Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

109.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch cysylltiadau personol a rhagfarnol posib cynghorwyr a swyddogion ag eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan yn unig. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw gysylltiad ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, M Durke, L S Gibbard, T J Hennegan, C A Holley, E J King, A S Lewis, R D Lewis, A Pugh, A H Stevens, G J Tanner a T M White gysylltiad personol â chofnod 115 "Datganiad Polisi Tâl 2022/23".

 

2)           Datganodd y Cynghorwyr M B Lewis a P Lloyd gysylltiad personol â chofnod 116 "Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023/24-2025/26", cofnod 118 "Cyllideb Refeniw 2022/23" a chofnod 119 "Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2021/22-2026/27".

 

3)           Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 120 "Cyllideb Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2022/23”.

 

4)           Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 121 "Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23”.

 

Swyddogion

 

5)           Datganodd G Borsden, A Chard, C Davies, H G Evans, A Hill, D Howes, T Meredith, M Nicholls, P Roberts a B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 115 "Datganiad Polisi Tâl 2022/23" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

Nodyn: Ni adawodd A Chard a H G Evans gan fod angen iddynt aros i gyflwyno'r adroddiad, cynnal y bleidlais a chofnodi'r penderfyniad.

110.

Cofnodion. pdf eicon PDF 213 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod Arbennig y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2022.

 

2)           Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2022.

111.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol diwethaf y cyngor.

112.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

a)           Cywiriadau/Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

i)             Eitem 8 "Datganiad Polisi Tâl 2022/23"

 

Nododd yr aelod llywyddol y derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol ers drafftio'r adroddiad. Caiff argymhelliad yr adroddiad ei ddiwygio'n briodol.

 

ii)            Eitem Frys - Rhybudd o Gynnig - Undod ag Wcráin

 

Nododd yr aelod llywyddol y derbyniwyd eitem frys ac y byddai'n cael ei hystyried yn hwyrach yn y cyfarfod.

113.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

a)            Argyfwng yn Wcráin

 

Trafododd Arweinydd y Cyngor y rhyfel sy'n parhau yn Wcráin. Dywedodd y dylid cynnal trafodaeth ehangach yn hwyrach dan yr Hysbysiad o gynnig - Undod ag Wcráin.

 

Dywedodd bod gan Gyngor Abertawe gysylltiadau eisoes ag Wcráin a'i fod ef a'r cyngor yn gweithio i gynorthwyo pobl Wcráin. Diolchodd i bobl am eu rhoddion ond dywedodd mai rhoi arian drwy'r elusennau cofrestredig yw'r ffordd orau o helpu ar hyn o bryd.

 

Diolchodd i'r Cynghorydd Clive Lloyd ac i Jeff Dong am eu gwaith yn ymwneud ag ystyried gwerthu asedau holl fuddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn gydag endidau Rwsieg. Gwneir hyn cyn gynted ag sy'n bosib ac o fewn fframwaith cyfreithiol.

 

b)           Bargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe - dathlu 5 mlynedd

 

Nododd Arweinydd y Cyngor ei fod wedi bod yn nigwyddiad dathlu 5 mlynedd o Fargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ym Mharc y Scarlets yn gynharach y diwrnod hwnnw. Roedd £1.296 biliwn o'r £1.3 biliwn wedi’i glustnodi. Dywedodd mai Dinas-Ranbarth Bae Abertawe oedd yr unig Fargen Ddinesig sydd wedi clustnodi 99% o'r arian a dyma'r unig un sydd wedi cymeradwyo a dechrau cyflwyno pob prosiect.

 

Diolchodd i bawb sy'n rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

c)            Bae Copr - Agor yr Arena'n swyddogol

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor yr agorwyd yr Arena'n swyddogol ym Mae Copr yn gynharach y diwrnod hwnnw. Diolchodd i Lee Richards, Martin Nicholls, Huw Mowbray a swyddogion eraill am eu gwaith a'u llwyddiant wrth gyflawni'r Arena ar amser ac o fewn y gyllideb

 

Llongyfarchodd yr aelod llywyddol Arweinydd y Cyngor a diolchodd iddo am ei waith gyda Bae Copr a'r Arena.

 

d)           Parc Sglefrio Cyngor Cymuned y Mwmbwls

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor wedi cytuno i ymrwymo i gytundeb prydles gyda Chyngor Cymuned y Mwmbwls mewn perthynas â'r parc sglefrio. Ni chyflwynwyd unrhyw adolygiadau barnwrol mewn perthynas â phenderfyniad y Cabinet ac roedd felly'n falch y bydd y parc sglefrio'n cael ei gyflwyno cyn gynted â phosib.

 

e)            Ystyriaethau ynghylch Home Farm

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at Home Farm. Cadarnhaodd y gwneir popeth sy'n bosib i gynnal yr adeilad hanesyddol a dod o hyd i ddefnydd newydd iddo.

 

f)             Adduned am Ymgyrch Etholiadol Teg a Pharchus

 

Nododd Arweinydd y Cyngor fod y 22 o arweinwyr cyngor ar draws Cymru a holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol Cyngor Abertawe wedi cofrestru ar gyfer adduned am ymgyrch etholiadol teg a pharchus Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Mae'r adduned yn gofyn i bob ymgeisydd gymryd rhan mewn ymgyrch etholiadol teg yn seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personol a difenwol yn erbyn unigolion.

114.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Cyflwynwyd dau gwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Roedd y ddau'n ymwneud â chofnod 118 "Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2021/22-2026/27".

 

Ymatebodd yr Aelod perthnasol o'r Cabinet.

115.

Datganiad Polisi Tâl 2022/23. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Polisi Tâl 2022-2023.

 

Dywedodd Rheolwr Strategol Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol y cytunwyd ar Gytundeb Tâl Soulbury 2021 a Chytundeb Tâl y Cyd-gyngor Cenedlaethol (CG) 2021-2022 ers drafftio'r adroddiad. Diwygiwyd yr argymhelliad i adlewyrchu hyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2021-2022 sy'n cynnwys Cytundeb Tâl Soulbury 2021 a Chytundeb Tâl y Cyd-gyngor Cenedlaethol (CG) 2021-2022.

116.

Budget Reports - Presentation Overview.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 adroddiad technegol bras mewn perthynas â'r adroddiadau am y gyllideb. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol cyffredinol.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor adroddiad bras am y gyllideb.

 

Dywedodd yr aelod llywyddol y dylid gofyn cwestiynau penodol ynghylch adroddiadau unigol a'u trafod pan fydd yr adroddiad hynny o dan sylw.

117.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2023/24 - 2025/26. pdf eicon PDF 839 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, yn manylu ar y prif dybiaethau ariannu ar gyfer y cyfnod ac yn cynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023/24 i 2025/26 fel sail am gynllunio ariannol ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.

118.

Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break.

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso egwyl o 10 munud.

119.

Cyllideb Refeniw 2022/23. pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Gwelliant Llafur – Cymeradwywyd

Gwelliant Grŵp Gwrthblaid y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Annibynnol – Gwrthodwyd

Pleidlais serfynol serfynol - Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol y broses y byddai'n ei dilyn ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 yr adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariad bach ynghylch ffigur setliad terfynol grant y llywodraeth leol. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol i Swyddog Adran 151. Ymatebodd Swyddog Adran 151.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod dau ddiwygiad i'r gyllideb wedi dod i law. Un gan y Grŵp Llafur ac un gan y Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau. Byddai diwygiad cyllideb y Grŵp Llafur yn cael ei ystyried gyntaf.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor ddiwygiad y Grŵp Llafur. Cynigiwyd diwygiad y Grŵp Llafur gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd D H Hopkins.

 

Diwygiad y Grŵp Llafur

 

"Argymhellodd y Cabinet i'r cyngor y dylid diwygio'r gyllideb i sicrhau y telir isafswm cyflog o £10 i'r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol yn Abertawe yn amodol ar y cyngor yn cytuno ar y polisi tâl diwygiedig, a fydd wedi'i drafod erbyn hyn gan ei fod wedi codi'n gynharach ar agenda'r cyngor hwn. Mae hyn eisoes wedi'i adlewyrchu’n llawn ym mhapurau'r gyllideb a gyflwynwyd i'r cyngor.

 

Argymhellodd y Cabinet ein bod yn mynd ymhellach ac yn ehangu'r dyhead cyflog hwn o £10 yr awr ar gyfer gweithwyr allweddol yr holl wasanaethau a gomisiynir yn uniongyrchol er mwyn gwella ar yr addewid o £9.90, a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fewn y setliad ar gyfer agweddau ar ofal cymdeithasol.

 

Wrth gydnabod bod tâl yn fater ar gyfer cyflogwyr unigol a'u gweithwyr, gall y cyngor helpu i ddylanwadu ar drafodaethau rhwng cyflogwyr a gweithwyr i lwyddo i wireddu'r dyhead polisi hwn trwy sicrhau y neilltuir digon o gyllideb y cyngor wrth gomisiynu cyllidebau. Yn dilyn yr argymhelliad hwn gan y cyngor, mae Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfrifo y byddai angen rhyddhau £400,000 o'r ddarpariaeth chwyddiant canolog ar gyfer 2022-23 a’i ychwanegu at gyllidebau comisiynu'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn bodloni’r gofyniad hwnnw.

 

Cynigiwn fod y cyngor yn penderfynu rhyddhau £400,000 o'r gyllideb sylfaenol a gedwir ar gyfer pwysau chwyddiant canolog ar gyfer 2022-23 i gyllidebau comisiynu'r gwasanaethau cymdeithasol yn y gyllideb derfynol er mwyn darparu arian ychwanegol i alluogi cyflogwyr partner i ystyried talu £10 yr awr i'w staff. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cydraddoldeb o ran triniaeth, ni waeth ble a sut y mae pobl yn cael eu cyflogi yn y maes gofal cymdeithasol.

 

Rydym am fynd ymhellach ac ystyried cydraddoldeb o ran triniaeth i bawb a gyflogir ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus allweddol, nid yn unig mewn gofal cymdeithasol. Bydd angen gwneud gwaith yn y dyfodol gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu a chydnabod y galwadau am Gyngor Partneriaeth Cymdeithasol ar draws Cymru, a fydd yn cynnwys pob rhan o'r sector cyhoeddus, sectorau cyflenwi ehangach a thrwy'r gadwyn gyflenwi yn y pen draw. Cynigiwn fod y cyngor yn adolygu'r holl wasanaethau eraill a gomisiynir yn uniongyrchol y tu allan i ofal cymdeithasol.

 

Nid yw hyn o fewn gallu'r cyngor yn unig ac felly ni ellir ei drafod ar ei ben ei hun o fewn y gyllideb hon. Bydd yn esblygu dros amser, ond rydym yn bwriadu parhau i fod yn flaenllaw o ran tâl sy'n deg yn gymdeithasol ar gyfer gweithwyr uniongyrchol a'r holl weithwyr allweddol lle bynnag y byddwn yn comisiynu gwasanaethau'n uniongyrchol."

 

Cefnogwyd y diwygiad a daeth yn rhan o'r prif argymhelliad.

 

Cynigiwyd diwygiad Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau gan y Cynghorydd P M Black ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd C A Holley.

 

Diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau

 

"Mae'r cyngor yn nodi yr ystyrir bod gan oddeutu 850 i 1000 o eiddo preifat yn Abertawe gladin anniogel ac ni wnaed llawer o gynnydd wrth ddatrys y broblem hon yn y 4.5 blynedd ers trychineb Grenfell. Mae dioddefwyr y sgandal diogelwch tân hwn yn wynebu biliau o hyd at £60,000 ar gyfer gwaith diogelwch tân ar eu cartrefi diffygiol o ran diogelwch tân ac anwerthadwy, sy'n rhoi straen ariannol enfawr ar eu teuluoedd ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.

 

Mae'r cyngor hefyd yn nodi bod Cynulliad Llundain wedi sefydlu Canolfan Cefnogi'n ddiweddar, sy'n galluogi pobl i fynd i sesiynau cyngor galw heibio ar faterion fel y canlynol:

 

Ø    Cwblhau ceisiadau am arian ar gyfer potiau arian gwahanol y Llywodraeth.

Ø    Cyngor ar y broses EWS1

Ø    Rhoi cyngor i lesddeiliaid ar eu hawliau.

 

Mae'r cyngor yn credu y byddai sefydlu canolfan debyg yn Abertawe'n grymuso lesddeiliaid i fynnu eu hawliau a thrafod eu sefyllfa'n llwyddiannus, gan gyfleu neges gref gan y cyngor fod preswylwyr yn cael eu cefnogi ac na ddylent golli arian ac y byddwn yn sicrhau bod perchnogion adeiladau'n atebol.

 

Mae'r cyngor wedi penderfynu clustnodi £80,000 o'r Gronfa Cyfartalu Cyfalaf er mwyn sefydlu canolfan debyg a gwario'r arian ar ymchwil y defnyddiwr a datblygu'r we'n fewnol;  sicrhau mynediad trwy dendro cefnogaeth arbenigol ar gyfer rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid ar gyfer nifer o ddiwrnodau dros y flwyddyn (wedi’u rhannu dros y flwyddyn a’u cynnal yn Neuadd y Ddinas neu leoliad addas arall) er mwyn cael cyngor wyneb yn wyneb ar faterion megis ceisiadau am arian neu'r broses EWS1; tendro elusen/elusennau am gefnogaeth gyda chymorth iechyd meddwl arbenigol drwy'r hwb ar-lein a hefyd drwy weminarau sy'n canolbwyntio ar lesddeiliaid a gwaith allgymorth ar les; ac er mwyn hyrwyddo gwaith yr hwb."

 

Penderfynwyd pleidleisio ar ddiwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau a chollwyd y bleidlais. Felly, parhaodd diwygiad y Grŵp Llafur yn gynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Cymeradwyir y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23 fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad yn ogystal â diwygiad y Grŵp Llafur.

 

2)           Cymeradwyir Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 fel y nodwyd yn Adran 9 yr adroddiad.

120.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2021/22- 2026/27 pdf eicon PDF 367 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23 - 2026/27.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23 - 2026/27 fel a fanylir yn Atodiadau A, B C, D, E, F a G yr adroddiad.

121.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2022/23. pdf eicon PDF 437 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cynyddu rhenti'n unol â pholisi Llywodraeth Cymru fel a nodir yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)            Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel yr amlinellwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

 

3)            Cymeradwy'r cynigion Cyllideb Refeniw fel a nodir yn Adran 4 yr adroddiad.

122.

Cyfrif Refeniw Tai - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2021/22 - 2025/2026. pdf eicon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2022/23 - 2025/26.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2021/22;

 

2)            Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2022/23 - 2025/26;

 

3)            Lle caiff cynlluniau unigol yn Atodiad B eu rhaglenni dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn, caiff y rhain eu neilltuo a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros 4 blynedd.

123.

Penderfyniad statudol - dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r rheoliadau wrth bennu Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23. pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu nifer o benderfyniadau statudol i'w gwneud yn unol â'r Rheoliadau o ran gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2022-2023.

 

O ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i Gyllideb Refeniw 2022-2023 a hefyd y newid i'r setliad gan Lywodraeth Cymru, newidiwyd y ffigurau yn y penderfyniad statudol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi a mabwysiadu'r penderfyniadau statudol fel y'u hamlinellwyd.

 

2)            Nodi bod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 2 Rhagfyr 2021, wedi cyfrifo'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2022/2023 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i diwygiwyd):

 

a)           93,114 oedd y swm a gyfrifwyd gan y cyngor, yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'i diwygiwyd, fel ei sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn.

 

b)           Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

2,024

Clydach

2,639

Gorseinon

3,288

Tre-gŵyr

2,008

Pengelli a Waungron

441

Llanilltud Gŵyr

351

Cilâ

2,144

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

527

Llangyfelach

965

Llanrhidian Uchaf

1,606

Llanrhidian Isaf

340

Llwchwr

3,477

Mawr

758

Y Mwmbwls

10,089

Penlle’r-gaer

1,434

Pennard

1,563

Pen-rhys

485

Pontarddulais

2,327

Pontlliw a Thircoed

1,034

Porth Einon

478

Reynoldston

324

Rhosili

212

Y Crwys

712

Cilâ Uchaf

603

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd gan y cyngor, yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau ei sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

3)            Caiff y symiau canlynol eu cyfrifo gan y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/2023 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(a)          £826,498,085 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a) i (d) o'r Ddeddf.

 

(b)          £302,484,634 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(3)(a), 32(3)(c) a 32(3a) o'r Ddeddf.

 

(c)          £524,013,451 yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm yn 3(a) uchod a'r cyfanswm yn 3(b) uchod, ac mae'n swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn.

 

(d)          £386,174,176 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy i Gronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, a'r Grant Cynnal Refeniw heb gymorth trethi annomestig dewisol.

 

(e)          £1,480.33 yw'r swm yn (3)(c) heb y swm yn (3)(d) uchod, wedi'i rannu gan y swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn.

 

(f)           £1,697,024 yw cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o'r Ddeddf.

 

(g)          £1,462.10 yw'r swm yn (3)(e) heb y canlyniad a roddir trwy rannu'r swm yn (3)(f) uchod â'r swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(h)          Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

1,496.68

Clydach

1,514.29

Gorseinon

1,502.10

Tre-gŵyr

1,478.97

Pengelli a Waungron

1,482.51

Llanilltud Gŵyr

1,477.10

Cilâ

1,472.59

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,477.09

Llangyfelach

1,486.97

Llanrhidian Uchaf

1,557.99

Llanrhidian Isaf

1,481.22

Llwchwr

1,488.61

Mawr

1,551.81

Y Mwmbwls

1,520.09

Penlle’r-gaer

1,469.77

Pennard

1,519.15

Pen-rhys

1,488.45

Pontarddulais

1,515.36

Pontlliw a Thircoed

1,500.79

Porth Einon

1,474.65

Reynoldston

1,500.68

Rhosili

1,485.68

Y Crwys

1,504.34

Cilâ Uchaf

1,493.61

 

dyma'r symiau a roddwyd trwy adio'r swm yn (3)(e) uchod a symiau'r eitemau arbennig sy'n ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y cyngor a grybwyllwyd uchod, sydd wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn (2)(b) uchod, a'u cyfrifo gan y cyngor yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i anheddau yn rhannau hynny o'i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(i)            Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

997.78

1,164.09

1,330.38

1,496.68

1,829.27

2,161.87

2,494.46

2,993.36

3,492.26

Clydach

1,009.52

1,177.78

1,346.03

1,514.29

1,850.80

2,187.31

2,523.81

3,028.58

3,533.35

Gorseinon

1,001.40

1,168.30

1,335.20

1,502.10

1,835.90

2,169.70

2,503.50

3,004.20

3,504.90

Tre-gŵyr

985.98

1,150.31

1,314.64

1,478.97

1,807.63

2,136.29

2,464.95

2,957.94

3,450.93

Pengelli a Waungron

988.34

1,153.06

1,317.78

1,482.51

1,811.96

2,141.40

2,470.85

2,965.02

3,459.19

Llanilltud Gŵyr

984.73

1,148.86

1,312.97

1,477.10

1,805.34

2,133.59

2,461.83

2,954.20

3,446.57

Cilâ

981.72

1,145.35

1,308.96

1,472.59

1,799.83

2,127.07

2,454.31

2,945.18

3,436.05

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

984.72

1,148.85

1,312.96

1,477.09

1,805.33

2,133.57

2,461.81

2,954.18

3,446.55

Llangyfelach

991.31

1,156.53

1,321.75

1,486.97

1,817.41

2,147.84

2,478.28

2,973.94

3,469.60

Llanrhidian Uchaf

1,038.66

1,211.77

1,384.88

1,557.99

1,904.21

2,250.43

2,596.65

3,115.98

3,635.31

Llanrhidian Isaf

987.48

1,152.06

1,316.64

1,481.22

1,810.38

2,139.54

2,468.70

2,962.44

3,456.18

Llwchwr

992.40

1,157.81

1,323.20

1,488.61

1,819.41

2,150.21

2,481.01

2,977.22

3,473.43

Mawr

1,034.54

1,206.96

1,379.38

1,551.81

1,896.66

2,241.50

2,586.35

3,103.62

3,620.89

Y Mwmbwls

1,013.39

1,182.29

1,351.19

1,520.09

1,857.89

2,195.68

2,533.48

3,040.18

3,546.88

Penlle’r-gaer

979.84

1,143.16

1,306.46

1,469.77

1,796.38

2,123.00

2,449.61

2,939.54

3,429.47

Pennard

1,012.76

1,181.56

1,350.35

1,519.15

1,856.74

2,194.33

2,531.91

3,038.30

3,544.69

Pen-rhys

992.30

1,157.68

1,323.06

1,488.45

1,819.22

2,149.98

2,480.75

2,976.90

3,473.05

Pontarddulais

1,010.24

1,178.61

1,346.98

1,515.36

1,852.11

2,188.85

2,525.60

3,030.72

3,535.84

Pontlliw a Thircoed

1,000.52

1,167.28

1,334.03

1,500.79

1,834.30

2,167.81

2,501.31

3,001.58

3,501.85

Porth Einon

983.10

1,146.95

1,310.80

1,474.65

1,802.35

2,130.05

2,457.75

2,949.30

3,440.85

Reynoldston

1,000.45

1,167.20

1,333.93

1,500.68

1,834.16

2,167.65

2,501.13

3,001.36

3,501.59

Rhosili

990.45

1,155.53

1,320.60

1,485.68

1,815.83

2,145.98

2,476.13

2,971.36

3,466.59

Y Crwys

1,002.89

1,170.04

1,337.19

1,504.34

1,838.64

2,172.93

2,507.23

3,008.68

3,510.13

Cilâ Uchaf

995.74

1,161.70

1,327.65

1,493.61

1,825.52

2,157.43

2,489.35

2,987.22

3,485.09

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

974.73

1,137.19

1,299.64

1,462.10

1,787.01

2,111.92

2,436.83

2,924.20

3,411.57

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd drwy luosi'r symiau yn (3)(g) a (3)(h) uchod â'r nifer sydd, yn ôl cyfanswm y boblogaeth a nodwyd yn Adran 5 (1) Y Ddeddf, yn gymwys i anheddau a restrir mewn band prisio penodol, wedi'u rhannu â'r nifer sydd, yn y gyfran honno, yn gymwys i anheddau a restrir ym mand D a gyfrifir gan y cyngor yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau'r anheddau a restrir yn y bandiau prisio gwahanol;

 

4)       Nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi nodi'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2022/2023 mewn preseptau a gyflwynwyd i'r cyngor yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

201.41

234.97

268.54

302.11

369.25

436.38

503.52

604.22

704.92

 

5)        Ar ôl cyfrifo'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn (3)(I) a (4) uchod, mae'r cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, yn gosod, trwy hyn, y symiau canlynol fel y symiau Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 ar gyfer pob un o'r categorïau anheddau a gaiff eu dangos isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,199.19

1,399.06

1,598.92

1,798.79

2,198.52

2,598.25

2,997.98

3,597.58

4,197.18

Clydach

1,210.93

1,412.75

1,614.57

1,816.40

2,220.05

2,623.69

3,027.33

3,632.80

4,238.27

Gorseinon

1,202.81

1,403.27

1,603.74

1,804.21

2,205.15

2,606.08

3,007.02

3,608.42

4,209.82

Tre-gŵyr

1,187.39

1,385.28

1,583.18

1,781.08

2,176.88

2,572.67

2,968.47

3,562.16

4,155.85

Pengelli a Waungron

1,189.75

1,388.03

1,586.32

1,784.62

2,181.21

2,577.78

2,974.37

3,569.24

4,164.11

Llanilltud Gŵyr

1,186.14

1,383.83

1,581.51

1,779.21

2,174.59

2,569.97

2,965.35

3,558.42

4,151.49

Cilâ

1,183.13

1,380.32

1,577.50

1,774.70

2,169.08

2,563.45

2,957.83

3,549.40

4,140.97

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,186.13

1,383.82

1,581.50

1,779.20

2,174.58

2,569.95

2,965.33

3,558.40

4,151.47

Llangyfelach

1,173.86

1,369.50

1,565.14

1,760.79

2,152.08

2,543.37

2,934.65

3,521.58

4,108.51

Llanrhidian Uchaf

1,214.46

1,416.86

1,619.28

1,821.69

2,226.52

2,631.33

3,036.15

3,643.38

4,250.61

Llanrhidian Isaf

1,192.72

1,391.50

1,590.29

1,789.08

2,186.66

2,584.22

2,981.80

3,578.16

4,174.52

Llwchwr

1,240.07

1,446.74

1,653.42

1,860.10

2,273.46

2,686.81

3,100.17

3,720.20

4,340.23

Mawr

1,188.89

1,387.03

1,585.18

1,783.33

2,179.63

2,575.92

2,972.22

3,566.66

4,161.10

Y Mwmbwls

1,193.81

1,392.78

1,591.74

1,790.72

2,188.66

2,586.59

2,984.53

3,581.44

4,178.35

Penlle’r-gaer

1,235.95

1,441.93

1,647.92

1,853.92

2,265.91

2,677.88

3,089.87

3,707.84

4,325.81

Pennard

1,214.80

1,417.26

1,619.73

1,822.20

2,227.14

2,632.06

3,037.00

3,644.40

4,251.80

Pen-rhys

1,181.25

1,378.13

1,575.00

1,771.88

2,165.63

2,559.38

2,953.13

3,543.76

4,134.39

Pontarddulais

1,214.17

1,416.53

1,618.89

1,821.26

2,225.99

2,630.71

3,035.43

3,642.52

4,249.61

Pontlliw

1,193.71

1,392.65

1,591.60

1,790.56

2,188.47

2,586.36

2,984.27

3,581.12

4,177.97

Porth Einon

1,211.65

1,413.58

1,615.52

1,817.47

2,221.36

2,625.23

3,029.12

3,634.94

4,240.76

Reynoldston

1,201.93

1,402.25

1,602.57

1,802.90

2,203.55

2,604.19

3,004.83

3,605.80

4,206.77

Rhosili

1,184.51

1,381.92

1,579.34

1,776.76

2,171.60

2,566.43

2,961.27

3,553.52

4,145.77

Y Crwys

1,201.86

1,402.17

1,602.47

1,802.79

2,203.41

2,604.03

3,004.65

3,605.58

4,206.51

Cilâ Uchaf

1,191.86

1,390.50

1,589.14

1,787.79

2,185.08

2,582.36

2,979.65

3,575.58

4,171.51

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

1,176.14

1,372.16

1,568.18

1,764.21

2,156.26

2,548.30

2,940.35

3,528.42

4,116.49

 

124.

Strategaeth Gyfalaf 2022/23- 2027/28. pdf eicon PDF 616 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio ac yn llywio'r rhaglen gyfalaf saith blynedd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf 2021/22-2026/27.

125.

Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys,Dangosyddion Darbodus/Trysorlys, Strategaeth Fuddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2022/23, Adolygiad Rheoli Trysorlys dros y Flwyddyn 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Dangosyddion Darbodus, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2021/22.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus (Adrannau 2-7 yr adroddiad);

 

2)            Cymeradwyo'r Strategaeth Buddsoddi (Adran 8 yr adroddiad);

 

3)            Cymeradwyo'r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) (Adran 9 yr adroddiad).

 

4)            Nodi Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22 (Atodiad H yr adroddiad).

126.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 111 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu enw'r Cynghorydd J P Curtice.

Ychwanegu'r Cynghorydd D W W Thomas.

 

Pwyllgor Apeliadau Disgyblu Prif Swyddogion

Tynnu enw'r Cynghorydd E T Kirchner.

Ychwanegu'r Cynghorydd J P Curtice.

127.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

 

Cyflwynwyd deuddeg (12) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd dau (2) 'gwestiwn nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer' Rhan B ar eu cyfer.

128.

Eitem Frys - Hysbysiad o Gynnig - Undod ag Wcráin

Cofnodion:

Dywedodd yr aelod llywyddol yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod yn meddwl y dylai’r "Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorwyr R C Stewart, D H Hopkins, A S Lewis, M C Child, R Francis-Davies, L S Gibbard, E J King, A Pugh, R V Smith, A H Stevens, M Thomas, C A Holley, L R Jones a P N May mewn perthynas â'r Hysbysiad o Gynnig - Undod ag Wcráin" gael ei ystyried yn ystod y cyfarfod fel mater brys.

129.

Rhybydd o Gynnig

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorwyr R C Stewart, D H Hopkins, A S Lewis, M C Child, R Francis-Davies, L S Gibbard, E J King, A Pugh, R V Smith, A H Stevens, M Thomas, C A Holley, L R Jones a P N May.

 

Rheswm dros y mater brys: Gan fod Rwsia wedi cychwyn ymosodiad milwrol llawn ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022, dyma'r unig gyfle i'r cyngor ystyried a thrafod y mater hwn.

 

Fe'i cynigiwyd gan y Cynghorydd R C Stewart a'i eilio gan y Cynghorydd C A Holley.

 

“Rydym yn gresynu wrth ryfelgarwch annerbyniol yr Arlywydd Putin yn erbyn pobl Wcráin, sydd wedi dod â rhyfel unwaith eto i gyfandir Ewrop.

 

Safwn mewn undod â phobl Wcráin.

 

Mae Abertawe yn adnabyddus fel dinas noddfa ac felly, safwn yn barod i gefnogi unrhyw bobl sy'n cael eu dadleoli yn dilyn y gweithredoedd ofnadwy a gymerwyd gan Arlywydd Rwsia drwy oresgyn gwladwriaeth sofran.

 

Nid yw ei gamau gweithredu'n parchu rheolau cyfraith ryngwladol neu'r Cenhedloedd Unedig ac mae'n cael ei gondemnio, yn iawn, gan genhedloedd democrataidd ledled y byd.

 

Byddwn yn cefnogi pob ymdrech i sicrhau datrysiad heddychlon a diplomyddol, ac osgoi gwrthdaro a cholli bywydau."

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.