Corfforaethol diwygiedig a byddai
adroddiadau monitro perfformiad chwarterol ar y blaenoriaethau allweddol. ·
Abertawe
Gynaliadwy/Addas at y Dyfodol – Roedd y rhaglen bellach yn gweithredu ar draws
tri maes eang, sef Trawsnewid, Cyngor y Dyfodol a Digidol. Nodwyd bod y Rhaglen
Cefnogi Busnes wedi bod yn gwneud cynnydd. Amlygwyd hefyd fuddsoddiad a
chynnydd yr agenda ddigidol, ynghyd â’r gwobrau APSE (Cymdeithas Rhagoriaeth
mewn Gwasanaethau Cyhoeddus) a enillwyd gan Reoli Gwastraff ac Atgyweirio
Tyllau yn y Ffyrdd. Roedd y cwestiynau
a'r trafodaethau â'r Aelod y Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Y Gronfa Bensiwn - cynnydd ar ddadfuddsoddi
mewn tanwydd ffosil a chydbwyso ag unrhyw bolisi buddsoddi ethig ·
Pwysau
ar gyllidebau ac arbedion ·
Effaith
y newidiadau ar y Tîm Datblygu Cynaliadwy y cytunwyd arnynt gan y Cabinet (yn
dilyn Adolygiad Comisiynu Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas) ·
Rôl
yr Uned Cyflwyno Strategol ·
Problemau
gyda’r Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r camau gweithredu er mwyn mynd
i’r afael â’r problemau hynny ·
Ymgynghoriad
ar safleoedd bach a nodwyd yn yr Adolygiad Cyffredinol o holl dir y cyngor ·
Dyfodol
Cymunedau’n Gyntaf ·
Pwyllgorau
Datblygu a Chyflwyno Polisïau – eu rôl, eu llywodraethu a’u heffeithiolrwydd ·
Paratoadau
ar gyfer deddfwriaeth newydd ar ddiogelu data Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu
barn y pwyllgor. |
|
Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2016/17. PDF 78 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Corfforaethol 2016/2017 gan Aelod y Cabinet
dros Iechyd a Lles ac Uwch-swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. Amlygwyd gan
Uwch-swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol mai rhan allweddol o’r agenda oedd bod
yr holl aelodau yn ogystal â staff yn ymgymryd â hyfforddiant diogelu ac
anogwyd aelodau i gwblhau hyn os nad oeddent eisoes wedi gwneud hynny. Rhoddwyd cefndir
i’r Grŵp Llywio Diogelu Corfforaethol a’i Adroddiad Blynyddol gan
Uwch-swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol. Rhai o’r meysydd gwaith a amlygwyd
oedd: - ·
Polisi
Diogelu ·
Trefniadau
caffael ·
Cryfhau
trefniadau diogelu Roedd y cwestiynau
a’r trafodaethau gydag Aelod y Cabinet ac Uwch-swyddog y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Problemau
wrth gysylltu systemau gwybodaeth a allai effeithio ar gywirdeb y cofnodion hyfforddiant
diogelu i staff – trafodwyd y pwysigrwydd o dderbyn lefel briodol o
hyfforddiant, yn hytrach na’r lefel isaf, wrth ymdrin â phobl ddiamddiffyn ·
Camau
gweithredu sy’n cael eu cymryd er mwyn gwella ansawdd gwybodaeth perfformiad am
ansawdd ein trefniadau diogelu ·
Problemau
yn ymwneud â’r ffaith nid oes gan yr holl staff fynediad i e-ddysgu ·
Penodi
uwch swyddogion diogelu ym mhob uned gwasanaeth ·
Effeithiolrwydd
trefniadau Bwrdd Rhanbarthol ar gyfer Diogelu ac Amddiffyn y Cyhoedd a’u
perthynas â gweithio lleol ·
Sicrwydd
o ran ymrwymiad partneriaid i ddiogelu a chynnydd wrth sicrhau bod contractwyr
yn cydymffurfio ·
Darparu
hyfforddiant arbenigol i yrwyr tacsis ·
Trefniadau
ar gyfer hyfforddiant i gynghorwyr a rhwystrau i gyfranogiad ·
Hyfforddiant
magwraeth gorfforaethol a chynadleddau achos ·
Sefyllfa
hyfforddiant diogelu mewn perthynas â staff asiantaeth, yn enwedig staff
asiantaeth tymor byr/dros dro/tymhorol. ·
Meincnodi
– diffyg data cenedlaethol i alluogi cymhariaeth ag eraill ·
Rôl y
pwyllgor wrth ddarparu sicrwydd ar effeithiolrwydd trefniadau diogelu –
dywedodd yr Uwch-swyddog ei fod yn teimlo bod yna drefniadau craffu cadarn ar
gyfer y Gwasanaethau i Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a bod diogelu’n nodwedd
amlwg. Penderfyniad y pwyllgor oedd herio’r darlun cyffredinol a sicrhau ffocws
parhaus ar ddiogelu. Penderfynwyd nodi barn y pwyllgor ar yr adroddiad gan Aelod y
Cabinet a’r Uwch-swyddog. |
|
AELODAETH PANELI CRAFFU A GWEITHGORAU. PDF 66 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad a oedd yn amlinellu diwygiadau arfaethedig i aelodaeth y
panel craffu. Penderfynwyd cymeradwyo’r newidiadau canlynol i’r
aelodaeth, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad: Panel Datblygu
a Pherfformiad Adfywio Ychwanegu’r
Cynghorydd David Helliwell Panel
Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Tynnu'r Cynghorydd
Mary Jones Panel
Perfformiad Ysgolion Ychwanegu’r
Cynghorydd Myles Langstone Tynnu enw'r
Cynghorydd Sam Pritchard |
|
Rhaglen Waith Craffu 2017/18. PDF 96 KB Rhaglen Waith
Craffu 2017/18. Trafodaeth ar y
canlynol: a) Cynllun Gwaith y
Pwyllgor. b) Cyfleoedd ar
gyfer Craffu Cyn Penderfynu. c) Cynnydd gyda Phaneli Craffu a Gweithgorau Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2017/2018 am adolygiad. Amlygodd Arweinydd
y Tîm Craffu fod Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn ymuno
â’r cyfarfod pwyllgor nesaf, ac anogwyd aelodau’r pwyllgor i feddwl am
gwestiynau ar gyfer y sesiwn honno. Nododd y pwyllgor
hefyd y byddai cyfarfod ychwanegol yn cael ei gynnal nos Fawrth, 17 Hydref am
4.30pm, ar gyfer craffu cyn penderfynu adroddiad ar adfywio Sgwâr y Castell, a
drefnwyd ar hyn o bryd ar gyfer cyfarfod y Cabinet ar 19 Hydref. Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). PDF 37 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd Cynllun
Gwaith y Pwyllgor Archwilio. |
|
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. a)
Panel
Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion – 20 Medi am 3.00pm (Ystafell Bwyllgor 3A,
Neuadd y Ddinas) b)
Panel
Perfformiad Ysgolion – 21 Medi am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 3A, Neuadd y
Ddinas). c)
Panel
Ymchwiliad Llywodraethu Ysgolion (dilynol) – 25 Medi am 5.00pm (Ystafell
Bwyllgor 4, Neuadd y Ddinas) ch)
Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) Grŵp
Cynghorwyr Craffu Rhanbarthol – 29 Medi am 10.30am (Ystafell Bwyllgor 2, Neuadd
Brycheiniog, Aberhonddu) d)
Panel
Ymchwiliad Gweithio Rhanbarthol – 2 Hydref am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 4,
Neuadd y Ddinas) dd) Panel Gwella Gwasanaethau a
Pherfformiad Ariannol – 4 Hydref am 10.30am (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y
Ddinas) Cofnodion: Nodwyd dyddiad ac
amser paneli/gweithgorau sydd ar ddod. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd
yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 14A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. |
|
DYMCHWEL ADEILAD OCEANA - CWESTIYNAU I AELOD Y CABINET DROS YR ECONOMI A STRATEGAETH. (Y CYNGHORYDD ROB STEWART, ARWEINYDD) Cofnodion: Trafodwyd materion a oedd yn gysylltiedig â’r arolwg asbestos/dyrannu contract
a goblygiadau ariannol mewn perthynas â dymchwel adeilad Oceana.
Gofynnwyd sawl cwestiwn i’r Arweinydd a Swyddogion a oedd yn bresennol ac fe’u hatebwyd yn briodol. Penderfynwyd y byddai cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen
Graffu’n ysgrifennu at yr Arweinydd, gan adlewyrchu’r drafodaeth a barn y
pwyllgor ar y mater hwn. |
|