Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

92.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fuddiannau i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fuddiant ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd P Lloyd gysylltiad personol â Chofnod 98 "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor".

 

2)            Datganodd y Cynghorydd K M Roberts gysylltiad personol â Chofnod 98 "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor". Sylwer: Nid oedd y Cynghorydd K M Roberts wedi cymryd rhan yn y bleidlais ar yr eitem hon.

 

3)            Datganodd y Cynghorydd A Pugh fudd personol a rhagfarnol â Chofnod 98 "Mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor" a gadawodd y cyfarfod wrth i hyn gael ei ystyried.

 

4)            Datganodd y Cynghorydd V M Evans gysylltiad personol â Chofnod 99 "Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2022-27”.

 

5)            Datganodd y Cynghorydd K M Roberts gysylltiad personol â Chofnod 99 "Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2022-27”. Sylwer: Nid oedd y Cynghorydd K M Roberts wedi cymryd rhan yn y bleidlais ar yr eitem hon.

 

6)            Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, J A Hale, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, L James, O G James, Y V Jardine, J W Jones, M H Jones, M Jones, P K Jones, S M Jones, E J King, E T Kirchner, H Lawson, A S Lewis, M B Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, A Pugh, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, P B Smith, R V Smith, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, M Thomas, L G Thomas, W G Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod 6 "Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt".

 

7)            Datganodd y Cynghorwyr A M Day, E W Fitzgerald, P R Hood-Williams, E T Kirchner, C L Philpott, R C Stewart ac L G Thomas fudd Personol a Rhagfarnol â Chofnod 104 "Enwebu'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2022-2023" a gadawsant y cyfarfod wrth iddo gael ei ystyried.

 

8)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black, R Francis-Davies, C A Holley ac A S Lewis gysylltiad personol â Chofnod 104 "Enwebu'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2022-2023".

 

9)            Datganodd y Cynghorydd M C Child gysylltiad personol â Chofnod 9 "Cwestiynau gan y Cynghorwyr (Cwestiwn 6).

 

10)         Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, J E Burtonshaw, J P Curtice, P R Hood-Williams, L James, J W Jones, P K Jones, E T Kirchner, W G Lewis, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, J A Raynor, C Richards, G J Tanner, L G Thomas, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod 108 "Hysbysiad o Gynnig – Yr Argyfwng Ynni Cenedlaethol".

93.

Cofnodion. pdf eicon PDF 346 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2022.

94.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

95.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

a)            Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol at Ddinasyddion Abertawe a dderbyniodd ddyfarniadau yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

 

a)           Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)             Yr Athro Tavi Murray. Athro Rhewlifeg Prifysgol Abertawe. Gwasanaethau i ymchwil rhewlifeg a newid yn yr hinsawdd.

 

b)           Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)             Michael John Walters. Rheolwr Gweithrediadau'r Bad Achub. Bad Achub Glannau Llwchwr. Gwasanaethau i'r gymuned yn Abertawe.

 

c)           Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)             Y Parchedig Steven Bunting. Ficer Eglwys St. Thomas. Gwasanaethau elusennol i'r gymuned yn Abertawe.

 

ii)            Alison Williams. Pennaeth Ysgol Craigfelen. Gwasanaethau i Addysg a'r gymuned yn Abertawe.

 

iii)           Dr. Edward Morgan Roberts DL. Gwasanaethau i feddygaeth ac i'r gymuned yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

 

b)        CEEQUAL: CQA 670 - Parc Trefol Ffordd y Brenin

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol mai CEEQUAL oedd y cynllun asesu, graddio a gwobrau cynaliadwyedd pennaf ar gyfer prosiectau peirianneg sifil, isadeiledd, tirlunio a mannau cyhoeddus.

 

Roedd Academi BRE wedi gwirio a chadarnhau bod Parc Trefol Ffordd y Brenin wedi ennill gwobr CEEQUAL. Dyma'r asesiad CEEQUAL cyntaf sydd wedi'i gwblhau a'r cyntaf i 'basio' gan ragori ar hyn mewn gwirionedd wrth gael dyfarniad 'Da'.

 

Y meysydd a aseswyd o dan y Cleient, Dylunio ac Adeiladu ar gyfer y cynllun oedd:

 

Ø    Rheoli prosiectau.

Ø    Pobl a Chymunedau.

Ø    Defnydd Tir a Thirwedd.

Ø    Amgylchedd Hanesyddol.

Ø    Ecoleg a Bioamrywiaeth.

Ø    Amgylchedd Dŵr.

Ø    Defnydd o Adnoddau Ffisegol a'r Amgylchedd.

Ø    Trafnidiaeth.

 

Llongyfarchodd bawb a fu'n rhan o hyn.

 

c)           Diwrnod Coffáu’r Holocost - 27 Ionawr

 

Dywedodd y Llywydd fod heddiw'n ddiwrnod coffa cenedlaethol a neilltuwyd ar gyfer cofio'r chwe miliwn o Iddewon a gollodd eu bywydau yn yr Holocost, tranc miliynau'n fwy a ddioddefodd dan erledigaeth y Natsïaid a'r hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

 

27 Ionawr yw'r dyddiad y rhyddhawyd gwersyll crynhoi Auschwitz-Birkenau. Gyda'n gilydd, rydym yn dyst i bawb a gafodd eu llofruddio a'u herlid ac rydym yn anrhydeddu goroeswyr y cyfundrefnau hynny a'r holl rai y newidiwyd eu bywydau y tu hwnt i gydnabyddiaeth.

 

Mae mwy y gallwn ei wneud o hyd i sicrhau ein bod yn byw mewn byd sy'n rhydd o wahaniaethu, gelyniaeth ac erledigaeth.

 

Roedd yr Holocost wedi ysgwyd sylfeini gwareiddiad a'n lle ni yw sicrhau nad yw hyn byth yn cael ei anghofio a bod cenedlaethau i ddod yn parhau i gofio am y rheini a gollodd eu bywydau.

 

Mae'r cyngor, ar y cyd ag ysgolion, y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG), Fforwm Rhyng-ffydd Abertawe a Norma Glass MBE wedi recordio seremoni ymlaen llaw sydd ar gael ar dudalen Facebook y cyngor y gallwch ei gweld.

 

Gwahoddodd bob aelod o'r cyngor i oedi am eiliad o fyfyrio i gofio'r rheini a gollodd eu bywydau yn yr Holocost ac mewn hil-laddiadau dilynol.

 

d)           Cywiriadau / Diwygiadau i Wŷs y Cyngor

 

i)             Eitem 11 "Rhyddid er Anrhydedd Dinas Abertawe"

 

Gohiriwyd yr eitem hon oherwydd y ffaith y bydd yn anodd iawn trefnu Cyngor Seremonïol o fewn cyfnod cyfyngedig yng ngoleuni'r Cyfnod Cyn yr Etholiad sy'n dechrau ym mis Mawrth 2022, cyfyngiadau cyfredol COVID, a nifer o Gynghorau Seremonïol eraill yn gorfod cael blaenoriaeth h.y. Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer, y Llynges Fasnachol a'r Etholiad Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022.

 

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn datgan y dylid rhoi pob penderfyniad ar waith o fewn 6 mis i'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad a chredaf y byddwn yn ei chael hi'n anodd cynnal Cyngor Seremonïol o fewn 6 mis.

 

ii)            Eitem 12 "Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt”

Atodiad A. Mae paragraff 8.1 yn cyfeirio at Ddeddf Diogelu Data 1998. Diwygio'r flwyddyn i ddarllen 2018.

 

iii)          Eitem 15 "Aelodaeth Pwyllgorau”

Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau

Ychwanegu Mike Lewis, Aelod Cyfetholedig Statudol o'r Pwyllgor Safonau.

Ychwanegu'r Cynghorydd Cymuned Phil Crayford.

96.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

a)            Penodi Ben Smith yn Gyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Ben Smith wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 yn dilyn proses gyfweld. Gwnaed ei benodiad yng Nghyfarfod Arbennig o'r Cyngor yn gynharach y diwrnod hwnnw. Llongyfarchodd y Cynghorydd R C Stewart Ben Smith ar ei benodiad ar ran y cyngor.

 

Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged hefyd i swyddogion y Tîm Cyllid am eu holl waith, yn enwedig o ran sicrhau bod y grantiau busnes yn cael eu prosesu yn ystod pandemig COVID-19.

 

Diolchodd Ben Smith i Arweinydd y Cyngor am y gefnogaeth. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at barhau i wasanaethu'r cyngor.

 

b)           Adolygiad Dysgu Mayhill

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at gyhoeddi Adolygiad Dysgu Mayhill yn ddiweddar. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad i'r adroddiad a'i argymhellion. Dywedodd fod y cyngor yn derbyn yr argymhellion yn llawn.

97.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd tri chwestiwn gan aelodau'r cyhoedd. Roedd pob un yn ymwneud â Chofnod 107 "Cwestiynau gan y Cynghorwyr". Roedd un yn ymwneud â Chwestiwn 4 a 2 yn ymwneud â Chwestiwn 11.

 

Ymatebodd yr Aelod perthnasol o'r Cabinet.

98.

Mabwysiadu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a ddylid diwygio neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor presennol y cyngor a'r gofyniad naill ai i fabwysiadu cynllun newydd neu ailfabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2022. Roedd hefyd yn ceisio ailfabwysiadu'r cynllun presennol fel y nodir yn Adran 3 yr adroddiad ar gyfer y cyfnod 2022/23.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) ar 26 Tachwedd 2013, fel y'u diwygiwyd.

 

2)        Nodi'r diwygiadau i'r "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig" a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 i'w hystyried gan Senedd Cymru ar 18 Ionawr 2022.

 

3)            Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd gan y cyngor ym mis Tachwedd 2018 ar feysydd dewisol y cynllun presennol.

 

4)            Y bydd meysydd dewisol y cynllun presennol (2021/22) (fel y nodir yn adran 3 o'r adroddiad hwn) yn aros yr un fath ar gyfer y cyfnod 2022/23.

 

5)            Y bydd y cyngor yn mabwysiadu'r cynllun fel y'i nodir yn adran 3 o'r adroddiad hwn, i gynnwys unrhyw ddiwygiadau gorfodol a allai fod yn angenrheidiol o ganlyniad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru ac yn dod i rym.

99.

Polisi i Ddarparu Cymorth: Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl, 2022-27 pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr adran Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau a oedd yn amlinellu'r diwygiad arfaethedig i Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2017-22 i'w gynnwys mewn polisi newydd ar gyfer 2022-27 ac roeddent yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y polisi newydd.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r polisi "Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl: Polisi i Ddarparu Cymorth 2022-2027" arfaethedig, gan gynnwys y bwriad i ddileu'r prawf modd ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl bach a chanolig yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

100.

Strategaeth Gwastraff 2022-2025 pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan adran Gwella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Strategaeth Gwastraff 2022-2025.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Mabwysiadu Strategaeth Gwastraff 2022-2025.

101.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i Kevin Johns MBE. pdf eicon PDF 219 KB

Penderfyniad:

Gohiriwyd.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon oherwydd y ffaith y bydd yn anodd iawn trefnu Cyngor Seremonïol o fewn cyfnod cyfyngedig yng ngoleuni'r Cyfnod Cyn yr Etholiad sy'n dechrau ym mis Mawrth 2022, cyfyngiadau cyfredol COVID a nifer o Gynghorau Seremonïol eraill yn gorfod cael blaenoriaeth h.y. Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer, y Llynges Fasnachol a'r Etholiad Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022.

 

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn nodi y dylid rhoi pob penderfyniad ar waith o fewn 6 mis i'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad a chredaf y byddwn yn ei chael hi'n anodd cynnal Cyngor Seremonïol o fewn 6 mis.

102.

Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. pdf eicon PDF 421 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Pennaeth Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am fabwysiadu Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr – Mai 2022 a Thu Hwnt.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Caiff "Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr – Mai 2022 a Thu Hwnt" ei fabwysiadu yn amodol ar y gwelliant a amlinellir yng Nghyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

 

2)            Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn darparu arweiniad defnyddiol "Arferion Da" i gynghorwyr, a fydd yn esbonio pynciau megis copïau wrth gefn, cysoni, etc.

 

3)            Dylid ychwanegu hyfforddiant meddalwedd modern.gov at Raglen Sefydlu'r Cynghorwyr.

103.

Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr pdf eicon PDF 311 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am fabwysiadu'r Llawlyfr i Gynghorwyr a adolygwyd yn ddiweddar. Adolygwyd adrannau A - C yng nghyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2022 ac argymhellodd y pwyllgor y diwygiadau i'r cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Bydd y gwelliannau a gynigiwyd gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd fel y'u nodir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu.

104.

Enwebu'r Darpar Arglwydd Faer a'r Darpar Ddirprwy Arglwydd Faer ar gyfer 2022-2023. pdf eicon PDF 401 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am enwebiadau ar gyfer yr Arglwydd Faer Etholedig a'r Dirprwy Arglwydd Faer Etholedig er mwyn caniatáu i drefniadau ar gyfer digwyddiad Urddo'r Arglwydd Faer a'r Dirprwy Arglwydd Faer fynd yn eu blaenau.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Enwebu'r Cynghorydd Mike Day yn Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2022-2023.

 

2)            Enwebu'r Cynghorydd Graham Thomas yn Ddirprwy Arglwydd Faer Etholedig ar gyfer 2022-2023.

 

3)            Derbyn enwebiadau'r Cynghorwyr Rob Stewart, Wendy Fitzgerald, Paxton Hood-Williams, Erika Kirchner a Cheryl Philpott ar gyfer rolau'r Arglwydd Faer/Dirprwy Arglwydd Faer i ganiatáu sefyllfa wrth gefn awtomatig pe na bai'r rheini a enwir uchod yn ailsefyll neu'n peidio â chael eu hailethol.

105.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 112 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg

Tynnu enw'r Cynghorydd L S Gibbard

Ychwanegu'r Cynghorydd M B Lewis.

 

Panel Swyddi Gwag y Pwyllgor Safonau

Ychwanegu Mike Lewis, Aelod Cyfetholedig Statudol o'r Pwyllgor Safonau.

Ychwanegu'r Cynghorydd Cymuned Phil Crayford.

106.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu effaith craffu.

107.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 490 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd 5 'Cwestiwn Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'.

108.

Hysbysiad o Gynnig - Yr Argyfwng Ynni Cenedlaethol. pdf eicon PDF 204 KB

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd A S Lewis a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Mae'r cyngor hwn yn cydnabod yr argyfwng ynni digynsail sy'n wynebu llawer o aelwydydd ledled Abertawe, Cymru a'r DU. Yn ystod y misoedd i ddod bydd mwy a mwy o aelwydydd yn gweld cynnydd o faint na welwyd erioed o'r blaen wrth i'r cap ar brisiau gael ei ddileu neu wrth i fargeinion ynni ddod i ben.

 

Daw hyn ar ben argyfwng costau byw a grëwyd gan effeithiau Brexit a'r Pandemig COVID sydd eisoes wedi arwain at bwysau digynsail ar incymau pobl.

 

Mae chwyddiant yn parhau'n uchel iawn sy'n rhoi pwysau enfawr ar gyllidebau aelwydydd gan nad yw enillion wedi mynd bob yn gam â phrisiau, gan olygu bod cyllidebau teuluol yn gyfyngedig a phobl yn waeth eu byd.

 

Mae costau ychwanegol byw o ddydd i ddydd eisoes yn effeithio'n negyddol ar bob aelwyd ar draws Abertawe ond hyd yn oed yn fwy felly ar deuluoedd sy'n byw'n agos at dlodi y mae angen i lawer ohonynt ymweld â banciau bwyd o hyd, a byddant bellach yn wynebu'r dewis ofnadwy o wresogi eu cartref neu roi bwyd ar y bwrdd.

 

Fel cyngor, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i liniaru costau ynni drwy gyfeirio preswylwyr at yr opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi preswylwyr fel perchnogion cartrefi yn ogystal â'n buddsoddiad sylweddol yng nghartrefi'r cyngor i'w gwneud yn rhatach i'w gwresogi a byw ynddynt.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi £100 yr un i lawer o aelwydydd ac rydym yn croesawu'r cyfraniad hwn yn y cyfamser gyda'r cyngor yn prosesu hyd at 30,000 o daliadau o'r fath i aelwydydd yn Abertawe.

 

Fodd bynnag, dim ond drwy weithredu pendant gan Lywodraeth y DU y gellir sicrhau'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd i ddelio â'r argyfwng costau byw.

 

Felly, mae'r cyngor hwn yn galw ar Arweinydd y Cyngor i ysgrifennu at y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys i alw arnynt i weithredu a rhoi'r canlynol ar waith yn ddi-oed:

 

·                     Gostyngiad mewn TAW ar gyfer Biliau Ynni i helpu teuluoedd a deiliaid tai.

·                     Cyflwyno cap prisiau is newydd ar filiau ynni i amddiffyn aelwydydd rhag codiadau gormodol mewn prisiau.

·                     Cynyddu argaeledd grantiau neu fenthyciadau di-log i annog pobl i fanteisio ar atebion ynni adnewyddadwy fel Solar/PV domestig ar gyfer perchnogion cartrefi preifat a busnesau lleol.

·                     Treth annisgwyl ar gwmnïau ynni i ariannu cynllun grant ledled y DU ar gyfer aelwydydd cymwys i ategu'r gwaith a ddechreuwyd gan gynllun £100 Llywodraeth Cymru."

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (57 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

D H Hopkins

C L Philpott

J E Burtonshaw

O G James

S Pritchard

J P Curtice

L James

A Pugh

N J Davies

Y V Jardine

J A Raynor

P Downing

J W Jones

C Richards

C R Doyle

M Jones

K M Roberts

M Durke

P K Jones

B J Rowlands

C R Evans

S M Jones

M Sherwood

V M Evans

E J King

P B Smith

W Evans

E T Kirchner

R V Smith

R Francis-Davies

H Lawson

R C Stewart

S J Gallagher

A S Lewis

D G Sullivan

L S Gibbard

M B Lewis

D W W Thomas

F M Gordon

W G Lewis

L G Thomas

D W Helliwell

C A Lloyd

M Thomas

T J Hennegan

P Lloyd

W G Thomas

C A Holley

P M Matthews

L J Tyler-Lloyd

P R Hood-Williams

P N May

L V Walton

B Hopkins

D Phillips

T M White

 

Yn erbyn (0 Cynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Ymatal (0 Cynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

-

-

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o gysylltiad personol (0 cynghorwyr)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.