Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

6.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

7.

Cofnodion. pdf eicon PDF 87 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu Arbennig a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017 a Phwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2017 a 25 Mai 2017 fel cofnod cywir.

 

8.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Sesiwn gofyn cwestiynau i aelodau'r cabinet sy'n bresennol neu i gadeirydd y pwyllgor ynglŷn â'r Rhaglen Waith Craffu 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

9.

Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd ac Arweinydd y Tîm Craffu adroddiad am Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu. Croesawyd Cynghorwyr newydd a'r rheiny a oedd yn newydd i'r Pwyllgor.

 

Amlygwyd y meysydd canlynol: -

 

·                    Rôl Pwyllgor y Rhaglen Graffu gan gynnwys rheoli'r Rhaglen Waith Craffu, Paneli Craffu a Gweithgorau drwy raglen waith unigol;

·                    Aelodaeth o Bwyllgor y Rhaglen Graffu;

·                    Gofynnir am fynegiannau o ddiddordeb am swyddi Cyfetholedigion Statudol Addysg gwag;

·                    Cynullyddion Craffu a disgrifiad o'u rôl;

·                    Y pwysigrwydd bod Cynullyddion yn cynnwys rhanddeiliaid cwbl allweddol, er enghraifft, defnyddwyr gwasanaeth, tystion arbenigol a phartneriaid mewn gweithgareddau craffu, lle y bo'n berthnasol;

·                    Gweithio effeithiol - ystyried effeithiolrwydd gwaith y Pwyllgor ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella;

·                    Ystyried paratoi a strwythuro'r cyfarfodydd;

·                    Cylch gorchwyl

 

Ceisir caniatâd gan y Pwyllgor er mwyn parhau i gyfethol Cynullyddion y Panel Perfformiad ar Bwyllgor y Rhaglen Graffu (os nad ydynt eisoes yn aelodau). Byddant yn cael eu cyfethol ar y Pwyllgor heb allu pleidleisio.

 

Hefyd, rhannodd y Pwyllgor farn am sut y gall weithio'n fwyaf effeithiol, fel y gall baratoi'n dda ar gyfer cyfarfodydd, gan gynnwys, er enghraifft, ddatblygu cwestiynau ymlaen llaw, cynnal cyfarfodydd ymlaen llaw, hyd cyfarfodydd y Pwyllgor, meddwl yn rheolaidd am ba mor dda mae'r Pwyllgor yn gweithredu.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    dylid nodi cynnwys yr adroddiad; a

2)    chymeradwyo cyfethol Aelodau'r Panel Perfformiad fel a nodir ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.   

 

10.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2016/17. pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd y cadeirydd yr Adroddiad Blynyddol Craffu ar gyfer 2016/2017.

 

Amlinellodd yr adroddiad y gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ddinesig, dangosodd sut mae craffu wedi gwneud gwahaniaeth ac wedi cefnogi gwelliant parhaus ar gyfer y swyddogaeth graffu.

 

Yn Adran 4, amlinellwyd adborth a gwelliannau yn benodol a adroddodd am y pethau hynny a oedd wedi gweithio'n dda a'r pethau hynny y gellid eu gwella.

 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch y canlynol: -

 

·                A oedd gan y pwyllgor unrhyw farn am yr adroddiad ac a oedd unrhyw awgrymiadau i wella'r ffordd yr oedd wedi'i ysgrifennu;

·                Roedd yn debyg bod lefel o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff o graffu yn bryder. Hysbyswyd aelodau bod ymateb staff i'r Arolwg Blynyddol yn isel iawn, felly roedd yn anodd dod i gasgliadau ystyrlon;

·                Sut gellid gwella cynnwys staff;

·                Ystyried diwygiadau i'r holiadur am y dyfodol i sicrhau bod yr arolwg yn effeithiol;

·                Roedd canran uchel o argymhellion a wnaed gan Graffu a oedd wedi cael ei derbyn gan y Cabinet

 

Nodwyd gwall teipio hefyd. Rhaid diwygio Adroddiad Blynyddol Craffu paragraff 4.3. (7) 2016/17 fel ei fod yn cynnwys y gair "ni" yn yr ail linell ac yn darllen "ni ddeallwyd yn llawn".

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a'i gyflwyno i'r cyngor ym mis Gorffennaf.   

 

11.

Rhaglen Waith Craffu 2017/18. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd adroddiad ar Raglen Waith Craffu 2017/18 i'w ystyried.

 

Darparodd Arweinydd Tîm Craffu gefndir i'r Rhaglen Waith Craffu a darparodd drosolwg o'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith. Amlinellodd yr angen am y Rhaglen Waith i gyd-fynd â'r Blaenoriaethau Corfforaethol ac i fod yn gytbwys i fynd i'r afael â'r materion sy'n peri pryder i'r gymuned. Cyfeiriodd at yr egwyddorion arweiniol - dylai'r gwaith craffu fod yn strategol ac yn arwyddocaol gan ganolbwyntio ar faterion sy'n peri pryder ac yn cynrychioli defnydd da o amser craffu ac adnoddau.

 

Cynhaliodd y pwyllgor drafodaeth am y Rhaglen Waith a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                    Defnyddio paneli perfformiad a sesiynau holi ac ateb i fynd i'r afael â materion pwysig;

·                    Hyblygrwydd a chyfnewidioldeb y Rhaglen Waith yn ôl yr angen;

·                    Craffu cyn penderfynu;

·                    2 banel ymgynghori arfaethedig ar gyfer y flwyddyn nesaf;

·                    Paneli perfformiad - panel perfformiad datblygu ac adfywio newydd a phenodi aelodau'r Cynullydd;

·                    Byddai Mynegiannau o Ddiddordeb yn cael eu gwahodd ar gyfer Cynullydd ar gyfer Panel Perfformiad Ysgolion;

·                    Roedd 9 gweithgor wedi'u nodi a'u blaenoriaeth yn y rhaglen waith;

·                    Craffu rhanbarthol mewn perthynas ag 'Ein Rhanbarth ar Waith' a'r posibilrwydd o drefniadau rhanbarthol eraill;

·                    Ceisiadau cyhoeddus ar gyfer craffu;

·                    Oedi byr posib wrth ddechrau'r panel ymchwilio cyntaf i ganolbwyntio ar ddechrau'r gweithgorau;

·                    Darparu cefnogaeth ddigonol a/neu staff i ymdopi â'r gweithgor arfaethedig;

·                    Paneli Perfformiad Gwasanaethau Plant, Teuluoedd ac Oedolion.

 

Trafodwyd trefn y gweithgorau ymhellach. Ystyriwyd bod Cynllunio ar gyfer Argyfyngau yn flaenoriaeth a'i fod yn bwysig iddo barhau i fod y gweithgor cyntaf, yn ogystal â Chydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb. Oherwydd yr ymgynghoriad sydd ar waith ar Ddigartrefedd, gofynnwyd i roi mwy o flaenoriaeth i hyn. Gofynnwyd hefyd ymdrin â Thaliadau am Barcio mewn ffordd fwy hwylus oherwydd lleihad o ran defnydd meysydd parcio ar draethau dros gyfnod y gaeaf o ganlyniad i gynnydd mewn taliadau parcio ceir.

 

Nodwyd bod Aelod y Cabinet a oedd yn mynd i'r afael â digartrefedd i fod i fynd i'r cyfarfod craffu os bydd Aelodau'r Cabinet am ystyried cwestiynau. 

 

Amlinellwyd yr Ymgynghoriad Trechu Tlodi, ac anogwyd holl Aelodau'r Pwyllgor i ymateb.

 

PENDERFYNWYD

 

1)    cymeradwyo'r Rhaglen Waith Craffu (Atodiad 3) ac eithrio newid trefn y gweithgorau fel a ganlyn: -

1.        Cynllunio ar gyfer Argyfyngau a'u Rheoli

2.        Cydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb

3.        Digartrefedd

4.        Taliadau am Barcio

5.        Cynnal a Chadw Ffyrdd/Troedffyrdd

6.        Ynni Adnewyddadwy

7.        Cynhwysiad Digidol

8.        Gwasanaethau Bysus

9.        Cyfleusterau Cyhoeddus;

2)  y byddai'r Panel Ymchwilio yn canolbwyntio ar Weithio Rhanbarthol;

3)  penodi'r cynullyddion canlynol:   -

·         Gwella Gwasanaethau a Chyllid - y Cynghorydd Chris Holley

·         Gwasanaethau i Oedolion - y Cynghorydd Peter Black

·         Gwasanaethau Plant a Theuluoedd - y Cynghorydd Paxton Hood-Williams; a

4)     Gwahodd mynegiannau o ddiddordeb gan yr holl gynghorwyr craffu i gymryd rhan mewn paneli a gweithgorau cytunedig.

 

 

12.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 23 KB

Llythyr Pwyllgor at/gan Aelod y Cabinet (Craffu cyn penderfynu ar Sgwâr y Castell - 13 Mawrth)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddwyd am y llythyrau craffu mewn perthynas â'r Craffu Cyn Penderfynu ar Sgwâr y Castell i'r Pwyllgor.

 

Nodwyd y byddai Sgwâr y Castell yn destun adroddiad arall gan y Cabinet, felly cynhelir Pwyllgor y Rhaglen Graffu cyn penderfynu, a fydd yn rhoi'r cyfle i'w drafod ymhellach.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys y diweddariad.

 

13.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 38 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd cynllun gwaith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2017/18.

 

Roedd hyn rhan o ddatblygu'r perthynas rhwng y Pwyllgor a'r Pwyllgor Archwilio. Mae'n bwysig bod pob pwyllgor yn ymwybodol o waith ei gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn gydlynus ac i osgoi dyblygu neu fylchau.

 

14.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

15.

Llythyrau craffu.

Llythyr Pwyllgor at/gan Aelod y Cabinet (Trafodaeth ar adeilad Oceana - 13 Mawrth)

Cofnodion:

Nodwyd y llythyrau craffu mewn perthynas ag adeilad Oceana.

 

Nodwyd bod nifer o gwestiynau a materion heb eu cyflwyno a chytunwyd i ofyn i'r Arweinydd ddod i gyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

PENDERFYNWYD gwneud trefniadau i'r Arweinydd ddod i Bwyllgor y Rhaglen Graffu yn y dyfodol er mwyn trafod dymchwel adeilad Oceana ymhellach. 

 

16.

Materion yn codi.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am newidiadau yn y Tîm Craffu. Cyfeiriodd at Gyn-reolwr Craffu, Dave Mckenna, a adawodd ar ddiwedd mis Mehefin. Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod Jenna Tucker, Swyddog Ymchwil Craffu, yn gadael ar ddiwedd mis Gorffennaf. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion ar ran y Pwyllgor am eu gwaith caled gan ddymuno'r gorau iddynt yn y dyfodol.