Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

109.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

110.

Cofnodion. pdf eicon PDF 318 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023 fel cofnod cywir.

111.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

112.

Eitem frys - Y Cabinet eitem 10 ar yr agenda: Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol Yn ychwanegol at Gyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2027/28 - Cynlluniau Cymeradwy'r Gronfa Adferiad Economaidd (sy'n fwy na miliwn o bunnoedd).

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn ystyried y dylai'r 2 adroddiad canlynol gael eu hystyried yn ystod y cyfarfod fel mater brys.

 

·         Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Prosiectau ychwanegol i'w cynnwys o fewn Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 -2027/28 – Cynlluniau Cymeradwy'r Gronfa Adferiad Economaidd (CAE) (sy'n fwy na miliwn o bunnoedd) (18 Mai eitem rhif 10 ar agenda'r Cabinet)

·         Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol - Darpariaeth Refeniw Ychwanegol ar gyfer Cronfa Adferiad Economaidd Gweddilliol 2023/24 (18 Mai eitem rhif 14 ar agenda'r Cabinet)

 

Rheswm dros y mater brys:

 

Er mwyn galluogi craffu cyn penderfynu ar yr adroddiadau hynny cyn penderfyniad y Cabinet. 

 

Cyflwynwyd y ddau adroddiad brys ar y cyd â'i gilydd.  Mae Cofnod 113 isod yn adlewyrchu'r trafodaethau a gynhaliwyd ar gyfer y ddau adroddiad.

113.

Eitem frys - Y Cabinet eitem 14 ar yr agenda: Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol Darpariaeth refeniw ychwanegol ar gyfer Cronfa Adferiad Economaidd dros ben 2023/24.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd),  Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Cyllid a Phennaeth y Gwasanaethau Eiddo yn bresennol i Graffu ar y 2 eitem frys, a gyflwynwyd gyda'i gilydd.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at hanes diweddar y gyllideb ac egwyddorion ynghylch creu'r Gronfa Adferiad Economaidd, a rhesymeg dros wariant ychwanegol.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo dyraniad cyfalaf ychwanegol o £4,595,000 i'r Gyllideb a'r Rhaglen Gyfalaf, gyda £4.550,000 o'r Gronfa Adferiad Economaidd, ynghyd â chronfeydd presennol o £45,000 a gedwir ar gyfer Chwaraeon Stryd:

 

- dyraniad ychwanegol o £2,050,000 parthed Digonolrwydd Chwarae

- dyraniad ychwanegol o £1,045,000 parthed Cyfleusterau Sglefrio, ynghyd â chronfeydd presennol o £45,000 a gedwir ar gyfer Chwaraeon Stryd

- dyraniad ychwanegol o £1,500,000 parthed Teithio Gofal Cartref

 

Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd gymeradwyo cynlluniau sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Adferiad Economaidd Gweddilliol i'w cynnal ym mlwyddyn ariannol 2023/24, gyda £4,530,000 ar gael i'w ryddhau nawr fel swm untro terfynol ar gyfer blaenoriaethau newydd, gan ychwanegu at gynlluniau gwario cyllideb refeniw'r cyngor 2023/24. Nododd y Pwyllgor ei fod yn gallu ychwanegu eitemau at gyllideb 2023/24 o ganlyniad i'r CAE Gweddilliol a'r amcangyfrif o falansau heb eu dyrannu ar y ddarpariaeth chwyddiant canolog gan y byddai'r gwariant ynni yn is na'r hyn a dybir, hyd at £15 miliwn, ac o ganlyniad byddai defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn ar gael i'r Cabinet yn ystod y flwyddyn. Roedd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A yr adroddiad (Eitem rhif 14 ar agenda'r Cabinet) eisoes wedi'u cymeradwyo a byddent yn parhau, fodd bynnag, roedd y cynlluniau a restrir yn Atodiad B yn eitemau ychwanegol. Y mwyaf o'r rhain yw: £1m ar gyfer Codi'r Gwastad i dargedu a chefnogi ardaloedd o amddifadedd lluosog; Bysus am ddim (£600k); Ardaloedd Chwarae (£500k); Cynigion Parcio/Ffïoedd Newydd (£500k); Tîm PATCH (£450k); Cefnogaeth Fysus Leol (£400k); a glanhau draeniau'n well (£350k). Eglurwyd, mewn perthynas â'r 17 blaenoriaeth ychwanegol a nodwyd yn yr adroddiad, roedd y crynodeb yn dangos costau refeniw llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, gwnaed y canlynol yn glir i'r Pwyllgor:

• dyraniadau 'untro' ar gyfer 2023/24 (e.e.  eleni) oedd y rhain i wario arian CAE sydd ar gael, ac nid oedd yn rhoi unrhyw bwysau hirdymor ar gyllideb y cyngor.

• yn amodol ar y Cabinet yn cymeradwyo'r adroddiadau, byddai'r CAE yn gwbl ymrwymedig.

• pe bai tanwariant yna mater i'r Cyfarwyddwr Cyllid a'r Cabinet fyddai ystyried a fydd 'cario drosodd' yn briodol, gan ystyried blaenoriaethau eraill a allai ddod i'r amlwg ac yn amodol ar gyllid yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau hefyd ar eitemau amrywiol i geisio cael ychydig o fanylder, yn enwedig ar Gyfleusterau Sglefrio, a Theithio Gofal Cartref gyda'r atebion canlynol:

 

• Byddai'r dyraniad cyfalaf ar gyfer Cyfleusterau Sglefrio yn cynnwys uwchraddio cyfleusterau presennol yn ogystal â chreu dau gyfleuster newydd fel y cyfleuster newydd ar Heol y Mwmbwls, er mwyn ateb y galw.

 

• Roedd y dyraniad cyfalaf ar gyfer Teithio Gofal Cartref yn ymwneud â gofyniad gan Lywodraeth Cymru i holl Gynghorau Cymru ymrwymo arian i annog recriwtio Gweithwyr Gofal Cartref, a theimlwyd mai'r ffordd orau o wneud hyn fyddai gwella'r cynnig i staff gyda buddsoddiad tuag at gerbydau a fyddai'n helpu gyda symudedd gweithwyr, yn enwedig ar gyfer gwaith mewn lleoliadau mwy gwledig/anghysbell. Holodd Cabinet y Pwyllgor sut y bydd y £1.5m yn cael ei reoli a byddai'n gofyn i'r Panel Craffu perthnasol fonitro hyn, gan y bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at gostau refeniw parhaus y bydd angen i'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol eu rheoli.

 

Teimlai'r Pwyllgor y bydd nifer o'r eitemau gwariant newydd yn ennyn diddordeb gan Gynghorwyr ar draws y ddinas a'r sir i weld sut y gall cynlluniau fod o fudd i'w hardaloedd lleol, er enghraifft camerâu cylch cyfyng, cilfachau parcio i bobl anabl, cyrbau isel, Cynnwys Ieuenctid, a byddai angen i'r Cabinet drafod y ffordd orau o ddefnyddio'r arian hwn. Yn ogystal â'r mewnbwn y bydd y Cabinet yn ei geisio gan swyddogion perthnasol, teimlai aelodau'r Pwyllgor y dylai Cynghorwyr ymgysylltu â mecanwaith a ddatblygwyd a fydd yn sicrhau dosbarthiad cytbwys o fuddsoddiad ar draws ardaloedd lleol, gyda phroses glir ar gyfer blaenoriaethu gan ystyried adnoddau cyfyngedig wrth gyflawni gwelliannau. Awgrymwyd y dylai'r Cabinet annog Cynghorwyr i nodi blaenoriaethau y gellir eu hystyried fel rhan o'r broses. O ystyried yr amser a'r ymdrech y mae'n ei gymryd i gynhyrchu cynigion, dywedodd y Pwyllgor y byddai hynny'n helpu i gael mwy o eglurder ynghylch meini prawf a fydd yn gwella'r gyfradd lwyddiant pan fydd Cynghorwyr yn cyflwyno cynlluniau.

 

Teimlai'r Pwyllgor ei bod yn sesiwn ddefnyddiol iawn a oedd yn galluogi'r Pwyllgor i ddeall yr amrywiaeth o ran y gyllideb gytunedig a'r goblygiadau cyllidebol. Ar y cyfan, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw broblemau gyda'r argymhellion yn yr adroddiadau a phenderfyniad arfaethedig y Cabinet, a chroesawodd y buddsoddiad ychwanegol a fyddai o fudd i drigolion ar draws y ddinas a'r sir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl Aelodau, Swyddogion ac Aelodau'r Bwrdd.

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. 

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Cynghorydd Holley yn bresennol ar gyfer cyfarfod y Cabinet a drefnwyd ar gyfer 18 Mai, ar ei ran, i roi adborth llafar ar y ddau adroddiad.

114.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd H Lawson adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y Panel Craffu Perfformiad Newid yn yr Hinsawdd a Natur dros y flwyddyn ddiwethaf, a materion allweddol yr oedd y Panel wedi canolbwyntio arnynt.

 

Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad mewn perthynas â Phanel Craffu Perfformiad Newid yn yr Hinsawdd a Natur.

115.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd am unrhyw ddiwygiadau.

116.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth.

117.

Adolygiad diwedd blwyddyn 2022/23. pdf eicon PDF 353 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar Adolygiad Diwedd Blwyddyn 2022/23 a gwahoddodd aelodau'r Pwyllgor i fyfyrio ar eu profiad a mynegi eu barn, er enghraifft:

·         A oedd pethau wedi gweithio'n dda o fewn y Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf?

·         A oedd gwaith a rhaglen waith gyffredinol y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y pethau cywir?

·         Beth, os o gwbl, y gellid ei wneud yn well?

 

Gwnaed y sylwadau canlynol:

 

·         Mae'r Gynhadledd Cynllunio Gwaith Blynyddol yn ffordd dda o gael yr holl Gynghorwyr i gymryd rhan mewn nodi blaenoriaethau Craffu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

·         Mae Paneli Ymchwilio diweddar wedi gweithio'n dda iawn.

·         Dylid ystyried amseru gweithgarwch craffu i sicrhau bod pynciau'n cael eu trafod ar yr adeg iawn pan fydd yn galluogi trafodaeth ystyrlon a'r effaith a'r gwerth mwyaf. Bydd hyn yn helpu i annog ymgysylltiad cynghorwyr â Chraffu.

·         Mae angen ystyried amseroldeb gwybodaeth monitro ariannol i gefnogi Craffu effeithiol a chydlyniant gwell ag adroddiadau'r Cabinet.

·         Bydd twristiaeth yn bwnc pwysig i'r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio ei fonitro gan ystyried ei bwysigrwydd i'r economi leol.

·         Yn gyffredinol, dylai gwaith craffu fod yn ymwybodol o bwysau ar swyddogion sy'n darparu gwybodaeth ac ar Gynghorwyr sy'n cymryd rhan mewn Craffu. Byddai'n ddefnyddiol pe bai Cynghorwyr yn glir ynghylch gofynion unrhyw weithgarwch Craffu i'w helpu i ystyried eu cyfranogiad a sicrhau eu bod yn gallu rhoi o'u hamser iddo, gan gydbwyso gofynion eraill boed o fewn Craffu neu mewn mannau eraill.

·         A oes lle i roi mwy o amser i Gynghorwyr adolygu agendâu/gwybodaeth i'w helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd?

·         Bydd angen i'r Pwyllgor ystyried effaith unrhyw ostyngiad yn adnoddau ar y Rhaglen Waith a'r gallu oherwydd gohiriwyd dileu swydd Swyddog Craffu arfaethedig o fewn arbedion cyllidebol ar gyfer 2023/24 am flwyddyn yn unig. Bydd angen i'r Pwyllgor ystyried ansawdd yn erbyn swm, gan sicrhau craffu effeithiol ond hefyd sylw da i graffu ar draws holl feysydd pwysig y cyngor.

·         Rhoddodd bawb diolch i'r Tîm Craffu am eu holl waith caled a'u cefnogaeth barhaus yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod pob Panel Perfformiad Craffu hefyd wedi cael gwahoddiad i fyfyrio ar eu gwaith a'u sylwadau a allai lywio gwaith craffu yn y dyfodol a gwella effeithiolrwydd y Panel.

 

Roedd Arolwg Craffu'r Cynghorwyr hefyd wedi'i ddosbarthu yn ystod yr wythnosau diwethaf i gasglu adborth gan yr holl Gynghorwyr, a byddai canlyniadau'r arolwg yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol Craffu wedi iddynt gael eu dadansoddi.

 

Yn ogystal â hunanwerthuso, dywedodd y Cadeirydd fod adborth ar ôl y cyfarfod bellach yn cael ei gasglu gan Aelodau'r Cabinet a swyddogion sy'n bresennol ar gyfer cyfarfodydd Craffu. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adborth hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rhannodd ddau awgrym ar gyfer gwella a oedd yn deillio o hyn:

 

·         Gyda chyfarfodydd hybrid mae'n ddefnyddiol pan fydd y Cadeirydd yn dweud pwy sydd yn yr ystafell yn gorfforol, gan nad yw'n glir o'r camerâu i'r rheini sy'n cymryd rhan ar-lein.

·         Bod yn ofalus i beidio â thrafod materion personol/penodol i'r ward yn ystod Craffu

 

O ran y camau nesaf, dywedodd y Cadeirydd y canlynol wrth y Pwyllgor:

 

·         Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai yn ailbenodi Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn un o gyrff y cyngor a bydd y Pwyllgor yn ethol ei Gadeirydd a'i Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24.

·         Mae Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu yn cael ei chynllunio ar gyfer 4pm ar 13 Mehefin 2023, a fydd yn ddigwyddiad 'personol' yn Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer, Neuadd y Ddinas. Bydd cynghorwyr yn cael cyfle i gyfrannu syniadau yn y Gynhadledd, ond os ydynt am godi unrhyw beth cyn hynny gallant anfon e-bost at y Cadeirydd neu Arweinydd y Tîm Craffu. Gan ystyried adborth y gynhadledd bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ym mis Gorffennaf i gytuno ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2023/24.

 

Craffu cyn penderfynu ar adroddiad y Cabinet sydd ar ddod: Cynhelir ‘FPR7 Ailddatblygu 277-278 Stryd Rhydychen - Prosiect Hwb Cymunedol. Os bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cabinet ar 15 Mehefin, fel y cynlluniwyd ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfod Pwyllgor Arbennig y Rhaglen Graffu am 3pm ar 13 Mehefin, e.e. yn syth cyn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith.

118.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 225 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar ddod, er gwybodaeth.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu pdf eicon PDF 150 KB