Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â darpariaethau'r
Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1. Datganodd y Cynghorydd W G Lewis gysylltiad personol â Chofnod 138 “Trefniadau Derbyn 2023-24”. 2. Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd personol a rhagfarnol â Chofnod 141 “Tâl Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.
3. Datganodd Ben Smith fudd personol a rhagfarnol â Chofnod 141 “Tâl Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn” a gadawodd y cyfarfod cyn ei
ystyried. Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y cysylltiadau personol
a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a
swyddogion ag eitemau ar yr agenda. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y
dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog
fuddiannau i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw
beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw
fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen. Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd W G
Lewis gysylltiad personol â chofnod rhif 138 "Trefniadau Derbyn
2023-2024". 2)
Datganodd y Cynghorydd C E
Lloyd gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod rhif
141 "Taliad Cydnabyddiaeth Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn" a
gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. 3)
Datganodd Ben Smith gysylltiad
personol a rhagfarnol â chofnod rhif 141 "Taliad
Cydnabyddiaeth Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn" a gadawodd y cyfarfod
cyn iddo gael ei ystyried. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion
ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r
cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: a)
Y Cynghorydd Cymuned Phil Crayford - Y Pwyllgor Safonau Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod y Cynghorydd
Cymuned Phil Crayford wedi bod yn Gynrychiolydd Cymuned/Tref ar y Pwyllgor
Safonau ers 5 Hydref 2012. Daw ei gyfnod yn y swydd i ben yn yr Etholiad
Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022. Ar ran y cyngor, diolchodd i'r Cynghorydd Cymuned
Crayford am ei wasanaeth. b)
Jamborî Sgowtiaid y Byd – Corea 2023 Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol y saith (7)Sgowt
Fforio o Abertawe a ddewiswyd yn ddiweddar i gynrychioli Cymru yn 25ain
Jamborî Sgowtiaid y Byd yng Nghorea
yn ystod 2023. Roeddent wedi cymryd rhan mewn proses ddethol drylwyr o 250 cyn
cael eu cwtogi i 72 ledled Cymru. Mae ein Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd, Huw Evans yn arbennig o falch gan fod ei ddau
blentyn (Branwen a Gruff) ymhlith y 7 o Abertawe sydd wedi cael eu dewis.
Dymunodd bob lwc iddynt gyda'r gwaith codi arian. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: a)
Skyline
Swansea Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y datganiad
diweddar gan Skyline Swansea yn datgan eu bod yn bwriadu
bod ar agor yn gynnar yn 2025. b)
Digwyddiadau yn yr Arena Crybwyllodd Arweinydd y Cyngor y digwyddiadau
rhagorol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr Arena a hefyd y digwyddiadau gwych
sydd ar ddod. c)
Cynghorwyr nad ydynt yn sefyll am ailetholiad ar 5 Mai
2022 Talodd Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol deyrnged
i'r Cynghorwyr hynny a oedd wedi dewis peidio â cheisio cael eu hailethol yn yr
Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022. Diolchwyd iddynt am wasanaethu eu cymunedau a phreswylwyr Abertawe yn
ystod cyfnod eu swyddi fel Cynghorwyr.
Allwedd:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau
gael eu
cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk
erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Trefniadau Derbyn 2023-2024. PDF 260 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Approved. Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn gofyn am
benderfyniad ar y Trefniadau Derbyn ar gyfer Ysgolion a gynhelir ar gyfer y
flwyddyn academaidd 2023-2024. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn
arfaethedig ar gyfer 2023-2024 ar gyfer dosbarthiadau meithrin fel a nodir yn
Atodiad A yr adroddiad. 2)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn
arfaethedig ar gyfer 2023-2024 ar gyfer dosbarthiadau derbyn fel a nodir yn
Atodiad B yr adroddiad. 3)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn
arfaethedig ar gyfer 2023-2024 ar gyfer Blwyddyn 7 fel a nodir yn Atodiad C yr
adroddiad. 4)
Cymeradwyo'r trefniadau derbyn
arfaethedig ar gyfer 2023-2024 ar gyfer trosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn fel
a nodir yn Atodiad Ch yr adroddiad. 5)
Cymeradwyo'r trefniadau
derbyn/meini prawf derbyn arfaethedig ar gyfer 2023-2024 ar gyfer
dosbarthiadau'r chweched yn Atodiad D yr adroddiad. 6)
Cymeradwyo'r Amserlen
Ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn Atodiad Dd yr adroddiad. 7)
Nodi'r niferoedd derbyn ar gyfer ysgolion cynradd ac
uwchradd, fel a nodir yn Atodiad E yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelodau Lleyg o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 234 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Weithredwr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo argymhelliad y
Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2022 a phenodi 2 Aelod Lleyg arall
i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Penderfynwyd: 1)
Penodi
Gordon Anderson yn Aelod Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 2)
Penodwyd
Phil Sharman yn Aelod Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 3) Y Cyfnod yn y Swydd i’r ddau oedd 24 Mai 2022 tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio ailbenodi Paula
O'Connor yn Aelod Lleyg Annibynnol (Cyfetholedig) i'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o 5 mlynedd ychwanegol. Penderfynwyd: 1)
Ailbenodi
Paula O'Connor yn Aelod Lleyg Annibynnol
(Cyfetholedig) o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am un cyfnod olynol arall
yn y swydd. 2) Daw ei Chyfnod yn y Swydd i ben yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Tâl Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn. PDF 524 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a
oedd yn cydnabod ehangder a chwmpas cynyddol rôl Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ac argymhellodd y dylai cydnabyddiaeth briodol, yn unol â'r cyfrifoldeb
hwnnw, fod yn gyson â'i chronfeydd partner ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru a
rolau Cadeiryddion pwyllgorau eraill o fewn y cyngor. Penderfynwyd: 1)
Y
caiff cwmpas ac ehangder cyfrifoldeb cynyddol rôl Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn eu cydnabod. 2) Y telir Cyflog Ychwanegol i Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn sy'n cyfateb i Uwch Gyflog Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) i Gadeirydd Pwyllgor gyda'r symiau ychwanegol (dros Gyflog Sylfaenol) i'w talu gan y Gronfa Bensiwn fel yr amlinellir ym Mharagraff 6.1 o'r adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad o Lawlyfr Cynghorwyr - Disgrifiadau Rôl a Manylebau Person. PDF 308 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo
Adran D y Llawlyfr Cynghorwyr a adolygwyd – Disgrifiadau Rôl a Manylebau Person
fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14
Chwefror 2022. Penderfynwyd: 1)
Y
byddai "Disgrifiadau Rôl Aelodau Fframwaith a Manylebau Person Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) - Mehefin 2021" a
Disgrifiadau Rôl penodol Cyngor Abertawe fel y'u nodir yn Atodiadau A a B yn cael eu mabwysiadu fel Adran D o Lawlyfr y
Cynghorwyr. 2) Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddaru Adran D Llawlyfr y Cynghorwyr er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn gyson â chyhoeddiadau CLlLC yn y dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Newidiadau i'r Cyfansoddiad. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er
gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r
diwygiadau a wnaed gan y Swyddog Monitro i Gyfansoddiad y cyngor yn dilyn
cychwyn adrannau penodol o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a
newidiadau diweddar i'r strwythur uwch-reoli. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cynghorwyr. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau. |