Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

76.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)           Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, S L Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, O G James, L James, Y V Jardine, L R Jones, M H Jones, M Jones, P K Jones, S M Jones, E T Kirchner, M A Langstone, H Lawson, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod 86 "Adroddiad Drafft Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022-2023 - Ymgynghoriad".

 

2)           Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J E Burtonshaw, M C Child, J P Curtice, N J Davies, A M Day, P Downing, C R Doyle, M Durke, C R Evans, V M Evans, W Evans, E W Fitzgerald, R Francis-Davies, S J Gallagher, L S Gibbard, F M Gordon, K M Griffiths, D W Helliwell, T J Hennegan, C A Holley, P R Hood-Williams, B Hopkins, D H Hopkins, O G James, L James, Y V Jardine, L R Jones, M H Jones, M Jones, P K Jones, S M Jones, E T Kirchner, M A Langstone, H Lawson, A S Lewis, M B Lewis, R D Lewis, W G Lewis, C E Lloyd, P Lloyd, I E Mann, P M Matthews, P N May, H M Morris, D Phillips, C L Philpott, S Pritchard, J A Raynor, C Richards, K M Roberts, B J Rowlands, M Sherwood, R V Smith, A H Stevens, R C Stewart, D G Sullivan, D W W Thomas, L G Thomas, M Thomas, L J Tyler-Lloyd, G D Walker, L V Walton a T M White fudd personol yng Nghofnod 87 "Diogelwch Cynghorwyr a Chefnogaeth Iddynt".

77.

Cofnodion. pdf eicon PDF 388 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021.

78.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

79.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)            Cydymdeimladau

 

i)             Michaela Robins, Chwaer y Cynghorydd Elliott King

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar Michaela Robins, chwaer y Cynghorydd Elliott King.

 

ii)            Y Cyn-gynghorydd Judith Irvin

 

Cyfeiriodd yr Aelod Llywyddol gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd Judith Irvin (Hinds bellach). Cynrychiolodd Judith Ward y Castell am gyfnod tan 1973 ar Gyngor Bwrdeistref Abertawe.

 

Eisteddodd pawb a oedd yn bresennol yn dawel fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

80.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

a)           Addewid Gwely bob Amser

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod wedi ailadrodd yr Addewid Gwely bob Amser. Roedd yr addewid hwn yn rhoi sicrwydd bod gwely ar gael bob amser i bobl ddigartref yn Abertawe. Diolchodd i'r Cynghorydd A S Lewis, y Cynghorydd A Pugh a'r Swyddogion perthnasol am eu gwaith gyda phobl ddigartref gan ddweud bod dros 400 o bobl wedi cael cymorth i ddod oddi ar y stryd i gartrefi parhaol.

 

Ategodd y Cynghorydd A S Lewis eiriau Arweinydd y Cyngor a diolchodd i'r Swyddogion a'r Asiantaethau a fu'n ymwneud â helpu'r digartref.

 

b)           Sefydliad Adain Dde – Fideos

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr wybodaeth fideo sy'n cael ei chylchredeg gan Sefydliad Adain Dde yn Abertawe ynglŷn â'r defnydd o westy yng Nghanol y Ddinas ar gyfer Ffoaduriaid yn anghywir.

 

Mae Cyngor Abertawe wedi ceisio cefnogi ffoaduriaid h.y. y rheini sy'n ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro neu sydd mewn angen. Nid ydym yn credu mai defnyddio gwestai yw'r ffordd briodol o ddarparu noddfa. Dywedodd fod Abertawe'n falch o fod yn Ddinas Noddfa.

 

Roedd Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf ac Arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn cefnogi sylwadau Arweinydd y Cyngor.

 

c)           Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig - Plannu Coed

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod coeden dderw wedi'i phlannu ar dir Neuadd y Ddinas i nodi 80 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig. Mae Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig yn elusen sy'n cefnogi ffoaduriaid a goroeswyr yr Holocost ledled Prydain. Diolchodd i Norma Glass am ei gwaith gyda'r Gymdeithas.

 

ch)     Diwrnod Hawliau Dynol – 10 Rhagfyr 2021

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y Diwrnod Hawliau Dynol a gynhelir ar 10 Rhagfyr 2021. Dywedodd y byddai'r diwrnod hefyd yn cael ei ddefnyddio i lansio cais Abertawe i fod yn Ddinas Hawliau Dynol. Y bwriad yw anfon neges glir fod Abertawe'n lle diogel a chroesawgar i fyw.

 

d)           Parc Sglefrio'r Mwmbwls Trosglwyddo Tir

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cabinet ar 18 Tachwedd 2021 wedi cymeradwyo trosglwyddo tir i Gyngor Cymuned y Mwmbwls ar gyfer datblygu Parc Sglefrio'r Mwmbwls. Dywedodd ei fod wrth ei fodd gyda'r penderfyniad hwn.

 

dd)        Storm Arwen

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Aelod Cabinet a'r Swyddogion perthnasol a oedd wedi gweithio'n ddiflino i lanhau canlyniadau Storm Arwen.

 

e)           Gorymdaith y Nadolig

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Aelod Cabinet a'r Swyddogion perthnasol am gyflwyno Gorymdaith Nadolig ragorol.

 

f)            Gohirio Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15

 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor benderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio TAN 15 am 18 mis. Dywedodd y byddai'r amser yn cael ei ddefnyddio i weithio'n agos ar amddiffynfeydd rhag llifogydd gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

ff)           Amrywiolyn Omicron COVID-19

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at Amrywiolyn Omicron COVID-19 ac atgoffodd bawb i ddilyn y rheolau a'r rheoliadau a osodwyd i gadw pawb yn ddiogel er mwyn rheoli ymlediad y feirws.

 

Diolchodd i'r Swyddogion Gorfodi a Swyddogion eraill a oedd yn gweithio i gadw Abertawe'n ddiogel. Mae'r cyngor yn cymryd camau priodol yn unig mewn perthynas â COVID-19.

81.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

82.

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Safonau 2020-2021. pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jill Burgess, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2020-2021 er gwybodaeth. Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwaith y Pwyllgor Safonau yn ystod y cyfnod hwnnw.

83.

Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor - 2022/2023 pdf eicon PDF 291 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar gyfrifo sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, ei Gynghorau Cymuned/Tref ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe ar gyfer 2022-2023. Mae'n ofynnol i'r cyngor bennu Sylfeini Treth y Cyngor erbyn 31 Rhagfyr 2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)  Cymeradwyo'r Sylfeini Treth y Cyngor ar gyfer 2022-2023.

 

2) Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'u diwygiwyd, dyma fydd cyfrifiad Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn 2022-2023:

 

 

Ar gyfer yr ardal gyfan

93,114

 

 

 

Ar gyfer ardaloedd Cynghorau Cymuned/Tref:

 

 

Llandeilo Ferwallt

2,024

 

Clydach

2,639

 

Gorseinon

3,288

 

Tre-gŵyr

2,008

 

Pengelli a Waungron

441

 

Llanilltud Gŵyr

351

 

Cilâ

2,144

 

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

527

 

Llangyfelach

965

 

Llanrhidian Uchaf

1,606

 

Llanrhidian Isaf

340

 

Casllwchwr

3,477

 

Mawr

758

 

Y Mwmbwls

10,089

 

Penllergaer

1,434

 

Pennard

1,563

 

Penrhys

485

 

Pontarddulais

2,327

 

Pontlliw and Thircoed

1,034

 

Porth Einon

478

 

Reynoldston

324

 

Rhosili

212

 

Y Crwys

712

 

Cilâ Uchaf

603

 

 

Ar gyfer ardal Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe                            

64,857

 

84.

Adolygiad o'r Polisi Gamblo pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth a chymeradwyaeth ar gyfer diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Gamblo a mabwysiadu'r polisi diwygiedig a atodwyd yn Atodiad B.

85.

Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth. pdf eicon PDF 457 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yr argymhellwyd i'w fabwysiadu yng nghyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2021. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno Cynllun Gweithredu a oedd yn nodi sut y gallai'r cyngor gefnogi'r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Y dylid mabwysiadu'r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

86.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2022-2023 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 340 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn hysbysu'r cyngor o Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2022-2023 ac yn amlinellu'r penderfyniadau a gynigiwyd gan yr IRPW. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ymateb drafft argymelledig Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i'r ymgynghoriad, a gyflwynwyd ar 8 Tachwedd 2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Y dylid nodi Adroddiad Blynyddol drafft yr IRPW ar gyfer 2022-2023.

 

2)            Mabwysiadu'r sylwadau a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad fel ymateb ffurfiol yr awdurdod i'r IRPW.

87.

Diogelwch Cynghorwyr a Chefnogaeth iddynt. pdf eicon PDF 409 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gofyn am ddarparu cymorth i bob Cynghorydd wrth iddo gyflawni'i rôl drwy gytuno mewn egwyddor y dylai'r cyngor ariannu mesurau diogelwch priodol lle mae Cynghorwyr mewn perygl personol o fygythiad sylweddol.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Lle bo Cynghorydd mewn perygl personol neu fygythiad sylweddol o niwed wrth gyflawni'i rôl, y dylid rhoi ystyriaeth i ariannu mesurau diogelwch priodol.

 

2)            Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Cyllid ystyried unrhyw gais am gyllid o'r fath a phenderfynu arno.

 

3)                  Y dylid cynnwys dogfen sy'n ymwneud â Diogelwch Personol Cynghorwyr yn y Pecynnau i Ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.

88.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 456 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A.  Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd pedwar (4) cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer.