Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â chôd ymarfer a fabwysiedir gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||
Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatgelwyd unrhyw ddatganiadau o Bleidleisiau Chwip neu Chwipiau’r Pleidiau. |
|||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor y Rhaglen Craffu a gynhaliwyd
ar 10 Gorffennaf 2017 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Sesiwn gofyn cwestiynau i aelodau'r cabinet sy'n bresennol neu i gadeirydd y pwyllgor ynglŷn â'r Rhaglen Waith Craffu 10 munud. Cofnodion: Gofynnodd Mr John Williams nifer o gwestiynau, ar ran preswylwyr Uplands a
Brynmill, mewn perthynas â gorfodi trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (HMOs). Diolchodd y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai,
Ynni ac Adeiladu, i Mr Williams am ei gwestiynau a dywedodd y byddai'n darparu
ymateb ysgrifenedig llawn i'r holl gwestiynau a ofynnwyd. Fodd bynnag, dywedodd Aelod y Cabinet ei bod bob amser yn well ymdrin â
materion HMO, ac ymgysylltu â landlordiaid a thenantiaid, yn anffurfiol yn
gyntaf, gan ystyried erlyniad fel dewis olaf. Cyfeiriodd at y 'Datganiad o
Ddealltwriaeth' gan ddeilliaid trwyddedu o ran cydymffurfio â rhagofalon tân,
rheoli gwastraff, ymddygiad gwrthgymdeithasol a rheoliadau rheoli. Pwysleisiodd Mr Williams fod preswylwyr yn disgwyl gweld y Cyngor yn cymryd
camau cyn gynted â phosib. Croesawodd Aelod y Cabinet y sylwadau a derbyniodd
fod lle i wella gan fwriadu gweithio'n agos gydag aelodau lleol, yn enwedig yn
ardal rheoli’r HMO, i fynd i’r afael â materion. Ychwanegodd, ers cymryd
cyfrifoldeb dros HMOs ym mis Mai, roedd hi wedi bod yn canolbwyntio ar
ddatblygu Canllaw Cynllunio Atodol a fyddai'n helpu i reoli nifer yr HMOs. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac
Adeiladau, ar lafar at yr adroddiad ysgrifenedig a ddosbarthwyd ar ei
chyfrifoldebau a'i chyflawniadau portffolio. Dyma ffocws y
cwestiynau a thrafodaethau gydag Aelod y Cabinet: · Rheoli HMO - Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at fanylion erlyniad llwyddiannus diweddar,
lle roedd landlord wedi cael ei erlyn am 25 o droseddau yn ymwneud â methu
cydymffurfio â rheoliadau, yn enwedig rhagofalon diogelwch tân, a oedd yn peri
risg ddifrifol. Derbyniodd y landlord ddirwy o £18,600 gyda chostau llawn o
oddeutu £1692 yn cael eu dyfarnu i'r Cyngor. - yr amserlen ar gyfer y Canllaw Cynllunio Atodol yn dod yn ôl i'r Pwyllgor
Cynllunio. · Rhentu Doeth Cymru -
Gofynnodd yr Aelodau am yr effaith cafodd y gwasanaeth hwn ar yr adran, pa
staff ychwanegol a gyflogwyd i ddelio â hyn a phryd oedd y tro diwethaf yr
adolygwyd staffio. · Strategaeth Digartrefedd - rhoddwyd y diweddaraf am ddatblygiad y strategaeth. Erbyn hyn derbyniwyd
ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus a byddai'n cael eu hadrodd yn ôl i
Bwyllgor Datblygu a Chyflawni Polisi Trechu Tlodi i'w trafod cyn ymgynghori
pellach â rhanddeiliaid perthnasol eraill. Disgwylir
cymeradwyaeth y Cyngor yn nhymor yr hydref 2018. Gofynnodd y pwyllgor am graffu
cyn-penderfynu ar y strategaeth neu ymgysylltiad cynharach i sicrhau cyfle i
ddylanwadu ar y strategaeth ddrafft mewn da bryd. · Tai Cyngor/Diogelwch Tân mewn Adeiladau - trafodwyd y gwahaniaeth rhwng rheoliadau tân y DU a rheoliadau tân
Ewropeaidd. - rhoddodd Aelod y Cabinet y diweddaraf i’r aelodau ynglŷn â
chanlyniadau cadarnhaol diweddar profion diogelwch tân ar gladin a ddefnyddiwyd
ar ein hadeiladau uchel, sydd wedi pasio profion Llywodraeth y DU. Dywedodd fod
yr holl system diogelwch tân yn ddiogel, ac yn uwch na'r safonau gofynnol. - roedd yr aelodau’n canmol yr ymateb lleol yn sgîl
tân Tŵr Grenfell er mwyn rhoi sicrwydd i breswylwyr. - systemau taenellu - cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod Llywodraeth Cymru
wedi mynnu bod systemau taenellu yn cael eu gosod mewn pob adeilad newydd. Byddai taenellwyr hefyd yn cael eu gosod ym mhlociau fflatiau uchel y
cyngor ym mis Tachwedd. Rhoddir blaenoriaeth i flociau o fflatiau sydd â
chladin allanol wedi'i osod, a bydd gwaith yn mynd yn ei flaen fesul cam dros y
misoedd nesaf i'w gosod ym mhob bloc o fflatiau uchel. Gofynnodd y Cynghorwyr
am sicrhad bod tenantiaid yn ymwybodol o’r system daenellu a roddir ar waith
a’r sefyllfa o ran yswiriant os bu unrhyw ddiffyg. Gofynnwyd i Aelod y Cabinet
ystyried ymgysylltu â phob cynghorydd am y system er mwyn cynyddu eu
hymwybyddiaeth. Roedd yr aelodau'n croesawu esboniad o sut mae’r system yn
gweithio. - Blancedi tân - cadarnhaodd aelod y cabinet na fyddai'r rhain yn cael eu
rhoi i denantiaid o ganlyniad i gyngor a gafwyd gan y Gwasanaeth Tân, ac o
ganlyniad i faterion eraill. Y cyngor a roddir i breswylwyr yw diffodd y
ffynhonnell berthnasol, e.e. yr hob, gadael yr eiddo, a pheidio â mynd i'r
afael â'r tân eu hunain a allai beri mwy o berygl i bobl. · Unedau Cefnogi Cymdogaethau/Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - gofynnodd y pwyllgor am effeithiolrwydd
ymdrin ag ymddygiad a heriau gwrthgymdeithasol. · Cynllun Gwresogi Ardal - gofynnodd y pwyllgor am gynnydd a dywedwyd bod opsiynau’n cael eu
hystyried o hyd ynglŷn â'r ffordd orau o gyflwyno hyn. Ychwanegodd Aelod y
Cabinet fod un o brosiectau’r Fargen Ddinesig yn ymwneud â ‘chartrefi fel
gorsafoedd pŵer' er mwyn galluogi adeiladau i gynhyrchu, storio a rhyddhau
ynni. · Prosiect Adeiladu Mwy o Dai Cyngor - dywedwyd wrth y pwyllgor fod y datblygiad yn
Ffordd Milford, Penplas yn datblygu'n dda. Roedd
Aelod y Cabinet yn falch iawn o'r prosiect a chanmolodd y gwaith a wneir gan y
Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol. Byddai eiddo’n cael eu dyrannu ar ddiwedd
mis Hydref i'r rhai ar frig y rhestr Dai a’r rheiny sydd â’r angen mwyaf.
Gofynnodd y pwyllgor am gostau a dywedwyd wrtho y byddai adroddiad yn cael ei
gyflwyno ym mis Medi. · Isadeiledd Trydanu Cerbydau Trydan - teimlwyd bod angen ymagwedd 'Cymru gyfan' i
wella hyder defnyddwyr wrth iddynt ddechrau defnyddio cerbydau trydan. Roedd
cerbydau trydan ychwanegol yn y broses o gael eu prynu fel rhan o'n cerbydlu - gan ei gynyddu i 40 o gerbydau. Gofynnwyd am
restr o bwyntiau trydanu cyhoeddus yn yr ardal. · Cynlluniau Ynni Gwyrdd - ystyriwyd pob opsiwn, gan gynnwys gweithio ar y cyd ag awdurdodau
cyfagos eraill ar dechnoleg bio-màs, megis Cynghorau
Castell-nedd Port Talbot/Pen-y-bont ar Ogwr. · Morlyn Llanw Bae Abertawe - Roedd Llywodraeth y DU yn ystyried hwn o hyd. Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet am ddod a rhoi’r diweddaraf mewn
ffordd gynhwysfawr. PENDERFYNWYD bod Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Craffu yn
ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan nodi’r drafodaeth a rhannu safbwyntiau'r
Pwyllgor. |
|||
Craffu cyn penderfynu ar adroddiadau'r Cabinet. PDF 67 KB Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd arweiniad ar graffu cyn penderfynu cyn cyflwyno adroddiadau’r Cabinet
am: a) Adolygiad
Comisiynu Arlwyo'r Cyngor Cyfan (eitem 8 yr agenda); b) Adolygiad
Comisiynu Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas (eitem 9 yr agenda). PENDERFYNWYD: 1) Nodi’r
broses graffu cyn penderfynu a rôl y Pwyllgor; 2) Bod
y Pwyllgor yn ystyried adroddiadau a chynigion y Cabinet (eitemau 8 a 9 yr
agenda); 3) Bod
y Pwyllgor yn cytuno ar unrhyw farn am y penderfyniad arfaethedig sydd i'w
chodi gyda'r Cabinet. |
|||
a)
Ystyriaeth o Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau b)
Barn y pwyllgor i'r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd
Clive Lloyd, Aelod Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes
ac Andrew Hopkins, Ymgynghorydd Gwella Busnes, yn bresennol er mwyn i'r
pwyllgor ystyried adroddiad y cabinet ar 'Adolygiad Comisiynu Arlwyo'r Cyngor
Cyfan'. Esboniodd Aelod y
Cabinet sut roedd yr adolygiad hwn yn broses sy'n datblygu fel rhan o 'Abertawe
Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol', a'r cyntaf mewn cyfres a fydd yn
cynrychioli adolygiad trawsbynciol o'r cyngor cyfan. Nodwyd gan yr adolygiad
fod dyblygiad o ran swyddogaethau penodol ar draws y Cyngor yn y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Addysg, a'n gwasanaeth arlwyo ‘mewnol’. Er bod rhai gwasanaethau
wedi'u heithrio o'r adolygiad, daeth yn amlwg nad oedd modd cynnal y gwasanaeth
presennol. Byddai ymagwedd y
Cyngor cyfan tuag at wella’r gwasanaethau arlwyo yn cael ei datblygu yng
nghynllun busnes 3 blynedd, sydd wedi’i gynnwys yn adroddiad y cabinet. Yr opsiwn a ffefrir, fel a amlinellir yn yr adroddiad, oedd cyfuno'r
gwasanaeth prydau bwyd ysgol ac arlwyo’r gwasanaethau cymdeithasol i fod yn un
gwasanaeth a reolir yn fewnol a fyddai hefyd yn rheoli swyddogaethau arlwyo
staff presennol yn y Ganolfan Ddinesig, Neuadd y Ddinas a Glanfa Pipehouse. Ystyriodd y
Pwyllgor yr argymhellion arfaethedig yn yr adroddiad a nodwyd unrhyw faterion a
phryderon y dylid eu dwyn i sylw'r Cabinet cyn ei benderfyniad ar 17 Mawrth
2017. Roedd rhai yn
pryderu ynghylch yr amser cyfyngedig sydd ar gael i ystyried yr adroddiad, ond
nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw wrthwynebiad i'r argymhellion. Fodd bynnag,
roedd gan yr aelodau nifer o sylwadau y gofynnwyd iddynt gael eu hystyried gan
y Cabinet, mewn perthynas â’r canlynol: • Yr angen am graffu
pellach ar weithredu'r cynllun busnes |
|||
a)
Ystyriaeth o Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau b)
Barn y pwyllgor i'r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Robert Francis-Davies,
Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr a Phil Holmes,
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas, yn bresennol er mwyn i'r pwyllgor
ystyried adroddiad y cabinet ar ‘Werthusiad Opsiynau ar gyfer Cyflenwi
Gwasanaethau yn y Dyfodol yng Nghwmpas Adolygiad Comisiynu Cynllunio ac
Adfywio’r Ddinas'. Roedd y Pwyllgor
yn arbennig o falch o weld bod Marchnad Abertawe yn nodwedd ffafriol yn yr
adolygiad. Roedd yr Aelodau yn meddwl ei bod yn ased gwych i ganol y ddinas a’i
bod yn bwysig ei bod hi’n parhau i fod dan reolaeth y Cyngor. |
|||
Aelodaeth Paneli Craffu a Gweithgorau. PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ôl gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan
gynghorwyr anweithredol, rhoddodd y Cadeirydd restr aelodaeth arfaethedig ar
gyfer yr Ymchwiliad, y Paneli Perfformiad a'r Gweithgorau. |
|||
Rhaglen Waith Craffu 2017/18. PDF 98 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd y diweddaraf i’r Pwyllgor am Raglen Waith Craffu 2017/2018. |
|||
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 37 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2017/2018. |
|||
Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. a) Panel Perfformiad Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - 21 Awst 10.00am (Ystafell Bwyllgor 5,
Neuadd y Ddinas) b) Panel Perfformiad Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus - 30 Awst am 10.00am (Ystafell Bwyllgor 5,
Neuadd y Ddinas) c) Panel Perfformiad Ysgolion - 31 Awst am 4.00pm (Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y
Ddinas). ch) Panel Gwella Gwasanaeth a Pherfformiad Cyllid - 6 Medi am 10.30am (Ystafell Bwyllgor 5,
Neuadd y Ddinas). d) Panel Perfformiad
Datblygu ac Adfywio - 7 Medi
am 10.00am (Ystafell Bwyllgor 6, Neuadd y
Ddinas) Cofnodion: Darparwyd dyddiad
ac amser cyfarfodydd Panel/Gweithgorau sydd i ddod er gwybodaeth. |
|||
Ymateb Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu: Adolygiad Comisiynu Arlwyo'r Cyngor Cyfan PDF 247 KB |
|||