Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

98.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr L R Jones, M Jones, S M Jones, H Lawson, W G Lewis ac S Pritchard gysylltiad personol â Chofnod 102 - Craffu ar Drosedd ac Anhrefn - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel.

 

 

99.

Gwahardd pleidleisiau chwip a datgan chwipiau'r pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

 

100.

Cofnodion. pdf eicon PDF 233 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023 a Phwyllgor Arbennig y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2023 fel cofnod cywir.

 

101.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

102.

Craffu ar Droseddu ac Anrhefn - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel. pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel Pwyllgor Craffu ar Drosedd ac Anhrefn dynodedig y cyngor, cyfarfu Pwyllgor y Rhaglen Graffu i drafod perfformiad Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel, gyda'r cyngor ac arweinwyr yr Heddlu. Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr y cyngor: Aelod y Cabinet dros Les, Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, Comisiynydd Arweiniol Strategol, Rheolwr Partneriaeth Integreiddio Cymunedol, a chynrychiolwyr Heddlu De Cymru: Trudi Meyrick, Prif Uwch-arolygydd, Mark Brier, Uwch-arolygydd, James Ratti, Prif Arolygydd, Eve Davis, Uwch-arolygydd (Cymunedau a Phartneriaeth), a Jessica Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Abertawe/Castell-nedd Port Talbot).  Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolwyr am ddarparu adroddiadau ysgrifenedig/papurau gan fyfyrio ar berfformiad y Bartneriaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gweithgareddau penodol a blaenoriaethau strategaeth Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel ddrafft ar gyfer 2023-26 a Strategaeth Trais Abertawe yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ddrafft 2023-26.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Les fod yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu sut mae asiantaethau a phartneriaid lleol wedi cydweithio'n dda i wneud Abertawe'n fwy diogel a lleihau'r ofn o droseddu yn ystod 2022. Fodd bynnag, fel partneriaeth, cydnabuwyd bod angen gwneud gwaith o hyd i adeiladu ar ein llwyddiant a chanolbwyntio ar heriau newydd. 

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Les at y prif ffocws sef parhau i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mynd i'r afael â'r defnydd o sylweddau, ceisio lleihau aildroseddu a chefnogi ein pobl ifanc a bregus rhag ymddygiad eithafol a threisgar.

 

Byddai Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau casineb o bob math, a bydd yn parhau i sicrhau bod Abertawe yn lle sy'n sefyll yn erbyn anoddefgarwch, casineb ac eithafiaeth. Mae llawer o'r materion trosedd ac anhrefn y bydd Abertawe Mwy Diogel yn ceisio mynd i'r afael â nhw yn cynnwys ffactorau sylfaenol sy'n aml yn gysylltiedig â bod yn agored i niwed a chamfanteisio.


Cyfeiriodd at y Blaenoriaethau Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2023 i 2026, gan nodi'r chwe blaenoriaeth allweddol sef blaenoriaethau strategol, bwriadau a'r canlyniadau.  Mae'r blaenoriaethau hyn yn cydnabod bod natur trosedd yn newid. Mae'n nodi'r dull o fynd i'r afael â throseddau niwed cudd fel trais domestig, camfanteisio'n rhywiol ar blant a throseddau cyfundrefnol difrifol a thrais difrifol. Mae gwaith yn parhau ar gynlluniau gweithredu unigol ar gyfer pob un o'r blaenoriaethau.


Bydd cynnydd yn cael ei fonitro bob chwarter gan Grŵp Llywio Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Y gobaith yw y bydd cyflawni nodau'r bwriadau strategol ar gyfer pob blaenoriaeth yn gallu gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona lleol a phartneriaid diogelwch cymunedol er mwyn gwneud Abertawe'n fwy diogel.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaeth y Pwyllgor ynghylch perfformiad Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·      Llywodraethu sy'n ymwneud yn benodol â threfniant cyd-gadeirio'r Bartneriaeth sy'n gyfrifol am arwain a rheoli Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel.

·      Adnoddau'r bartneriaeth a meintioli adnoddau/gwariant.

·     Blaenoriaethau a chyflawniadau economi gyda'r hwyr a chyda'r nos; Statws Baner Borffor; gweithio mewn partneriaeth gydag Ardal Gwella Busnes Abertawe

·     Heriau a mentrau ymddygiad gwrthgymdeithasol (beiciau oddi ar y ffordd).

·     Troseddau casineb, cymharu setiau data a mentrau rhagweithiol.

·     Cydlyniant cymunedol, integreiddio a chyflawniadau.

·     Troseddau rhywiol/treisio, mentrau a chyflawniadau.

·     Aflonyddwch Mayhill ac amserlenni ar gyfer cyhoeddi'r canfyddiadau a'r argymhellion yn dilyn adolygiad annibynnol gan yr Heddlu o'r ymateb plismona.

·     Ymgysylltu â'r gymuned a mentrau/llwyddiannau, defnydd o gydgynhyrchu.

llwyddiannau a blaenoriaethau m mentrau camddefnyddio sylweddau (Prosiect Adder)

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Cabinet, Swyddogion a chynrychiolwyr Heddlu De Cymru am yr wybodaeth a ddarparwyd ac am yr ymateb i gwestiynau.

 

Penderfynwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gyd-gadeiryddion Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel gan adlewyrchu safbwyntiau'r Pwyllgor.

 

103.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Datblygiad ac Adfywio (Y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd). pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd C A Holley adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio dros y flwyddyn ddiwethaf, a materion allweddol y mae'r Panel wedi bod yn canolbwyntio arnynt.

 

Penderfynwyd nodi Adroddiad Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad mewn perthynas â'r Panel Craffu Perfformiad Datblygu ac Adfywio.

 

104.

Aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno ar aelodaeth y Paneli a'r Gweithgorau, fel yr adroddwyd.

 

105.

Rhaglen Waith Craffu. pdf eicon PDF 276 KB

Trafodaeth am:

a)        Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)        Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2022/23 y mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am ei monitro.

 

Y prif eitemau sydd wedi’u hamserlennu ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 16 Mai yw:

 

·        Craffu Cyn Penderfynu:  Ailddatblygu RhGA7 277-278 Stryd Rhydychen - Prosiect Hwb Cymunedol.

·        Adolygiad o'r flwyddyn.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Craffu, er mwyn cryfhau'r broses adolygu, hunanwerthuso a myfyrio, mae arolwg wedi'i anfon at yr holl Gynghorwyr yn gwahodd barn ar y ffordd y mae Craffu wedi gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

106.

Llythyrau craffu. pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

 

107.

Dyddiad ac amser cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod. pdf eicon PDF 232 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiad ac amser Cyfarfodydd y Panel/Gweithgor Craffu sydd ar ddod, er gwybodaeth.

 

Llythyr at Gyd-gadeiryddion y Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Abertawe Mwy Diogel pdf eicon PDF 198 KB