Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

17.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

18.

Cofnodion. pdf eicon PDF 250 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

 

19.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

20.

Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet: Teithio llesol - Y Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd. pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, gyda chymorth swyddogion Priffyrdd a Thrafnidiaeth, drosolwg o ofynion statudol Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a'r gwahanol ffrydiau gwaith sy'n rhan o raglen gyflenwi teithio llesol Cyngor Abertawe.

 

Rhoddodd swyddogion fanylion ynghylch y term 'Teithio Llesol', sut mae cynlluniau teithio llesol yn cael eu nodi, eu hariannu a'u datblygu, a sut mae'r cyngor yn monitro’r nifer sy’n manteisio ar deithio llesol yn Abertawe ac effaith hynny. Cyfeiriwyd y Pwyllgor at y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) y mae'n ofynnol i gynghorau eu cynhyrchu. Yn fwyaf diweddar, datblygwyd y mapiau hyn yn Abertawe drwy gydol 2021 a chynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu yn ystod y broses, a chymeradwywyd MRhTLl Abertawe ym mis Awst 2022. Bydd y MRhTLl yn cael eu hailystyried bob 3 blynedd.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Ymgynghori ac Ymgysylltu (yr addasiadau i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2021 o'i gymharu â'r ymgynghoriad yn 2017. Trafodwyd yr heriau sy'n gysylltiedig ag ymdrin â barn/safbwyntiau sy'n gwrthdaro yn ystod yr ymgynghoriad).

·       Diogelwch (y broses a'r camau adfer sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer monitro damweiniau/digwyddiadau sy'n ymwneud â llwybrau Teithio Llesol).

·       Buddion Cymunedol (manylwyd ar y gwahanol leoliadau sy'n elwa o seddi, creu lleoedd a gwyrddni).

·       Dyraniad cyllid craidd ar gyfer gwaith mân (eglurwyd pwrpas y cyllid hwn a sut y gellid ei ddefnyddio).

·       Twristiaeth a hamdden (er bod angen sicrhau cysylltedd rhwng Teithio Llesol a Thwristiaeth a Hamdden, roedd paramedrau llym i'w cadw hefyd wrth wneud cais am gyllid Teithio Llesol – gan fod adloniant/hamdden yn eilradd i'r prif amcan o ddefnyddio llwybrau ar gyfer teithiau pwrpasol i gyrchfan fel y gwaith, yr ysgol neu'r siopau, gan symud i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio'r car)

·       Cynnal a chadw llwybrau ac isadeiledd (nid oedd cyllid penodol ar gael ar gyfer cynnal a chadw, er bod Llywodraeth Cymru yn cael ei gwthio'n barhaus ar y pwynt hwn.  Mae unrhyw gostau i'w talu o'r cyllidebau refeniw presennol o fewn Priffyrdd a Chludiant).

·       Amcanion Teithio Llesol (heriau sy'n gysylltiedig â newid arferion ymddygiadol o ran dewisiadau teithio - cerdded a beicio yn lle teithio yn y car - a'r dystiolaeth o lwyddiant, a bod llwybrau teithio llesol yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd).

·       Monitro a Gwerthuso (manylwyd ar y prosesau a’r tueddiadau sy'n dod i'r amlwg.  Cadarnhaodd y swyddogion y gallai unrhyw ystadegau sydd ar gael am ddefnydd gael eu darparu i'r Pwyllgor).

·       Cynlluniau'r dyfodol (ceir manylion am gynlluniau'r dyfodol yng nghynllun MRhTLl Abertawe ac roedd y cyngor yn gallu cyflwyno ceisiadau bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau sy'n barod i'w datblygu. Byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd i'r Cabinet fel arfer tua Mehefin/Gorffennaf i'w gymeradwyo er mwyn bwrw ymlaen â gwariant ar brosiectau cysylltiedig ac ychwanegu at y rhaglen gyfalaf).

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd a'r Swyddogion am yr wybodaeth a ddarparwyd ac am ymateb i gwestiynau.

 

Penderfynwyd bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd gan adlewyrchu'r barn y Pwyllgor.

 

21.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2022/23. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr Adroddiad Blynyddol Craffu ar gyfer 2022/23, a fyddai'n cael ei gyflwyno gan y Cadeirydd i'r cyngor ar 5 Hydref, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor.

 

Roedd yn myfyrio ar yr ystod o weithgareddau a gyflawnwyd gan Gynghorwyr Craffu yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol, gydag enghreifftiau o graffu da, effaith a gwelliant, gan gynnwys canlyniadau'r Arolwg Cynghorwyr ac adborth gan gyfranogwyr cyfarfodydd Craffu.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos sut mae Craffu wedi gwneud gwahaniaeth, drwy

 

·       Sicrhau bod Aelodau'r Cabinet (a'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau eraill) yn cael eu dal i gyfrif

·       Gwneud awgrymiadau, cynigion ac argymhellion ar bynciau o bryder ar sail tystiolaeth

·       Monitro a herio perfformiad a gwelliant gwasanaethau

·       Gweithredu fel ffordd o gadarnhau penderfyniadau allweddol y Cabinet drwy Graffu Cyn Penderfynu a gweithdrefnau Galw i Mewn

·       Ac o'r holl waith hwn, cyfleu pryderon a chynigion ar gyfer gwella drwy gyhoeddi llythyrau ac adroddiadau Craffu yn rheolaidd; a

·       sicrhau bod gwaith y cyngor yn agored ac yn dryloyw i'r cyhoedd

 

Mae'r adroddiad hefyd yn cefnogi gwelliant parhaus ar gyfer y swyddogaeth Graffu – ymdrechion i newid prosesau ac arferion, a newid pethau i fod hyd yn oed yn fwy effeithiol a gwneud y mwyaf o amser ac adnoddau cyfyngedig.

 

Penderfynwyd cytuno ar yr adroddiad i'w gyflwyno.

 

22.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r Gweithgorau, fel yr adroddwyd.

 

23.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 279 KB

Trafodaeth am:

a) Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b) Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c) Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2023/24 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Dywedodd fod yr Ymchwiliad Craffu ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar 'gam olaf yr adroddiad' a rhagwelir y bydd yn cyflwyno ei adroddiad, gyda chasgliadau ac argymhellion, i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ym mis Tachwedd.  Yna gofynnir i Bwyllgor y Rhaglen Graffu gefnogi cyflwyno adroddiad yr ymchwiliad i'r Cabinet am benderfyniad.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Raglen Hyfforddi a Datblygu Craffu sydd wedi'i datblygu ac a fydd yn cael ei darparu a'i hwyluso gan Dîm Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar gyfer Cynghorwyr Craffu Abertawe. Bydd y rhaglen yn cynnwys pum sesiwn wahanol rhwng mis Hydref a mis Ionawr. Gofynnwyd i gynghorwyr nodi argaeledd ar gyfer y sesiynau hyn a dylent ymateb cyn gynted â phosib yn unol â hynny.  Ailadroddodd y Cadeirydd fod yr hyfforddiant yn gyfle da i wella a datblygu gwybodaeth a sgiliau craffu.

 

Y prif eitemau sydd wedi’u hamserlennu ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 17 Hydref yw:

 

·       Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

·       Craffu ar roi prosiect Oracle Fusion ar waith. 

 

24.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 216 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfodydd Panel/Gweithgor/Craffu Rhanbarthol sydd ar ddod, er gwybodaeth.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 169 KB