Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

59.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai fod gan gynghorwyr a swyddogion ar eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog gysylltiad i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, M C Child, J P Curtice, N J Davies, P Downing, M Durke, V M Evans, W Evans, S J Gallagher, F M Gordon, K Griffiths, M Jones, E J King, A S Lewis, M B Lewis, C Lloyd, P Lloyd, P M Matthews,  C L Philpott, C R Richards, K M Roberts,  B J Rowlands, M Sherwood, R C Stewart, D G Sullivan, G J Tanner, M Thomas, W G Thomas, L V Walton, G D Walker, T M White gysylltiad personol â Chofnod 69 "Diwygiad i Gytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), y Diweddaraf am Berfformiad Ariannu a Buddsoddi a’r Diweddaraff am y Risg o Newud yn yr Hinsawdd".

 

2)            Datganodd Jeff Dong, Adam Hill, Tracey Meredith, Martin Nicholls a Ben Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 64 “Cwestiynau gan y Cyhoedd” a thynnon yn ôl o'r cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

3)           Datganodd Jeff Dong, Adam Hill, Tracey Meredith, Martin Nicholls a Ben Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 65 “Strwythur Uwch-reolwyr” a thynnon yn ôl o'r cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

60.

Cofnodion. pdf eicon PDF 328 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021.

61.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod cyffredin diwethaf y cyngor.

62.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

a)            Cydymdeimladau

 

i)             Cyn-gynghorydd a'r Henadur Anrhydeddus Susan Waller Thomas

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd a'r Henadur Anrhydeddus Susan Waller Thomas. Cynrychiolodd Susan Ward Newton am tua 25 mlynedd, gan wasanaethu:

 

Ø   Cyngor Dinas Abertawe – 1986-1996.

Ø   Dinas a Sir Abertawe – 1995-2010.

 

Susan oedd yr Arglwydd Faer rhwng 2007 a 2008 a chyn-lywydd Dinas a Sir Abertawe.

 

ii)            Y Cyn-gynghorydd Linda Wixey

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y Cyn-gynghorydd Linda Wixey. Cynrychiolodd Linda Ogledd Sgeti am tua 4 blynedd, gan wasanaethu:

 

Ø   Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg 1990-1995.

 

Eisteddodd pawb yn dawel fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

 

b)           Gwobrau Buddsoddi CPALl 2021

 

Roedd yn bleser gan yr Aelod Llywyddol gyhoeddi bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau CPALl (Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPLlL)) eleni am 3 gwobr. Cyhoeddir yr enillwyr ar 15 Rhagfyr 2021. Y categorïau yw:

 

·                     Cronfa Bensiwn y Flwyddyn (asedau > £2.5bn).

·                     Y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau.

·                     Y Newyddbeth Buddsoddi Gorau.

 

c)           Parch at Ecwilibriwm

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod Abertawe wedi dod yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu a gweithredu ei rhaglen cyflawnwyr cam-drin domestig achrededig ei hun. Mae Ecwilibriwm wedi ennill achrediad nodedig gan Respect - sefydliad cenedlaethol blaenllaw ar gam-drin domestig.

 

Er mwyn cyflawni hyn, bu'n rhaid i'r Tîm Ecwilibriwm fynd trwy broses sicrhau ansawdd hynod fanwl, a gydnabyddir yn genedlaethol, sy'n sicrhau bod tystiolaeth o arferion gwaith gorau drwy gydol y rhaglen.

 

Diolchodd yr Aelod Llywyddol i bawb am eu gwaith a'u cyflawniad.

63.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

a)           Ironman 70.3 Abertawe. Hanner Treiathlon Ironman

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod ras agoriadol Hanner Treiathlon Ironman 70.3 Abertawe wedi'i threfnu ar gyfer 7 Awst 2022.

 

Bydd athletwyr sy'n cymryd rhan yn Ironman 70.3 Abertawe'n nofio 1.2 milltir (1.9km), yn beicio ar hyd cwrs 56 milltir (90km) o hyd ac yna'n rhedeg hanner marathon, 13.1 milltir (21.1km) o hyd. 

 

b)           Rhagor o arian ar gyfer y Gronfa Adfer

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai £5m ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y Gronfa Adfer. Roedd yr arian ychwanegol hwn yn cynnwys £1.9m ar gyfer Ardaloedd Chwarae a Lleoedd Chwarae. Mae'r ymrwymiad yn golygu y codir pob ardal/lle chwarae yn Abertawe, ar draws yr holl Wardiau Etholiadol, i'r safon chwarae gwyrdd. Mae hyn hefyd yn cynnwys clustnodi hyd at £500,000 i gyfleusterau sglefrio ledled Abertawe.

 

c)           Eden Las

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y prosiect Eden Las arfaethedig, a oedd yn cynnwys morlyn llanw. Byddai'r prosiect hefyd yn cynnwys ffatri batris, canolfan ddata a phaneli solar arnofiol mwyaf yn y DU. Bydd y gwres o'r ganolfan ddata’n cael ei ddefnyddio i wresogi tai lleol.

 

d)           Parc Sglefrio. Datganiad o Gysylltiadau

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fyddai'n cymryd rhan yn yr eitem oedd ar ddod yn ymwneud â Pharc Sglefrio'r Mwmbwls yn y Cabinet, yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro.

64.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud

Cofnodion:

Cyflwynwyd nifer o gwestiynau.

 

a)            Gofynnwyd cwestiwn gan James McGettrick mewn perthynas â Chofnod 73 "Cwestiynau'r Cynghorwyr" - Cwestiwn 3”.

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau.

 

b)            Gofynnodd Neil Jones gwestiwn mewn perthynas â Chofnod 69 "Diwygiad i Gytundeb Rhyng-awdurdod (CRhA) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), y Diweddaraf am Berfformiad Ariannu a Buddsoddi a'r Diweddaraf am y Risg o Newid yn yr Hinsawdd".

 

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

c)            Gofynnodd Nortridge Perrot gwestiynau mewn perthynas â:

 

i)             Cofnod 75 "Hysbysiad o Gynnig – Argyfwng Natur".

 

Ymatebodd y Swyddog Adran 151.

 

ii)            Cofnod 68 "Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2020/21".

 

Ymatebodd y Swyddog Adran 151.

 

iii)           Cofnod 65 "Strwythur Uwch-reolwyr".

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr.

 

65.

Strwythur Uwch-reolwyr. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth mewn perthynas â'r Strwythur Uwch-reolwyr newydd ar gyfer y cyngor.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Caiff y strwythur a nodir yn Atodiad 2 (a pharagraff 2.1.5) o'r adroddiad yn amodol ar yr ymgynghoriad a nodir yn yr adroddiad, ei gymeradwyo.

 

2)           Awdurdodir y Prif Weithredwr i ymgynghori â'r holl staff yr effeithir arnynt.

 

3)           Yn amodol ar 2) uchod, nad yw'n nodi unrhyw newidiadau sylweddol, awdurdodir y Prif Weithredwr i roi’r strwythur ar waith.

 

4)           Cymeradwyir penodi Prif Weithredwr dros dro ar sail fewnol, wedi'i glustnodi i Gyfarwyddwyr presennol.

 

5)           Caiff taliad y Prif Weithredwr dros dro ei gymeradwyo fel yr un taliad cydnabyddiaeth â'r Prif Weithredwr presennol.

 

6)           Cymeradwyo'r gwaith o gomisiynu adolygiad cyflog a graddio ar gyfer Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth.

66.

Diweddariad ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc Abertawe yn dilyn ymgynghoriad a chytuno i barhau â dull cydgynhyrchiol o ymdrin â mecanweithiau ar gyfer gwrando ar blant a phobl ifanc.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Caiff canlyniadau'r Ymgynghoriad yn Atodiad 2 eu nodi.

 

2)           Caiff Cynllun Hawliau Plant Abertawe yn Atodiad 1 yr adroddiad ei gymeradwyo.

 

3)           Cytunir i sefydlu 6 fforwm cydgynhyrchiad i weithio gyda phlant a phobl ifanc ar themâu a nodwyd fel blaenoriaethau fel rhan o'r ymgynghoriad.

 

4)                 Cytunir i barhau â'r sgyrsiau a chydgynhyrchiad gyda phlant a phobl ifanc a rhanddeiliaid eraill i ychwanegu manylion at weithrediad pob fforwm cydgynhyrchu.

67.

Datganiad cyllideb canol blwyddyn 2021/22.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 ddiweddariad llafar ar Ddatganiad Cyllideb Canol Tymor 2021-2022.

68.

Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 766 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn manylu ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y cyngor yn ystod 2020-21 ac yn cymharu perfformiad gwirioneddol yn erbyn y strategaeth a luniwyd ar ddechrau'r flwyddyn.

69.

Diwygiad i Gytundeb Rhyng-Awdurdod (IAA) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) Diweddariad ar Berfformiad Cyllid a Buddsoddi, a Diweddariad ar Risg Newid yn yr Hinsawdd pdf eicon PDF 745 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ddiwygio Cytundeb Rhyng-awdurdod (CRhA) Partneriaeth Pensiwn Cymru, a gymeradwywyd yn flaenorol, i ymgorffori trefniadau llywodraethu diwygiedig sy'n caniatáu i gynrychiolydd aelod o'r cynllun fod ar y Cyd-bwyllgor Llywodraethu (CBLl), ynghyd â newidiadau gweithredol eraill a nodwyd, ac i hysbysu'r cyngor o sefyllfa ariannu'r gronfa bensiwn a pherfformiad buddsoddi a chynnydd diweddar yn erbyn lleihau'r risg o newid yn yr hinsawdd yn y portffolio buddsoddi.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Cymeradwyo'r Cytundeb Rhyng-awdurdod diwygiedig (CRhA) a atodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

2)           Nodi'r sefyllfa ariannu a'r perfformiad buddsoddi yn Adran 4 yr adroddiad, a'r cynnydd o ran mynd i'r afael â'r risg newid yn yr hinsawdd a'r daith i ddod yn Sero-net o fewn ei bortffolio buddsoddi yn adrannau 5-10 o'r adroddiad hwn.

70.

Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso egwyl o 10 munud.

71.

Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022. pdf eicon PDF 344 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)           Cytuno ar y meysydd hyfforddi gorfodol a amlinellir ym Mharagraff 3 o'r adroddiad.

 

2)           Mabwysiadwyd Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022.

 

3)           Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn gweithio gyda'r TRhC i bennu darparwr hyfforddiant, dyddiad, lleoliad ac amser sefydlu a hyfforddi Cynghorwyr.

72.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad. pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Llywyddol, y Swyddog Monitro a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn ceisio gwneud diwygiadau er mwyn symleiddio, gwella a/neu ychwanegu at Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 yn diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â Phwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

O ganlyniad i'r newid deddfwriaethol hwn, ychwanegwyd y canlynol at Gylch Gorchwyl Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd:

 

i)          "Ar gais yr Awdurdod Lleol, gall Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd adolygu unrhyw fater sy'n berthnasol i’r:

 

a)        Cymorth a'r cyngor sydd ar gael i Aelodau'r Awdurdod

 

b)        Amodau a thelerau swydd yr Aelodau hynny."

73.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr - Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. pdf eicon PDF 384 KB

Cofnodion:

1)         ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynwyd saith (7) 'Cwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Dangosir y cwestiynau atodol hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt isod.

 

Cwestiwn 2

 

i)             Cyfeiriodd y Cynghorydd C A Holley at y dudalen Facebook yn honni nad oedd plant sy'n byw yn Dan-y-Coed yn derbyn y gofal a'r addysg sydd eu hangen arnynt. Gofynnodd pa gamau a gymerwyd o ganlyniad i hyn?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

ii)            Cyfeiriodd y Cynghorydd M H Jones at y Cynllun Gwella a oedd ar waith a gofynnodd a oedd yr Aelod Cabinet yn hapus â'r cynllun, ac a oedd yn teimlo bod y cyngor yn cael gwerth am arian?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 3

 

Gofynnodd y Cynghorydd A M Day pryd y byddai'r adroddiad ar gael?

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

Cwestiwn 5

 

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiwn mewn perthynas â'r Cynllun Prentisiaeth.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai adroddiad yn ymwneud â'r Cynllun Prentisiaeth yn cael ei gyflwyno i'r cyngor maes o law.

 

2)        ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'chwestiwn nad oedd angen Cwestiynau Atodol' ar eu cyfer Rhan B.

74.

Rhybudd o Gynnig - Siarter Undod Dros Adran. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd A Pugh a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

"Mae'r newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol enfawr y mae'r wlad wedi'u gweld dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at ymraniad cymdeithasol mawr, yn enwedig mewn perthynas â hil, ethnigrwydd, crefydd a chenedligrwydd. Un o ganlyniadau mwyaf pryderus hyn yw'r cynnydd sydyn mewn troseddau casineb hiliol, sydd wedi cynyddu bron 30% ers 2016. Mae gwahaniaethu ac anoddefgarwch hiliol yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern, a dylem ymrwymo i ddod at ein gilydd a'u dileu yn eu holl ffurfiau.

 

Byddai mabwysiadu'r Siarter Undod dros Ymraniad yn fan cychwyn ar gyfer yr hyn a fydd, gobeithio, yn ymagwedd fwy rhagweithiol o adeiladu gweithle cynhwysol.

 

Ac felly, rydym ni' r Aelodau Etholedig a enwir uchod yn gofyn i Gyngor Abertawe:

 

1.            Fabwysiadu'r Siarter Undod dros Ymraniad.

 

2.            Bydd Cyngor Abertawe'n penodi Hyrwyddwr Cynhwysiad a fydd y person arweiniol ar gyfer agenda'r Siarter Undod dros Ymraniad, gyda chefnogaeth Undebau Llafur a'r cyngor i gydweithio, monitro, hwyluso a hyrwyddo cynhwysiad yn y gweithle lle bynnag y bo modd.

 

3.            Bydd Cyngor Abertawe'n sicrhau bod pob aelod o staff, gan gynnwys ysgolion, yn cael hyfforddiant gorfodol ar sut i gadw at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y cyngor a bydd yn sicrhau bod y ddogfen hon yn cael ei hadolygu'n flynyddol.

 

4.            Bydd Cyngor Abertawe'n cydweithio ag Undebau Llafur i ddarparu deunyddiau addysgiadol a chyfredol y bwriedir iddynt helpu i hyrwyddo cydraddoldeb a chytgord yn y gweithle.

 

5.            Bydd Abertawe'n sefyll ynghyd ag Undebau Llafur i gondemnio digwyddiadau lle ceir enghreifftiau lleol a chenedlaethol o droseddau casineb a gwahaniaethu.

 

6.            Bydd Cyngor Abertawe'n gweithio gyda'r holl asiantaethau a sefydliadau priodol eraill i hyrwyddo cydlyniant y tu mewn a'r tu allan i'r gweithle”.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.

75.

Rhybudd o Gynnig - Argyfwng Natur. pdf eicon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd P K Jones a'i eilio gan y Cynghorydd R C Stewart.

 

“Mae'r cyngor hwn yn nodi gyda braw ei fod yn fater brys i gymryd camau cryf, perthnasol ac uniongyrchol i atal a lleihau graddfa ac effeithiau colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang, a achosir gan fodau dynol, ar ddynolryw a bywyd gwyllt.

 

Mae'r cyngor hefyd yn nodi methiant gwledydd ar draws y byd (gan gynnwys y DU) i gyflawni bron pob un o nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys bioamrywiaeth, a bennwyd yn 2010, sydd bellach i'w hadolygu yn COP 15 ym mis Hydref yn Kunming, Tsieina – Llwyfan Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth ac Ecosystemau (IPBES).

 

Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac ecolegol lleol a byd-eang rhyngberthynol, gyda 17% o rywogaethau Cymru mewn perygl o ddiflannu. Ond gallwn newid hyn drwy adfer byd natur, a fydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Ar 30 Mehefin 2021, Llywodraeth Cymru oedd un o'r seneddau cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng natur. Cyhoeddodd y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James AS, mai 'adfer natur a lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd yw prif flaenoriaethau'r llywodraeth hon'.

 

Datganodd Cyngor Abertawe argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019 ac ers hynny mae wedi bod yn datblygu Cynllun Gweithredu Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer y cyngor ac ar gyfer Abertawe gyfan, mewn cydweithrediad â Fforwm Amgylcheddol Abertawe a rhanddeiliaid eraill.

 

Mae'r cyngor hwn yn cydnabod bod colli bioamrywiaeth yr un mor ddifrifol â newid yn yr hinsawdd i'n goroesiad yn y dyfodol – mae natur yn cyfrannu cymaint i'n byd, yn ymarferol ac o ran gwasanaethauu ecosystemau – dal a storio carbon, rheoli dŵr ffres, rheoli pridd, rheoli llygredd aer, cysgod, oeri ac atal llifogydd, planhigion bwyd, meddyginiaethau – a hefyd o ran harddwch naturiol sy'n effeithio ar iechyd meddwl a lles.

 

Felly, i gefnogi datganiad Llywodraeth Cymru o argyfwng natur, fod y cyngor yn datgan argyfwng natur ac yn ymrwymo'n llawn i baratoi a chyflwyno Cynllun Gweithredu Adfer Natur i'w weithredu ochr yn ochr â'r Cynllun Gweithredu Hinsawdd sy'n datblygu.

 

Mae llawer o waith eisoes yn cael ei wneud:

 

·                    Mae'r cyngor wedi cynnwys amcan lles sy’n flaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer adfer natur yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2020-2022.

·                    Mae wedi cefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcan 'Gweithio gyda Natur' yng Nghynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

·                    Mae'r cyngor wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd a Natur a Grŵp Llywio i sicrhau bod y ddau fater yn cael eu hystyried yn llawn ar draws holl gynlluniau a phrosiectau meysydd gwasanaeth.

·                     Rydym wedi penodi Swyddog Bioamrywiaeth rhan-amser, i weithio ar y cyd â holl wasanaethau'r cyngor, i sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswydd bioamrywiaeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) ac i fonitro a chofnodi cynnydd, yn ogystal â darparu cyngor a chymorth ar gyfer paratoi a chyflawni Cynllun Gweithredu Adran 6.

·                     Rydym yn darparu rôl arweiniol o ran cydlynu a chefnogi'r Bartneriaeth Natur Leol (PNL) sydd â thros 97 o aelodau o sefydliadau bywyd gwyllt lleol a sefydliadau eraill, sy'n dymuno cyfrannu at adferiad natur.

·                     Rydym hefyd yn cyflogi swyddog PNL rhan-amser dros dro a fydd yn cydlynu'r gwaith o baratoi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol.

Fodd bynnag, er bod llawer o waith da'n cael ei wneud a llawer o gynnydd yn cael ei wneud, mae angen i ni wneud mwy.

 

Mae maint yr her yn gofyn am fwy o flaenoriaethu, ymrwymiad ac adnoddau ychwanegol i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.

 

Gallai camau gweithredu penodol gynnwys:

 

·                     Cynnal a chryfhau ein blaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer adnoddau naturiol a bioamrywiaeth gan gynnwys Newid yn yr Hinsawdd.

·                     Adnewyddu Siarter Hinsawdd Abertawe i ddod yn Siarter Hinsawdd a Natur integredig.

·                     Ehangu cylch gorchwyl ac aelodaeth y grŵp llywio newid yn yr hinsawdd presennol i gynnwys natur a bioamrywiaeth a dod yn Grŵp Llywio Newid yn yr Hinsawdd a Natur.

·                     Parhau i gydweithio â'r Bartneriaeth Natur Leol (PNL) a rhwydweithiau allweddol eraill ledled Cymru i wneud mwy o le i alluogi natur i ddod yn doreithiog eto. Mae'r PNL yn cynnwys cyrff anllywodraethol cadwraeth natur gweithredol, fel yr RSPB, yr Ymddiriedolaethau Natur, Plantlife a Buglife yn ogystal ag asiantaethau statudol a chyrff ymchwil, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Abertawe.

·                     Cynyddu’n gwaith gyda grwpiau cymunedol lleol ac ysgolion i annog cynifer o breswylwyr â phosib yn Abertawe i ymwneud â chynnal a gwella bywyd gwyllt lleol.

·                     Ceisio cymorth pellach gan lywodraethau'r DU a Chymru i roi'r pwerau a'r adnoddau angenrheidiol i ni er mwyn sicrhau ein bod yn cael ein grymuso i gynnal a gwella bioamrywiaeth.

·                     Chwilio am adnoddau i ddarparu cyllid refeniw a chyfalaf craidd hirdymor cynaliadwy, gan ein galluogi i wella'r gallu a'r adnoddau i gynllunio a chyflwyno strategaethau a mentrau hirdymor ar gyfer adfer natur (yn hytrach na dibynnu ar brosiectau tymor byr a ariennir gan grantiau).

 

Penderfyniad y cyngor hwn yw:

 

-               Y bydd y cyngor yn datgan argyfwng natur ac yn creu Cynllun Gweithredu Newid yn yr Hinsawdd a Natur.

-               Bydd y cyngor yn ehangu cylch gorchwyl ac aelodaeth y Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd presennol a grŵp llywio’r hinsawdd i fod yn Fwrdd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd a Natur ac yn y drefn honno, y Grŵp Llywio Newid yn yr Hinsawdd a Natur.

-               Bydd y cyngor yn adnewyddu'r Siarter Newid yn yr Hinsawdd i ddod yn Siarter Hinsawdd a Natur integredig.

Bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog y DU ac at Brif Weinidog Cymru yn gofyn am adnoddau a phwerau ychwanegol i alluogi'r cyngor i gyflawni Cynllun Gweithredu llawn ac integredig ar gyfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd”.

 

Penderfynwyd mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig a amlinellir uchod.