Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

94.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

95.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

96.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

97.

Craffu Cyn Penderfynu: Terfyn cyflymder diofyn o 20mya, gan gynnwys ystyried y broses eithriadau. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad y Cabinet a oedd yn cynghori Aelodau ar y cynnig i wneud y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol ar ffyrdd cyfyngedig yn 20mya ac yn manylu ar y ffyrdd hynny a fydd yn cael eu heithrio ac sy'n parhau ar gyflymder o 30mya. 

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y broses ymgynghori i’w dilyn a’r ymagwedd a ddefnyddiwyd mewn perthynas â rhoi'r gofyniad ar waith, gyda’r gostyngiad yn y terfyn cyflymder diofyn yn dod i rym ar 17 Medi 2023.

 

Manylodd y Rheolwr Diogelwch Ffyrdd ar roi'r terfyn cyflymder 20mya cenedlaethol a'r broses eithrio ar waith.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·       Cyllid – Swyddogion i ddarparu dadansoddiad manwl o'r gost o roi'r mesurau hyn ar waith, y mae'r costau'n cael eu ceisio gan Lywodraeth Cymru.

·       Materion o ran cydymffurfio a gorfodi.

·       Pwysigrwydd cadw arwyddion/marciau ffordd presennol sy’n gyson â’r terfyn cyflymder newydd, yn enwedig o amgylch ysgolion, i’n hatgoffa o'r terfyn ac i atgyfnerthu’r neges am y gostyngiad mewn cyflymder.

·       Faint o gyfathrebu cyhoeddus sydd ei angen a rôl y cyngor wrth sicrhau bod hyn yn cael ei roi ar waith yn llwyddiannus.

·       Ymgysylltu â Chynghorwyr Lleol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, a’r swyddogion a oedd yn bresennol, am yr wybodaeth a ddarparwyd gan gynnwys cyngor technegol, ac am gynorthwyo’r Pwyllgor wrth drafod yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 23 Mawrth 2023 i fynegi barn y Pwyllgor.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Craffu Cyn Penderfynu pdf eicon PDF 111 KB